Mae Guardian wedi creu map sy'n dangos lle gellir canfod aelodau'r BNP ym Mhrydain. Daw hwn yn sgil cyhoeddiad ar-lein o enwau'r 13,500 aelod y blaid.Rydw i'n nodi'n llawen nad oes llawer ohonynt i'w gweld yng Nghaerdydd annwyl, yn ôl y map. Ond beth sy'n bod ar Abertawe? Yr ardal gyda'r aelodau mwyaf yw hi.Mae'n rheswm arall am beidio mynd yno, tybiaf. (a)-----(a) Pobl Abertawe, jôc yw honno. Paid â...

You're Blasé - Phil Harris Treuliais y bore yn y gwely wrthi'n llygadrythu ar y nenfwd. Rydw i'n hoffi'r gair "nenfwd." Mae'n swnio fel lle yn hytrach na pheth: "Os ydych chi'n bihafio, bachgen, awn ni i'r Nenfwd ar ôl ymweld â'r meddyg."Es i ddim i unlle. Dim ond gorweddian yn y gwely a theimlo'r tristwch llethol hwn sydd wedi gafael arnaf yn ddiweddar. Yn sydyn, heb reswm neu gynhyrfiad teimlaf lawer o'r un pethau y roeddwn eu teimlo yn fy mlwyddyn gyntaf: Rydw i ar goll yn fy meddyliau, mae gennyf hiraeth am bethau amwys, a phrin ydw i eisiau siarad y Gymraeg.Yn sgil y pethau hyn, dwi ddim yn talu llawer o sylw ar yr hyn sy'n digwydd o'm cwmpas. Megis prifysgol. Rydw i wedi cyrraedd diwedd seithfed wythnos y tymor, ond mewn ystyr meddyliol dwi ddim wedi dechrau hyd yn oed. Af i...
Daethon nhw o Laos -- lle sy'n wahanol ym mhob un ystyr y gall le fod yn wahanol wrth fodoli ar yr un blaned â'r lle yr aethon nhw ato. Y Hmong. Pobl a ddioddefai wrth ddwylo'r comiwnyddion yn sgil eu cefnogaeth yr Americanwyr yn Rhyfel Fietnam. Rhywsut -- does neb yn hollol siŵr -- cyrhaeddon nhw Finnesota yn eu miloedd.Mae gan Finnesota, y tir gwastad oer hwnnw sydd mor annwyl imi, rhagor o bobl Hmong nag unrhyw le arall yn yr Unol Daleithiau -- tua 45,000 erbyn hyn.Atgoffwyd fi ohonynt nos Sul wrth wylio "Stephen Fry in America," y rhaglen yr ynddi mae Fry yn hedfan trwy'r 50 talaith gwlad fy ngenedigaeth. Ac mae yn hedfan. Cafodd Ohio, y dalaith honno sydd gan gynifer o gysylltiadau i Gymru, sydd mor bwysig i'r etholiad presennol, dim ond y sylw taw amdani hi yw'r gân "Ohio" gan...
Dwi ddim yn ysgrifennu llawer ar y blogiau'r dyddiau hyn oherwydd rydw i'n ceisio defnyddio fy egni i gyd tuag at gwblhau'r llyfr chwedlonol 'ma. Mae gennyf ddwy bennod ar ôl i'w hysgrifennu, ac fel canlyniad rydw i'n ceisio arafu tipyn yn fy meddwl.Rydw i'n ysgrifennu'r llyfr mewn trefn gronolegol, hynny yw, fel byddwch yn ei ddarllen (a) yw sut ydw i'n ysgrifennu'r peth. Mae'n gwneud synnwyr i wneud hyn, efallai -- "begin at the beginning" ac ati -- ond dwi ddim eisiau ansawdd yr ysgrifennu cael ei effeithio gan fy awydd i orffen y peth. Felly rydw i'n ceisio tawelu yn fy meddwl ychydig trwy wrthdynnu fy sylw.Wedi dweud hynny, dwi'n disgwyl i roi'r hoelen olaf yn y drafft cyntaf (dyna drosiad od, onid yw?) erbyn diwedd yr wythnos. Yî-ha. Wedyn daw gywiro ac yn y blaen ac yn y blaen....
Wel, nid y diwylliant i gyd. Ond mae yna rywbeth am y clip hwn (oddi ar raglen yr Unol Daleithiau yn y 90au) sy'n atgoffa fi o Hywel Teifi...
Ysgrifennais gofnod hir iawn ar fy mlog Saesneg am yr hyn nad ydw i'n hoffi am Eisteddfod. Ar hyd yr wythnosau diweddar rydw i'n ceisio gafael ar beth sy'n digio (efallai byddai "siomi" yn air gwell) fi cymaint am y Brifwyl -- dyma rhan o'r ymdrech hwnnw.Yn wreiddiol roeddwn i am ei ysgrifennu yn y Gymraeg. Ond roeddwn i'n pryderu y byddai'r neges yn cael ei cholli ymhlith cwestiynau...
"Alright. No real problems there. Your teeth look pretty good," meddai'r deintydd."I'm sorry, what?" meddwn i."Your teeth," meddai fe. "No problems. A bit of tea stain on this one, but I'll sort that out."Dim problemau?! Nid erioed yn fy mywyd ydw i wedi clywed "dim problemau" mewn swyddfa deintydd. Ers cyn cof byddai ymweld â deintydd yn golygu amser hir o dan chwyrndroi rhyw offeryn diawledig o boenus.Deg munud yn hwyrach dyna fi'n cerdded adref, yn canu ac yn meddwl wrthyf fy hunan: Dim problemau! Dwi'n dy garu di, Cymru! Fydda' i fyth yn dy adael!Rhyfeddol pa mor gyflym y gall hwyliau newid, onid yw?(Daw'r pennawd o'r gân gorau mewn hanes caneuon...
Un peth a nodaf yn y llyfr fy mod i'n gweithio arno yw tuedd yng Nghymru datgan gwreiddiau person ym mrawddeg gyntaf o'i ddisgrifiad. Hynny yw, mae yna uffach o bwyslais yng Nghymru ar o ble ydych chi'n dod. Edrych ar glawr bron unrhyw lyfr Cymraeg a mwy na thebyg dechreua disgrifiad yr awdur gyda rhywbeth fel: "Brodor Austin yw Chris."Ŵn i ddim sut teimlaf am hyn. Er gwelaf werth o gael balchder yn eich ardal, rhaid gofyn ai berthnasol pob tro i rinwedd nofel yw ardal y person a ysgrifennodd y peth. Ni welir hyn mor aml ar gloriau nofelau Saesneg.Peth arall y hoffwn ddianc rhagddo yw teitl "dysgwr." Petawn i'n dod i fod yn nofelydd rhagorol (annhebygol, gŵn, ond gall ddyn freuddwydio), bron yn sicr 100 y cant byddwn i'n cael fy nisgrifio fel dysgwr. Gwelwch hyn gyda phobl eraill. Caiff...
Nododd wythnos ddiwethaf dwy flwyddyn o'm byw yng Nghaerdydd. Symudodd y briodferch ifanc a fi yma ar 12 Gorffennaf 2006. Time flies.Dwi ddim yn siŵr sut deimlaf am y peth. Pan gyrhaeddir diwrnodau penodol megis pen-blwydd symud i Brydain mae yna duedd edrych yn ôl a cheisio tynnu rhyw fath o gyfan-neges ganddo. Rydw i'n fwy bodlon â'm bywyd nag oeddwn i'n ddwy flwyddyn yn ôl, ond dim mor hapus. Ni chwarddaf fel y roeddwn i arfer.Peth sy’n taro fi trosodd a throsodd wrth ysgrifennu'r llyfr hwn yw diffyg cymdeithasu difyrrus yn fy mywyd. Rhwystr yr iaith yw hwnnw, efallai. Os rydych chi'n nabod fi, byddech chi wedi sylwi y defnyddiaf ragor o Saesneg pan ydw i mewn hwyliau da. O hyd mae'n straen sgwrsio yn y Gymraeg ac weithiau gall fod yn anodd gweld y pwynt. Pam dal at yr iaith pan...
Wel, mae Hillary wedi rhoi'r gorau i'w hymdrechion ennill enwebiad y Democratiaid ar gyfer arlywydd yr Unol Daleithiau. Credaf fod ei phrif rhwystr oedd y ffaith taw yn 2008 oedd hi'n ymgyrchu. Hynn yw, daeth gormod o'i pholisïau o'r 70au. Neu, câi rhywbeth am ei hymgyrch deimlad 70aidd i fi; er enghraifft, ymddengys nad oedd neb ar ei staff â'r hyder i gyfleu iddi fod yr undebau ar y clwt erbyn hyn.Nawr gall Obama ganolbwyntio'n llwyr ar ymgyrch ei hun, a bydd pethau'n weddol dawel ar y blaen gwleidyddol hyd at fis Medi, pryd caiff y ddwy blaid eu cynadleddau. Ac efallai taw y cyfnod tawel hwn dylwn ei ddefnyddio i fynd yn ôl i'm polisi o geisio osgoi parablu gormod am wleidyddiaeth. Pan mae person yn sôn am wleidyddiaeth ar ei flog, mae'n mynd ar greigiau o gael ei adnabod fel...
Ar hyn o bryd rydw i hyd at fy mhen-gliniau mewn y Wyddeleg. Treuliais sawl awr ddoe wrthi'n adolygu. Mae gennyf amryw o ffynonellau ar gyfer adolygu ond ni theimlaf fy mod i'n cael darlun cyflawn o'r iaith er gwaethaf hyn. Un rheswm wrth gwrs yw bod gan Wyddeleg tafodieithoedd -- cyffelyb i'r Gymraeg ond mae'r gwahaniaethau yn fwy amlwg (a). Felly, os oes gennych chi sawl adnodd dysgu, mae gennych chi sawl tafodiaith hefyd. A chymysglyd yw'ch darlun o'r iaith.Er enghraifft, daw fy nhiwtor Gwyddeleg o Corc, yn ne Iwerddon. Felly caiff yr adnoddau oddi wrtho fe dafodiaith Corc. Ond ar y rhyngrwyd, yr adnodd haws-i'w-ddefnyddio y gallaf ei ffeindio yw Blas, a anelir at siaradwyr tafodiaith Wlster (b). Neu gallaf i ddefnyddio gwefan a sefydlwyd gan Americanwr. Ond mae'n anodd ei ddeall...
Mae Shiona'n mynd. Hen hen ffrind yw Shiona y rydw i'n ei nabod ers fy nyddiau ym Mhortsmouth, mwy na degawd yn ôl. Roeddwn i'n arfer dweud ar y cofnodolyn hwn y byddwn i gadael y briodferch ifanc er mwyn Shiona. Roeddwn i'n dweud hynny pan oedd yna 5,000 milltir rhyngom ni. Nid yw mor gellweirus imi ddweud y peth bellach, gyda minnau'n byw ym Mhrydain erbyn hyn. Yn enwedig oherwydd tuedd rhai pobl credu taw gwir bur yw popeth ysgrifennaf amdanaf fy hunan.Gan ffawd glaniwyd y ddau ohonom ni yng Nghaerdydd yn yr un adeg. Tros y flwyddyn a hanner diwethaf, mae Shiona'n byw ¾ milltir i'r lan y ffordd oddi fy nghartref. Ond mae hi'n mynd yn ôl i'r Alban ar ddydd Gwener. Mae hi wedi cael digon o Gymru.Tra oedd pethau'n mynd yn wael imi'r llynedd roedd hithau'n brwydro dod o hyd ei lle yng...
Dyma brofiad ar gyfer y bobl sy'n hoffi casáu Caerdydd: Heddiw, cefais fy mygwth gan fenyw gyda chledd a bwyell. Na, wir. Ysgrifennais am y peth ar fy nghofnodolyn Saesneg.Rydw i'n ymddiheuro am fethu â ffonio'r newyddion BBC pan oedd hyn yn digwydd dim ond hanner milltir o'u pencadlys. Ni feddyliais i wneud hynny hyd at ar ôl y peth wedi...
"Prif gryfderau Barn yw:- ei hunaniaeth glir o fewn y farchnad newyddiadurol Gymraeg, fel yr unig fisolyn sy’n trafod materion cyfoes a diwylliannol. - safon uchel ei gyfranwyr."Fuck yeah, bitches! Safon uchel ei gyfranwyr. Amdanaf i mae'r arolwg hwnnw'n sôn. Mae Barn yn y cylchgrawn gorau erioed, wrth gwrs. Un rheswm am hynny yw'r ffaith ei fod yn bodoli.Rydw i'n siŵr y clywsoch chi'r newyddion yr wythnos diwethaf am y gwaith ofer hwnnw a alwir Y Byd. Yn y cyfanswm, dwedodd arolwg ar ran Llywodraeth y Cynulliad taw tra-optimistaidd yw gobeithion Y Byd. Ac mae hyn yn digwydd mewn awyrgylch ble "nid yw’n amser ffafriol, ac nid yw Cymru’n lle ffafriol, ar gyfer lansio papur newydd mewn unrhyw iaith."Wrth ddarllen yr arolwg, synhwyrais i oddi wrtho'r un peth a deimlaf am Y Byd: mae'n...
Rydw i'n casáu mis Ionawr. Dydd Calan yw'r broblem. Wel, nid y dydd ar ei ben ei hun, ond y teimlad sy'n o'i amgylch. Hynny yw: y teimlad o hel atgofion.Tro diwethaf yr euthum i gapel yn wirfoddol bu mis Ionawr 1999. Yn ei bregeth, soniodd y gweinidog am y flwyddyn newydd, sut ceisia pobl ailosod eu bywydau ym mis Ionawr a chânt eu siomi ar ôl methiant bach. Pwynt y bregeth bu nad oes angen inni aros am ddiwrnod arbennig er mwyn ailddechrau."Through Christ, all things are new," meddai fe. Rydw i'n meddwl o hyd am yr hyn a ddwedodd y gweinidog. Nid cymaint y stwff am Iesu Newydd Sbon, ond y syniad taw newydd yw pob dydd. Mae pob un eiliad yn un fy hun i adeiladu arno. Ceisiaf fyw fel hyn. Ceisiaf ganolbwyntio ar y pethau fy mod yn gallu eu gwneud yn hytrach nag yr hynny a fu. Petawn...
Edrycha'r tri brenin ar draws y brifddinas, ar draws y culfor, tua'r wyrdd teyrnas arall. Edrychant lan y cwm a ddiffiniai'r lle hwn, sy'n ei ddiffinio o hyd. Maent yn barhaol; mor barhaol â chraig. Ac maent yn frau; mor frau â phridd. Dwedwyd gan Fwdha y bydd diwedd y byd yn dod pryd cyrhaedda llygredd i'r pennau mynyddoedd. Casgla'r concrid a tharmac a bric a mwg a sbwriel wrth droed gorsedd y tri brenin, ond o'u seddau mae popeth yn ei le. Ar ddiwrnod braf gellir gweld am filltiroedd, a gellir teimlo'n filltiroedd draw ymhell.Ers bron 3,000 flwyddyn mae'r brenhinoedd yn sefyll yno -- hen hen hen eneidiau. Eneidiau sy'n gynhenid i'r wlad hon. Eneidiau a fu cyn gwyddai unrhyw un i alw'r lle hwn yn "gwlad." Eneidiau a fu cyn gwyddai unrhyw un sut i ddweud "gwlad."Maent wedi edrych ar...
Mae'r chwiorydd-yng-nghyfraith yn yma o hyd. Felly treuliaf fwyafrif o'm hamser lan y crisiau, darllen a chlustfeinio ar sgyrsiau'r briodferch ifanc a'i chwiorydd. Roeddwn newydd gwrando arnyn nhw siarad am briodas Rachel a fi, a sut mor anodd y bu oherwydd ei rhieni.Roedd rhieni Rachel yn hollol erbyn ein priodas oherwydd nad oeddwn i'n (ac nid ydw i'n) Mormon. Ceisient nhw rwystro ein priodas trwy wrthod talu am bethau, ac yn dweud wrth Rachel y roedd hi'n siom i'w theulu, ac yn mynnu y byddent dorri hi o'u hewyllys, ac yn y blaen ac yn y blaen. Bihafient nhw fel rhieni mewn Regency romance neu rywbeth.Priododd Rachel a fi beth bynnag. Priodasem ni yng ngardd gefn rhieni Rachel yn St. George, Utah, oherwydd chawsom ni ddim arian ar gyfer cynnal y briodas rhywle arall, ac oherwydd...

Dwedir taw doethineb yw'r peth cyntaf i'w fynd pan yfir alcohol. Nid yw hyn yr achos i fi. Gyda finnau, Cymraeg yw'r peth cyntaf i'w ffoi rhag fy mhen. Gellid darlunio graff llinell a ddangosa sut mae safon fy Nghymraeg yn exponentially converse i nifer o gyrfau yn fy mol.Mae pethau'n gwella erbyn hyn -- yr oedd yn arfer bod taw dim ond dau beint gallwn eu hyfed cyn llithrai'r Gymraeg i ffordd. Gallaf yfed llawer mwy'r dyddiau hyn heb gael fy ngorfodi newid y sgwrs i'r Saesneg, ond pan geisiaf gymryd rhan yn y sgwrs, gwnaf cachu hwch ohoni.Felly, dyna fi ar nos Fercher diwethaf -- yn sefyll wrth ochr Elin, gwraig Rhodri, yn gig Pwsi Meri Mew/ Gwibdaith Hen Frân/ Cowbois Rhos Botwnnog/ Gai Toms -- yn teimlo taw efallai y cawn i ormod o gwrw a gwin a dylwn droi tuag adref. Yr oeddwn yn...
Efallai gwyddoch nad ydw'n ffan fwyaf o Eisteddfod. Un rheswm am hyn yw fy nghred bod y peth yn hollol anniben.Yr wyf eisiau i chi ddychmygu eich bod yn Americanwr sy'n byw yng Nghaerdydd ac sydd eisiau mynd i Eisteddfod. Ni wyddoch lawer am ddaearyddiaeth Cymru ac nad oes gennoch gar. Nawr, yr wyf eisiau chi ceisio defnyddio gwefan Eisteddfod, neu wefan Sir Fflint, neu'r ddau ohonynt, i ddysgu sut yn union i gyrraedd y ffycin Maes. Nid oes trên Arriva neu gerbyd National Express y bydd yn mynd yn syth i'r Wyddgrug, felly pa le dylwn fynd ati sy'n agosaf i'r Wyddgrug? Byddai hyn yn wybodaeth dda rhoi ar wefan, onid fyddai?Grr. Efallai byddai'n well i fi aros tan ddaw Eisteddfod i...

Yr wyf yn ôl yng Nghaerdydd ar ôl wythnos yn Nant Gwrtheyrn. Mwynheais y lle a'r ardal i gyd hefyd -- âi'r grŵp ar deithiau yn y prynhawn: Aberdaron, Pwllheli, Caernarfon ac yn y blaen. Cafodd Caernarfon yr argraff gryfach arnaf oherwydd mae'n union fel disgrifiwyd hi gan Llyr. Y dyddiau hyn yr wyf yn amheus iawn o'r hynny a ddweda pobl wrthyf am leoedd gwahanol yng Nghymru. Yr wyf wedi siarad am hyn o'r blaen -- ar ôl darlledwyd y rhaglen ym mis Mai cefais sawl e-bost, a hyd yn oed llythyr, gan bobl a oedd yn awyddus dweud wrthyf na ddylwn wedi mynd i Gaerdydd ond yn hytrach i'r lle 'ma neu le acw. Wrth gwrs, pob tro dwedai'r person taw at ei ardal dylwn wedi mynd. Ond, fel dwedais ar fy mlog Saesneg, mae gan Gymry Cymraeg duedd i gor-werthu pethau weithiau -- yn enwedig pethau yn y...
Bu'n halibalŵ mawr y bore 'ma ar Post Cyntaf am ddatganiad bod gan Y Byd ddiwrnod lansio. O'r diwedd.Gwrandawais ar Garry Owen yn siarad â golygydd Y Byd am bris y papur (70c Llun - Iau, £1.20 dydd Gwener), ac am ai byddai unrhyw un ei brynu neu beidio, ac yn y blaen, ond ni chlywais pryd lansir oherwydd daeth y briodferch ifanc lawr y grisiau yn canu: "I'm going to have hot chocolate! Hot chocolate! Hot cholcolate! Yum!"Felly euthum yn syth at y cyfrifiadur er mwyn dysgu mwy. "Da iawn," meddyliais i, tra aros am fy nghyfrifiadur cicio*. "Mae'r papur hwn yn cyhoeddi o'r diwedd. Byddaf yn mor hapus tynnu'n ôl fy meirniadaeth amdano, a thanysgrifiaf ato heddiw."Ond wedyn gwelais y na chyhoedda Y Byd hyd 3 Mawrth 2008. Mwy nag wyth mis. Ac wedyn darllenais y darn hwn am Y Byd ar wefan...
Darllenais amser maith yn ôl bod gan Gymru llai dyn a dynes busnes nag unrhyw le arall ym Mhrydain (mae'r bai ar Loegr a Chaerdydd, siŵr). Rwyf yn ymhlith fy ngwerin, te, oherwydd casâf bopeth ariannol.Efallai cofi di'r llynedd pan euthum trwy broses rhwystredig, dirboenus o ymgeisio am fenthyciadau myfyrwyr. Mae'n amser i fi mynd trwyddi unwaith eto. Treuliais heddiw yn llenwi ffurflenni ac yn ceisio osgoi teimladau o gyfogi a achoswyd gan feddyliau o'm dyled. Erbyn diwedd yr antur brifysgol hon, byddaf wedi benthyca $90,000 (£45,000). Gallwn wedi prynu tŷ gyda'r arian hwnnw.Dwedaf hynny yn aml -- y gallwn wedi prynu tŷ yn West Columbia, Texas, gyda'r un maint arian fy mod yn defnyddio i fynd i brifysgol yma. Yn gyfleus, ni ddwedaf y nad oes eisiau arnaf fyw yn West Columbia. Er...
Heb gwestiwn, hwn yw'r fideo gorau y gwelais erioed. Mae'n bwysig i fi dweud y ni wneuthum fe -- rhaid rhoi'r parch i Dafydd....
Peth hoffais am y rhaglen a gaiff ei darlledu ar nos Fawrth nesaf yw sut rhy'r argraff y nad yw'r stori wedi gorffen -- ceir teimlad bod y briodferch ifanc a fi'n symud ymlaen i heriau newydd. Mae hyn yn bortread gonest, yr wyf yn meddwl. Mae'r briodferch ifanc a fi'n byw yma ers blwyddyn, ond mae'r heriau'n parhau.Pasiodd y briodferch ifanc ei theory driving test heddiw. Yr ydym ni wedi bod yn defnyddio ein trwyddedau gyrru o'r Unol Daleithiau erbyn hyn, ond gallem ni eu defnyddio dim ond am flwyddyn. Er mae ganddi brawf behind-the-wheel i wneud o hyd, mae'n neis bod y briodferch ifanc wedi heibio'r rhwystr hwnnw. Bydd angen arnaf wneud yr un peth, ond mae rhaid i fi ganolbwyntio ar fy arholiadau yn gyntaf. Mae gennyf dair wythnos cyn fy arholiadau ac yn barod yr wyf yn...
Mae hen fynegiant: "honesty is the best policy." Wel, ac eithrio pryd mae'r heddlu'n eich ffeindio'n noeth yn shed gyda phum merch -- i gyd ohonoch chi'n feddw ac yn drewi o cherry bakewells. Yn y sefyllfa honno, dylech ddweud unrhyw gelwydd y gallwch feddwl amdano.Ond mwyafrif o'r amser, mae'n well jyst dweud y gwir am bethau yn hytrach na cheisio eu hosgoi. Gwna fy nhad hynny -- ceisio osgoi siarad am rywbeth, a gwna ef y peth yn golygu'n gwaeth. Er enghraifft, yr oedd y ddau ohonom ni'n siarad y gaeaf hwn a dwedodd rhywbeth fel:"Well, your mother has to go in for surgery on Tuesday and...""Surgery?" gofynnais. "Oh, uhm, yeah. It's nothing big.""Surgery for what?""Nothing. Don't worry about it.""No. Surgery for what?""Look, just forget about it. Don't worry about it.""Oh my God, is it...
Mae sylw Ordovicius i fy mhost diweddaraf yn fy atgoffa am un o'm hoff bethau am bobl Gogledd Cymru*.Wrth gwrs creda sawl pobl Cymru mae gwahaniaeth enfawr rhwng pobl y Gogledd a phobl y De. Ar y rhan mwyaf, mae'r gwahaniaethau hyn yn ddyfeisiwyd**. Nad oes ceunant diwaelod rhwng y ddwy bobl -- ar gyfer rhywun sy'n dod o tu allan Cymru, mae'n anodd iawn i fi gweld gwahaniaeth o gwbl (mae'n anodd gweld gwahaniaeth rhwng pobl Cymru a phobl Lloegr, hefyd, ond na ddwedaf hynny ar goedd). Ond mae rhai amrywiadau -- acennau, arferion, ac yn y blaen.Wrth gwrs, fel person sy'n dod o tu allan Cymru, yr wyf yn sylwi yn gyson ar yr hynny fy mod yn arsylwi (er enghraifft, mae pobl Cymru yn hoff iawn o farddoniaeth). Peth doniol am bobl y Gogledd yw sut ymatebant nhw fy arsylwadau. Efallai oherwydd yr...
Peth sylweddolais yn syth pan symudais i Gymru yw cymaint o bobl yn aelod côr. Esboniodd rhywun wrthyf fod corau yn ganolog i fywyd cymdeithasol ar gyfer sawl pobl.Heno, yr oeddwn yn chwarae gyda fy nghyfrifiadur ac yr oeddwn yn recordio fy llais. Wff. Annioddefol yw fy llais canu. Yr oeddwn yn ceisio, hefyd. Go iawn, yr oeddwn yn ceisio fy ngorau glas canu sawl math o ganeuon a bu pob un ohonynt yn...