Welsh Blogs.com


43,198 gair via Arth sy'n Dawnsio August 6th, 2008 at 13:52

Prin llwyddais gyrraedd amcan o 5,000 gair yr wythnos hon. Dyna fy bare minimum i'w ysgrifennu mewn wythnos ond mae'n her y dyddiau hyn am ryw reswm.Efallai taw natur o'r hyn y rydw i'n ysgrifennu sy'n achosi gohirio. Tywyll yw'r 15fed bennod y llyfr hwn, ac mae'n gorfodi fi meddwl yn ôl ar adeg dywyll fy Mhrofiad Cymraeg. Un peth y rydw i wedi darganfod wrth ysgrifennu'r llyfr hwn yw bod gennyf lawer o chwerwdod a dicter tuag at y Gymraeg a phethau Cymreig. Daw nifer o'r teimladau hyn gan yr adeg honno.Gwyddwn eisoes nad oeddwn i'n hyrwyddwr mwyaf hyzahus (a), ond doeddwn i'n ymwybodol pa mor gryf yw'r teimladau. Wrth ysgrifennu weithiau gofynnaf o'm hunan a ddylwn i ddychwelyd i Minnesota ar ôl gorffen prifysgol. Erbyn hyn mynnaf y rydw i eisiau aros yng Nghymru -- gwneud gradd uwch...

38,191 gair via Arth sy'n Dawnsio July 29th, 2008 at 22:33

Tarwyd fi ddoe gan y ffaith taw amaturaidd yw cyfrif maint geiriau sydd gennyf ar brosiect. Ni welwch y math stwff hwn gan Owen Martell, er enghraifft. Mae fe'n gweithio ar lyfr arall ar hyn o bryd ond dyw e'n cyfrif ei eiriau pob 20 munud (neu, os mae yn, dyw fe'n cyhoeddi'r wybodaeth hon i'r byd).Ond, wrth gwrs, amatur ydw i.O hyd rydw i'n fath person a swynir gan syniad o ysgrifennu. Rhaid brwydro weithiau erbyn gwneud pethau dim ond oherwydd ymddangosan nhw fod yn "awduraidd" imi. Yfed jin ac ysmygu wrth deipio ac ati. Ar y cyfan, rydw i'n llwyddo osgoi bod yn ystrydebol ond os mae yna ferch sy'n darllen sydd eisiau cael helynt Bohemiadd â fi, rho fi wybod.Ces i e-bost ddoe gan rywun sy'n gwneud rhaglenni teledu o'r Babell Len yn yr Eisteddfod a ofynnodd ai fodlon siarad â Mari...

Diffiniad via Arth sy'n Dawnsio July 24th, 2008 at 23:13

Un peth a nodaf yn y llyfr fy mod i'n gweithio arno yw tuedd yng Nghymru datgan gwreiddiau person ym mrawddeg gyntaf o'i ddisgrifiad. Hynny yw, mae yna uffach o bwyslais yng Nghymru ar o ble ydych chi'n dod. Edrych ar glawr bron unrhyw lyfr Cymraeg a mwy na thebyg dechreua disgrifiad yr awdur gyda rhywbeth fel: "Brodor Austin yw Chris."Ŵn i ddim sut teimlaf am hyn. Er gwelaf werth o gael balchder yn eich ardal, rhaid gofyn ai berthnasol pob tro i rinwedd nofel yw ardal y person a ysgrifennodd y peth. Ni welir hyn mor aml ar gloriau nofelau Saesneg.Peth arall y hoffwn ddianc rhagddo yw teitl "dysgwr." Petawn i'n dod i fod yn nofelydd rhagorol (annhebygol, gŵn, ond gall ddyn freuddwydio), bron yn sicr 100 y cant byddwn i'n cael fy nisgrifio fel dysgwr. Gwelwch hyn gyda phobl eraill. Caiff...

32,211 gair via Arth sy'n Dawnsio July 22nd, 2008 at 23:09

Mwy neu lai rydw i'n hanner y ffordd trwy'r llyfr erbyn hyn. Bydd yn llyfr cymharol o fyr. Felly'r dylai fod, credaf. Byddai gormod o sôn am fy mywyd yn diflasu minnau heb sôn amdanoch chi. Rydw i'n ceisio ysgrifennu stori ddifyrrus -- rhywbeth gall rywun ei ddarllen heb wybod dim amdanaf.Yr wythnos hon rydw i'n ysgrifennu ychydig ar fy mhrofiad Eisteddfod cyntaf. Dyma sut dechreua'r darn:"Siom. Dyna'r gair cyntaf a ddaw i'm pen wrth feddwl am fy Eisteddfod gyntaf. Wel, y gair cyntaf nad yw'n rheg, o leiaf. Rhai geiriau eraill: creigiau, llwch, diflastod, anrhefn, embaras. Ond siom yw'r pennaf air. Roedd y siom fel dwrn i'm bol."Dwi ddim yn siŵr pa mor onest rydw i eisiau bod am fy nheimladau tuag Eisteddfod. A dweud y gwir wrthoch chi, fy nghyfaill agos, teimlaf fath o ddicter...

20,229 gair via Arth sy'n Dawnsio July 7th, 2008 at 23:07

Aeth y daith i Gaerfyrddin yn iawn. Dwedodd Catrin Dafydd wrthyf i unwaith (a) taw lle sydd eich taro fel tref a allai fod yn well yw Caerfyrddin, ac iawn yw hi. Does dim hollol o'i le am y dref ond cewch deimlad y mae rhywbeth ar goll; fel pe cafodd y dref ei hadeiladu gan fyfyrwyr trydedd flwyddyn sy'n ysgrifennu ei draethawd olaf erioed. Wrth edrych ar Gaerfyrddin, meddyliwch: "Whoever built this place, his heart just wasn't in it."Ond dyna ni. Rydw i wedi gweld lleoedd gwaeth. Ac erbyn hyn rydw i wedi penderfynu gwneud cais am gwrs MA ysgrifennu creadigol yng Ngholeg y Drindod. Es i allan ar ddydd Gwener i siarad â darlithydd am y cwrs ac rydw i'n meddwl y mae'n rhywbeth gwna gyfunioni â'm hamcanion. Yn enwedig oherwydd dwi ddim yn siŵr beth uffach yw fy amcanion.Rydw i eisiau...

10,621 gair via Arth sy'n Dawnsio June 23rd, 2008 at 22:34

Fel y mae, mae gennyf ddigon o eiriau ar y prosiect hwn ar gyfer ceisio am Ysgoloriaeth Awduron Newydd oddi Academi. Yng nghefn fy mhen rydw i'n meddwl am wneud cais, ond mae'n well gennyf dreulio'r amser wrthi'n ysgrifennu yn lle na cheisio ennill arian ar gyfer ysgrifennu. Hefyd, os ydych chi'n darllen yn fanwl, gwelir taw:"Yn achos ysgoloriaethau a anelir at brynu amser, mae’r swm a ddyfernir yn rhannol gysylltiedig â cholled incwm yn ystod cyfnod yr ysgoloriaeth, pa un a yw’r ymgeisydd yn gyflogedig ai peidio. Mae’r cais yn gofyn i chi roi amcangyfrif o’r swm hwn. Bydd angen datganiad incwm wedi ei gadarnhau arnom os bydd eich cais yn llwyddiannus. Cyfnod arferol ysgoloriaeth yw rhwng 1 a 6 mis."Ond does gennyf swydd. Felly bydd yn anodd darparu datganiad incwm o'r hyn nad...

Heulwen via Arth sy'n Dawnsio June 9th, 2008 at 17:35

Wel, mae Hillary wedi rhoi'r gorau i'w hymdrechion ennill enwebiad y Democratiaid ar gyfer arlywydd yr Unol Daleithiau. Credaf fod ei phrif rhwystr oedd y ffaith taw yn 2008 oedd hi'n ymgyrchu. Hynn yw, daeth gormod o'i pholisïau o'r 70au. Neu, câi rhywbeth am ei hymgyrch deimlad 70aidd i fi; er enghraifft, ymddengys nad oedd neb ar ei staff â'r hyder i gyfleu iddi fod yr undebau ar y clwt erbyn hyn.Nawr gall Obama ganolbwyntio'n llwyr ar ymgyrch ei hun, a bydd pethau'n weddol dawel ar y blaen gwleidyddol hyd at fis Medi, pryd caiff y ddwy blaid eu cynadleddau. Ac efallai taw y cyfnod tawel hwn dylwn ei ddefnyddio i fynd yn ôl i'm polisi o geisio osgoi parablu gormod am wleidyddiaeth. Pan mae person yn sôn am wleidyddiaeth ar ei flog, mae'n mynd ar greigiau o gael ei adnabod fel...

1,742 gair via Arth sy'n Dawnsio May 29th, 2008 at 20:20

Rydw i wedi crybwyll at hyn o'r blaen: pan oeddwn i'n ysgrifennu'r Nofel Annarlledir (fy nghyfenw newydd i The Way Forward, gynt Drinking Stories, sef nofel yr ysgrifennais yn 2005 na fydd neb fyth yn ei darllen) byddwn i'n trywyddu fy nghynnydd ar fy mlog trwy nodi faint o eiriau y bues i wedi ysgrifennu. Nawr, ar ôl hoe fach (saith mis), rydw i wedi dychwelyd ati'n ddifrif i ysgrifennu Cwrw Am Ddim: A rhesymau eraill i ddysgu'r iaith, sef hanes o'm profiadau dysgu Cymraeg, symud i Gymru, ac yn y blaen.Felly yn yr wythnos hon rydw i wedi llwyddo crafu allan 1,742 gair. Cynnwys "yr wythnos hon" dim ond dydd Mercher i heno (dydd Iau), felly dyna, yn rhannol, reswm am brinder geiriau. Rheswm arall yw'r peth cyntaf i'w wneud yr wythnos hon bu dileu popeth a ysgrifennais yn ôl ym mis Medi...

Ben via Arth sy'n Dawnsio May 11th, 2008 at 23:35

Apropos o ddim byd (a), roeddwn i'n meddwl heddiw am adeg yn fy mywyd pan oeddwn i'n gweithio fel mentor i blant. Ie, fi. Mentor. Roedden nhw'n orffwyll, yn ddiau.Ta beth, Ben oedd enw'r bachgen a welwn i dair gwaith pob wythnos er mwyn gwneud cwpl o weithgareddau a sgwrsio. Deuai'r plant yn y cynllun hwn o "gartrefi wedi eu chwalu," neu "gartrefi toredig," yn dibynnu ar ba un geiriadur ydych chi'n ei ddefnyddio. Ta beth, roedd Ben yn fachgen da, a oedd yn lot o hwyl.Unwaith des i'r ysgol yn fy pickup truck y bues i wedi ei brynu am $400 (tua £260 yn y cyfnod hwnnw -- 1994). Yn amlwg, nid oedd y 1969 Ford F250 hwnnw yn y trỳc gorau erioed (b), a cafodd Ben lawer o bleser yn gwneud hwyl am fy mhen trosto. Mynnodd y bu angen paint job ar yr hen beth, ac aeth y ddau ohonom ati i beintio...

Yr Eglwys y Gymraeg via Arth sy'n Dawnsio April 19th, 2008 at 13:15

Ar hyn o bryd rydw i hyd at fy mhen-gliniau mewn y Wyddeleg. Treuliais sawl awr ddoe wrthi'n adolygu. Mae gennyf amryw o ffynonellau ar gyfer adolygu ond ni theimlaf fy mod i'n cael darlun cyflawn o'r iaith er gwaethaf hyn. Un rheswm wrth gwrs yw bod gan Wyddeleg tafodieithoedd -- cyffelyb i'r Gymraeg ond mae'r gwahaniaethau yn fwy amlwg (a). Felly, os oes gennych chi sawl adnodd dysgu, mae gennych chi sawl tafodiaith hefyd. A chymysglyd yw'ch darlun o'r iaith.Er enghraifft, daw fy nhiwtor Gwyddeleg o Corc, yn ne Iwerddon. Felly caiff yr adnoddau oddi wrtho fe dafodiaith Corc. Ond ar y rhyngrwyd, yr adnodd haws-i'w-ddefnyddio y gallaf ei ffeindio yw Blas, a anelir at siaradwyr tafodiaith Wlster (b). Neu gallaf i ddefnyddio gwefan a sefydlwyd gan Americanwr. Ond mae'n anodd ei ddeall...

Cofnod y rydw i’n debyg i’w ddileu via Arth sy'n Dawnsio March 27th, 2008 at 22:33

"Rwy'n ddim. Dwy' ddim wedi cyflawni unrhyw beth. Does gen i ddim i'w wneud ond marw, a wnaiff marw hyd yn oed ddim ond pwysleisio'r ffaith 'mod i'n ddim byd." Dyfyniad oddi Cadw Dy Ffydd, Brawd gan Owen Martell yw hwnnw, ac rydw i'n ei deimlo'r dyddiau hyn -- yr unigrwydd ynddo.Os nid ydych wedi darllen y nofel, rhybuddiaf ichi nad oes llawer o bobl yn fy modiwl Rhyddiaith Ddiweddar sy'n ei hoffi. Nofel ddiflas lle nad oes unrhyw beth yn digwydd ynddi yw barn mwyafrif o'm cyd-fyfyrwyr. Byddwn i cytuno ag hynny ar ryw radd. Yn y bôn mae'n stori am ddyn sy'n mynd o Lundain i Ganol-o-Ddim-yn-Unlle, Michigan. Mae'n daith ddi-nod; wedyn mae yna ddiwedd nad yw'n gwneud synnwyr i mi.Seriously, Owen, what the fuck is up with that ending? Tybiaf y cafodd rhywun ei saethu yn y diwedd. Ond pwy?...

You win some, you lose some via Arth sy'n Dawnsio February 28th, 2008 at 12:04

Mae Shiona'n mynd. Hen hen ffrind yw Shiona y rydw i'n ei nabod ers fy nyddiau ym Mhortsmouth, mwy na degawd yn ôl. Roeddwn i'n arfer dweud ar y cofnodolyn hwn y byddwn i gadael y briodferch ifanc er mwyn Shiona. Roeddwn i'n dweud hynny pan oedd yna 5,000 milltir rhyngom ni. Nid yw mor gellweirus imi ddweud y peth bellach, gyda minnau'n byw ym Mhrydain erbyn hyn. Yn enwedig oherwydd tuedd rhai pobl credu taw gwir bur yw popeth ysgrifennaf amdanaf fy hunan.Gan ffawd glaniwyd y ddau ohonom ni yng Nghaerdydd yn yr un adeg. Tros y flwyddyn a hanner diwethaf, mae Shiona'n byw ¾ milltir i'r lan y ffordd oddi fy nghartref. Ond mae hi'n mynd yn ôl i'r Alban ar ddydd Gwener. Mae hi wedi cael digon o Gymru.Tra oedd pethau'n mynd yn wael imi'r llynedd roedd hithau'n brwydro dod o hyd ei lle yng...

Sorry, what were you saying? via Arth sy'n Dawnsio February 15th, 2008 at 22:38

Nid y cofnodolyn hwn o'r math sy'n trafod pethau. Dylwn i wneud hynny'n glir. Rydw i'n sylweddoli sut gallech chi gael eich drysu gan fy nghofnodion diweddar -- roeddwn i'n sôn am wleidyddiaeth yr Unol Daleithiau ac wedyn am ddiffyg papur dyddiol yng Nghymru.Ond, a dweud y gwir, nid oes gennyf ddiddordeb mewn sgwrsio gormod ar y pynciau hyn. Os ydych chi eisiau ymuno trafodaeth ar rywbeth, ewch i Maes-e. Mae gennyf i fwy o ddiddordeb mewn bronnau a chwrw. Petaem ni mewn tafarn ac oeddech chi'n ceisio siarad â mi am sut rydw i'n methu â deall pam mae angen Cymru papur dyddiol materol, byddwn i "clock out" yn fy mhen a dechrau sganio'r ystafell am ferched i edrych arnyn nhw (ac eithrio petaech chi fod yn fenyw eich hunan -- wedyn byddwn i'n llygadrythu ar dy frest).Y ffaith syml yw, nid...

Yr imperialydd olaf via Arth sy'n Dawnsio January 28th, 2008 at 23:39

image Yn Llundain oeddwn i tros y penwythnos. Neu dylwn i ddweud "Yn Llundain bûm"? Oherwydd pan soniaf am y penwythnos, rydw i'n sôn am adeg benodol, onid ydw i? Gramadeg Cymraeg: more fun than a kick in crotch, but only just.Beth bynnag, euthum i Lundain er mwyn ymweld â hen ffrind o Minnesota, Jen. Os cofiaf yn iawn, dwedais wrth Fflur fod Jen yn gyn-gariad. Mae hyn yn ymestyniad o'r gwirionedd."I've got a girl in every port," meddwn i.OK, roeddwn i'n gwneud mwy nag ymestyn y gwirionedd. Mae gennyf duedd i wneud hyn pan deimlaf yn is mewn presenoldeb person. Teimlaf fel mae yna angen arnaf gyfiawnhau mi fy hunan rhywsut. Petawn i geisio awgrymu fy mod yn ddeallus, byddai Fflur weld trwy hynny yn syth. Yn ei le, soniaf am the womens I got. Felly dyna oeddwn i'n ceisio big myself up trwy...

Blwyddyn newydd… dda? via Arth sy'n Dawnsio December 28th, 2007 at 22:00

Rydw i'n casáu mis Ionawr. Dydd Calan yw'r broblem. Wel, nid y dydd ar ei ben ei hun, ond y teimlad sy'n o'i amgylch. Hynny yw: y teimlad o hel atgofion.Tro diwethaf yr euthum i gapel yn wirfoddol bu mis Ionawr 1999. Yn ei bregeth, soniodd y gweinidog am y flwyddyn newydd, sut ceisia pobl ailosod eu bywydau ym mis Ionawr a chânt eu siomi ar ôl methiant bach. Pwynt y bregeth bu nad oes angen inni aros am ddiwrnod arbennig er mwyn ailddechrau."Through Christ, all things are new," meddai fe. Rydw i'n meddwl o hyd am yr hyn a ddwedodd y gweinidog. Nid cymaint y stwff am Iesu Newydd Sbon, ond y syniad taw newydd yw pob dydd. Mae pob un eiliad yn un fy hun i adeiladu arno. Ceisiaf fyw fel hyn. Ceisiaf ganolbwyntio ar y pethau fy mod yn gallu eu gwneud yn hytrach nag yr hynny a fu. Petawn...

Deublyg via Arth sy'n Dawnsio November 29th, 2007 at 17:36

Teimlaf euogrwydd tros y ffaith nad ydw i'n cofnodi'r dyddiau hyn. Mae yna sawl rheswm am hyn: nid oes gennyf amser, neu nid ydw i'n hunanreoli fy amser yn ddigon dda; nid oes gennyf rywbeth i'w ddweud; ni theimlaf fod yr hyn fy mod yn ei feddwl yn "bloggable."Ni ŵn a ellir dweud bod fy mlogiau yn "llwyddiannus," ond maent yn ddigon fel hynny bod pawb fy mod yn eu nabod yn ymwybodol ohonynt. Hefyd, mae gennyf reol hunanosodedig nad allaf ysgrifennu rhywbeth ar fy mlog na fyddwn ei ddweud wyneb yn wyneb i berson. Felly mae yna rai pethau ni allaf eu gofnodi.Rydw i'n achosi pethau swnio'n fwy cyffrous na maent. Fel petai rydw i'n cynllunio lladd rhywun neu rywbeth. Na. Y pwynt yw nad oes gennyf lawer o amser y dyddiau hyn er mwyn ysgrifennu, er gwaethaf y ffaith teimlaf mor euog...

Time well spent via Arth sy'n Dawnsio October 8th, 2007 at 22:45

Y ffaith fy mod i ddim wedi blogio ers wythnos yw arwydd da bod y flwyddyn academaidd yn full swing. Nid ydw i wedi sortio mas fy amserlen eto. Hynny yw, nid ydw i wedi trefnu fy myd er mwyn cael amser blogio eto.Hefyd, pan gaf i oriau hamdden (eisoes rydw i wedi defnyddio gair gor-Saesneg gyda "sortio," felly defnyddia "oriau hamdden" yn lle nag "amser sbâr") y dyddiau hyn, gwyliaf y rygbi neu wastraffu amser ar Facebook. Rydw i'n enwedig o hoff o'r wefan gymdeithasol ar hyn o bryd oherwydd rydw i wedi ailgysylltu gydag un o'm cyn-gariadon trwyddi.Paid â phoeni -- nid ydw i'n golygu "ailgysylltu" fel hynny. Fel roeddwn i'n dweud wrth Fflur ar ddydd Mawrth, mwyafrif o'm ffrindiau yw cyn-gariadon. Mae'n sgil effaith o ddyddio llawer pan roeddwn i'n ifanc(ach). Fel pethau mae, mae gennyf...

Conas atá tú? via Arth sy'n Dawnsio October 2nd, 2007 at 22:28

Rydw i wedi dychwelyd i'r byd prifysgol erbyn hyn. Felly mae'n gwneud synnwyr i fi ddefnyddio Gwyddeleg er mwyn nodi'r dyddiad, oherwydd rydw i'n ei dysgu rŵan.Dweud gwir, y dosbarth hwn yw'r un fy mod i'n edrych ymlaen ato y mwyaf. Mae'n neis dim cael y pwys o orfod deall Cymraeg ar safon uchel. Er, petawn i eisiau dim byd mwy nag hynny, dylwn i wedi dewis dosbarth arall -- nid yw Gwyddeleg yn iaith symlaf yn y byd.Ond edrychaf ymlaen at y dosbarth os nid yn unig am y rheswm fy mod i'n nabod rhywun yn y dosbarth yn barod. Mae'n gysur oherwydd rydw i wedi darganfod tros y flwyddyn ddiwethaf ei fod yn anodd i fi ddatblygu ffrindiau.Arnaf i yw'r bai am hynny, cymaint ag yw fe ar unrhyw un. Canolbwyntiaf gymaint ar nid bod yn niwsans y ciliaf rhag sefyllfa yn rhy gyflym. Felly byddai'n...

Siblingiaid via Arth sy'n Dawnsio September 10th, 2007 at 23:48

Rydw i wedi cyrraedd yng nghylch llai uffern -- mae chwiorydd y briodferch ifanc yn ymweld â ni ar hyn o bryd. Nid ydw i eisiau swnio'n greulon gan ddweud hynny, maen nhw'n ferched hyfryd. Ond pan ddaw'r briodferch ifanc a'i chwiorydd gyda'i gilydd... O, diawl.Siaradan nhw'n uchel -- ar ben eu lleisiau -- am oriau. Neithiwr, roedden nhw'n siarad hyd 3 yn y bore. Dyna oeddwn i, yn ceisio cysgu ond nad allwn oherwydd o dro i dro crynai'r tŷ gyda ffrwydrad o'u chwerthin.Mae'r chwiorydd-yng-nghyfraith yn yma am bythefnos. Anfonwch help (a chwrw), os gwelwch yn dda. Wedi dweud hyn, mae'n neis i gael nhw yma. Roedd y briodferch ifanc yn teimlo hiraeth cryf am ei theulu tros y misoedd diwethaf. Ni allaf ei hachosi chwerthin mor uchel, mor bur, mor lawn o lawenydd â phan mae hi'n gyda'i...

That unconquerable race via Arth sy'n Dawnsio July 24th, 2007 at 00:28

image Yr wyf yn ôl yng Nghaerdydd ar ôl wythnos yn Nant Gwrtheyrn. Mwynheais y lle a'r ardal i gyd hefyd -- âi'r grŵp ar deithiau yn y prynhawn: Aberdaron, Pwllheli, Caernarfon ac yn y blaen. Cafodd Caernarfon yr argraff gryfach arnaf oherwydd mae'n union fel disgrifiwyd hi gan Llyr. Y dyddiau hyn yr wyf yn amheus iawn o'r hynny a ddweda pobl wrthyf am leoedd gwahanol yng Nghymru. Yr wyf wedi siarad am hyn o'r blaen -- ar ôl darlledwyd y rhaglen ym mis Mai cefais sawl e-bost, a hyd yn oed llythyr, gan bobl a oedd yn awyddus dweud wrthyf na ddylwn wedi mynd i Gaerdydd ond yn hytrach i'r lle 'ma neu le acw. Wrth gwrs, pob tro dwedai'r person taw at ei ardal dylwn wedi mynd. Ond, fel dwedais ar fy mlog Saesneg, mae gan Gymry Cymraeg duedd i gor-werthu pethau weithiau -- yn enwedig pethau yn y...

Chris y Sinig via Arth sy'n Dawnsio June 8th, 2007 at 22:18

Dwedir mai traddodiad Cymru yw rhoi enw lle neu nodwedd person ar ôl ei enw. Er enghraifft, adwaen rywun sy'n galw ei hunan "Sarah Efrog" oherwydd daeth hi o York.Ni ŵn sut gweithia'r gyfundrefn hon, felly ni ŵn os byddwn yn "Chris Cope, Minnesota" (neu "Chris Cope, Texas"), neu "Chris Minnesota" (neu "Chris Texas"). Dweud gwir, nid ydw'n hoffi'r gyfundrefn hon oherwydd yr wyf wedi byw yn 12 dinas, yn chwe ardal, yn tair gwlad. Felly mae'n anodd i fi dweud o ble yr wyf yn dod er mwyn ei rhoi y tu ôl fy enw.Yr wyf yn fwy hoff o enw y rhodd Llyr Lewis, Caernarfon, i fi heddiw: "Chris y...

I’m not what I ought to be, but I’m better than I used to be; I’m getting better all the time via Arth sy'n Dawnsio May 25th, 2007 at 11:10

Daw'r pennawd hwnnw wrth delyneg cân efengyl ("gospel") sy'n mynd trwy fy mhen. Ni ŵn pryd ei chlywais yn gyntaf -- yng nghapel, tybiaf. Ei chanasom ni o leiaf unwaith yn CCC, hefyd, pan yr oeddwn arfer byw yn Reno, Nevada*. Ond fersiwn sy'n chwarae yn fy mhen ar hyn o bryd yw fersiwn Blind Boys of Alabama**.Yr wyf yn meddwl am ffydd a chrefydd yn ddiweddar. Am ddau reswm.Ar ôl cafodd rhaglen amdanaf ei darlledu, cefais lawer o ymatebion, gyda phob un person yn gynnig ei ddamcaniaeth am pam yr oedd pethau mor anodd yng nghychwyn y rhan hon o'm hanturiaeth Cymraeg. Fy hoff ymateb yw'r un gan berson a rodd y bai ar Rhodri Morgan (bwriad cyfrinachol ni welwyd yn nogfen 11 for 2011 yw hyn: "#12: Fuck with Chris").Ond awgrymodd sawl pobl mai anodd i fi ffeindio fy lle yma oherwydd...

I don’t know how to put this, but, I’m kind of a big deal via Arth sy'n Dawnsio May 14th, 2007 at 21:26

image Efallai gwelsoch chi stori amdanaf ar dudalen 17 Y Cymro yr wythnos hon (11 Mai), neu gwelsoch chi froliant amdanaf ar wefan Cymru'r Byd, neu gwelsoch chi stori heddiw amdanaf ar wefan Newyddion BBC. Os nid yw hyn i gyd yn ddigon i chi, byddaf ar raglen Hywel a Nia yfory (eto).Wrth gwrs, rheswm am hyn yw caiff rhaglen amdanaf ei darlledu nos Fawrth (21:00/S4C). Hefyd gellir ei gwylio ar 21:15 nos Sadwrn gydag isdeitlau, neu ar wefan S4C. Amhosibl i osgoi ydw. Gŵn y bydd hyn yn anodd i'ch credu, ond mae'n dipyn anghyfforddus i fi ceisio drum up diddordeb yn y rhaglen hon. Nid achos y rhaglen ei hunan -- mae'n rhaglen dda, yr wyf yn credu -- ond oherwydd mae'n rhaglen amdanaf ("amdanaf fiiiiiiiii"). Wrth gwrs yr wyf yn hoffi cellwair fy mod yn "kind of a big deal," ac, ie, fel sylwodd...

Un wythnos via Arth sy'n Dawnsio May 8th, 2007 at 15:53

Gwelais heddiw bod gwybodaeth am y rhaglen amdanaf ar wefan S4C erbyn hyn (Yn ôl Neil, maent nhw'n hysbysebu'r rhaglen ar y radio, hefyd). Wrth gwrs, big girl's blouse ydw, a pheth sy'n taro fi am y dudalen honno yw fy ngwallt yn y lluniau.Gellir gweld llawer mwy o fy ngwallt annhaclus ar ddydd Mawrth nesaf. Caiff y rhaglen ei darlledu ar 21:00 15 Mai. Yr wyf wedi siarad am fy argraffiadau cyntaf (hmm, nid ydy 'first impressions' yn cyfieithu fel hynny, ydy?) o'r blaen, ond gyda'r darllediad yn agosáu, yr wyf yn ffeindio fy hunan yn meddwl am fwy o bethau embarrassing oddi'r rhaglen. Er enghraifft, ffordd y cerddaf. Mae gennyf gerddediad rhyfedd, sbonciedig (bouncy?). Dyna fi, dyn tenau'n sboncio lawr y ffordd -- yr wyf fel hen gartŵn Popeye*. Ond ni allaf baffio.Ac wedyn mae rhan pan...

A dyma dy grys-T, atgas via Arth sy'n Dawnsio April 24th, 2007 at 23:41

Mae hen fynegiant: "honesty is the best policy." Wel, ac eithrio pryd mae'r heddlu'n eich ffeindio'n noeth yn shed gyda phum merch -- i gyd ohonoch chi'n feddw ac yn drewi o cherry bakewells. Yn y sefyllfa honno, dylech ddweud unrhyw gelwydd y gallwch feddwl amdano.Ond mwyafrif o'r amser, mae'n well jyst dweud y gwir am bethau yn hytrach na cheisio eu hosgoi. Gwna fy nhad hynny -- ceisio osgoi siarad am rywbeth, a gwna ef y peth yn golygu'n gwaeth. Er enghraifft, yr oedd y ddau ohonom ni'n siarad y gaeaf hwn a dwedodd rhywbeth fel:"Well, your mother has to go in for surgery on Tuesday and...""Surgery?" gofynnais. "Oh, uhm, yeah. It's nothing big.""Surgery for what?""Nothing. Don't worry about it.""No. Surgery for what?""Look, just forget about it. Don't worry about it.""Oh my God, is it...

Meudwy via Arth sy'n Dawnsio April 23rd, 2007 at 22:26

Nid ŵn pam yr wyf fel hyn, ond ydw -- weithiau nid oes eisiau arnaf fynd tu allan. Nid ydw'n hoffi sut mynegais hynny, "nid oes eisiau arnaf." Mae'n swnio rhy ysgafn, fel petaswn wedi ysgrifennu, "nid oes eisiau arnaf fwyta hufen iâ siocled." Mae'n waeth nag hynny, wrth gwrs. Mae ofn, bron, arnaf fynd tu allan. Casáu. Neu rywbeth tebyg.Bydd y teimlad hwn yn cipio arnaf heb rybudd. Gafaelodd fe arnaf heddiw. Yn gryf. Nid euthum at fy narlithoedd heddiw, er gwybûm y dylwn. Mae fy nhad-cu yn fel hyn. Nid adawa ef ei dŷ os nad oes rhaid. Ac, peth rhwystredig yw sut ymddwynaf ar ddyddiau fel hyn -- ni wnaf ddim byd. Felly, dyma fi, yn ceisio ysgrifennu post blog er mwyn teimlo fel gwneuthum rywbeth heddiw. Fucking waste of a day bu...

Melancholia via Arth sy'n Dawnsio April 15th, 2007 at 21:57

image Mae cymaint o amser wedi llithro heibio ers tro diwethaf ysgrifennais. Dweud gwir, nad ydw'n teimlo fel ysgrifennu; yr wyf yn teimlo fel dileu'r blog hwn.Fel hyn ydw -- tueddol at benderfyniadau sydyn. Gwnaf bethau weithiau dim ond er mwyn achosi rhyw fath o ymsymudiad yn fy myd. Da neu ddrwg, os gwneir rhywbeth pendant rhaid delio â'r peth.Un o fy hoff gysyniadau athronyddol yw Vishnu: creawdwr a dinistrydd ydy hi/fe. Yn ôl yr Hindŵiaid mae Vishnu yn creu a dinistrio'r byd miloedd troeon pob eiliad. Wrth gwrs, mae gan y Cristnogion yr un peth: "Through Christ all things are new," medden nhw. Ond yr wyf yn hoff o'r syniad o ddinistrio popeth ac yn ailadeiladu.Tyb rhywun sydd wedi symud o gwmpas ydy hyn, siŵr. Symudais nifer o droeon pan yr oeddwn yn ifanc -- symud tŷ, symud ysgol,...

Y claf ifanc via Arth sy'n Dawnsio January 28th, 2007 at 16:55

Mae'r briodferch ifanc yn eithaf sâl heddiw, a gallaf teimlo fy hun yn dechrau i deimlo yr un ffordd. Sympathy pain yw hyn, efallai. Gobeithiaf. Bydd y tymor hwn yn digon anodd os dechreuaf yn hollol iach, felly nad ydw eisiau bod yn wael. Ond eisoes wy'n teimlo poen yn fy mhen a fy ysgyfaint.Aethom i Llanilltud Fawr ddoe i gerdded wrth y môr, ond bu Rachel yn rhy sâl i gerdded ym mhellach na St. Donat's (oddeutu 1 milltir gan Llantwit Beach). Bwriadasem mynd i dafarn Blue Anchor ond teimlodd rhy ddrwg ar gyfer hyn, hyd yn oed. Nawr mae'n lawr grisiau yn pesychu a nad ydw'n gwybod beth i'w wneud. Gŵr shit ydw yn yr ystyr hyn."Take some medicine," dwedaf."I did. It's not helping," dweda."Oh. Uhm. Want me to make you some hot chocolate?"Nad ŵn beth dylwn wneud. Gallaf coginio siocled...

Ac eto… via Arth sy'n Dawnsio January 28th, 2007 at 15:41

Gall brifysgol bod yn brofiad eithaf gelyniaethus (alienating) os ydys 30 oed ac yn dod o rywle allan o Gymru. Cefais fy atgoffa o hyn ar ddydd Gwener. Mae dim ond un person yn fy nghwrs sy'n siarad â fi, ac yntau'n allanolwr hefyd (mewn ffordd*). Mae'n anodd iawn i fi dweud beth yr oeddwn yn disgwyl -- gwybûm y na fyddai'r sylw y cefais yn yr haf yn fy myd normal, ond na feddyliais chwaith y byddai bethau fel maent yn. Ie, ie, ie, wy'n gwybod fy mod yn 30 oed, ac yn allanolwr, ac efallai wy'n anodd i'w agosáu oherwydd yr oedd pobl yn ffilmio fi dros y tymor, a mae pobl Cymru'n swil -- yn enwedig pobl ifanc -- ac yn y blaen ac yn y blaen. Ond wy'n teimlo fel mae pobl yn troi eu cefnau arnaf, fel maent yn meddwl: "Dwyt ti ddim yn ffitio yma, hurtyn."Ac, ie, gŵn beth meddyliwch rhai...