
Fe brynais lyfr arall ar dafodiaith Norfolk yn y ddinas heddiw, sef Larn yarself Norfolk: a comprehensive guide to the Norfolk dialect (Nostalgia, 1996) gan Keith Skipper. Wrth gwrs, dyw’r llyfr yn ddim byd tebyg i gydymaith cyflawn, ond mae’n ddifyr iawn. Gyda llyfrau Trudgil a Skipper yn fy llaw dwi wedi dechrau dysgu ychydig Norfolk.
Dyma fi yn adrodd cerdd am goginio twmplenni yn null Norfolk allan o lyfr Skipper, sy’n dwyn y teitl Norfolk dumplin’s recipe.
Note: There is a rating embedded within this post, please visit this post to rate it.
Rhannu hyn Rhagor »Gyrrir gan...
Dyma fi’n adrodd hanes cyfarfod gyda’r blogiwr Robert Humphries (Broch yng nghod), a rhai sylwadau ychwanegol am wleidyddiaeth a barfau.
Note: There is a rating embedded within this post, please visit this post to rate it.
Rhanna hwn...
Does dim rhyw lawer gen i i’w ddweud, ond roeddwn i’n meddwl ei bod hi’n werth cael un tro bach arall ar y blogio llafar. Dyw hi ddim yn werth prynu sustem gyfrifiaduol newydd er mwyn gwrando arno, rhag ofn bod rhywun yn meddwl gwneud hynny!
Hyd: 04:02
Note: There is a rating embedded within this post, please visit this post to rate it.
Rhanna hwn...
Arbrawf yw hyn gyda dull newydd o osod ffeiliau sain ar y blog. Felly does gen i ddim byd mawr i’w ddweud, yr hyn sy’n gyffrous yw’r dull o’i gyflwyno a’r dechnoleg dwi’n ei ddefnyddio. Os wyt ti’n cael problem clywed beth sydd gen i i’w ddweud gad imi wybod. Gelli gysylltu gyda mi o’r fan hyn.
Note: There is a rating embedded within this post, please visit this post to rate it.
Rhanna hwn...

Mae gwynt y gwanwyn a gwynt y môr yn llenwi fy ffroenau yn Aberystwyth ac mae fy meddwl yn troi tuag at ein traddodiadau gorau ni fel cenedl – cerddoriaeth. A hithau’n dymor eisteddfodau cylch a sir Urdd Gobaith Cymru ni allwn i wneud dim ond canu. Felly, yn dilyn ar fy albwm Nadolig llwyddiannus a ryddhawyd rhyw ddwy flynedd yn ôl dwi wedi recordio fy hoff siantïau môr a chaneuon gwerin fel homage i Merêd. O dan y teitl Siantïau môr a chaneuon gwerin eraill gallwch fwynhau 10 o glasuron y werin yn eu purdeb. Heblaw am hyfforddiant Mr Voice flwyddyn yn ôl nid yw fy llais wedi’i drin mewn unrhyw fodd na’i sbwylio gan fasnachu diegwyddor fel ambell i ganwr a chantores y gallwn eu henwi petawn i’n teimlo fel gwneud. Na, yn hytrach, dyma sut y canwn ar...

Fel rhan o’m dathliad i o ŵyl Dewi dwi wedi recordio fy fersiwn i o emyn Lewis Valentine Dros Gymru’n gwlad ar y dôn Findlandia.
Ffeil MP3
Note: You can rate this post by visiting the site.
Rhanna hwn...

Mae Dogfael yn dymuno Nadolig Llawen a Blwyddyn Newydd Dda i holl ddarllenwyr Blog Dogfael ac hefyd i’r rhai nad ydynt yn ei ddarllen.
Ffeil MP3
Note: You can rate this post by visiting the site.
Rhanna hwn...
Dwi wedi cael anrheg ffantastig gan catfael, un o ddarllenwyr Blog Dogfael. Diolch yn fawr iawn iddo. Mae’n werth gwrando ar y gân.
Ffeil......
Gwrandewch ar flog llafar Dogfael neu lawrlwythwch y ffeil mp3 i’ch i-Pod neu chwaraewr ffeiliau mp3.
Ffeil......

Ffeil MP3
Tagiau Technorati: Blog llafar |...