Pob rhyw ddeufis (sef tua phob dau fis, nid rhyw a geir yn ddeufisol) byddaf yn cael Cwsg Mawr. Y Cwsg Mawr ydi deg awr – fydda i yn fy ngwely am naw yn weddol siarp a ddim yn deffro tan y larwm saith y gloch drannoeth. Does gen i fawr o ddamcaniaeth am y rheswm dros yr ymddygiad rhyfedd hwn. Mi allwn synfyfyrio ei bod yn gysylltiedig â fy mywyd prysur, ond gwyddoch cystal â mi mai celwydd ofer byddai honni rhywbeth o’r fath.Unigolyn blinedig ydwyf i. Erbyn hyn bydda i’n diolch i Dduw ac Allah a Ghandi mai methiant oedd fy nghyfnod o hyfforddiant athro. Anobeithiol byddai disgwyl i mi, diog fel yr wyf, i ddod adref a gwneud gwaith, neu godi’n fuan, ac wedyn bod efo mynadd i siarad â phlant. Mae Haydn yn ddigon o strach.Er nad un actif mohonof, a fyddai’n egluro’r ymddygiad...
Dw i ddim wedi blogio ers talwm. Prin mod i wedi bod yn blogio yn Saesneg chwaith. Ond, dw i wedi ail-gynllunio fy mlog Saesneg, dyna rhywbeth. Cymerais i gyfran oddiwrth un o fy mheintiadau i (wedi scanio i mewn wrth gwrs) a chwarae gyda fe yn Photoshop. Wedyn gwnes i deilio'r graffeg dros gefndir y dudalen. Dim yn ddrwg, dw i'n meddwl.
Hefyd dw i wedi darganfod Twitter, gwaetha'r modd. Dw i ddim wedi...ym...twitio?...yn y Gymraeg eto...am y tro. Cyn bo hir, dw i'n siwr.
Yn diweddar dw i wedi bod yn anobeithiol gyda darllen blogiau eraill. Dw i wedi bod yn eitha brysur, ond nid prysur dros ben. Ond bob tro dw i'n meddwl am ddal i fyny gyda'r blogiau dw i'n eu hoffi, mae hi'n teimlo fel tasg enfawr. Wrth gwrs, tra mod i'n cwyno am gael gormod o bostiau blog i'w ddarllen--tra mod i'n...
Diolch i Nic am ddysgu ymadrodd newydd i fi (newydd i fi yn Gymraeg, ta beth) - neidio'r siarc....
...a.y.y.b., ar y rhan fwyaf. Ond yn gyntaf, dyma'r cysylltiadau. Heno roedd rhaglen ar BBC Radio 4 "Word of Mouth" yngly^n â "language policy in the bilingual societies of Quebec, Wales and Northern Ireland." Mae'n bosib gwrando ar y rhaglen dros y wê, dw i'n credu. Dw i ddim wedi cael cyfle i wrando arni hi eto, ond mae'n swnio'n ddiddorol. (Diolch i'r rhestr WELSH-L.) Yn ail--a dw i'n siwr eich bod chi wedi clywed hynny'n barod achos dw i wedi methu postio hynny nes heddiw--mae tair prifysgol yn Nghymru wedi mynd yn annibynnol--Aberystwyth, Bangor, ac Abertawe. Dw i ddim yn siwr os ydy hynny'n golygu bod y prifysgolion yn preifat nawr hefyd, neu os ydyn nhw'n cael eu noddi gan y llywodraeth eto. Diolch i fy mam am anfon yr erthygl i fi.
Llongyfarchiadau i Chris, a ennillodd...
Dw i jyst eisiau dweud, ar ôl edrych ar y blogiau eraill sy'n cael eu ystyried ar gyfer y Gwobrau Blogiau 2007, dw i ddim yn siwr pam cafodd Castell Tywod ei enwebu--mae'r blogiau eraill i gyd yn a) bendigedig; b) diddorol; c) yn cael eu diweddaru yn gyson; a ch) ddwedais i "diddorol" yn barod? O wel. Dw i'n falch wedi cyrraedd y rownd terfynol ta beth.
Tipyn o wybodaeth ddiddorol (efallai--os dych chi'n cynllunio tudalennau Wê)--darganfyddais i fod lliw "hex" o'r enw "wales"--lliw gwyrdd (cliciwch yma a scroliwch rhan o'r ffordd i lawr--mae'r lliw "wales" yn y trydedd golofn). Dw i ddim yn siwr pwy a enwodd y lliw--neu pam--ond roedd ychydig o syndod i weld...
Porthddwl via daflog August 31st, 2007 at 13:17
Dwi’n eitha hoffi gwefan gymunedol ‘gwe 2.0′ Heddlu Gogledd Cymru. Mae’n edrych fel fod prif swyddogion a heddweision cymunedol yn cyfrannu i’r wefan. Yn anffodus felly, does dim cynnwys Cymraeg i’w weld yno, ddim hyd yn oed ar flog y prif gopyn (oedd ar gael yn Gymraeg yn wreiddiol dwi’n siwr).
O edrych ar yr ychydig o Gymraeg sydd ar y wefan, y gair wnaeth daro fi oedd ‘Porthol’. Pwy ddiawl sydd wedi cyfieithu hwn ‘te? Porth yw’r cyfieithiad arferol o ‘portal’, ond mae’n edrych fel petai rhywun wedi edrych yn ei Briws, gweld ‘porthol’, ac anwybyddu’r Anat sy’n golygu ei fod yn cael ei ddefnyddio yn y maes......
Jyst tipyn bach o'r diweddaraf...os dych chi'n gyfarwydd â'r awdur i bobl ifanc Diana Wynne Jones (hanes diddorol ei phlentyndod fan 'ma), efallai bydd diddordeb 'da chi mewn hynny. Wythnos gyntaf o Dachwedd (y 5ed - 9fed), bydd y Winter Blog Blast Tour--sef, dathliad o gyfweliadau gyda awduron o lenyddiaeth i bobl ifanc a phlant. Bydd nifer fawr o flogiau (blogiau sy'n sôn am lenyddiaeth i bobl ifanc) yn cymryd rhan, yn gynnwys Finding Wonderland, y blog dw i'n cyfrannu ynddo. A bydd gyda ni gyfweliad anghynwysol gyda Diana Wynne Jones, awdur Howl's Moving Castle, y llyfrau Chrestomanci, a llawer iawn o lyfrau eraill. Dw i'n cofio benthyca llyfrau Diana Wynne Jones oddiwrth ffrind pan o'n i'n tua 10 neu 11 oed, a dw i'n dal i fwynhau ei storiau. Felly dw i'n edrych ymlaen at...
Er nad yw hi'n hollol amlwg o beth dwi'n sgwennu ar y blog, dwi'n hoffi meddwl am wleidyddiaeth. Yn fwy na hynny, dwi'n hoff iawn o etholiadau. Mae fy niddordeb hanesyddol yn bennaf ar yr hyn a elwir yn ‘high politics’, hynny yw, gwleidyddiaeth personoliaethau a hunan-ddiddordeb coridorau (cefn) pwer, ymhell o ‘fywyd go iawn.’ Rydw i’n gweld etholiadau’n ddiddorol gan mai dyma gyfle’r ‘byd go iawn’ i atgoffa’r gwleidyddion eu bod nhw’n gwrando ar yn gwylio.Dwi wedi mwynhau dilyn Etholiadau'r Cynulliad yn fawr iawn. Roeddwn i'n aml yn teimlo dylwn i fod yn cyfrannu rhywbeth at yr ymddiddan blogiol ond mae hi'n anodd iawn i rywun oedd mor bell o realiti'r etholiad allu dweud unrhywbeth newydd na diddorol. Dwi wedi cael blas arbennig ar y rhai hynny o'r blogiau sydd...
Flin am y teitl. Nodyn bach i roi dolen i flog newydd am dechnoleg iaith gan staff Canolfan Bedwyr, ‘na gyd....