I chi ffans o gaws, bydd Elin Fflur ("Mae rhywbeth amdant ti....") yn chwarae yn noson nesaf Clwb y Diwc, tafarn y Duke of Clarence, Treganna ar 17eg o Hydref.Elin Fflur aSiôn LlwydDuke of ClarenceClive RoadNos Wener17.10.088.00pm£5Digwyddiadau eraill yn 08—Tachwedd 21 CwisRhagfyr 12 Cinio/parti NadoligCysylltu:...

Clwb y DiwcGwyneth Glyn yn lawnsio Clwb y Diwc - Clwb Cymdeithasol Cymraeg Treganna a'r Cylch.£5 i'w dalu wrth y drws.Duke of Clarence, Clive Rd, Treganna7.30pm Dydd Gwener...

Clwb y DwicGwyneth Glyn yn lawnsio Clwb y Diwc - Clwb Cymdeithasol Cymraeg Treganna a'r Cylch.£5 i'w dalu wrth y drws.Duke of Clarence, Clive Rd, Treganna7.30pm Dydd Gwener...
Rydw i'n gweld y mae gan Fws Caerdydd wefan newydd, haws i'w ddefnyddio. Ond rydw i'n gweld hefyd nad oes yna Gymraeg i'w weld ar y...
Bydd dau gyn-chwarawr Cymru a Wrecsam (ok, a Lerwp a Man U i chi genfowyr cadair freichiau) yn arwyddo eu hunangofiannau yng Nghaerdydd wythnos nesaf.Ian Rush2.9.08 Watestones am 12:30Despite finding foreign countries a little, well, foreign, Ian Rush is a role model for the footballing youth of today. This is his own story, from his school team in Flintshire, to the dizzy heights of European success with Liverpool, (and breaking a few records along the way), and is a must-have for Liverpool fans and those fervent followers of the Welsh team. Plus, he'll be signing copies in branch at Cardiff on the 2nd September 2008, so come along and meet him for yourself! Mickey Thomas6.8.08 Borders am 12:00Mickey Thomas - Kickups, Hiccups, Lockups - The Autobiography 12:00 pm, Sat 6th Sep...

Llun gan Llinos...

Dwi’n ofni i ddweud fod dydd Mawrth wedi hala cymaint o ofn arna i fel fy mod wedi credu’r BBC pan ddywedon nhw fod mwy o law i ddod dydd Mercher ac heb fynd i faes yr eisteddfod. Nawr mae’r bobol sy’n fy adnabod i yn gwybod nad oes angen rhyw lawer i wneud imi gadw’n glir o’r maes, ond roedd y cof am y gwynt ar glaw yng Nghaerffili ddoe yn drech na mi ac felly fe fues i’n crwydro o gwmpas ardal Neuadd Buddug a bues i mewn yng nghanol y ddinas unwaith eto ar fws rhif 27.
Mae Neuadd Buddug (Victoria Hall) yn llety i fyfyrwyr a ddarperir gan gwmni preifat ond mae bron â bod yn rhan o ddarpariaeth swyddogol y brifysgol. Mae’r cwmni yn darparu llety i fyfyrwyr mewn rhyw ddwsin o drefi a dinasoedd prifysgol ar hyd a lled y Deyrnas Gyfunol....

Beth ydych chi’n ei wneud pan ei bod yn bwrw glaw yng Nghaerdydd? Mynd i Gaerffili i weld a yw hi’n bwrw yno. Wel o leia dyna beth benderfynon ni ei wneud. Roeddwn i am weld Capel a Phlas Watfford ar gyrion Caerffili oherwydd ei gysylltiad gyda’r Methodistiaid cynnar. Ond doedd dim pall ar y glaw. Er inni deithio’n araf mewn tagfa draffig trwy ganol Caerdydd yn y glaw i gyrraedd Caerffili, roedd hi’n bwrw gormod i feddwl dod mas o’r car i edrych am y capel. Roedd yn dipyn o siom, ond wedyn roeddwn i yn y car ac yn gymharol sych o’m cymharu gyda’r trueiniaid oedd yn crwydro maes yr eisteddfod mae’n siŵr.
Mae glaw mewn amgylchiadau fel hyn yn medru bod yn dorcalonnus. Doedd gen i ddim byd pwysig yr oedd yn rhaid i’w wneud, ond...

Dwi’n teimlo fy mod yn dechrau dod i adnabod dinas a’i dofi wrth ddeall ei sustem drafnidiaeth. Felly wedi i’r cyfeillion fynd am yr eisteddfod fe es i ati i geisio deall bysus Caerdydd a sut i gyrraedd ble’r oeddwn i am ei gyrraedd yn y ffordd fwyaf effeithlon a rhataf. Wedi chwilio a darllen ar wefan Bws Caerdydd fe welais taw bws rhif 27 oedd ei angen arnaf o Neuadd Buddug i mewn i’r ddinas ac fe allwn brynu tocyn diwrnod o deithio o fewn i’r ddinas am £3. Doedd dim troi nôl wedyn.
Roedd y bws yn dweud ei bod yn ddull ‘gwyrdd’ (neu a ddylwn i ddweud, ‘gwerdd’) o deithio; ond y peth mawr a’m trawodd i oedd y ffaith fod Sky News yn cael ei arddangos ar sgrin yn y bws er mwyn arbed i bobol fynd i’r drafferth o...
Nododd wythnos ddiwethaf dwy flwyddyn o'm byw yng Nghaerdydd. Symudodd y briodferch ifanc a fi yma ar 12 Gorffennaf 2006. Time flies.Dwi ddim yn siŵr sut deimlaf am y peth. Pan gyrhaeddir diwrnodau penodol megis pen-blwydd symud i Brydain mae yna duedd edrych yn ôl a cheisio tynnu rhyw fath o gyfan-neges ganddo. Rydw i'n fwy bodlon â'm bywyd nag oeddwn i'n ddwy flwyddyn yn ôl, ond dim mor hapus. Ni chwarddaf fel y roeddwn i arfer.Peth sy’n taro fi trosodd a throsodd wrth ysgrifennu'r llyfr hwn yw diffyg cymdeithasu difyrrus yn fy mywyd. Rhwystr yr iaith yw hwnnw, efallai. Os rydych chi'n nabod fi, byddech chi wedi sylwi y defnyddiaf ragor o Saesneg pan ydw i mewn hwyliau da. O hyd mae'n straen sgwrsio yn y Gymraeg ac weithiau gall fod yn anodd gweld y pwynt. Pam dal at yr iaith pan...

Wedi meddwl mynd i'r capel ond y pyb yn fwy atyniadol? Wel... mae ateb!CWRDD, Eglwys Dafarn Gymraeg - tafarn The End, Caerdydd, 9 pm - 22 a 29 Mehefin 6 a 13 GorffennafDyma medd y trefnwyr:Ni'n byw mewn cymdeithas sy' 'di newid. Dydy mynd ir capel ar y Sul ddim yn norm, dydy Cristnogaeth ddim mor ddylanwadol yng Nghymru ag oedd hi ganrifoedd yn ôl. Ma' lot 'di newid. Ond ma' 'na un peth yn aros yn union run peth. Efengyl Iesu Grist yw honno. Bwriad CWRDD yw cyfuno neges y Dyn adnabyddus hwnnw - Iesu Grist - trwy gyfrwng newydd.Pwy yw Iesu? Does dim un cymeriad yn hanes y byd wedi'i bortreadu cynifer o weithiau a Iesu Grist. Pa un oedd yn gywir, os unrhywun? Celwyddgi? Gwr Priod? Terfysgwr? Cenedlaetholwr? Arglwydd?Wrth edrych ar unigolion yn CWRDD yr Iesu yn y Beibl, bydd CWRDD yn...
Dwi'n mwynhau fy nghwrw 'go iawn' (oes gwell cyfieithiad i real ale?), ond dwi heb fod i Ŵyl Fawr Cwrw a Seidr Cymru ers rhai blynyddoedd, unia am nad oes cymar yfed gyda fi, neu bod y lle jyst rhy lawn.Eleni, mae'r ŵyl wedi symud o Neuadd y Ddinas, Caerdydd, i Arena Rhyngwladol Caerdydd - sydd ond rownd y gornel o ble dwi'n gweithio. Hefyd, mae fy nghydweithwyr yn mwynhau cwrw, felly ni am fynd yno syth o'r gwaith heddiw.Diawch, dwi'n mwynhau byw yn y dinas.Dyma fap yn dangos y pellter o ddrws y swyddfa i ddrws y CIA:tagzaniapasteO'r gwaith i'r Ŵyl Gwrw...
Mae Grwp Dysgwyr yr Eisteddfod wedi trefnu noson o gemau tafarn (pŵl, dartiau, ceilys a chardiau) yn y Duke of Clarance, Treganna [map], ar nos Wener yr 2ail o Fai am 7:30pm. £1 y pen. Beth am fynd a tîm o'r dosbarth?The Welsh Learners Eisteddfod Group have arranged an evening of pub games (pool, darts, skittles and cards) at the Duke of Clarence, Canton [map] on Friday the 2nd of May at 7:30pm. £1 a head entry. How about taking a team from...
Mae'r blogiwr Americanaidd Cymreig (neu Cymreig Americanaidd) Robert ar wibdaith i Gymru, er gan ei fod yn dilyn cwrs ym Mhrifysgol Llambed. Rhwng ei gyfarfod gyda'r coleg a'g ymweld â'i deulu yn ochrau Casnewydd, mae am dreulio awren neu ddwy yng Nghaerdydd y dydd Sadwrn yma.Mae croeso i chi ymuno â Robert a minnau yn y Mochyn Du, bore Sadwrn (19eg) am 11:30 dros beint neu baned. Os ydych chi eisiau cysylltu â mi, fy rhif symudol yw 07817...
Heddiw 'ma dwi'n gyrru yr holl ffordd o Fangor i Gaerdydd - siwrne enwog yr A470! Dwi erioed wedi gwneud y daith o'r blaen felly dwi'n disgwyl mlaen credwch neu beidio! Wedi i mi gyraedd bydd yn rhaid i mi gadw allan o ffordd Rod Richards gan ei fod, maen debyg, yn ymlwybro rownd Caerdydd yn rhoi cweir i bobl! O...

Dwi fel pob Cymro arall yn croesi pob dim ar hyn o bryd yn y gobaith y bydd tîm rygbi cymru'n efelychu llwyddiant 2005 drwy ennill y gamp lawn. Ar y diwrnod hwnnw roedd cyngor y ddinas wedi codi sgrîn anferthol o flaen neuadd y ddinas ac fel y gwelwch o'r llun isod daeth torf anferthol yno i'w wylio. Roeddwn i a Sarah wedi cyrraedd yno yhydig cyn i'r gêm ddechrau, ac roedd gennyf lond sach o ganiau Brains ('cwrw sywddogol tîm rygbi Cymru' dim llai) - ond allai Sarah ddim gweld dim. Cawsom alwad ffôn gan ffrind Sarah i ddweud bod hi ychydig lathennau i ffwrdd yn St Andrews Crescent yn gwylio'r gêm ar sgrîn fawr yn boardroom cwmni cyfriethwyr ble roedd ei phartner yn gweithio, a cawsom wahoddiad i ymuno â nhw. Roedd rhai o bartneriaid y cwmni yn digwydd bod yn Wyddelod cefnog...
Wps blog anghywir! o wel, adawa i o yma ta bethIn an artice rant about the proposed new Gaelic channel by the BBC, he only mentions to call the Gaelic language 'obscure' twice in the artice which was dissapointing.Language is a living thing or nothing at all if you ask me. And the rest of us, by a stroke of luck, are in possession of a tongue worth the weight of Ben Nevis in gold.This is often an argument used against any money being spent on the Welsh language, that it shouldn't be supported in any way by the state and that it should be left to fight it out with other languages, which is an argument that one can understand. But then he goes on to say:The English language is our greatest asset and the government spends far too little spreading it even wider. The money spend on Gaels...
Yn ddiweddar dois ar draws grŵp Facebook ar gyfer Cardiff Web Geeks. Roeddwn yn hoffi syniadaeth y peth:Hey there. Cardiff Geeks was recently formed due to the common feeling amongst many passionate geeks in Wales that there was a lack of community between them. We are comprised of researchers, computer scientists, web professionals and enthusiasts though are open to just about anyone who has an interest in the topics we discuss.Tra bod cymuned gref (ond hynod o fach) o ddefnyddwyr gwe Cymraeg a elwir y Rhithfro, does yna ddim cymuned ar-lein Cymreig amlwg o gwbwl, unai'n gymdeithasol neu ar gyfer busnes, sy'n rhwystredig iawn ond sydd eto efallai ddim yn annisgwyl. Gobeithio y bydd modd newid hyn.Doeddwn ddim yn siwr os oedd y grŵp yn dal i fynd, ond cefais wahoddiad Facebook ddoe...
Dyma brofiad ar gyfer y bobl sy'n hoffi casáu Caerdydd: Heddiw, cefais fy mygwth gan fenyw gyda chledd a bwyell. Na, wir. Ysgrifennais am y peth ar fy nghofnodolyn Saesneg.Rydw i'n ymddiheuro am fethu â ffonio'r newyddion BBC pan oedd hyn yn digwydd dim ond hanner milltir o'u pencadlys. Ni feddyliais i wneud hynny hyd at ar ôl y peth wedi...

Ddoe mi fuesi yn ysgol undydd yn y Coleg Gwyn ym Mangor i drafod 'Yr Eglwys i'r dyfodol' (Emergent Church). Trefn y dydd oedd gair o groeso gan Y Parch. Athro D. Densil Morgan yna'r cyflwyniad i'r maes gan Parch. Ddr. Robert Pope. Toriad am ginio yna astudiaeth Feiblaidd ar y pwnc gan y Parch. Euros Wyn Jones yn cael ei ddilyn gan grwpiau trafod ac yna diweddu'r dydd gydag adrodd yn ôl. Croeso - DenzYn ei air o groeso fe ddyfynnodd Denz (rwy'n bwrpasol o hyn allan yn galw pobl wrth eu henwau cyntaf rhagor na'i teitlau 'Parchedig Athro' etc... er mwyn dal 'naws' yr Emergent Church) rhai o eiriau y diweddar Edwin Pryce Jones pan ddywedodd o gadair Undeb yr Annibynwyr, Y Tymbl 1980 fod 'rhaid diwinydd ymhob cenhedlaeth' ac y bod rhaid ail-ddiffinio yr hen Athrawiaethau o'r newydd ymhob...
Edrycha'r tri brenin ar draws y brifddinas, ar draws y culfor, tua'r wyrdd teyrnas arall. Edrychant lan y cwm a ddiffiniai'r lle hwn, sy'n ei ddiffinio o hyd. Maent yn barhaol; mor barhaol â chraig. Ac maent yn frau; mor frau â phridd. Dwedwyd gan Fwdha y bydd diwedd y byd yn dod pryd cyrhaedda llygredd i'r pennau mynyddoedd. Casgla'r concrid a tharmac a bric a mwg a sbwriel wrth droed gorsedd y tri brenin, ond o'u seddau mae popeth yn ei le. Ar ddiwrnod braf gellir gweld am filltiroedd, a gellir teimlo'n filltiroedd draw ymhell.Ers bron 3,000 flwyddyn mae'r brenhinoedd yn sefyll yno -- hen hen hen eneidiau. Eneidiau sy'n gynhenid i'r wlad hon. Eneidiau a fu cyn gwyddai unrhyw un i alw'r lle hwn yn "gwlad." Eneidiau a fu cyn gwyddai unrhyw un sut i ddweud "gwlad."Maent wedi edrych ar...

Taith bws tiwrist yng Nghaerdydd Originally uploaded by pioneer herbert Dyma llun o daith Ellan a fi y llynedd yng Nghaerdydd. Mae bob tro dan ni'n mynd i lle newydd mae Ellan yn hoffi mynd ar bws tiwist am dro. Felly, pan oedden ni yng Nghaerdydd dan ni'n mynd ar taith fel hynny. Roedd ein tywyswr* yn tebygu Anthony Hopkins. *guide dw i isio...
Clywais ar y radio heddiw bod gweddillion 'Arglwyddes Goch Pafiland' ar fin cael eu harddangos yn yr Amgueddfa Genedlaethol o ddydd Sadwrn ymlaen. Cafodd y sgerbwd ei ddarganfod yng Ngŵyr yn y 19fed ganrif ac i ddechrau credwyd mai gweddillion merch ydoedd, ond rwan mae'n ymddangos mai sgerbwd gwrywaidd ydyw. Yn ddiweddar fe addaswyd oed y sgerbwd i fod yn 29,000 oed a credir mai dyma engrheifft hynaf o weddillion dynol modern i'w darganfod ym Mhrydain. Efallai a'i draw i'w weld...
Mae Radio Cardiff wedi cychwyn darlledu profion ar yr awyr rhwng Radio Cymru a Radio 1 ar 98.7FM ac ar-lein (ond ddim eto…). Yn ôl y sôn bydd ganddyn nhw drwydded 5 mlynedd. Gorsaf gymunedol ydyn nhw, sydd wedi datblygu o’r orsaf Beats FM a redodd yn ardal Butetown dan drwydded radio cyfyngedig.
[erthygl IC Wales]...
Wedi prynnu lot o docynnau heddiw, yn gyntaf ar gyfer gig Euros Childs yn Coed Duon ar y 23ain o'r mis (mae hefyd yn chwarae yn Aberteifi a Blaenau Ffestiniog yn ogystall a sawl lle yn Lloegr, un yn Glasgow ac ambell leoliad yn Ffrainc, Sbaen a'r Eidal).Dwi hefyd wedi prynnu tocynnau i weld y NoFit State Circus tu allan i Ganolfan y Milenium ar nôs Sul. Oes rhywun wedi gweld yr rhain, mae nhw fod yn wych? Pan es i Seland Newydd gyda Sarah, fe brynodd ei brawd docynnau i mi a Sarah fynd i weld Cirque Du Soleil yn Auckland ac roedd yn...
Mae prosbectws 2007/2008 ar gael nawr. The 2007/2008 prospectus is now available.Rhestr CyrsiauFull Couse List...
Meddwl oeddwn i rŵan am Gaerdydd fel pecyn. Mi rannaf fy meddyliau, os caniatewch i mi wneud. A minnau yma am bedair blynedd dw i’n adnabod y ddinas yn iawn erbyn hyn, ac mae gen i farn eithaf pendant arni. Mae bob rhanbarth yn wahanol; fel Dwyfor, Arfon a Meirion (gydag Arfon yn well o lawer na’r ddwy arall, fe’i cydnabyddir yn rhyngwladol, a hwythau ill dwy yn well na gweddill ardaloedd Cymru, canys mai Gwynedd ydynt, a Gwynedd sydd bur).Mae Cathays yn troi arna’ i, i fod yn onest. Yma gormod ydw i - mae’n fy atgoffa o ddyddiau Senghennydd a thŷ rybish Wyeverne Road. Does ‘na ddim siopau, mae’r pybs yn eitha’ gwael ar y cyfan - mae’r holl le yn ffug. Gwelwch i’r Cathays iawn yn ystod yr haf, a dw i’m yn or-hoff o hwnnw chwaith.Bydda i ddim yn gwybod am lefydd...
Pwnc fy arholiad olaf oedd hanes America ers 1828 - y papur wnes i'r tymor diwethaf - ac fe aeth pethau'n olreit. Atebais i am progressivism, mewnfudo'n y 20au ac effaith y Rhyfel Byd Cyntaf ar hil. Y trydydd ateb oedd y gwanaf o bell ffordd - roeddwn i'n gwybod tipyn am effaith yr Ail Ryfel Byd ar densiynau hiliol ac am ethnigrwydd yn y 20au yn gyffredinol ond dim llawer am effaith uniongyrchol y rhyfel. O wel.Roedd na rai eraill yn y neuadd arholiad oedd yn gorffen eu gradd gan gynnwys y person oedd yn cerdded allan o mlaen i. Gorchuddiwyd y bachgen mewn siampên a silly string. Doedd dim byd mor egsotic yn aros amdana i, dim ond twr o lyfrau llyfrgell yn aros i'w dychwelyd. Roedd fy hwyl a sbri i yn digwydd y diwrnod wedyn.Ar ôl gweld yr edefyn yma ar maes-e, fe brynais i docyn i weld...
Noson hyfryd oedd hi heno yma yng Nghaerdydd wyrddlas. Dyna beth y ni ddwedir am Gaerdydd -- mae pobl ei thu allan yn hoff iawn o'i galw "y ddinas fawr ddrwg" ond mae'n ddinas hyfryd yn narnau.Ar ôl darlledwyd rhaglen amdanaf, cefais nifer o negeseuon gan bobl yr oedd yn awyddus rhoi bai ar Gaerdydd am fy mhrofiadau llai-na-ddelfryd. Yn y rhaglen, siaradais am sut dweda pobl wrthyf: "Gwyddost, Chris, dydy Caerdydd yn Gymru Go Iawn." Wedyn, siŵr o fod, cefais sylwadau ar fy mlog y diwrnod nesaf gan bobl yn dweud wrthyf: "Dewch i Aberystwyth," neu "Dewch i'r Gogledd," neu "Dewch i'r Gorllewin" neu o ble bynnag daeth yr awdur y sylw. Nid ydw'n bod yn gas, gyda llaw -- mae'n wych bod gan bobl balchder yn eu hardal.Ond cefais argraff bod er gwaethaf y ffaith gan Gaerdydd 30,000 siaradwyr...
Dwi wedi cael e-bost gan Iestyn yn hysbysu cyfarfod i drefnu teithiau 2007 gyda Clwb Cerdded 2YQMae Clwb Cerdded 2YQ wedi cael hoe dros y gaeaf gyda'r bwriad o ail ddechrau yn y gwanwyn. Byddwn ni'n cwrdd nos Iau 22ain o Fawrth yn y Mochyn Du am 8pm i lunio rhaglen o deithiau 2007. Croeso cynnes i bawb. Os oes gennych syniadau ar gyfer teithiau cerdded neu os yr hoffech arwain taith yna dewch i'r Mochyn Du neu ebostiwch ni. Yn y cyfamser, mae gan y clwb bellach bresenoldeb ar myspace.caerdyddGenerated By Technorati Tag...