
Wedi cinio roeddwn i’n bwriadu cael profiad crefyddol a oedd bron â bod i’r eithaf arall i’r eglwys gadeiriol. Fel ardal gyfoethog hyd at y chwyldro diwydiannol, ac ardal hefyd a oedd yn agos at dir mawr Ewrop ac â chysylltiadau agos â’r Iseldiroedd, roedd syniadau newydd crefyddol a gwleidyddol yn cael gwrandawiad parod yn Norwich a Norfolk yn gyffredinol. Felly dyw hi ddim yn syndod fod anghydffurfiaeth grefyddol wedi cael lle yn gynnar yn y ddinas. Roeddwn am fynd i weld dwy esiampl bensaernïol o hyn, sef tai cwrdd yr Undodiaid a’r Annibynwyr.
I gyrraedd yr ardal hon o’r ddinas roedd yn rhaid croesi Fyebridge. Mae’n debyg taw dyma safle’r bont gyntaf i groesi afon Wensum yn Norwich. Fel mae’n digwydd mae tŷ-cwrdd The Old...
Fuesi lawr yn Abertawe heddiw yn rhoi'r ddarlith hanes yn Undeb yr Annibynwyr. Fel un sydd wedi fy magu mewn eglwys annibynnol nad sy'n aelod o'r Undeb roedd hi'n agoriad llygad gweld yr Undeb ar waith, ond trafodaeth at rywbryd eto yw hynny! Y testun heddiw oedd, sypreis sypreis, R. Tudur Jones a Phlaid Cymru. Swmp y ddarlith oedd fy nhraethawd hir gradd, mae e ar gael i ddarllen YMA (PDF) i unrhyw un a diddordeb. Fe'm harweiniwyd gan yr Ysbryd Glan i ddefnyddio'r ddarlith i herio yn ogystal a chyflwyno'r hanes moel am Dr. Tudur. Dyma oedd fy sylwadau clo, maddeuwch y llaw fer:Casgliadau a'r Her HeddiwLle mae hyn yn ein gadael ni heddiw yn 2008? Pa wersi y gellid ei dysgu o hanes a syniadaeth Dr. Tudur? Eleni rydym ni'n coffau deng mlynedd ers marwolaeth R. Tudur Jones. Llawer wedi newid...
Fe ddoes ar draws llythyr difyr a phwerus tu hwnt heddiw yn yr archifau. Llythyr ydyw oddi wrth R. Tudur Jones at Gwynfor Evans. Mae yna dri peth ysgytwol sy'n sefyll allan i mi:1. Yn gyntaf beirniadaeth RTJ o duedd y blaid tua diwedd yr wythdegau i goleddu "sosialaeth". Ddim bod RTJ yn wrth-sosialaidd ac yn Dori, ddim o gwbl, roedd RTJ yn hytrach yn credu mewn cydweithrediaeth, neu'r drydedd ffordd. Maen trafod hyn ym mharagraff cyntaf y llythyr.2. Dibyniaeth a chred lwyr RTJ ym mhenarglwyddiaeth Crist cyn unrhywbeth arall, gweler hyn yn yr ail baragraff.3. Cred ddiysgog RTJ fod tynged wleidyddol ac ysbrydol Cymru yn dod law yn llaw. Gwelir hyn yn y dair paragraff olaf.4. Beirniadaeth gwbl ddi-flewyn-ar-dafod RTJ o'i enwad ef yr Annibynwyr oherwydd dylanwad (i.) traddodiaeth sy'n ymylu...
Penwythnos yma mi fydda i yn mynychu Cynulliad Oedolion Ifanc (COI) yn Annibynwyr ar y thema: "Dewch i addoli, dathlu, mwynhau'r cymdeithasu, rhannu gwybodaeth a thrafod defnydd Cristnogol o'r dechnoleg newydd!" Oce nid thema oedd hwna, ond dyna oedd y tag line ar Facebook i'r digwyddiad. A dyma, yn fras, beth fydd rhaglen y penwythnos:Nos Wener7.00 Croeso, defosiwn (Rhodri, Hawys ac Andras a’r band!)7.20 Torri’r Iâ (Hawys)8.00 Blogio’n enw’r Iôr (Dafydd Tudur) (Wedi’i ddilyn â thrafodaeth/ cyfnod o weddio)Dydd Sadwrn10.00 Defosiwn ac Addoliad (Andras a'r Band)10.30 Coffi11.00 Beibl.net/Gobaith i Gymru (Arfon Jones) Trafodaeth11.45 Tystiolaethau Digidol a'r Emerging Church (Rhys Llwyd) Trafodaeth i ddilyn12.30 Cinio2.00 Trafodaeth gyffredinol ar yr hyn y gellid ei wneud yn...
Mae'r Pedair Tudalen, sef pedair tudalen cyffredin y tri papur enwadol wythnosol wedi cyhoeddi llythyr o'm heiddo i wythnos yma. Gan y tybiaf mae bychan iawn yw nifer darllenwyr y blog sydd wedi tanysgrifio i'r Goleuad, Y Tyst neu Seren Cymru dyma gyhoeddi'r llythyr yma hefyd. Gosod her ac nid beirniadu oedd diben y llythyr ond rwy'n barod am "frosty responce" ys dywed y Sais:Annwyl Olygydd, Cynhyrfus yn wir oedd clywed yr Annibynwyr yn ddiweddar ar donfeddi'r BBC yn beirniadu Esgobaeth Tŷ Ddewi am ddiffyg dwyieithrwydd yn eu caffi a'u canolfan groeso newydd. Mwy cynhyrfus byth oedd clywed yr Annibynwyr eto fyth yn galw ar Eglwys Loegr i ymddiheuro am ferthyru John Penry, ein John Penry ni, nol yn 1593. O roi fy mhen ar y bloc maen debyg y buaswn yn cymryd ochr yr Annibynwyr yn y ddau...
Dyma ypdet bach am y gwaith ymchwil. Heddiw fe ddes i derfyn pori drwy un mlynedd ar hugain o bapurau Plaid Cymru, yr un mlynedd ar hugain oedd ac R. Tudur Jones yn eu golygu – Y Welsh Nation rhwng 1952 a 1962 a'r Ddraig Goch rhwng 1963 a 1973. Roedd y swmp gwaith iddo yn rhyfeddol yn enwedig wrth gofio fod y Welsh Nation yn bapur wythnosol dan ei olygyddiaeth am gyfnod. Fe ddaeth sawl peth diddorol i'r wyneb ond un o'r pethau mwyaf diddorol erbyn y diwedd oedd cefnogaeth gadarn ac agored Dr. Tudur i Gymdeithas yr Iaith. Dyma ddywedodd am y Gymdeithas yn 1972:“Llyfryn gyda'r pwysicaf a gyhoeddwyd eleni yw MANIFFESTO CYMDEITHAS YR IAITH GYMRAEG wedi'i lunio gan Cynog Dafis. Bydd croeso cynnes iawn iddo ymhlith cenedlaetholwyr Cymru a bydd ei ddarllen yn lles i bawb sydd am ddeall beth...
Os ydych chi'n anorac Cristnogol fel fi mi fyddwch chi wedi clywed y newydd diweddar fod yr Eisteddfod wedi penderfynnu codi tâl ar bobl fydd am ymweld a maes yr Eisteddfod ar y Sul i fynychu'r gwasanaeth boreuol blynyddol. Mae'r arweinwyr Eglwysig, yn anad neb Aled Edwards (Cytun) a Geraint Tudur (Annibynwyr) wedi beirniadu'r penderfyniad yn hallt - mae'r stori lawn i'w darllen ar wefan y BBC fan yma.Wrth i mi ddarllen y stori fe ddaeth i nghof i fod Dr. Tudur Jones wedi "gwrthod" cymryd rhan mewn gwasanaeth crefyddol oedd yn rhan o drefniadau'r Eisteddfod ym Mangor yn 1970. Dyma ddywedodd Dr. Tudur mewn llythyr at John Roberts, trefnydd yr Eisteddfod ar y pryd:"Diolch yn fawr ichwi am eich llythyr... a'r gwahoddiad caredig i ymuno yn y gwasanaeth yn yr Eglwys Gadeiriol ar Mehefin...
Fe ddois ar draws rhywbeth tra diddorol yng nghasgliadau Dr. Tudur heddiw sef ffeil a ddynodwyd ar ei flaen "Memorial Hall Case – High Court." Gan nad oes cysylltiad i'r we yn archifdy Bangor ac ei bod hi yn bwrw cenllysg tu allan a finnau ddim am droedio draw i'r llyfyrgell i chwilota fe ddaeth y stori at ei gilydd yn ara deg wrth i mi weithio try'r dogfennau a'r llythyrau oedd yn y ffeil. Dyma'r stori.Fe drodd 'The Union of Congregational Churches of England and Wales' i fod yn 'Congregational Church of England and Wales' yn 1967 oedd yn gam i ffwrdd o gynulleidfaoliaeth a cham tuag ag bresbyteriaeth. Y penllanw oedd i'r 'Presbyterian Church of England' a'r 'Congregational Church of England and Wales' uno yn 1972 a ffurfio'r 'United Reformed Church' (URC) a fyddai o hynny allan a...
Mae undod Cristnogol yn wahanol i Eciwmeniaeth; hefyd rhaid gwahaniaethu rhwng y cysyniad o eciwmeniaeth a'r 'mudiad eciwmenaidd' (Noel Davies et al.) - mudiad rhyddfrydol oedd y mudiad eciwmenaidd a fethodd; ac fe fethodd oherwydd ei fod yn rhy barod i ildio tir ar yr hyn oedd llawer o bobl yn gweld yn greiddiol i'r ffydd. Er mae nid athrawiaeth yw'r be all and end all fe aeth y mudiad eciwmenaidd yn rhy bell a thaflu allan athrawiaeth yn llwyr ar gwaddol oedd this is my truth tell me yours - ildiwyd tir ar yr unig gwir ffactor oedd yn uno pobl sef Crist a'r dealltwriaeth ohono a'i waith. Roedd rhywbeth ffug a forced iawn am y mudiad eciwmenaidd; roedd yn cael ei wthio mlaen gan bobl yn hytrach na gan weledigaeth ysbrydoledig. Roedd yn cael ei arwain gan bobl oedd mewn panics ac am achub...
Tawel a fu ac a fydd y blog yn anffodus. Newydd ddychwelyd o'r de ar ôl treulio cyfnod yn ardal Caerfyrddin a 'steddfod yr Urdd - llawenydd mawr oedd clywed fod Menna wedi dod yn drydydd yn y Goron! Dwi ffwrdd i Fangor am rai rai diwrnodau fory felly yn ceisio troi rhai pethau rownd gan mod i ond adre am noson felly dim amser i flogio'n iawn dim ond nodi mod i'n falch fod Barry Morgan wedi siarad allan ar ran yr Eglwys yng Nghymru ar ddyfodol cyfansoddiadol Cymru. Yn draddodiadol yr anghydffurfwyr sydd wedi bod yn flaenllaw yn wleidyddol ond lle oedden nhw heddiw yn cefnogi Barry Morgan? Pryd y cawsom ni ddatganiadau herfeiddiol am wleidyddiaeth a moesau ein cenedl gan ein eglwysi anghydffurfiol? Dowch laen ben bandits yr enwadau anghydffurfiol, Geraint Tudur (Annibynwyr), Ifan Roberts...