Audrey Kawasaki via Morfablog
Newydd wneud arbedwr sgrîn o luniau Audrey Kawasaki, wedi’i hailddarganfod o gofnod ar Juxtapoz y bore ’ma. Wedi codi o ochr anghywir y gwely, mae angen pethau pert i godi’r ysbryd.
Mae ei blog Livejournal yn llawn lluniau o’i stiwdio, a dyma enghreifftiau o’r sioe mae hi’n cyflwyno yn Los Angeles. Wythnos nesa, os wyt [...]...
Andy Goldsworthy via Morfablog
Andy Goldsworthy - Catalog Digidol 1976-1986.
Diolch i......
Dave Gorman ydw i via Morfablog
Mae Dave Gorman ar Flickr. Dyma fe’n esbonio pam mae’n hoffi Flickr. Dyam ei wefan e, a dyma ei flog, sy’n werth ei ddarllen. Gweler, er enghraifft, ei gofnod sy’n gofyn “O ble mae arian yn dod?”
Mae gyda fe rhywbeth mewn cyffredin ag Andy Goldsworthy, hefyd: mae’r ddau yn hoffi balanso......
Cuddio yn Tsiena via Morfablog
“Camouflage” gan Liu Bolin. Cyfres o luniau pobl anweledig.
[Trwy......
Charles Byrd via daflog
Dwi wedi ychwanegu categori ‘Celf’ ar gyfer y cofnod hwn, a dwi ddim yn gwybod faint o ddefnydd gaiff e. Roedd arddangosfa o luniau Charles Byrd yn yr Eisteddfod.
Mae ei luniau o’r 50au yn reit ffantasïol ac yn gwneud i Gaerdydd edrych fel ryw bentre bach pert yn Ffrainc. Roedd yr arddangosfa hefyd yn cynnwys ei ‘gerfluniau symudol’, fel mae’r llun isod yn dangos. Roedd y rhain wedi bod yn eistedd mewn atic am flynyddoedd a roedd y gwe pry cop yn dal yn hongian oddi arnyn nhw.... Eisteddfod yn y ddinas yn y glaw 2008-08-05 (3) via Blog Dogfael
Un o’r pethau oedd yn dal i fod yn y Senedd oedd y gwaith celf dadleuol yn portreadu Aneurin Bevan a Margaret Thatcher mewn tunplat. Pan glywais i’n wreiddiol am y ddadl ynglŷn â’r gwaith fy mod wedi teimlo fod y cwynwyr yn gwneud lot o stŵr am ddim byd. Ond rhaid i mi ddweud ar ôl ymweld â’r Senedd a gweld y peth drosof fy hun fy mod wedi dod i ddeall yn well pa mor rhyfedd yw gweld wyneb Margaret Thatcher yn edrych i lawr arnoch chi yn Neuadd y Senedd a pham bod cymaint wedi teimlo’n grac am y peth. Roedd yn edrych yn òd iawn. Dwi’n gwybod fod rhai yn dweud fod y gwaith wedi gwneud ei waith wrth inni ei drafod, ond ai mewn senedd y mae lle i weithiau dadleuol o’r fath?
Note: There is a rating embedded within this post, please visit this... Showroom via Rwdls Nwdls
Noson Gelf-Cerddoriaeth-Tombola newydd yn y Cŵps, ar nos Iau ola bob mis.
Swnio’n...... Anatomeg Japaneaidd via e-clectig
Cafodd sgroliau anatomeg Kaibo Zonshinzu eu creu ym 1819 gan Yasukazu Minagaki (1784-1825), ffisigwr o ardal...
Dyddio capeli via Blog Dogfael
Wyt ti erioed wedi ystyried a oes ‘na ffordd sustematig a gwyddonol o ddyddio capel? Paid â phoeni dim mwyach oherwydd fe ffeindies i gopi o daflen a gyhoeddwyd gan Capel: cymdeithas treftadaeth y capeli yr wythnos diwethaf. Fe ddes i ar ei thraws yng Nghanolfan Fethodistaidd S. Paul pan oeddwn i yno ar gyfer y gwasanaeth ddydd Gwener y Groglith. Taflen yw hi yn cyflwyno capeli Aberystwyth – 9 ohonynt i gyd (er bod 2 bellach wedi cau fel capeli: Tabernacl yn Stryd Powel, a St. Paul’s sydd bellach yn dafarn). Yr hyn sy’n ddiddorol am y daflen yw ei bod yn gosod allan ganllawiau ar gyfer dyddio capeli oddi wrth eu harddull bensaernïol. Yn ôl y daflen roedd capeli cynnar y 17g a’r 18g fel arfer yn ysguboriau neu fythynnod a newidiwyd i fod yn dai-cwrdd. Daeth y... Animeiddio Autobahn via Rwdls Nwdls
Ffilm fer sy’n animeiddiad i’r gân Autobahn gan Kraftwerk.......
Huw Stephens a Lichtfaktor via Rwdls Nwdls
…yn cael eu cyfweld yn ystod Ffresh: Gwyl Delwedd Symudol Myfyrwyr Cymru gafodd ei gynnal wythnos dwetha. Roedd o yna i DJo ac roedd y DJ lleol Ellaskins, sydd yn gneud cyfres o fideos poblogaidd iawn, iawn ar YouTube am sut i DJo (ac yn trio cynnal cymanfa YouTube ar y prom!), yno i holi ambell gwestiwn iddo. Dyma chi…
Mae Lichtfaktor hefyd yn cael eu cynnwys yn y fideo. Mae’n nhw’n gwneud lluniau anghygoel gyda golau.
Dyma un wnaethon nhw i Ffresh y tu allan i ganolfan y celfyddydau…
Ac un arall
Cŵl bîns.
Dyma gyfweliad gyda nhw:
Aberystwyth = “fucking ace” hehehe, a hynny gan rywun o ‘Mwythig. Pwy sa’n...... Mae’n rhewi ‘ma via Morfablog
Rhewi yng Ngorsaf Grand Central - digwyddiad gan Improv Everywhere. Gwych.
[Trwy......
Trwy lygaid Duw via e-clectig
Prosiect gan The Glue Society o Awstralia: Gweld digwyddiadau'r Beibl trwy lygaid...
Trwy lygaid Duw via e-clectig
Prosiect gan The Glue Society o Awstralia: Gweld digwyddiadau'r Beibl trwy lygaid...
Marian Delyth ‘Yr ail filltir’ via Blog Dogfael
Dwi wedi treulio’r nos yn lapio anrhegion Nadolig. Nid bod llawer i’w wneud ond mae lapio’n broses sy’n cymryd llawer o amser i’w wneud yn hanner iawn. Rhaid mesur y papur yn weddol ofalus ac osgoi ei dorri a rhaid dod o hyd i’r ffordd iawn o lapio anrhegion o’r siâp anghywir. Cymaint y gwaith fel y gwnes i fethu rhaglen Y Sioe Gelf (Cwmni Da) ar S4C. Roedd hon yn rhaglen yr oeddwn am ei gweld yn arbennig am ei bod yn dweud hanes y ffotograffydd Marian Delyth yn dychwelyd i’r Mynydd Bach lle’r oedd hi wedi bod yn gweithio ddeng mlynedd ar hugain yn gynt ar un o’i phrosiectau ffotograffig cynharaf o dan y teitl ‘Y filltir sgwâr’. Ond diolch i wasanaeth gwylio eto S4C, Gwylio yma, roeddwn i’n medru edrych ar y... Llwy Caru mwya’r byd, Caerdydd via Gwenu dan Fysiau
Er bod erthygl ar wefan yBBC yn dweud y byddai wedi ei gwbwlhau y penwythnos yma, pan gerddais heibio ddoe, roedd tipyn o waith i fynd ar ymgais record y byd i greu'r llwy caru mwyaf erioed. Dylai edrych yn dda wedi iddo orffen. Tra'n chwilio am lun gwell nag un fi uchod, darganfyddais bod mainc siap llwy garu ym Mharc Bute yn barod.... Gwyliau Awst 2007-08-22 (9) via Blog Dogfael
Wedi bod yn yr eglwys fe wnaeth RO a minnau ymwahanu i grwydro ar ein pennau ein hunain. Dwi’n ofni na wnes i lawer iawn o grwydro fe es i yn ôl i Place Kléber ac oddi yno fe wnes i gymryd tram i Musée d’Art moderne et contemporain de Strasbourg (MAMCS) ac oddi yno fe gerddais yn ôl i’r gwesty. Am ryw reswm wnes i ddim tynnu llun o’r amgueddfa drawiadol ac nid oedd gen i ddigon o nerth i feddwl mynd o’i chwmpas, na llawer o amser. Wrth gwrs arwr celf fodern Strossburi yw Jean Arp (neu weithiau, Hans Arp) (1886-1966) a aned yno. Yr oedd yn un o sefydlwyr y mudiad Dada ond wedyn fe aeth yn ei flaen i sefydlu mudiad arall, Abstraction-Création. Yn ôl y sôn mae’r amgueddfa yn cynnwys degau o ddarnau o’i waith, ond roeddwn i wedi blino’n lân... Cyhoeddi Poster Ffilm Watchmen via Rwdls Nwdls
Paid cynhyrfu gormod. Paid cynhyrfu gormod. Paid cynhyrfu gormod. Paid cynhyrfu gormod….
SQUEEEEEEEEE!!!!!!!... Blue Moment / Puce Velvet via Rwdls Nwdls
Rhagor o dystiolaeth o ddylanwad ffilm arbrofol ar David Lynch.
Y tro hwn Kenneth Anger.
Pa mor debyg ydy’r ddynes yn ffilm Anger i gymeriad Isabella Rossellini?!
Puce Moment (Kenneth Anger, 1949)
Blue Velvet (David Lynch,......
DVD Pictiwrs a Tu Chwith - Galwad Am Ffilmiau via Rwdls Nwdls
Dim ond nodyn i hysbysebu fod Pictiwrs a Tu Chwith yn chwilio am ffilmiau byr Cymraeg ar gyfer DVD aml-gyfrannog fydd yn cael ei ddosbarthu gyda Tu Chwith ac yna i sinemâu a chymdeithasau ffilm ledled Cymru.
Meddyliwch am faint o bobol gaiff weld eich ffilm!
Dyddiad cau: 19 Tachwedd 2007
Manylion llawn ar wefan Pictiwrs…... Breuddwydion Maya Deren via Rwdls Nwdls
Dwi’n cael pnawn o brocrastineiddio. Dwi wedi llnau, pobi torth (Norwegian Mountain Loaf), byta lot o fisgits (Punchs Llydewig), a chrwydro YouTube.
Ond fel segura, nid canlyniad drwg ddaw o bob procrastiad, dwi wedi cael cyfle i wylio ffilm gan Maya Deren (wedi ei ysgogi gan weld ffilm Le Vampire ar Morfablog). Roedd Maya Deren yn wneuthwrwr ffilm avant-garde, a des ar ei thraws trwy fy nghyn fós tra’n gweithio yn Sgrîn. Roedd Deren yn un o’i harwresau hi, ac roedd yn sôn amdani (yn ogystal â Kenneth Anger a Stan Brakhage) yn ddi-baid. Ond fel lot o ffilmiau arbrofol, dwi ofn prynu DVDs ohonynt rhag ofn i mi gael fy siomi. Diolch felly am YouTube (ac Ubu ondife).
Y ffilm wyliais i heddiw oed Meshes In The Afternoon (1943). Ffilm swreal, freuddwydaidd,... Dalí a Disney via Rwdls Nwdls
Wyddoch chi fod Salvador Dalí wedi cael ei gomisiynu gan Walt Disney i wneud ffilm fer swreal wedi ei hanimeiddio? Na finnau tan yn ddiweddar. Er fod Dumbo (1941, clip) a Fantasia (1940, clip) yn tystio i ddychymyg byw ac elfennau cryf o swrealaeth yng ngwaith cynnar Disney, mae’r cynnyrch mor lân erbyn hyn nad oes awgrym o dywyllwch yr isymwybod yn perthyn i’r un ffilm gan y cwmni.
Roedd Dalí yn ffan o Disney, a Disney eisiau arbrofi. Destino oedd enw’r ffilm fer a esgorodd y bartneriaeth unigryw hon a dyma ei hanes. Chafodd hi mo’i arddangos tan yn ddiweddar iawn a dwi’n credu taw dim ond cwpwl o weithiau mae hi wedi cael ei dangos ers hynny, ond mae’r clipiau hyn yn rhoi blas ar beth allai fod wedi bod yn bartneriaeth berffaith petasai hi wedi...
Ac i chi sydd ddim yn gyfarwydd â’r Watchmen… via Rwdls Nwdls
Dyma flas…
Crefftus iawn chwarae teg. Nid dim ond un o’r nofelau graffig gorau i fi eu darllen, ond un o’r llyfrau gorau ffwl stop. Ewch. Darllenwch. Cyn i’r ffilm ddod allan....
Rheinallt H. Rowlands via Rwdls Nwdls
Mae Rheinallt.com yn wefan deyrnged i’r band anesboniadwy yna o’r 90au Rheinallt H Rowlands, a’u canwr Owain ‘Oz’ Wright fu farw yn 2005.
Yn hogyn 11-12 oed o’n i’n arfar cael yn reit sbŵcd gan eu caneuon wrth wrando arnyn nhw ar hedffôns ar raglen radio nos Sul Heno Bydd Yr Adar Yn Canu…, ond erbyn hyn dwi’n eu mwynhau nhw’n arw.
Mae lot o wybodaeth yno eisioes gan gynnwys traciau prin a clippings o’r wasg a bydd fideos yno cyn hir.
Yn y cyfamser cewch wylio mwy na sydd ar y wefan ar sianel propithecus ar YouTube. Dyma ddetholiad:
“Bukowski” (1996)
“Hendaid Bran” (1993)
“Pethau” (1993)...
Llunia Enlli via Rwdls Nwdls
Drychwch ar weddill y set...... Murlun Wonci Finch via Rwdls Nwdls
Blydi hel, swn i’m yn impresd iawn efo’r portread hwn ar wal yn Aberaeron swn i’n Catrin Finch de! Ma’i llygad dde’n edrych fel sa fo’n trio rhedag ffwr’! Ocê, ocê, plant sy di neud o - ond di hynna ddim esgus nacdi.
stori...... Graffiti Golau via e-clectig
Gan ddefnyddio gwiail gwynias LED, fflacholeuadau a hyd yn oed tân gwyllt, wedi eu cyfuno â ffotograffeg dreigl-amser, mae artistiaid graffiti golau yn gallu creu tagiau 3D. Gellir gweld mwy... Wn i ddim jyst beth i’w feddwl… via castell tywod
Ydych chi wedi clywed am artist Prydainaidd (Sais? Dw i ddim yn siwr) a bwytodd Corgi fel rhan o brosiect celf? Na, fi chwaith, nes heddiw.
Nawr mae e'n bwriadu cael ei gladdu dan mynydd o datws stwnsh. Hmm...mae rhyw bobl yn cael issues gyda bwyd, dw i'n...
Beth yw ‘Performance’ yn Gymraeg? via Rwdls Nwdls
Blog
a gwefan gan Heike Roms sydd yn gwneud prosiect i archifo (a pherfformio’r archifo!) celf perffromiad yn Nghymru o 1968 i 2008.
Mi fues i ddarlith amdano amser cinio ac roedd yn hynod o ddiddorol. Roedd rhai o;r clipiau fideo o’r perfformiadau hyn a’r cyfweliadau yn ffantastic!
Bydd y bas-data cyflawn ar gael i’r cyhoedd cyn hir…...