RHYBUDD: IAITH ANWEDDUSWel, fel pob blogiad arall rili, de? Ond bydd hwn yn waeth.Dwi’n gwybod fy mod i’n ddwl ar adegau, ond wrth glywed newyddion y bore a’r bwriad gan Brifysgol Abertawe i wneud i gar fynd 1000mya, rhaid i mi ddweud nad ydw i’n dallt y pwynt i’r holl beth. Os gall rhywun egluro be ddiawl ydi’r pwynt rhowch wybod i mi. Dwi’n fodlon iawn ar fy Fiesta, yn bersonol. Lwcus i hwnnw gyrraedd 70mya yn y bumed gêr.Ta waeth am hynny rhaid i mi ddychwelyd at lyfr a brynais ddoe. Gyda thri phen-blwydd yn dyfod y penwythnos hwn, roedd y temtasiwn yno i brynu ‘Pets with Tourettes’ fel anrheg i un o’r ddywededig rai: ond dydi Rhys methu darllen, dydi Lowri Llew ddim yn licio pethau fel hyn ac mae Llinos yn Aberystwyth. Pwy tybed a fyddai’n gwerthfawrogi ryw 40 o...
Mae ‘na ferlod yn cae acw yn Rachub. Merlod gwyllt ydynt, rhai y cânt eu rhyddhau i’r mynyddoedd pan ddaw’r amser, ond eu bod hefyd yn cael eu bridio. Bydda i wrth fy modd ac yn cael fy rhyfeddu gan ferlod a cheffylau gwyllt y Carneddau, ac mae’n rhywbeth bach rhyfedd i ymfalchïo ynddo bod rhai y ffordd hon yn gofalu amdanynt yn ddi-dâl o’u gwirfodd.Ond hen fasdad ydi Wil y Ferlen. Na, go iawn rŵan, Guto, Wil a Siôn ydi enw tair o’r merlod a Charlie ydi’r llall, hen beth tew sy’n hŷn na’r tair arall. P’un bynnag, mae Mam yn obsesd ac yn ailadrodd hyd syrffed faint y mae’n mwynhau eu cael yn y caeau. Gyda’r wiwer lwyd sy’n dringo to bob hyn a hyn a’r draenog yn y sied mae’n eithaf sŵ ar ymylon Tyddyn Canol ar hyn o bryd.Mae’r merlod eu hunain yn...
Mae’n amser maith ers i mi drafod yr Armadilo, fy hoff anifail. Wel, dydi o ddim yn hoff anifail gen i mewn gwirionedd, ond daw’n drydydd agos iawn ar ôl cŵn a chwïaid.Ar y funud mi fyddai’n gwylio Amazon efo Bruce Parry, sef y boi ffwr’ o Tribe. Un eiliad, ac un eiliad yn unig y gwelais hogyn bach a dal armadilo fel rhyw anifail anwes. Ar yr olwg gyntaf roedd hyn o galondid mawr i mi - ond eto wn i ddim a fydd armadilo yn anifail anwes da iawn - wedi’r cyfan maen nhw'n claddu a byddai gen i ddiawl o ofn y byddai’r cythraul yn fy mrathu. Maen nhw’n edrych fel rhyw bethau y byddant yn gwneud y fath beth. Bai Robin Llywelyn ydi hyn am ysgrifennu’r stor fer wych Reptiles Welcome, sydd yn ei hanfod yn cynnwys armadilo yn bwyta pidlan. Wn i fy mod yn eangfrydig fy naws ond...
Gwyddoch yn iawn mae un o’m dileits ydi enwau anfeiliaid yn Gymraeg, a dyna ydi enw ar anifail: sbonc y glennydd. Wyddoch chi beth ydyw, pan fyddwch yn chwilota drwy wymon (dwi ddim yn ymgymryd â hyn yn aml, gyda llaw) y creaduriaid bach chweinllyd hynny sy’n llechu yno. Wel, sbonc y glennydd ydi honno. Hoffwn fod yn sbonc y glennydd yn anad dim, yn wymonllyd fodlon ar y byd.Rhyfedd ydi gweld hefyd un neu ddau o amrywiaethau. Fel y gwyddoch morgi ydi siarc, ond catfish ydi morflaidd. A chath fôr ydi ray. Sut ddaru hynny ddigwydd ni wn, ond bydd pethau felly wastad yn fy niddori hyd fy ngwely...
Mae hon yn stori, os nad ystyrir y ffordd y’i dywedir ac os na’i hystyrir yn ddigon ddwys, na fyddwch yn ei hoffi, ond parodd i mi chwerthin fel jî binc pan y’i clywais.Byddwch o bosib wedi clywed cyfeiriadau at Lowri Llewelyn o’r blaen; dynes ryfedd ac anghyfarwydd ydyw sy’n gallu bwyta sleisen dew o gacen mewn llai na dwy funud ac efo hiwmor na fyddai camel sâl yn eiddigus ohono. Cymeriad trist, er hoffus, ydyw, sy’n treulio’i hamser yn gwneud mân bethau fel pigo llwch o soffas MFI a chwarae gemau syllu gydag afalau. Ond, rwy’n crwydro.Neithiwr, dychwelais i Gaerdydd ar ôl penwythnos sobor yn y Gogledd, yn bwydo melon ddŵr i dair merlen ymhlith pethau eraill, ac fe drafodwyd gennym anifeiliaid anwes. Pysgod a chwïaid ydi’r unig rai a gefais erioed, a dwisho ci...
Wythnos i ‘fory dw i’n dathlu fy mhen-blwydd. Wythnos i ‘fory mae’n rhaid i mi bwyso 11.6 stôn. Wythnos i ‘fory dw i am feddwi a gwneud bob math o bethau drwg a swnllyd nad ydi pobl dosbarth canol a chapelwyr yn hoff ohonynt. Ond mae amodau, ac elfen gref o betruster. Nid yw rhywbeth yn teimlo’n iawn.Dydw i ddim yn hoff o’r rhif 23. O fod yn 22, gall rhywun smalio ei fod yn 21 o hyd. Nid felly 23. Rŵan, dw i’n raddol gweld llawer o’m ffrindiau yn callio i raddau; licio arbed ychydig o arian, mynd allan am fwyd, sesiwns mawrion, gwyllt, anfoesgar yn diflannu cam wrth gam, a dw i’m yn licio. Ac mae rhyw ddisgwyl cyffredinol i rywun ddechrau callio rhywfaint ar yr oedran hwn. Dwi am wrthod, wrth gwrs, er gan deimlo y dylwn.Dydi bod yn 23 yn ei hun ddim yn fy...
Heddiw mi aethom ni i warchodfa adar. Sydd yn beth ddigon dewr i mi yn fy marn i gan mai adar yw un o fy ofnau mwyaf. Ond wedi dweud hynny, doeddwn nhw ddim yn hedfan o gwmpas rhyw lawer, heb son am fflapio yn fy nwyneb! Tydio ddim yn ffobia o bellffordd (er ma' f'annwylyd yn ffobia pan ma'n sdyrbio ar fywyd o ddydd i ddydd a dwi'n dueddol o gadw i ffwrdd o adar pan yn bosib); yr unig phobia dwi di gal erioed ydi disgyn am yn ol a dwi wedi concro hwna i raddau helaeth...ish.Eeeeniwe, gwarchodfa adar. Mi sylwais heddiw cyn lleied dwi'n gwybod am adar. Mi oedd pawb arall yn pwyntio adar allan ac yn eu henwi yn syth. A finna yna efo binoculours wedi'w menthyg, ar gora oni'n gallu'w wneud oedd mynd "ylwch, aderyn". Mi welais i lot o adar ond peidiwch a gofyn i mi pa rai oedden nhw! Mi oedd na...
Fel y gwyddoch, oni bai eich bod yn newydd yma (yn yr achos hwn dylech ddarllen y pedair blynedd a hanner o gofnodion sydd i’r flog hon i ddal fyny, achos dw i’m am ailadrodd popeth rŵan myn uffarn), dw i’n hoffi bwyd, dw i’n hoffi cwrw a dw i’n hoffi synfyfyrio. O’r rhai, cwrw ydi’r hoffaf, ac yna bwyd, gyda synfyfyrio yn rhywbeth i’w wneud gyda chyfuniad o’r uchod.Mi wnes, wedi’r cwbl, cael noson arferol neithiwr, yn gwylio rhaglen ddogfen ar fyd natur a chyfnewid sarhadau â Dyfed Flewfran (e.e. TI’N FINC, Chdi di gê y gors, Chdi a Lowri Dwd yn Clwb Ifor a.y.y.b.). Do, fel y dywedais, gwylio Natur Cymru fu fy hanes, a mwynhau. Doeddwn i’m yn gwybod bod y llysywen bendoll yn nofio drwy afonydd Cymru, er na fydd y wybodaeth hon o ddefnydd ymarferol imi yn y...
Mae bowlio yn un o’r pethau hynny mewn bywyd lle y byddaf yn cael dechrau da ac mi aiff pethau i’r diawl yn fuan wedi’r pedwerydd bowliad. Felly ydoedd neithiwr, ond mi gurais Lowri Dwd yn y Bae, sef fy unig nod mewn bywyd. Yn anffodus iawn, os mai curo Lowri Dwd ydi eich unig nod mewn bywyd yna waeth i chi saethu eich hun yn gelain ar unwaith. Mae’r diffyg uchelgais yn hynny o beth yn echrydus. Hen beth sych ‘di ‘nialwch. Mi ddylwn wybod. Gwn nad Myfi ydi’r person mwyaf uchelgeisiol, anturus na chyffredinol hyddysg yn ffyrdd y byd, ond dw i ‘di reidio camel yn yr anialwch. Doeddech chi’m yn gwybod hynny, nag oeddech? Hah! Hogyn bach syml o Rachub wedi bod ben camal yn y Sahara, coeliwch chi fyth! (A thra fy mod ar y pwnc dw i’n adnabod rhywun o’r enw Meleri sy’n...
Anwiredd top shelff go iawn byddai dweud fy mod i a’m cyfeillion niferus prin yn bobl aeddfed. Os erioed y bu i chi ystyried beth y mae cyfieithwyr ac athrawon Cymraeg yn anfon nodau bodyn i’w gilydd amdan wrth wylio Life in Cold Blood pump awr i ffwrdd o’u gilydd, nad ystyriwch fwyach. Dyma’r ateb.Yr Athro Cymraeg: Ti’n lungfishY Cyfieithydd: O’n i’n gwbod sa chdi methu atal dy hun rhag cysylltu efo fi yn ystod y rhaglen. Eniwe, ti’n Giant Salamander.Cyf: Ti’n wafftio fferomons ar HaydnAth: Dyna chdi’n dod ar OralAth: Ti fo fishy ancestryCyf: Dw o DDIM yn perthyn i dy dylwyth ffiaiddCyf: Chdi’n hela!Ath: Tin slimy salamanderCyf: Haha! Welish i hwnna’n dod o filltir!Cyf: Ti efo little blind family!Ath: ChdiAth: Kinch a LlinosCyf: Hogan noblCyf: Dyna swni’n neud i...