Welsh Blogs.com


Signal ffôn Cymru yng Nghymru yn styc yn yr Ugeinfed Ganrif via Blog Rhys Llwyd July 24th, 2008 at 16:30

Dwi wedi cael iPhone ers wythnos nawr, dwi ddim wedi sgwennu adolygiad ar y blog 'to oherwydd fyddai ddim yn ei ddefnyddio fel ffôn tan ar ôl steddfod gan fod chydig o wythnosau gyda fi redeg allan ar fy hen gontract gyntaf. Ond un peth sydd wedi fy nharu yn barod ydy'r diffyg rhwydwaith ffôn symudol 3G yng Nghymru. Fe gew chi signal da ar hyd coridor yr M4, signal yng Nghanol tre Bangor a chanol tre Aberystwyth ac hefyd ardal eang ym Meirionydd ac Eifionydd rhwng Penrhyndeudraeth draw i Grigieith am ryw reswm! Ond heblaw am hynny chew chi ddim lwc o gwbl. Edrychwch ar y map isod sy'n dangos y rhwydwaith 3G yng Nghymru:Yna cymharwch y rhwydwaith yn Lloegr i gymharu a'r rhwydwaith dros Gymru yn yr ail fap isod:Dwi'n ffodus mod i'n treulio y rhan fwyaf o fy amser ym Mangor ac Aber lle...