
Am ryw reswm mae’r ffilm deledu Dirgelwch yr Ogof a gynhyrchwyd yn 2002 ar gael i’w wylio ar wefan S4C tan y 23ain o Fawrth.
Addasiad oedd hon o lyfr enwog T.Llew Jones ac sydd wedi’i chyfarwyddo gan Endaf Emlyn, sydd yn ei amser wedi gwneud rhai o’r ffilmiau gorau yn y Gymraeg, fel Gadael Lenin ac Un Nos Ola Leuad. Ond o be dwi’n cofio o hwn, doedd o ddim yn dod yn agos at hynny. O’n i wrth y modd efo’r llyfr pan yn fach, a’r llyfr hwnnw oedd Dad wedi ei ddarllen ei hun hefyd.
Wedi deud hyn roedd yr adolygydd yma ar y BBC nôl yn 2003 wedi mwynhau. Ac mae hi’n iawn fod na elfen Bantoaidd iddi. Roedd y gwisgoedd i gyd yn edrych braidd yn annaturiol.
Beth bynnag, gallwch benderfynu drostoch eich hun. Gwyliwch hi......