
Mae'r Eisteddfod yn tueddu i fod yn wythnos ddrud i bawb rhywsut, y ddiod gadarn sy'n gwagio'r banc i'r rhan fwyaf o bobl ond i mi y doreth o lyfrau sydd ar werth sy'n dwyn fy arian prin. Dyma'r llyfrau wnes i brynu yn yr Eisteddfod eleni:1. 'Ffiniau' gan Dewi Z. Phillips. Cyfrol ddiweddaraf ac olaf Dewi Z, wedi iddo farw y llynedd fe gymerodd Hywel Teifi Edwards y dasg o'i olygu yn barod i'r Lolfa ei gyhoeddi. Yn y gyfrol hon mae Dewi Z yn trafod Llenyddiaeth Cymru o safbwynt yr athronydd. Mae hon yn debyg o fod yn un drom – cha i ddim cyfle i'w darllen am y tro.2. 'Tu Chwith 29'. Menna oedd yn golygu'r gyfrol hôn ac mae hi wedi gwneud jobyn da ohoni a da o beth felly gan mod i'n gwybod mwy na neb yr amser y treuliodd hi'n hel cyfranwyr, golygu drafftiau a chraffu ar broflenni –...