
Mae'r theatr a'r ddrama yn gyfryngau pwerus tu hwnt ac o safbwynt Cristion a Christnogaeth mae'r theatr yn sicr a photensial i gyflwyno pobl o'r newydd i Iesu Grist y Gwaredwr. Fodd bynnag trist oedd gweld fod Aled Jones Williams, ac yntau wrth gwrs yn Ficer yn yr Eglwys yng Nghymru, yn defnyddio'r theatr i ymosod ar ein Gwaredwr yn hytrach na'i gyflwyno o'r newydd i genedl sydd wirioneddol angen clywed a deall y newyddion da. Yn y ddrama roedd Iesu, wrth gwrs, yn cael ei actio gan Ferch – nid oedd hynny yn fy nghynhyrfu rhyw lawer ond yn hytrach yr hyn wnaeth fy nigalonni rhyw damaid oedd fod Aled yn portreadu Iesu fel Duw llipa a phathetig. Mi oedd Iesu Grist, wrth gwrs, yn ostyngedig ond mae bod yn ostyngedig yn dra wahanol i fod yn llipa. Er enghraifft cymerwch Ghandi, roedd yn ŵr...

Dwi wedi dychwelyd o lypder Pontrhydfendigaid ac wedi mwynhau fy hun mas draw. Roedd e'n ddigwyddiad gwych a gobeithio y tyfith e o nerth i nerth nawr. Ta waeth, ar ôl cyrraedd adref yn syth yn ôl i'r tresi es i oherwydd roeddwn ni'n cymryd rhan mewn rhaglen Radio Cymru p'nawma. Rhaglen a ddaeth i fod yn dilyn yr ohebiaeth rhyngtha i ac Aled Jones-Williams yn Golwg dros yr wythnosau diwethaf. Fformat y rhaglen oedd Gwilym Owen yn cadeirio a hynny o'i stiwdio ym Mangor ac yna Aled Jones-Williams (o'r stiwdio ym Mhenrhyndeudraeth) yn dod 'wyneb yn wyneb' a chriw Gristnogion ifainc 'diwygiedig' (neu Efengylaidd os y mynnwch).Roeddwn ni braidd yn ofidus cyn dechrau recordio oherwydd roeddwn ni'n gwbl ymwybodol fod safbwynt Aled ar bron a bod popeth yn ymwneud a'r ffydd Gristnogol yn dra...
Rwy'n ddiolchgar iawn i Golwg am gyhoeddi fy llythyr yn eu rhifyn heddiw. Fodd bynnag fe'm synwyd eu bod wedi tynnu un frawddeg allan a hwnw yn un go allweddol i rediad fy nadl. Mae'r frawddeg gafodd ei hepgor wedi ei oleuo yn y paragraff isod:Serch hynny, rhaid cytuno ag ef ar un pwynt, sef mai '...nutces yw unrhyw un sy'n meddwl fod gan enwadaeth Cymru unrhyw ddyfodol', fel y mae pethau ar hyn o bryd o leiaf. Yma yn Aberystwyth mae criw o Gristnogion ifainc sydd, yn ogystal â pharhau i addoli yn eu capeli a’u heglwysi eu hunain, wedi cymryd eu ffydd allan o'r adeiladau traddodiadol, gan geisio mynd â’r Efengyl i’r priffyrdd a’r caeau, neu, yn ein hachos ni, y caffis a’r tafarnau. Bob nos Fercher cynhelir Cwrs Alffa, lle daw pobl o bob cefndir crefyddol, gan gynnwys rhai...

Maen debyg i rai ohono chi ddarllen llythyr y Parch. Aled Jones-Williams yn Golwg wythnos diwethaf. Efallai i chi glywed y llythyr yn cael ei drafod ar raglen John Roberts fore Sul – ar y rhaglen canolbwyntiodd John ar ei sylwadau am fod dim dyfodol i enwadaeth ac nad oedd llyfrau Cristnogol o werth yn cael eu cyhoeddi ar hyn o bryd. Rwy'n deall i raddau pam y bu i John dynnu'r ddau bwnc yna allan o'r llythyr, maen nhw'n fwy 'radio friendly' na phynciau diwinyddol mawr. Fodd bynnag gau-athrawiaethau Aled Jones-Williams am hanfodion Cristnogaeth oedd yn sefyll allan i mi – dywedodd mai 'delwedd yw Duw' ac mai 'metaffor yw crefydd'.Petawn i'n esgob Bangor - sydd, gyda llaw, yn wael iawn o ran ei iechyd ar hyn o bryd - byddwn yn poeni'n fawr am 'efengyl' ficer Porthmadog. Oni bai mod i...