Rydw i'n rhy brysur yn pori'r blog gorau erioed: Sexy...

Dwi’n dal i glywed y gair ‘hanesyddol’ yn cael ei ddefnyddio gan newyddiadurwr ar ôl newyddiadurwr ar BBC, CNN, Sky News ac EuroNews. Mae meddwl am fynd i’r gweld wedyn yn teimlo’n benderfyniad bach yn rhyfedd. Onid yw rhywun am fod ar ddihun i fod yn llygad-dyst i hanes? Wel, ydy mae dyn am fod yn llygad-dyst lle mae hynny’n ymarferol. Ond ar y llaw arall mae’n rhaid imi gael fy nghwsg os ydw i’n mynd i roi o fy ngorau yn y gwaith yfory. Felly dwi’n credu taw’r ffordd ganol fydd mynd i’r gwely yn magu fy nghyfrifiadur a gosod y ffôn symudol i fy nihuno am ryw 5.00am. Wedyn os oes ‘na ganlyniad hanesyddol fe alla i ddihuno ac esgus fy mod wedi bod yn rhan o’r newid… ac os nad oes yna fe alla i fynd yn...
Co ni off.
Mae Ifan Morgan Jones yn bwriadu aros lan trwy’r nos yn blogio ar safle Golwg wrth i’r canlyniadau dod i mewn. Dw i ddim yn siwr faint o’r noson bydda i ar lein - mae potel o seidr gyntaf newydd ei chracio, ac ar hyn o bryd y bwriad yw gwylio’r peth ar [...]...
Stopia! via Morfablog November 1st, 2008 at 23:09
Un o fanteision y storom bach dros yr arwydd yn Abertawe yw fy mod i’n dod ar draws blogiau dw i heb eu gweld o’r blaen, fel Glossographia, blog gan ieithydd anthropolegol o Detroit. Neu efallai anthropolegydd ieithyddol yw e, pwy a wyr?
P’un bynnag, dyw e ddim yn syndod bod ei sylwadau e ar yr [...]...
"O na, beth sy'n bod Chris?" meddai Fflur."Dim.""Na. Mae yna rywbeth. Eto. Ti'n hoffi cwyno.""Dwi ddim yn hoffi cwyno.""Ti yn.""Na.""Wel, ti'n cwyno lot."(A ydw i? Ffyc) "Efallai. Ond gwahanol yw hynny. Os dwi'n cwyno, dyw hi ddim y golygu mod i'n hoffi cwyno. Jyst mod i'n sinigaidd, chick. Dwi'n dywyll weithiau. Mae gennyf shit ar fy meddwl.""Beth wyt ti eisiau cwyno amdano, te?""Dim.""Liar.""Ie, falle."Naill neu'r llall, efallai buasai'n well imi beidio cofnodi o dan ddylanwad y hwyliau drwg a ddaw drosof ar...

Wyt ti’n cael dy siomi nad ydw i’n blogio’n fwy rheolaidd? Wyt ti’n galw heibio i Flog Dogfael a gweld dim byd newydd. Wel, paid â digalonni gan fy mod i bellach wedi dechrau cofnodi ar twitter. Beth? Dwi wedi dechrau ffurf newydd ar flogio cofnodion byr yn dweud beth dwi’n ei wneud yn ystod y dydd a’r nos. Mae’r blwch bach llwyd What am I doing… yn y golofn dde yn cael ei uwchraddio’n gyson gan fy negeseuon twitter diweddaraf. Beth wyt ti’n ei feddwl o hynny?
Note: There is a rating embedded within this post, please visit this post to rate it.
Bookmark and Share More »Powered by...
Jyst rhag ofn bod rhywun yn darllen hyn sy ddim yn dilyn blog Chris Cope, mae ei gofnod fideo diwetha ’na yn wych: Arth sy’n Dawnsio: Parablu.
Dyma’r fideo ar YouTube, rhag ofn dy fod di am adael sylw fan ‘na.
Mae Chris yn llygad ei le, mae angen lot mwy o bethau fel hyn arnon ni, [...]...
Mae Dave Gorman ar Flickr. Dyma fe’n esbonio pam mae’n hoffi Flickr. Dyam ei wefan e, a dyma ei flog, sy’n werth ei ddarllen. Gweler, er enghraifft, ei gofnod sy’n gofyn “O ble mae arian yn dod?”
Mae gyda fe rhywbeth mewn cyffredin ag Andy Goldsworthy, hefyd: mae’r ddau yn hoffi balanso......
Pen-blwydd y blog bu dydd Gwener. Pedair blynedd yn ôl, es i ati i geisio cyfathrebu trwy gyfrwng y Gymraeg. Rhyw oes yn hwyrach (neu fel hyn teimla bethau ambell waith), dyma fi ar fin cyhoeddi fy llyfr cyntaf (os gellir dweud taw mis Ebrill/Mai yw "ar fin cyhoeddi") ac yn dechrau gwaith ar fy ail (a).Mae'r blog wedi mynd trwy sawl newid yn ei fywyd byr -- golygon ac enwau gwahanol -- ond yr un blog ydyw. Peth bach yng nghornel anhysbys y rhyngrwyd enfawr gyda dyrniad o ddarllenwyr ydyw.O hyd mae gan y Cymry rhyw fath o annhuedd tuag at y we. Neu, efallai byddai'n fwy cywir i ddweud bod ganddynt annhuedd tuag ataf i. Yn gyffredinol daw ryw 25 person pob dydd, gyda chanran ohonynt yn bobl sydd wedi cam-gyrraedd yma wrth wneud chwiliad Google am fronnau glaslancesi neu beth bynnag....

Dros y penwythnos trefnodd y Gynghrair Efengylaidd gymanfa ar flogio Cristnogol yn Llundain. Un o’r pethau a ddaeth allan o’r gymanfa oedd deg gorchymyn ar gyfer blogwyr. Bwriad y gorchmynion yw ceisio gwneud blogwyr yn ymwybodol o effaith posib eu blogio. Mae’r Gynghrair yn croesawu ymateb ac awgrymiadau ynglŷn â’r gorchmynion hyn. Dyma fy ymgais i i’w cyfieithu i’r Gymraeg.
Na osod dy flog o flaen gwneud yr hyn sy’n iawn.
Na wna iti ddelw gerfiedig o’th flog.
Na chamddefnyddia dy enw sgrîn a’r ffaith dy fod yn anhysbys fel cyfle i bechu.
Cofia’r Saboth trwy roi’r gorau i flogio am un diwrnod yr wythnos.
Anrhydedda dy gyd-flogwyr yn fwy na thi dy hun a phaid â thynnu gormod o sylw i’w camgymeriadau hwy.
Na ladd...
Rydw i wedi gwneud dyrnaid o newidiadau i'r hen flog heddiw. Ac efallai bod yna rai newidiadau llai ar ddod.Yn gyffelyb i'm blog Saesneg mae gan y blog "newydd" tair colofn, sy'n golygu (fel nodwyd gan Weirdo) mwy o le am hysbysebu. Er, a dweud y gwir, dyw hynny ddim yn y rheswm tu ôl y newid. Does dim arian i'w gael gan hysbysebu ar wefannau Cymraeg eu hiaith.Rhywbryd yn y dyfodol, rydw i am ddefnyddio'r lle ar y de i'm hunan-hyrwyddo, sef cynnig dolennau i bethau rydw i wedi'u hysgrifennu. Shallow? Yes, yes it is. Croeso i'm blog. Gyda thair colofn gallaf osod mwy o wybodaeth ar yr ystlys heb gael ei cholli ar waelod y tudalen.Hefyd rydw i wedi ychwanegu Twitter, a wna bethau'n haws i chi sy'n awyddus i'm stalcio. Rydw i'n meddwl ychwanegaf, rhywbryd yn y dyfodol, ryw fath o galendr...

Cafodd y peth ei gyhoeddi tra’r oeddwn i bant ar fy ngwyliau ac felly dim ond nawr dwi’n cael cyfle i ddweud wrth y byd fod Blog Dogfael wedi cyrraedd rhestr 40 Blog Cymreig Uchaf mewn arolwg a wnaed gan y cylchgrawn Total Politics – fi sydd yn rhif 26. Gallwch weld y rhestr gyflawn ar flog Iain Dale’s Diary, ond yn anffodus mae wedi cael fy enw yn anghywir! Dwi wedi gofyn iddo i gywiro’r camgymeriad, ond nid yw wedi digwydd eto. Dwi’n eithaf balch fy mod wedi llwyddo i wneud hyn ac mae’n dda gweld hefyd fod blogiau Cymraeg yn ennill eu lle yn y rhestr. Oherwydd hyn dwi’n medru rhoi botwm arbennig ar fy mlog i ddatgan y ffaith fy mod ar y rhestr. Gallwch ei weld yn y golofn ar y dde ar y tudalen hafan.
Mae Iain Dale wedi’i gywiro bellach....

MAE BLOG RHYS LLWYD WEDI SYMUD ODDI YMA I:http://blog.rhysllwyd.comBYDD YN FWY, YN WELL AC YN WAETH NA'R HEN FLOG!WELA I CHI...
"Yn anffodus, dyn braidd yn academaidd oedd yn rhoi'r wers Gernyweg i mi; roedd o'n gallu dyfynnu barddoniaeth, ond ddim yn gallu deud wrtha i sut i ofyn am baned o de. Felly dwi'n dal ddim yn siŵr be'n union ydi sefyllfa'r iaith na pha mor debyg ydi hi i'r Gymraeg." -- Bethan Gwanas, Ar y Lein EtoArfer bod yn olygydd oeddwn i. Treuliwyd fy nyddiau wrthi'n cywiro straeon newyddion a chasáu'r gohebwyr iaithblant (a) yr ysgrifennai'r straeon. Deallaf, felly, y gall defnydd gwael o eiriau ddrysu ac andwyo neges y geiriau. Effeithir cynnwys gan gystrawen.Mae'n anodd gweld rhinwedd dadl wleidyddol, er enghraifft, os lapir hi mewn iaith or-syml, tafodieithol, anodd ei deall. I'r gwrthwyneb, rydw i wedi darganfod, gall fod yn anodd i bobl weld hiwmor os lapir fe mewn iaith safonol (b)....
Nododd wythnos ddiwethaf dwy flwyddyn o'm byw yng Nghaerdydd. Symudodd y briodferch ifanc a fi yma ar 12 Gorffennaf 2006. Time flies.Dwi ddim yn siŵr sut deimlaf am y peth. Pan gyrhaeddir diwrnodau penodol megis pen-blwydd symud i Brydain mae yna duedd edrych yn ôl a cheisio tynnu rhyw fath o gyfan-neges ganddo. Rydw i'n fwy bodlon â'm bywyd nag oeddwn i'n ddwy flwyddyn yn ôl, ond dim mor hapus. Ni chwarddaf fel y roeddwn i arfer.Peth sy’n taro fi trosodd a throsodd wrth ysgrifennu'r llyfr hwn yw diffyg cymdeithasu difyrrus yn fy mywyd. Rhwystr yr iaith yw hwnnw, efallai. Os rydych chi'n nabod fi, byddech chi wedi sylwi y defnyddiaf ragor o Saesneg pan ydw i mewn hwyliau da. O hyd mae'n straen sgwrsio yn y Gymraeg ac weithiau gall fod yn anodd gweld y pwynt. Pam dal at yr iaith pan...

Fe glywesi am y blog difyr yma rhai dyddiau yn ôl, Photoshop Disasters, dyma oedd rhai o fy ffefrynau i:Mawredd mawr eisteddwch i lawr mae rhywun wedi dwyn fy nhrwyn llaw:Gyrru ar hyd y gwair i'r garêj?:Defnydd o'r teclyn clonio yn logo eiconig...
A dweud y gwir, dwi ddim yn hapus gyda chynnydd fy llyfr erbyn hyn. Prin gallaf ddweud fy mod i'n ysgrifennu o ddifrif gyda word count fel hynny. Fy esgus yw nad ydw i wedi cael wythnos lawn eto er mwyn canolbwyntio ar ysgrifennu yn unig. Pythefnos yn ôl roeddwn i'n pryderu o hyd am arholiadau, a rhoed hanner yr wythnos hon i ddathlu pen-blwydd priodas gyda'r briodferch ifanc. Naw mlynedd rydym ni'n briod.Ŵn i ddim sut teimlaf am hynny -- naw blwyddyn. Uffach. Yn fuan iawn cyrhaeddaf y marc 10 blwyddyn ac wedyn does dim imi wneud ond treillio ar IllicitEncounters.com am dipyn ar yr ochr; yn trefnu cyfarfodydd dirgel gyda Sarra Elgan (oherwydd gwyddoch nad yw hithau'n hapus gyda hen Simon erbyn hyn -- mae eisiau arni am ddyn gyda llai o gig ar ei esgyrn).Ond yn y cyfamser mae gennyf y...
Diawl, dwi'n colli'r plot gyda'r stwff blogio 'ma, on'd dwi? Mae'r bai ar adolygu wrth gwrs. Wel, adolygu a diogi. A chwrw. Llawer o gwrw.Efallai eich bod chi wedi clywed am yr ymgyrch gwybodaeth yfed newydd honno sy'n atgoffa pobl am unedau alcohol. Dwedir taw tair neu bedair uned bob dydd dylai fod yn derfyn yfed dyn, dwy neu dair ar gyfer menyw.Doeddwn i ddim yn agos at hynny. Roedd cyfartalog finnau'n agosach i 9 uned (a) -- rhagor os oedd pêl-droed neu rygbi ar y teledu. Gŵn y mae yna nifer ohonoch chi a allai yfed fi o dan y bwrdd, fel petai, ond credaf y mae'n ormod am rywun i'w yfed wythnos ar ôl wythnos, diwrnod ar ôl diwrnod. Felly rydw i'n ati i geisio lleihau fy nghymeriant alcohol yr wythnos hon.Er, ŵn i ddim pa mor hir parha'r cynllun hwn oherwydd mae pêl-droed ar...

Mae’r lle dwi’n gweithio wedi dechrau blog ar y cyd - Blog Mercator - fydd yn trafod pob dim dan haul ar y pynciau, cyfryngau, ieithoedd a diwylliant, yn ogystal â chydig mwy o berspectif persosnol ar ein gweithgareddau ni.
Bydd unrhyw gofnodion ieithyddol yn debygol o ffeindio’u ffordd draw fan’no o hyn mlaen. Da ni am drio’i wneud o’n flog amlieithog, gan roi cofnodion mewn sawl iaith heb batrwm penodol, jest fel mae’n dod ac yn ôl galw pob cofnod unigol.
Ewch draw, da chi, gwd......
Un peth sydd bob tro yn rhoi gwên ar fy ngwep ydy'r 'News in Brief' ar flog Olly's Onions:* Ant and Dec criticised for misleading public about their height * Outrage as website reveals some Italians pay tax * Quantum mechanics: three more arrests * Memoirs: Lord Levy to invoice Blair * Hull evacuated after John Prescott reveals battle with bulimia * Mosley demands strict punishment from Formula One bosses * Diana Inquest: We agree with verdict say relieved Illuminati * Heston's gun surprisingly easy to pry from cold, dead fingers * Police carry out controlled explosion on John Humphreys * Olympic Torch to claim political asylum * British Union of Formula One considers name...
DaeargrynGwersiBaiTrwyn gwaedlydWynebu'r...

Mae heddiw wedi bod yn ddiwrnod o ‘ofid’ wrth imi uwchraddio’r feddalwedd sy’n gyrru Blog Dogfael. Dwi’n gobeithio’n fawr nad yw wedi amharu ar dy fwynhad, ond ar un adeg cefais ofn fy mod wedi colli popeth. Ond nid felly yr oedd hi, fe ddes i o hyd i ddatrysiad ac mae’n edrych fel petai popeth bron â bod yn gweithio fel y dylai unwaith eto. Gyda llaw y feddalwedd dwi’n ei defnyddio i flogio yw WordPress ac fe fyddwn i’n ei hargymell i bawb sydd am redeg eu gwefan eu hunain yn hytrach na dibynnu ar wasanaeth fel Blogger. Mae WordPress yn feddalwedd agored sydd ar gael am ddim ond mae disgwyl i ti gyfrannu unrhyw newidiadau neu welliannau yn ôl am ddim i’r gymuned sy’n ei defnyddio. Mae tipyn o sbort i’w gwael o...
Ddes i o hyd at flog dycahanol newydd heddiw, sef Dyddiadur Gordon Brown. Mae'n eitha doniol:...my favourite thing about barbecues is the charcoal. I love the stuff! It's like coal's sexy cousin. It's also a far more acceptable Christmas present than coal...
Rydw i'n wrthi'n adolygu ar hyn o bryd, felly nid oes gennyf lawer o amser ar gyfer blogio (a ydw i wedi defnyddio "ar gyfer" yn gywir? Rydw i'n cael moment o fethu â chofio sut ysgrifennu'r Gymraeg). Gobeithiaf ysgrifennu cofnod ar ddydd Mercher neu ddydd Iau. Yn y cyfamser, cyfeiriaf chi i'm blog Saesneg, lle gellir gweld fideos o grŵp ska fy ffrind gorau, y Secondhand Ska Kings. Pam fyddech chi eisiau gweld fideos o grŵp na welwch chi fyth yn fyw, ni ŵn. Ond dyna chi. Mae'n rhywbeth i'w...
Dyma fi’n adrodd hanes cyfarfod gyda’r blogiwr Robert Humphries (Broch yng nghod), a rhai sylwadau ychwanegol am wleidyddiaeth a barfau.
Note: There is a rating embedded within this post, please visit this post to rate it.
Rhanna hwn...

Digwyddodd rhywbeth rhyfeddol unwaith eto ddoe oherwydd fy marf. I’r rhan fwyaf mae barf yn beth hyll sy’n milwrio yn erbyn hylendid wynebol. Ond i mi mae’n nod pwysig i’m gwahaniaethu oddi wrth weddill y ddynoliaeth ac, fel y dywedais, profwyd gwerth fy marf unwaith eto ddoe. Roeddwn i wrthi’n cael cinio yn y Llyfrgell Genedlaethol ac yn sgwrsio gyda swyddog yr undeb dwi’n perthyn iddi pan ddaeth dyn ata i a holi ai fi oedd y blogiwr Dogfael, a’r barf oedd wedi tynnu ei sylw ataf. Roedd hynny’n gyffrous ynddo’i hun, ond yn fwy cyffrous byth oedd gwybod taw’r dyn oedd Robert Humphries, blogiwr Broch yng nghod. Daw Robert o Gasnewydd yn wreiddiol ond mae’n byw erbyn hyn y Taleithiau Unedig, yn nhalaith Wisconsin. Wnaethon ni ddim cael llawer o amser i siarad...
Mae No Good Boyo yn esbonio y gwir reswm pam mae Saeson pentref Audlem eisiau bod yn...
Mae No Good Boyo yn esbonio beth ydy Lloegr fel hyn:A network of motorways and military bases on a broad isthmus between Wales and Scotland, England is among the world's leading entrepôts for tobacco and drink smuggling.Like many other Germanic and Scandanavian tribes, the English have been cowed by self-doubt in recent decades, and have turned from beserking empire-hurlers into a nation of social workers, drones and emigrants.Despite brief periods of independence in 954-1066 and 1649-1660, England has largely weltered under Norman, Welsh, Scottish, Dutch, German, Belgian and again Scottish rule.Gellir darllen y gweddill...
Roedd post ysgafn ar flog Vaughan Roderick ddoe am ddisgrifiadau ymgeiswyr i fod yn gynghorwyr cymunedol yn Llangynog, Powys. Sylwais nad oedd modd gadael sylw (h.w. roedd y botwm 'gadael sylw' wedi diflannu. Deallais wedyn o flog arall y BBC bod yr holl flogiau'n cael eu huwchraddio. Dwi ddim yn berson technegol, ond fel blogiwr ac un sy'n gadael sylw ar flogiau mae gyda fi syniad o beth sy'n gweithio'n dda a beth sydd ddim. Doeddwn i ddim yn gweld lot o broblem gyda'r hen sustem, ond ymddengys bod spam yn broblem. I ddod dros y broblem hyn mae rwan yn rhaid i chi fewngofnodi er mwyn gadael sylw. Dyma sydd gan y BBC Internet Blog i ddweud:A new registration based comments system This uses the existing signon system across the BBC, so Message Board or Have Your Say users will be...
Mae'r blogiwr Americanaidd Cymreig (neu Cymreig Americanaidd) Robert ar wibdaith i Gymru, er gan ei fod yn dilyn cwrs ym Mhrifysgol Llambed. Rhwng ei gyfarfod gyda'r coleg a'g ymweld â'i deulu yn ochrau Casnewydd, mae am dreulio awren neu ddwy yng Nghaerdydd y dydd Sadwrn yma.Mae croeso i chi ymuno â Robert a minnau yn y Mochyn Du, bore Sadwrn (19eg) am 11:30 dros beint neu baned. Os ydych chi eisiau cysylltu â mi, fy rhif symudol yw 07817...