20,229 gair via Arth sy'n Dawnsio
Aeth y daith i Gaerfyrddin yn iawn. Dwedodd Catrin Dafydd wrthyf i unwaith (a) taw lle sydd eich taro fel tref a allai fod yn well yw Caerfyrddin, ac iawn yw hi. Does dim hollol o'i le am y dref ond cewch deimlad y mae rhywbeth ar goll; fel pe cafodd y dref ei hadeiladu gan fyfyrwyr trydedd flwyddyn sy'n ysgrifennu ei draethawd olaf erioed. Wrth edrych ar Gaerfyrddin, meddyliwch: "Whoever built this place, his heart just wasn't in it."Ond dyna ni. Rydw i wedi gweld lleoedd gwaeth. Ac erbyn hyn rydw i wedi penderfynu gwneud cais am gwrs MA ysgrifennu creadigol yng Ngholeg y Drindod. Es i allan ar ddydd Gwener i siarad â darlithydd am y cwrs ac rydw i'n meddwl y mae'n rhywbeth gwna gyfunioni â'm hamcanion. Yn enwedig oherwydd dwi ddim yn siŵr beth uffach yw fy amcanion.Rydw i eisiau...