Welsh Blogs.com


Eisteddfod yn y ddinas 2008-08-08 via Blog Dogfael August 31st, 2008 at 23:18

image Dwi’n ofni na ddigwyddodd rhyw lawer heddiw. Aeth DML a DJP i’r eisteddfod fel arfer ac fe es i ac RO i mewn i’r ddinas ar y bws. Mae’r tocyn diwrnod yn fargen ac yn galluogi dyn i deithio fel y mynno. Wedi cinio aeth RO i’r eisteddfod ac es i lawr i Fae Caerdydd ar y bws, yna yn ôl i ganol y ddinas i gael yr ychydig gynhwysion terfynol ar gyfer y swper; yr olaf yn Neuadd Buddug. Rhaid imi gyfaddef imi weld bargen yn M&S ar ffalaffel ac felly dyma brynu dau becyn er mwyn cael i swper. Y prif gwrs oedd pelenni cig iâr gyda philaff (fel arfer!) a saws tomatos. Dyma orffen yr wythnos mewn steil. Note: There is a rating embedded within this post, please visit this post to rate it. Rhannu hyn Rhagor »Gyrrir gan...

Eisteddfod yn y ddinas 2008-08-06 via Blog Dogfael August 7th, 2008 at 23:22

image Dwi’n ofni i ddweud fod dydd Mawrth wedi hala cymaint o ofn arna i fel fy mod wedi credu’r BBC pan ddywedon nhw fod mwy o law i ddod dydd Mercher ac heb fynd i faes yr eisteddfod. Nawr mae’r bobol sy’n fy adnabod i yn gwybod nad oes angen rhyw lawer i wneud imi gadw’n glir o’r maes, ond roedd y cof am y gwynt ar glaw yng Nghaerffili ddoe yn drech na mi ac felly fe fues i’n crwydro o gwmpas ardal Neuadd Buddug a bues i mewn yng nghanol y ddinas unwaith eto ar fws rhif 27. Mae Neuadd Buddug (Victoria Hall) yn llety i fyfyrwyr a ddarperir gan gwmni preifat ond mae bron â bod yn rhan o ddarpariaeth swyddogol y brifysgol. Mae’r cwmni yn darparu llety i fyfyrwyr mewn rhyw ddwsin o drefi a dinasoedd prifysgol ar hyd a lled y Deyrnas Gyfunol....

Eisteddfod yn y ddinas yn y glaw 2008-08-05 (5) via Blog Dogfael August 7th, 2008 at 09:46

image Beth ydych chi’n ei wneud pan ei bod yn bwrw glaw yng Nghaerdydd? Mynd i Gaerffili i weld a yw hi’n bwrw yno. Wel o leia dyna beth benderfynon ni ei wneud. Roeddwn i am weld Capel a Phlas Watfford ar gyrion Caerffili oherwydd ei gysylltiad gyda’r Methodistiaid cynnar. Ond doedd dim pall ar y glaw. Er inni deithio’n araf mewn tagfa draffig trwy ganol Caerdydd yn y glaw i gyrraedd Caerffili, roedd hi’n bwrw gormod i feddwl dod mas o’r car i edrych am y capel. Roedd yn dipyn o siom, ond wedyn roeddwn i yn y car ac yn gymharol sych o’m cymharu gyda’r trueiniaid oedd yn crwydro maes yr eisteddfod mae’n siŵr. Mae glaw mewn amgylchiadau fel hyn yn medru bod yn dorcalonnus. Doedd gen i ddim byd pwysig yr oedd yn rhaid i’w wneud, ond...

Eisteddfod yn y ddinas yn y glaw 2008-08-05 (4) via Blog Dogfael August 7th, 2008 at 06:09

image Wedi rhedeg trwy’r glaw o’r Senedd i Adeilad y Lanfa i weld yr offeryn statudol cyntaf i’r Cynulliad Cenedlaethol ei awdurdodi roeddwn i’n barod am fy nghinio, ac felly hefyd fy nghyfaill RO. Roedden ni wedi bwriadu yn wreiddiol mynd mas o’r ddinas am ginio, ond yng nghanol y glaw – ac oherwydd inni dreulio mwy o amser o lawer yn crwydro’r Senedd nag yr oeddem wedi’i fwriadu yn wreiddiol – fe gawsom ni ginio mewn bwyty Pizza Express gerllaw. Roedd y lle yn edrych yn dawel yn y glaw, ond wrth inni eistedd yno fe wnaeth hwnnw beidio ac yn sydyn ymddangosodd torf ar ôl torf yn chwilio am fwyd ac yn crwydro o gwmpas gan ddod â bywyd i’r ardal. Wedi cinio roedd gennym un lle arall i’w weld. Bellach mae’n rhaid i’r rhai...

Eisteddfod yn y ddinas 2008-08-04 via Blog Dogfael August 6th, 2008 at 12:24

image Dwi’n teimlo fy mod yn dechrau dod i adnabod dinas a’i dofi wrth ddeall ei sustem drafnidiaeth. Felly wedi i’r cyfeillion fynd am yr eisteddfod fe es i ati i geisio deall bysus Caerdydd a sut i gyrraedd ble’r oeddwn i am ei gyrraedd yn y ffordd fwyaf effeithlon a rhataf. Wedi chwilio a darllen ar wefan Bws Caerdydd fe welais taw bws rhif 27 oedd ei angen arnaf o Neuadd Buddug i mewn i’r ddinas ac fe allwn brynu tocyn diwrnod o deithio o fewn i’r ddinas am £3. Doedd dim troi nôl wedyn. Roedd y bws yn dweud ei bod yn ddull ‘gwyrdd’ (neu a ddylwn i ddweud, ‘gwerdd’) o deithio; ond y peth mawr a’m trawodd i oedd y ffaith fod Sky News yn cael ei arddangos ar sgrin yn y bws er mwyn arbed i bobol fynd i’r drafferth o...

Gwibdaith i’r Fro 2008-08-03 (9) via Blog Dogfael August 6th, 2008 at 11:13

image Wedi cinio dydd Sul fydda i ceisio coginio rhywbeth ysgafn gyda’r nos ac felly dau gwrs cymharol ysgafn a hawdd i’w coginio oedd i fod i swper. Yn gyntaf iogwrt a chaws feta ac yna cawl reis a thomatos. Roedd y ddau gwrs yn llwyddiannus, er efallai bod y cyntaf ychydig yn rhy drwm. Note: There is a rating embedded within this post, please visit this post to rate it. Rhannu hyn Rhagor »Gyrrir gan...

Gwibdaith i’r Fro 2008-08-03 (6) via Blog Dogfael August 6th, 2008 at 08:42

image Roedd tafarn The Old Swan Inn yn ddigon cyfeillgar a chartrefol. Roedd y byrddau a’r cadeiriau wedi’u gwasgu’n weddol agos at ei gilydd yn y bar, ond roedd y staff yn ddigon serchog a’r bwyd yn flasus dros ben. Dwi ddim yn un am y cinio dydd Sul traddodiadol – cafodd fy nghyfeillion un yr un – ond fe ddewisais i’r cig mochyn a’r peth gorau am fy mhryd i oedd y sglodion. Roedden nhw’n frown ac yn greisiog ar y tu fas ac yn hyfryd feddal ar y tu fewn. Dim ond canmol oedd fy nghyfeillion hefyd. Lle gwerth galw ynddo os yn Llanilltud ac yn chwilio am rywle i gael bwyd. Note: There is a rating embedded within this post, please visit this post to rate it. Rhannu hyn Rhagor »Gyrrir gan...

Swper 2008-08-02 via Blog Dogfael August 5th, 2008 at 18:18

image Dyma’r swper wnes i goginio nos Sadwrn. Sef twrci gyda pilaff reis (gyda chnau pin a resins) a iogwrt gyda mintus. Blasus iawn, hyd yn oed os taw fi sy’n dweud! Note: There is a rating embedded within this post, please visit this post to rate it. Rhannu hyn Rhagor »Gyrrir gan...

Eisteddfod yn y ddinas (5) 2008-08-02 via Blog Dogfael August 3rd, 2008 at 08:33

image Bu raid i RO bopo mas i’r siop unwaith eto cyn swper oherwydd yr oeddwn i wedi anghofio un cynhwysyn hanfodol ar gyfer swper, sef ciwbiau stoc. Heno roeddwn i’n dechrau gyda salad tomatos syml gyda bara ffres, ac yna roeddwn i’n troi at bryd cyntaf yr wythnos oedd yn dilyn thema o’r Dwyrain Canol. Cig twrci (roedd hwnnw’n rhatach na ffowlyn yn Tesco) wedi’i goginio mewn olew a menyn gyda philaf cnau a resins gyda iogwrt fel glybwr. Fe aeth popeth yn iawn. Rhaid i mi gyfaddef, er taw fi oedd yn gyfrifol am y coginio, fy mod wedi fy siomi ar yr ochr orau. Roedd y pilaf yn flasus iawn. Cynnwys y pilaf oedd reis basmati, winwns, cnau pîn, hol-sbeis, sinamon, resins a menyn. Cefais y rysáit yn llyfr gwych Claudia Roden, Arabesque: a taste of Morocco,...

Cinio dydd Sul yn Llanbadarn Fawr via Blog Dogfael June 22nd, 2008 at 15:37

image Wedi gwasanaeth y Cymun Bendigaid y bore ‘ma bues i yng ngwesty Llety Parc er mwyn cael cinio dydd Sul. Roeddwn i a DML wedi cael lifft yno gan ein cyfaill caredig RO. Y rheswm am fynd i Lety Parc oedd am fod y cinio dydd Sul yn rhan o ymgyrch Pwyllgor Apêl Llanbadarn Fawr Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd 2010 i godi arian. Roedd rhyw 50 a mwy yno i gael cinio. Cefais i bysgod fel fy mhrif gwrs a phwdi roli-poli jam yn bwdin. Wedi cinio cafwyd araith ddifyr gan y cyfarwyddwr a’r cynhyrchydd teledu John Hefin. Rhagor o luniau o’r cinio. Note: There is a rating embedded within this post, please visit this post to rate it. Rhannu hyn Rhagor »Gyrrir gan...

Cer i Forkio dy Nain! via Rwdls Nwdls March 19th, 2008 at 21:15

image Forkd. Rhwydwaith rhannu ryseitiau. Woo! Jest angen di-wifr yn y tŷ rwan i gael llapllop yn y gegin… [Beta/Feta - hehe!]......

Dathlu Dewi gyda chwilod via Blog Dogfael March 8th, 2008 at 18:48

image Neithiwr daeth tymor Gŵyl Dewi i ben gyda noson o gawl a chwilod yng nghanolfan Merched y Wawr, Aberystwyth. Cangen Aberystwyth a Phenparcau o Blaid Cymru oedd wedi trefnu’r noson er mwyn codi arian tuag at yr ymgyrchoedd ar gyfer etholiadau’r cyngor sir a chyngor tref sy’n digwydd fis Mai. Mae noson o gawl tua’r adeg yma o’r flwyddyn yn rhywbeth mae’r gangen wedi’i wneud ers sawl blwyddyn bellach. Mae’n rhywbeth cartrefol lle mae oedolion a phlant yn medru mwynhau gyda’i gilydd. Eleni, wedi’r cawl, fe gawsom yrfa chwilod. Os nad ydych chi’n gyfarwydd â’r gêm Chwilen y bwriad yw tynnu llun chwilen, ond er mwyn gwneud hynny mae’n rhaid taflu dis. O daflu 6 cewch dynnu llun corff y chwilen, o daflu 5 cewch...

NA i Costa Coffee Aber! via Rwdls Nwdls February 19th, 2008 at 12:10

image Criw bach da yna a job dda gan bawb wnaeth bicedu trwy’r dydd i roi gwybodaeth (gweler y daflen uchod - diolch Dogfael) am y bygars yma’n gwthio’u ffordd mewn i Aber heb barch am ddiwylliant, iaith na busnesau bach lleol sydd yn deall eu hamgylchedd. Peidiwch prynu o Costa Aber! Os da chi isio rhoi eich barn ar wefan adolygu caffis AberInfo gallwch wneud yma Stori Daily Post 16/2/08 Coffee giant ‘bullying way into Aberystwyth’ Stori Daily Post 18/2/08 Costa Coffee in Welsh language row Blog y Cynghorydd Lleol Rob (dio’mn yn deud ei gyfenw!) Lluniau Dogfael / Fideo Dogfael...

Mynd gydag Ivan i’r Winter Pret, Brwsel via Blog Dogfael January 8th, 2008 at 07:42

image Doedd fy niwrnod i ddim ar ben gyda fy ymweliad â Drogenbos gan fy mod wedi trefnu i gyfarfod gyda chyfaill o Fflandrys yng nghanol Brwsel gyda’r nos. Ein bwriad oedd mynd i’r ffair oedd yn cael ei chynnal yno, y Winter Pret. Roeddwn i wedi cwrdd ag Ivan am y tro cyntaf tua’r un amser llynedd pan roeddwn i’n treulio’r Nadolig a’r Flwyddyn Newydd ym Mrwsel. Bryd hynny roeddwn i wedi mynd i Leuven i gwrdd ag yntau. Mae e’n saer sy’n gweithio mewn siop pethau DIY yn Leuven. Ond yn bwysicach na hynny mae ganddo ddiddordeb mawr yng ngwleidyddiaeth iaith yng Ngwlad Belg. Ond heno y bwriad oedd edrych o gwmpas i weld beth oedd yn y ffair. Yr oedd Ivan am weld un peth yn arbennig sef ceffylau bach Le Manège d’Andrea. Ond mae ceffylau bach...

Cougnou via Blog Dogfael January 4th, 2008 at 17:25

image Dydd Mercher (2007-12-26). Mae’r diwrnod wedi’r Nadolig yn medru bod yn ddi-ddim iawn wedi’r holl gynnwrf a’r paratoi ar gyfer dydd Nadolig ei hun. Er mwyn osgoi’r ymdeimlad hwnnw roeddwn i wedi cadw rhywbeth arbennig ar gyfer brecwast fore Gŵyl Steffan. Wrth i’r byd fynd yn fwy ac yn fwy tebyg ar draws y gwledydd, mae’n dda fod ‘na rai pethau sy’n wahanol o hyd. Wrth gerdded i mewn i archfarchnad fwyd ym Mrwsel nid yw’n wahanol iawn i gerdded i mewn i archfarchnad debyg yn Aberystwyth. Ond mae ‘na rai pethau sydd yn dal i fod yn ddarganfyddiad sy’n llawn rhyfeddod. Un o’r pethau hynny i mi oedd y cougnou. Math o fara yw’r cougnou sydd i fod i edrych fel y baban Iesu, ac mae’n cael ei fwyta i...

Cinio Nadolig via Blog Dogfael January 2nd, 2008 at 12:07

image Dwi ddim am i bobol feddwl fy mod wedi anghofio sut i wneud pethau, felly mae cael cinio Nadolig yn rhan bwysig o’r drefn. Wrth gwrs, doedd y cinio ei hun yn ddim byd mawr ac uchelgeisiol iawn. Roedd y rhan fwyaf wedi’i brynu wedi’i baratoi yn barod a dim ond ei goginio neu ei fwyta oedd gen i i’w wneud. I gychwyn eog wedi’i fygu gyda bara wystrys. Math o fara rhyg sydd yn cael ei werthu yma adeg Nadolig yw’r bara hwn i’w fwyta gyda wystrys sy’n boblogaidd iawn dydd Nadolig. Yna pizza i ddilyn. Ac i orffen cacen fach hufen roeddwn i wedi’i phrynu mewn siop ar gyfer yr achlysur. I ddweud y gwir wnaeth y pizza ddim gweithio yn iawn. Doeddwn i ddim wedi arbrofi dim gyda’r ffwrn yn y fflat cyn hynny. Roedd honno’n gyfuniad o...

Ymweld ag Aalst (2) via Blog Dogfael December 27th, 2007 at 20:17

image Ar ôl cyfarch a holi hynt a helynt iechyd a theithio fe aeth Liesbeth a Sieglinde â mi i’r prif sgwâr, neu’r Grote Markt (mae un i gael ym mhob tref, nid dim ond ym Mrwsel). Wrth gwrs doedd hi ddim yn bosib imi weld holl ogoniant y sgwâr gan fod ffair Nadolig fawr ar ei ganol, yn cuddio rhai o’r prif drysorau. Ond roedd yn gyfle imi brofi trysor bwyd o Fflandrys, sef y Geraardsbergse mattentaart, neu darten geulion Geraardsbergen. Ers Chwefror 2007 mae’r darten hon wedi’i chofrestru gan yr Undeb Ewropeaidd fel na ellir ei chynhyrchu yn unman ond yn Geraardsbergen, Protected geographical indication (PGI). Mae’n weddol debyg i gacen gwas wedi’i lapio mewn crwst. Roedd hi’n iawn, ond mae’n amlwg fod pobol yr ardal yn dwlu arnyn nhw....

Llundain 2007-10 (2) via Blog Dogfael December 8th, 2007 at 18:08

image Doeddwn i ddim wedi cychwyn o Aberystwyth yn gynnar iawn fore Gwener, rhyw 9.30am, ond roeddwn i wedi cyrraedd Llundain erbyn canol y prynhawn gydag amser i fynd i grwydro ryw ychydig. Fel y dywedais dyma’r cyfle cyntaf imi ddefnyddio’r cerdyn Oyster ac ar y bws yr es i am ardal Soho a siop Grant & Cutler. Siop lyfrau yw Grant & Cutler ond mae’r llyfrau i gyd yn llyfrau dysgu ieithoedd tramor neu mewn ieithoedd tramor. Roeddwn i am gael golwg ar eu hadran Iseldireg, wrth gwrs. Tipyn o siom yw hi bob amser wrth edrych ar y silffoedd yma – fy mai yw hynny mewn gwirionedd gan fy mod wastad yn chwilio am ieithoedd ‘bychain’ ac ychydig yw’r llyfrau yn y maes hynny ac dwi’n gwybod amdanyn nhw yn barod. Petawn i’n dewis iaith fel Rwsieg...

Gwyliau Awst 2007-08-30 via Blog Dogfael December 1st, 2007 at 22:40

image Gwneud dim byd oedd fy nod ar gyfer diwrnod olaf y gwyliau ym Mrwsel a dwi’n falch o fedru adrodd fy mod wedi cyrraedd y nod yn gwbl ddidrafferth. Roeddwn i wedi gwneud yr holl grwydro, yr holl deithio a’r holl ddysgu yr oeddwn yn bwriadu ei wneud, ac felly roedd un diwrnod ar ôl i ymsegura pur. Codi’n hwyr, brecwast hwyr, ac yna RO a minnau i’n gwahanol ffyrdd trwy strydoedd Brwsel. Es i lan i sgwâr De Brouckèreplein a’r ardal yng nghanol y ddinas i ddechrau ac yn ar y premetro (yr enw am y tram tanddaearol) i sgwâr Rogierplein lle mae ‘na siopau diri a chanolfan siopa fawr City 2. Cyn mynd o gwmpas y siopau fe gefais ginio mewn bar ar Rogerplein ac yna i mewn i ganolfan City2. Ar lawr uchaf yr adeilad mae siop lyfrau, fideos, &c. enfawr Fnac....

Gwyliau Awst 2007-08-29 via Blog Dogfael November 28th, 2007 at 23:00

image Roedd yr amser wedi dod am ychydig o orffwys, ond roedd gennym ddau ddiwrnod ar ôl ym Mrwsel ac felly roedd yn rhaid cymryd mantais o’r cyfle. Doedd hi ddim yn fwriad gennym i wneud rhyw lawer ond fe droes yn diwrnod yn fwy o antur nag yr oeddem wedi’i ddisgwyl ar ddechrau’r dydd. Y bwriad oedd ymweld ag amgueddfa Belvue – amgueddfa yn adrodd hanes Gwlad Belg o safbwynt unoliaethol, ond yn llawn difyrrwch. Mae’r amguedfa mewn hen westy o’r un enw, drws nesaf i’r palas brenhinol. O flaen y palas mae parc Warande Park, ar yr ochr arall i’r parc o’r palas mae’r Senedd Ffederal. Er nad yw’n barc mawr iawn mae’n noddfa i weision sifil a gweinyddwyr eraill i ddianc iddo ar eu hawr ginio. Roedd RO a minnau wedi prynu brechdanau...

Gwyliau Awst 2007-08-28 (7) via Blog Dogfael November 28th, 2007 at 19:55

image Roedden ni wedi dod i Leuven i wneud mwy na dim ond gweld y golygfeydd, er roedd hynny’n ddigon o reswm ynddo’i hun. Fel mae’n digwydd mae Liesbeth yn byw yn Leuven ac Ivan mewn un o’r maestrefi, ac roedden ni wedi cael gwahoddiad i swper ati hi yng nghwmni Ivan. Y trefniant oedd ein bod yn ei gyfarfod ef ar Flochplein a’i fod yntau yn rhoi lifft inni i fflat Liesbeth a oedd yn weddol agos i Ysbyty’r Brifysgol, UZ Leuven. Yno mae ni’n gweithio fel anaesthetegydd. Fel mae’n digwydd gweithiodd y trefniant yn iawn. Dim ond wrth i’r siopau gau y cofiais y byddai’n syniad da i gael rhywbeth bach i fynd gyda ni ac felly fe aeth Ivan â ni heibio i archfarchnad ar y ffordd i brynu siocled i Liesbeth. O fewn dim roedden ni yn ei fflat...

Gwyliau Awst 2007-08-28 (1) via Blog Dogfael November 24th, 2007 at 20:29

image Doedd hi ddim yn gynnar iawn arnon ni’n gadael Brwsel fore Mawrth ar ein ffordd i Leuven ar y trên. Roedd Liesbeth wedi ein gwahodd ni i swper ac roedden ni wedi trefnu gyda Ivan iddo ef ein cyfarfod yng nghanol y ddinas tua rhyw 6.00pm er mwyn mynd â ni i’w fflat. Ond roedden ni’n mynd yn gynt gan fod Leuven yn lle gwerth ymweld ag ef. I ddweud y gwir roeddwn i wedi bod yno pan yn aros ym Mrwsel y Nadolig diwethaf ac roedd gyda’r lle rhyfeddaf. Mae cymaint o’r gorffennol, cymaint o gyfoeth, a chymaint o’r presennol hefyd. Yr oeddwn i am i RO weld cymaint o pethau’n benodol – y gofeb ryfel y tu fas i’r orsaf, neuadd y ddinas, eglwys Sint-Pieterskerk, y Coleg Gwyddelig, bedd Pater Damiaan, y colegau, a’r Grote Begijnhof – fel nad...

Gwyliau Awst 2007-08-27 (4) via Blog Dogfael November 23rd, 2007 at 23:08

image Roeddwn i’n ‘gorffwys’ pan ddaeth RO yn ôl o’i grwydro yntau. Cafodd ymweliad digon diddorol ag adeilad y Senedd Ewropeaidd yn ôl a ddywedodd. Wedyn fe ymlwybrodd yn ôl trwy ganol y ddinas i’r gwesty. Pan ddaeth yr awr fe aethon ni mas i chwilio am swper. Dechreuon ni gyda’r bwytai pysgod wrth Sint-Katelijneplein ond doedd yr un ohonyn nhw yn edrych yn ddigon deniadol i gyfiawnhau y pris. Yn y diwedd fe gawsom ein hunain ar hyd Vlaamsesteenweg lle’r oedd nifer o fwytai ethnig. Y lle a aeth â’n bryd ni’n dau oedd Viva Rosa, bwyty yn gweini bwyd o Tunisia. Wrth gerdded i mewn dyma ni’n sylweddoli taw ni oedd yr unig bobol yno nad oedden nhw’n perthyn i’r gymuned Arabaidd, ond roedd y croeso yn un twymgalon iawn gan...

Gwyliau Awst 2007-08-27 (2) via Blog Dogfael November 23rd, 2007 at 20:52

image Roedden ni wedi gwneud y Comisiwn a’r Cyngor, dim ond y Senedd ar ôl. Mae’r adeiladau hynny ryw hanner milltir o’r Comisiwn ar gyrion Leopoldpark. Fe gerddon ni lawr tuag atynt a thrwy sgwâr JeanReyplein a oedd yn llawn ffynhonnau yn oeri’r awyr ar ddydd digon twym. Wedyn trwy Leopodlpark hyd at Adeilad Paul-Henri Spaak lle mae Senedd Ewrop ym Mrwsel yn eistedd. Mae’r adeliad yn un trawiadol iawn ac yn rhan o rwydwaith pellach o swyddfeydd gan gynnwys Adeilad Altiero Spinelli. Mae gwaith adeiladau mawr yn mynd ymlaen yn y ardal hon. Roedd RO am gael gweld y senedd o’r tu fewn ac fel mae’n digwydd (yn wahanol i Strossburi) roedd ‘na drip o gwmpas yr adeilad i’w gael yn y prynhawn. Felly fe benderfynon ni fynd i gael cinio ac wedyn...

Gwyliau Awst 2007-08-26 (6) via Blog Dogfael November 23rd, 2007 at 09:27

image IJzerbedevaart 4Canu’r anthem tu fas i farbiciw’r N-VA Wedi holl gyffro’r IJzerbedevaart roedd angen cinio ac fe awgrymodd Liesbeth ac Ivan ein bod yn croesi i lan arall afon IJzer er mwyn mynd i farbiciw wedi’i drefnu gan blaid Nieuw-Vlaamse Alliantie (N-VA). Mae Ivan yn aelod o’r blaid ac wedi sefyll etholiadau lleol yn ei henw. Cymerodd amser inni adael y maes oherwydd wrth fynd yr oeddem yn dod ar draws hwn a’r llall oedd â diddordeb yng Nghymru ac am wybod am y sefyllfa ac am siarad gyda rhywun gwahanol. Ychydig bach o Iseldireg wedyn cyn iddyn nhw ddisgleirio mewn Saesneg perffaith. Wrth inni gyrraedd y fan lle’r oedd y barbiciw yn cael ei gynnal roedden ni’n sylweddoli eu bod nhw paratoi i ganu’r anthem unwaith eto. Felly...

Gwyliau Awst 2007-08-25 (3) via Blog Dogfael November 17th, 2007 at 09:06

image Un rheswm dros ddychwelyd i Frwsel heddiw oedd er mwyn inni fedru mynd i un o ddigwyddiadau pwysig y calendr cenedlaetholgar yn Fflandrys, sef yr Ijzerbedevaart, neu bererindod Ijzer. Mae’r bererindod flynyddol hon yn digwydd yn nhref Diksmuide sydd rhyw 140 km i’r gorllewin o Frwsel. Ein bwriad gwreiddiol oedd teithio ar trên, ond yn yr eisteddfod roeddwn i wedi trefnu gyda ffrindiau o Fflandrys, Liesbeth ac Ivan, i gael lifft. Gan fod y bererindod yn digwydd drannoeth roedd hi’n rhaid inni drefnu pryd a ble i gyfarfod er mwyn cael ein lifft. Unwaith eto dyma ryfeddod y ffôn symudol yn dod i’r adwy. Wedi trafod Ivan oedd yn mynd i roi lifft inni ond doedd e ddim am yrru i mewn i ganol Brwsel, felly trefnwyd ein bod yn cyfarfod tu fas i orsaf drenau Zaventem. Mae...

Gwyliau Awst 2007-08-25 (2) via Blog Dogfael November 16th, 2007 at 23:57

image Wrth aros yn Zaterdagplein nid oeddem yn bell iawn oddi wrth dai bwyta pysgod Brwsel sy’n drwch yn yr ardal o gwmpas Sint-Katelijneplein. Dyma lle’r oedd porthladd Brwsel yn gorwedd cyn 1870 a llenwi’r afon. Mae’r traddodiad pysgod yn dal i barhau yno. Roeddwn i’n teimlo ei bod ychydig yn afradlon i dalu prisiau cymharol uchel y tai bwytai ffasiynol hyn i lenwi’r bol amser cinio, felly dyma fi’n perswadio RO i fynd dipyn bach yn bellach ac i gaffi sy’n cael ei redeg yn un o ganolfannau diwylliannol Iseldireg y ddinas, De Markten. Mae De Markten yn un o rwydwaith o 22 o ganolfannau diwylliannol/cymdeithasol sy’n cael eu hariannu gan Gomisiwn y Gymuned Fflemaidd ym Mrwsel. Maen nhw’n ganolfannau i siaradwyr Iseldireg ddod at ei...

Gwyliau Awst 2007-08-24 (3) via Blog Dogfael November 16th, 2007 at 18:42

image Wedi bod i weld Eglwys St. Pierre-le-Jeune fe aethon ni yn ôl i ganol y ddinas ac i ardal yr eglwys gadeiriol i gael cinio. Ac wedi cinio fe wnaeth RO a minnau ymwahanu er mwyn i ni fedru treulio ein prynhawn olaf yn Strossburi yn gwneud yr hyn yr oeddem ni am ei wneud. Bellach roeddem yn llawer mwy cartrefol yn y ddinas ac yn gwybod ein ffordd o gwmpas yn weddol ac felly roedd hi’n haws inni fynd i’r lle’r oeddem ni am fynd. Rhaid i mi gyfaddef nad oedd gen i ddim byd penodol i’w weld yn bellach – roeddwn i wedi gweld y sefydliadau Ewropeaidd , Petite France, yr eglwys gadeiriol, a ‘r eglwysi eraill. Nawr doeddwn i ddim wedi gweld popeth o bell ffordd, ond doedd hi ddim yn fwriad mynd i weld mwy gan fy mod yn bwriadu dod yn ôl i’r ddinas eto i er...

Penwythnos prysur (2) via Blog Dogfael November 11th, 2007 at 22:42

image Dwi heb orffen dweud hanes fy mhenwythnos prysur wythnos yn ôl a hynny wrth imi lwyddo i oresgyn penwythnos prysur arall! Wythnos yn ôl cefais y fraint o fynychu un o ddigwyddiadau pwysig y byd llyfrau yng Nghymru, ond y tro hwn nid yr awduron oedd yn cael eu cydnabod ond yn hytrach y cyhoeddwyr: Gwobrau Diwydiant Cyhoeddi yng Nghymru. Caiff y gwobrau eu dyfarnu pob dwy flynedd. Eleni roedd y Llyfrgell Genedlaethol yn rhan o’r dathlu i nodi ei phen blwydd yn 100. O’r herwydd fe drefnwyd y wledd ar gyfer y gwobrau yn Ystafell Ddarllen y Gogledd yn y Llyfrgell Genedlaethol. Er efallai yn un cam yn ormod i buryddion roeddwn i’n credu fod yr ystafell ddarllen yn lle godidog ar gyfer cinio o’r fath. Fe wnes i fwynhau mas draw. Roeddwn i’n eistedd ar yr un bwrdd...

Gwyliau Awst 2007-08-22 (9) via Blog Dogfael November 1st, 2007 at 21:35

image Wedi bod yn yr eglwys fe wnaeth RO a minnau ymwahanu i grwydro ar ein pennau ein hunain. Dwi’n ofni na wnes i lawer iawn o grwydro fe es i yn ôl i Place Kléber ac oddi yno fe wnes i gymryd tram i Musée d’Art moderne et contemporain de Strasbourg (MAMCS) ac oddi yno fe gerddais yn ôl i’r gwesty. Am ryw reswm wnes i ddim tynnu llun o’r amgueddfa drawiadol ac nid oedd gen i ddigon o nerth i feddwl mynd o’i chwmpas, na llawer o amser. Wrth gwrs arwr celf fodern Strossburi yw Jean Arp (neu weithiau, Hans Arp) (1886-1966) a aned yno. Yr oedd yn un o sefydlwyr y mudiad Dada ond wedyn fe aeth yn ei flaen i sefydlu mudiad arall, Abstraction-Création. Yn ôl y sôn mae’r amgueddfa yn cynnwys degau o ddarnau o’i waith, ond roeddwn i wedi blino’n lân...