
Mae gwynt y gwanwyn a gwynt y môr yn llenwi fy ffroenau yn Aberystwyth ac mae fy meddwl yn troi tuag at ein traddodiadau gorau ni fel cenedl – cerddoriaeth. A hithau’n dymor eisteddfodau cylch a sir Urdd Gobaith Cymru ni allwn i wneud dim ond canu. Felly, yn dilyn ar fy albwm Nadolig llwyddiannus a ryddhawyd rhyw ddwy flynedd yn ôl dwi wedi recordio fy hoff siantïau môr a chaneuon gwerin fel homage i Merêd. O dan y teitl Siantïau môr a chaneuon gwerin eraill gallwch fwynhau 10 o glasuron y werin yn eu purdeb. Heblaw am hyfforddiant Mr Voice flwyddyn yn ôl nid yw fy llais wedi’i drin mewn unrhyw fodd na’i sbwylio gan fasnachu diegwyddor fel ambell i ganwr a chantores y gallwn eu henwi petawn i’n teimlo fel gwneud. Na, yn hytrach, dyma sut y canwn ar...