
Wedi dwy noson yng Nghaerdydd dwi wedi dianc yn ôl i'r Fro yn barod am seibiant (mi fydda i'n dychwelyd i'r steddfod fory cofiwch). Nol yn Llanddarog fe'm syfrdanwyd i weld fod Tom Livingston yn y Western Mail yn dyfynnu fy mlog, dyma maen dweud:Not everyone is a fan of this mini-Glastonbury [maes b] exising in pararell to the main Eisteddfod, though. Las year Welsh blogger Rhys Llwyd complained of the Eisteddfod's “dark secret” - the huge amount of booze consumed on Maes B. “After the carnage of Maes B my conscience told me I had to say something,” he wrote. “I'm not against drinking, just be sensible and do it in moderation.”Chwarae teg i Tom, maen fy nyfynnu yn ei gyd-destun yn gywir er fe ddylwn ychwanegu mod i yn ffan o wyliau cerddorol ac mae dim ond y diwylliant yfed...
Maen ddiwrnod mawr i'r Eglwys Anglicanaidd fory gan fod y Synod yn Efrog yn pleidleisio ar y mater o dderbyn merched fel Esgobion. Ni welaf i urnhyw broblem gyda chael Merched ochr yn ochr a dynion yn arwain yr Eglwys - mae'r ddau ryw yn hafael ac mae angen y ddau ryw. Maen gywir i nodi fod gwahanol bobl yn cael eu galw i wahanol rôls o fewn yr Eglwys ond dwi ddim yn meddwl fod hynny o'r rheidrwydd yn golygu fod y split yn digwydd ar linellau rhyw oherwydd fe geir dynion llipa a fyddai'n gwneud arweinyddion ofnadwy ond efallai yn gaffeiliadau yn gwneud tasgau eraill tra ar y llaw arall mae yna ferchaid sy'n arweinwyr naturiol ac yn haeddu'r hawl i ymarfer y rôl yna o fewn yr Eglwys a hynny er lles gwaith y Deyrnas.Rwyf wedi bod yn meddwl yn ddwys am hyn yn ddiweddar ac er mod i'n deall...