Welsh Blogs.com


Gwibdaith i’r Fro 2008-08-03 (8) via Blog Dogfael August 6th, 2008 at 11:05

image Roeddem ni wedi bwriadu galw heibio i Bethesda’r Fro a’r Bont-faen wedi cinio, ond roedd hi’n edrych fel petai’n mynd i fwrw glaw. Ond cyn gwneud dim o hynny roeddwn wedi addo mynd i lan y môr i ddangos pa mor agos oeddem ni i’r arfordir. Un o’m hoff lefydd i yw Aberddawan a’r ffordd gul i lawr yno trwy bentref bach Silstwn. Ni chawsom ein siomi, er ein bod yn mwynhau’r olygfa yng nghysgod hen bwerdy Aberddawan. Wrth inni grwydro yno roedd y cymylau’n tywyllu a’r glaw yn dechrau pigo. Ond cyn troi yn ôl am Gaerdydd dyma fynd ymlaen i brif ddinas y Fro, sef y Bont-faen i weld y gofeb sydd yno i Iolo Morganwg. Petai’r tywydd wedi bod yn sych byddwn i’n bendant wedi mynnu fod y cyfeillion yn dod heibio i Egwys y Grog...

Gwibdaith i’r Fro 2003-08-03 (7) via Blog Dogfael August 6th, 2008 at 09:00

image Wrth inni ddod mas o’r Old Swan Inn fe welson ni fod torf fechan wedi ymgasglu’r tu fas i Neuadd y Dref. Roedden nhw i gyd wedi’u gwisgo yn barchus ac yn eu plith rai yn cario baneri. Fel mae’n digwydd roeddem ni wedi dod i Lanilltud Fawr ar y dydd Sul pan roedd gwasanaeth sifig yn cael ei gynnal yn yr eglwys i nodi penodi maer newydd. Roedd pawb bron yn gwisgo cadwyn neu fedal neu’n cario baner. Roedd hi’n rhyfedd i weld y dorf yn ymgasglu a’r byd fel petai’n mynd heibio iddynt. Doedd neb yno yn gwylio’r hyn a oedd ar ddigwydd heblaw am ddau blismon a ni’n pedwar. Eto i gyd roedd y ddefod yn bwysig iawn i’r rhai oedd yn rhan o’r peth. Roedd y gwasanaeth yn dechrau am 3.00pm yn Eglwys Illtud Sant, ac felly am 2.50pm...

Gwibdaith i’r Fro 2008-08-03 (3) via Blog Dogfael August 6th, 2008 at 08:03

image Er y gallwn i fod wedi aros yn Llan-fair am oriau, roedd gennym nodau eraill i’w cyflawni, a llefydd eraill Ioloaidd i ymweld â hwy. Erbyn hyn roedd rhai yn galw am eu cinio, ond cyn troi tuag at Lanilltud Fawr i chwilio am le i fwyta, roedd yn rhaid galw heibio i Drefflemin. Roeddwn i’n gwybod fod ‘na gofeb yn yr eglwys yno i Iolo Morganwg. Mae rhywbeth braidd yn chwithig mewn codi cofeb i Iolo, yr arch-ryddfrydwr a’r undodwr, mewn eglwys oedd ar y pryd yn rhan o’r sefydliad, ond mae’n dda bod ‘na rywbeth gweladwy i nodi cysylltiad y dyn rhyfeddol gyda’i gynefin. Does dim rhyw lawer yn Nhrefflemin ond yr eglwys ac ychydig o dai. Roedd drws yr eglwys wedi’i gloi, ond daeth DJP o hyd i Court Cottage o fewn munudau a chawsom ni’r...

Gwibdaith i’r Fro 2008-08-03 (4) via Blog Dogfael August 6th, 2008 at 08:07

image Fe aethon ni i Lanilltud Fawr ar gyfer ein cinio, gan fwyta mewn hen dafarn, The Old Swan Inn, gyferbyn â Neuadd y Dref. Yn ôl y plac ar y wal roedd y lle’n dafarn cyn i’r Esgob William Morgan ddechrau meddwl am gyfieithu’r Beibl i’r Gymraeg. Mae’r rhan fwyaf o brif nodweddion Llanilltud Fawr yn dyddio o gyfnod cynnar hanes Cymru gan gynnwys clas Illtud Sant (6ed ganrif) a oedd yn ganolfan i ddysg a fyddai wedi’i disgrifio fel ‘prifysgol’ mewn oes ddiweddarach. Bellach y cyfan sydd ar ôl o holl ogoniant y gorffennol yw’r adeiladau, oherwydd o ran bywiogrwydd mae’r pentref (neu dref) yn teimlo yr un mor dawel a digyffro â’r rhan fwyaf o Fro Morgannwg. Wrth deithio o Drefflemin i Lanilltud Fawr roedd yn rhaid inni deithio...

Gwibdaith i’r Fro 2008-08-03 (5) via Blog Dogfael August 6th, 2008 at 08:10

image Dywedodd DJP ei fod wedi cyfarfod â rhywun ar faes yr eisteddfod ddydd Sadwrn oedd yn darllen Blog Dogfael ac yn siomedig nad oedd lluniau o siopau Spar yn ymddangos yn gyson ar y blog bellach. Diolch byth fod Spar lleol Illtud Sant yn dal i sefyll yn Llanilltud a bod gyrrwr y car yn ddigon cydymdeimladol gyda fy sefyllfa i aros i mi dynnu llun. Fel mynach Celtaidd mae’n siŵr y buasai Illtud wedi ymatal rhag bwyta cig ac felly roedd yn rhaid gadael y rhan fwyaf o’r pasteiod i fod, ond dwi’n siŵr ei fod yn ddiolch fod Spar yn cynhyrchu ei pasteiod caws a winwns eu hunain. Pa saig rheitiach i sant? Note: There is a rating embedded within this post, please visit this post to rate it. Rhannu hyn Rhagor »Gyrrir gan...

Gwibdaith i’r Fro 2008-08-03 (6) via Blog Dogfael August 6th, 2008 at 08:42

image Roedd tafarn The Old Swan Inn yn ddigon cyfeillgar a chartrefol. Roedd y byrddau a’r cadeiriau wedi’u gwasgu’n weddol agos at ei gilydd yn y bar, ond roedd y staff yn ddigon serchog a’r bwyd yn flasus dros ben. Dwi ddim yn un am y cinio dydd Sul traddodiadol – cafodd fy nghyfeillion un yr un – ond fe ddewisais i’r cig mochyn a’r peth gorau am fy mhryd i oedd y sglodion. Roedden nhw’n frown ac yn greisiog ar y tu fas ac yn hyfryd feddal ar y tu fewn. Dim ond canmol oedd fy nghyfeillion hefyd. Lle gwerth galw ynddo os yn Llanilltud ac yn chwilio am rywle i gael bwyd. Note: There is a rating embedded within this post, please visit this post to rate it. Rhannu hyn Rhagor »Gyrrir gan...

Gwibdaith i’r Fro 2008-08-03 (1) via Blog Dogfael August 5th, 2008 at 18:20

image Dwi’n siŵr y dylwn i fel eglwyswr da fod wedi bod yn y Pafiliwn ar y maes y bore ‘ma er mwyn gwrando ar bregeth Archesgob Cymru a’i apêl ar i’n gofal dros ein hunaniaeth Gymreig a’r Gymraeg beidio â gwneud ni yn bobol gul yn mynnu cau rhai allan nad ydyn ni’n credu eu bod nhw’n “Gymry go iawn”. Ond dwi’n ofni taw ar y radio y gwnes i wrando arno’n pregethu, yn gywir fel yr ydw i ers blynyddoedd, yn y car ar y ffordd i grwydro ychydig ar fro’r eisteddfod. Rhaid cyfaddef ein bod ni wedi mynd ychydig tu hwnt i’r fro honno heddiw wrth inni droi ein golygon tuag at Fro Morgannwg a rhai o’r llefydd oedd yn gysylltiedig gydag Iolo Morganwg ei hun. DML oedd wedi sôn i ddechrau am ei ddymuniad i ymweld â Threfflemin,...

Gwibdaith i’r Fro 2008-08-03 (2) via Blog Dogfael August 5th, 2008 at 18:29

image Wedi brecwast hamddenol fe wnaethon ni groesi’r ddinas a mynd tuag at y Bont-faen a’r Fro. Cyn dod i’r Bont-faen ei hun dyma droi oddi ar y ffordd fawr a thrwy Sant Hilari tuag at Llan-fair, neu St Mary Church. Roeddwn i wedi ymweld â’r fan hon ryw ugain mlynedd yn ôl er mwyn gweld peth o waith llaw Iolo ei hun a oedd wrth ei alwedigaeth yn saer maen. Pentref bychan tawel yw Llan-fair sy’n dwyn enw yr eglwys gyda’i thŵr trawiadol yn ei ganol. Prin nad oedd neb yn symud yno wrth inni groesi’r parc ger yr eglwys. Roedd y drws yng nghlo, ond wrth inni grwydro o gwmpas y fynwent dyma wraig yn sylwi arnom ni ac yn gofyn a oeddwn i am weld y tu fewn. Atebodd y pedwar ohonom fel côr llefaru ein bod am wneud. Ac felly fe aeth hi yn ôl i’r tŷ i...

Cyrsiau 2007/08 - Courses for 2007/2008 via Canolfan Caerdydd a'r Fro August 9th, 2007 at 10:27

Mae prosbectws 2007/2008 ar gael nawr. The 2007/2008 prospectus is now available.Rhestr CyrsiauFull Couse List...

Cymdeithasu’n Gymraeg yn Y Barri: 16.3.07 via Dysgwyr De Ddwyrain March 12th, 2007 at 16:26

Cyfle i siarad Cymraeg a gwneud ffrindiau newydd yn Y Barri.A chance to speak Welsh and make new friends in Barry.Ble: Old College Inn, Heol ButtrillsPryd: 16/3/07Ffynhonell /...

Pam ydych chi eisiau dysgu Cymraeg?Whats your motivation to learn Welsh? via Dysgwyr De Ddwyrain April 24th, 2007 at 22:03

Dyma rhai o atebion myfyrwyr Canolfan Caerdydd a'r Fro. Beth sydd wedi eich ysgogi chi?Here's the response of some students from the Cardiff and Vale of Glamorgan Welsh for Adults Centre. What's your motivation?The first 3 people mention work, then others mention family (one to speak Welsh with his sister, the other with her son who's attending Welsh medium school), and the last two or three want to lern Welsh to be able to watch rugby on S4C, and one is planning to move o...