Wn i ddim os sylweddolech, ond bellach mae’r penwythnos arnom. Ro’n i’n meddwl am y penwythnosau diweddar yr wythnos hon, ac mi ges i gythraul o sioc. A dweud y gwir, roedd o’n gymaint o sioc nes y bu i mi deimlo’n hynod ddigalon (am bum munud go dda).Yr hyn a ddaeth i’m rhan oedd gofyn i mi’n hun pryd fu’r tro diwethaf i mi fod allan yng Nghaerdydd ar nos Sadwrn. Roedd y tro diwethaf pan oedd Shorepebbles (a fu’n gyrchfan i Gymry Cymraeg os nad ydych yn gyfarwydd â’r lle) dal ar agor. Roedd hynny cyn yr Eisteddfod – mi es allan yn ystod y dydd Sadwrn olaf ‘Steddfod ond ddim drwy’r nos achos doeddwn i ddim yn teimlo ar ffôrm.Bellach mae hynny dros ddeufis nôl. Dwi heb fod allan yng Nghaerdydd ers mis Gorffennaf ar nos Sadwrn.Y tro diwethaf y bûm allan ar nos...
Fel arfer dwi ddim yn cynhyrfu am bethau fel hyn ond un o’m dileits pennaf yn Amsterdam oedd panad o de mefus bob bore. Roedd o’n hyfryd, ac mi ges sioc pa mor hyfryd ydoedd.Dwi ‘di bod i Sainsburys, Morristons, ASDA a hyd yn oed Tesco i chwilio amdano, ac wedi rhoi cynnig ar ddau math gwahanol oedd yn ffiaidd. Fe ges syndod pa mor wirioneddol, o waelod calon siomedig yr oeddwn wrth i mi ddod o hyd i wefan y cwmni sy’n cynhyrchu’r te (doeddwn i ddim yn cofio’r enw) a gweld nad ydi o’n gwerthu’r cynnyrch ym Mhrydain.A rŵan mi fyddai’n rili trist am weddil y...
Eisiau yw gwraidd dioddefaint: un o hanfodion Bwdhaeth. Coeliwch ai peidio (a mwy na thebyg na wnewch), dw i’n eithaf cryf fy ffydd a’m Cristionogaeth, i’r fath raddau na fyddaf yn cytuno â chrefyddau eraill, a wastad efo rhyw deimlad ym mêr fy esgyrn y dylwn fod yn Babydd (wn i ddim pam hynny). Fodd bynnag, mae’r Bwdhyddion wedi taro’r llygad ar ei phen ac yn hoelen eu lle gyda’r dywediad uchod. A dydi’r flog hon ddim yn trafod chwaraeon a chrefydd, maen nhw’n llawer rhy beryg.Ers gwneud yr adduned na fyddaf yn mynd allan i feddwi ym mis Ionawr dw i wedi syrthio i mewn i dwll o ddigalondid, ac o ystyried nad yw traean y mis wedi mynd rhagddo, nid peth da mo hyn. I raddau helaeth iawn mae fy mywyd yn cylchdroi o amgylch cymdeithasu, a’r llai y byddaf yn cymdeithasu, yr...