Ofn via Wierdo October 4th, 2008 at 20:42
Dwi'n ymddiheuro o flaen llaw os ydi mam neu dad yn darllen y post yma. Dwi'n gwybod eu bod yn gwneud o dro i dro, a phan caf wybod am y postiau y mae'n nhw'n darllen, dwi wasdad yn difaru eu postio. Ond ni chaf (yn yr achos yma bethbynnag) fy rheoli gan ofn.Mae mam yn gallu bod yn flin. O dro i dro bethbynnag. A phan mae hyn yn digwydd, gwae unrhyw berson a wna gangymeriad. Gwae unrhyw berson a fydd yn ei ffordd. Gwae dad.Pan mae f'annwylyd fam yn flin yr unig beth i'w wneud ydi cuddiad a trio llnau heb iddi weld. Os ydi hi yn eich dal yn llnau bethbynnag, cewch deimlo min ei thafod wrth iddi eich ceruddo am beidio llnau yn y lle cyntaf.Mi oedd fy mam mewn mŵd felna heddiw. Ac felly tra mae hi'n y gwaith, dwi wedi bod yn llnau. Hwfro, golchi llestri, cuddiad popeth all ei gwylltio mewn...
Yp-det via Wierdo September 18th, 2008 at 15:27
Ymddiheuraf am y diffyg blogio. Mi ydwi dal yn fyw, neu mi oeddwn i y tro dwetha i mi edrych yn y drych. Mi ydwi hefyd dal i sgwennu'r blog madrid sdeddfod ac eis crims mewn rhannau. Dosna'm lot i fynd.Ond yn y cyfamser? Dyma fy mywyd:Tan mis Hydref, dwi ym mhrifysgol Bangor yn astudio i fod yn athrawes. Tydi hyn ddim mor ddrwg a'r disgwyl. Er fod gennyf i lot fawr iawn o waith i neud (gwirionedd), mae gin i ddigon (ish) o amser rhydd i wneud gwaith. Fel pnawn ma. Ond dwin blogio yn lle...O fis Hydref ymlaen mi fyddaf mewn ysgol. Mae'r ysgolion dwi'n mynd ill dau dros awr i ffwrdd felly bwriadaf dreulio fy amser wedi blino'n lan ac yn gweithio!Gyda'r nos rwy'n rhannu fy amser rhwng f'annwylyd, fy rhieni, fy ngwaith a fy mlog. Ddim yn deg iawn, ond rwy'n rhannu'r amser. Pan efo 'nghariad...
Gwyliau via Wierdo July 15th, 2008 at 20:58
Dydym ni heb fod ar ein gwyliau fel teulu cyfan ers ni fynd am benwythnos hir i'r Gelli rhyw 3 neu 4 mlynedd yn ol. A doedd hynny ddim yn wyliau teulu go iawn: yn lle campio fel oedden ni wedi bob tro o'r blaen, aros mewn ty oedden ni. Oedd ddigon teg am 3 noson, ond dal yn wahanol iawn i'r arfer. Mi dreulion ni lot o amser mewn siopau llyfrau, a lot o amser yn gneud jigso. Hyfryd.Ond ers hynny, dim. Dim cynnig, dim noson yn yr un gwersylla, dim. Dwi'n ama fod hyn yn bennaf oherwydd fod gin i frawd bach sydd yn rél tínejyr, er gwaetha'r ffaith ei fod o yn 19 bellach. Peidiwch a camddallt, mae o lot gwell nag oeddo, ond dydio ddim yn fy nhrawo i fel rhywun fysa'n mynd ar ei wyliau efo mami a dadi a chwaer mawr ddim mwy. Sydd yn sbwylio'r hwyl i mi tydi?A gan nad ydyn yn mynd fel teulu ar...
Dwi wir wedi gorffen coleg. Ma raid mod i - fy mod i nawr yn y byd oedolyn go iawn ydi'r unig reswm allai feddwl amdano i gael dau pryd bwyd posh mewn wythnos!Yr un cynta oedd pryd neis o fwyd yn lerpwl i ddathlu penblwyddi cynnar/hwyr bron i bawb oedd yn byw efo John (a finna hefyd gan mod i wedi dathlu fy mhenblwydd yn 21 y dydd llun blaenorol). Mi aethon ni am fwyd i Circo yn y docks ac mi ydoedd hyfryd!* Mi geshi mushroom rarebit a spinaich naan pizza. Hyfyrd. Hwnnw oedd y caws ar dost hyfryta gefais erioed ac mi oedd y pizza yn lyfli jybli hefyd ac yn ddigon hawdd i'w wneud fy hun (naan bread, tomato puree, spinaich, caws cryf). A mi rannais bwdin toffi sdici i orffen.A'r ail bryd ym mron eifion criccieth i ddathlu penblwydd 21ain fy ffrind gorau. Ar un llaw swni'n anhebygol iawn o...
Bywyd via Wierdo March 16th, 2008 at 12:40
Ma'n edrych fel mod i'n catch-up blog eto. Chenj.Ond dion ddim i gyd wedi bod yn feddwi troma. Gaddo.Lle i ddechra? P'thefnos yn ol mi gymerais ran yn y relay-for life i godi arian i Cancer Research UK. Timoedd o rhwng 8 a 15 yn cerdded am 24 awr heb stopio gydag oleia un person o bob tim ar y trac ar un pryd. Mi oedd na 7 ohonom ni gan fod un person yn sal. Gadewch i mi ddeutha chi, dydio ddim mor hawdd a ma'n swnio. Mewn theori dim ond 3-4 awr oedd rhaid i bawb gerdded yr un ond mi oedd hi mor oer a gwyntog mi oedd hi'n well cerdded! Erbyn tua hanner ffordd roedd pawb yn brifo drostynt - pengliniau, pherau, traed. Mi ath y nos ei hun yn ddigon cyflym gan fod pawb yn gwneud awr ar ben eu hunain a'r gweddill yn trio cysgu drwy'r miwsic mawr.Ond oh, roedd hi'n wyntog. Mi roeddwn i'n poeni...
Nadolig?? via Wierdo November 17th, 2007 at 20:58
Dwi di drysu'n lan.Canol mis Tachwedd ydi hi, mi wn hyn.Mae popeth ar y teledu ac yn y siopau a phobman o f'amgylch yn ceisio fy mherswadio ei bod hi'n ddolig yn barod. Ond dwi wedi arfer efo hyn, mae o'n digwydd bob blwyddyn.Dwi bron yn hollol hollol sicr fod hin nadolig. Dwin canu caneuon nadolig, yn meddwl am anhregion...dwi yn nadolig-mode mis yn gynar. A diom ots be dwin ddweud wrth fy hun, mai dal yn nadolig...A nid fi yw'r unig un. Mana ferch arall sydd yn byw yn yr un ty a mi yn teimlo'r un fath. Ond mae hi wedi penderfynnu peidio ymladd y teimlad a derbyn ei bod hi'n nadolig cynnar. Dwi'n gwrthod ac felly mewn byd o ddryswch.Allai ddim meddwl beth sydd yn wahanol eleni. Yr unig beth allai feddwl ydi mod i wedi mynd adra i weld mam a dad am y tro cynta ers cychwyn coleg lot...
Mi oedd mam a dad yn fod i fyn ar eu gwyliau rhyw bthefnos yn ôl. Ond mi gafodd mam ddannodd ac felly mi oedd gan y ddau wythnos off a dim i'w wneud. Felly dyma benderfynnu gwario'r arian a'r amser ar beintio'r ty yn wyn. Lle ma'r synnwyr yn y syniad yma dwi ddim yn siwr ond dyna ni. Felly yn ystod yr wythnos dyma droi hyn;drwy lot o chwys, paent, dringo, a chydig o hwyl, yn hyn;Sydd, mae'n rhaid i mi gyfaddef yn edrych yn lot gwell. Mi oedd na gyfnod lle roeddon edrych yn od ac ipyn bach fel clown ond ma hwnnw di pasio.Dwi'n dychwelyd yn ôl i'r coleg wicend ma. Dwi ddim yn siwr iawn pryd oherwydd fod Elis angen mynd yno yr un pryd. A rhyngtho ni ma genym ni LOT o sdwff. Ma Elis yn mynd ddydd Sadwrn efo'i sdwff, ma hynnyn sicr. Ond beth amdanai? Ydwin mynd lawr efo'm sdwff ddydd Gwener,...