Dyma Fi Eto! (Diolch…Diolch) via castell tywod
Wel, nawr, wrth i fi gael fy meirniadu, dw i'n teimlo pwys i bostio. Felly, dyma rhestr bach o bethau a wnes i heddiw, wrth i 'ngwr i fod yn Alaska yn pysgota gyda'i dad:
Ail-olygais i bedwar pennod o fy nofel i bobl ifanc (nofel newydd sy ddim yn sôn am Gymru o gwbl--mae'n flin 'da fi)
Chwaraeais i gyda'n cath fach, Zelda, am oriau. (Mae hi'n hyper.)
Gwastraffais i ormod o amser yn edrych ar bethau heb bwynt ar y wê, fel gwybodaeth Wicipedia am fy ardal i.
Sgwennais i gerdyn post at fy chwaer a'i theulu yn Awstralia. Mae'r cerdyn post yn dod o Efrog Newydd. Des i n'ôl o Efrog Newydd tua tri wythnos yn ôl. Colledwr (colledwraig? colledydd?) ydw i.
Teipiais i rhyw bethau diflas ar gyfer swydd freelance; roedd rhaid i fi ei wneud cyn cynfarfod y bydda i'n mynychu...
Dyna'n gath newydd ni, Zelda, gyda'i chwaer henach, Roxie. Mae pethau wedi bod yn ddiddorol iawn ers i ni ychwanegu aelod newydd i'r teulu. Mae Zelda yn llawn egni, a mae hi'n gallu chwarae gyda'i theganau hi am oriau. Oriau, yn llythrennol. Dyn ni angen nap ar ôl i ni chawarae gyda'r gath fach. Dim jôc.
Dw i newydd gorffen galwad ffôn gyda fy ffrind, Brenda--dyn ni'n ymarfer Cymraeg dros y ffôn bron bob wythnos neu bob yn ail wythnos. Heddiw, siaradon ni am "beth wnaf i dros yr haf." Hefyd, dywedais i wrthi hi am ein taith ddoe i San Jose i weld gêm pêl-droed rhwng yr U.D.A. a Tseina. Ennillodd yr UDA 4 i 1. Mwynheuon ni'r gêm; hefyd y parti ar ôl y gêm, yn nhafarn Britannia Arms--roedd hi'n ddigwyddiad ar gyfer codi arian i grwp...