Welsh Blogs.com


Popeth sy’n digwydd via daflog August 19th, 2008 at 19:24

Albym newydd gan David Byrne a Brian Eno - allwch chi feddwl am unrhywbeth gwell? Dwi’n dal i wrando ar hwn ond mae yna cwpl o draciau difyr mor......

Ar feddwl am gigs Eisteddfod… via Arth sy'n Dawnsio August 1st, 2008 at 14:41

Mae yna lawer i'w feirniadu am gerddoriaeth gyfrwng Cymraeg, ond erbyn hyn rydw i wedi penderfynu na allaf ddefnyddio termau megis "da" neu "wael." Does dim modd teg o fesur rhinwedd cerddoriaeth gyfoes oherwydd mae gan bawb chwaeth amrywiol. Ond ar y cyfan, gwahanaf grwpiau mewn i ddau gategori:1) Grwpiau sy'n perfformio imi.2) Grwpiau sy'n perfformio i'w hunain.Ar y cyfan, gwedda grwpiau cyfrwng Cymraeg fewn i'r ail grŵp. Os rydych chi'n mynd i weld nhw perfformio yn fyw, y peth sy'n eich taro'n syth yw bod nhw'n mwynhau eu hunain wrth wneud. A gan hynny, dydyn nhw ddim yn talu uffach o sylw ar safon y gerddoriaeth. Does dim ots ganddyn nhw os collan nhw nodyn neu dri, neu beth bynnag. Maen nhw'n cael amser gwych.A chwarae teg iddyn nhw. Does dim llwyth o arian i'w gael wrth wneud...

‘Steddfod yn nesáu via Blog yr Hogyn o Rachub July 23rd, 2008 at 10:36

Smai? Ydw, iawn diolch yn fawr, ‘rhen fol yn chwarae fyny ond dyna ni. Chithau? Wela i. Ffyc off, felly.Ta waeth. Mae’r ‘Steddfod, wyddoch chi, yma ymhen tuag wythnos. Rŵan, fel y dywedais y llynedd, nid steddfodwr mawr mohonof, ond pan fydd y ‘Steddfod yn agos, fel y bu i mi yng Nghasnewydd, Bangor ac eleni yng Nghaerdydd, mi fydda i’n galw heibio i ddweud helo a chwilio am ffrîbis yn stondin Cymdeithas yr Iaith a gwneud pethau felly. I fod yn onest efo chi, fedra i ddim disgwyl eleni, achos dwi’n benderfynol o weld y cadeirio, sydd yn rhywbeth dwi byth wedi’i weld o’r blaen, ac eistedd ar y maes efo peint a byrger. Na phoener, ‘rhen Selwyn, feddwa i ddim ar y maes. Nid bardd mohonof.Pobl ryfedd ydi beirdd. Dydyn nhw ddim mor clîci â phobl y sîn roc Gymraeg (yr...

Yn ôl o’r Cwrs Cymraeg via castell tywod July 23rd, 2008 at 00:45

image Des i'n ôl o'r Cwrs Cymraeg yn Iowa nos Sul (yn hwyr iawn, yn anffodus) ar ôl dysgu cymaint a gwella fy Nghymraeg mewn dosbarth arbennig o dda gyda Geraint Wilson-Price (ar y dde yn y ffoto). Hefyd, cwrddais i â Emma Reese, blogwraig arall oedd yn fy nosbarth i hefyd. Ces i lawer o hwyl dros yr wythnos, fel arfer. Fel arfer eto, roedd treulio amser gyda ffrindiau, yn enwedig y tiwtoriaid mod i'n ffrindiau gyda nhw fel Mark a Chris, yn brofiad arbennig. Roedd digon o gyfle i fi ymarfer siarad, a ceisias i'n galed siarad Cymraeg cymaint â phosib. Mae un problem mawr yr ydw i wedi darganfod, sef mae hi'n bron amhosib i fi ddweud beth dw i eisiau ei ddweud A siarad gyda acen ddigon da ar yr un pryd. Ydy hwn yn broblem cyffredin gyda dysgwyr tybed? Beth bynnag, roedd y dosbarth yn...

Endaf Emlyn via Blog Rhys Llwyd July 20th, 2008 at 21:37

Maen rhaid i mi gyfaddef mod i wedi colli pob diddordeb yn y sin roc gymraeg ers blwyddyn a mwy. Ddim mod i wedi i wedi "bradychu" y sin ac wedi ymroi yn lle i ddilyn cerddoriaeth saesneg a mynychu gigs saesneg jest fod dim byd egsiting yn digwydd yn y sin gymraeg dyddiau yma. Dim gigs. Dim bandiau newydd ffresh. Dim hip-hop. Yr eithriad i'r ddeddf amwni yw Derwyddon Dr Gonzo, nhw ydy'r unig fand Cymraeg ar hyn o bryd dwi'n disgwyl mlaen i weld a dwi byth yn cael fy siomi. Mae dirfawr angen bandiau newydd ar y sin sy'n gwneud mwy na bod yn efelychwyr ail ddosbarth o'i harwyr cerddorol. Mae hefyd angen band hip-hop newydd llawn all ddod ag egsitment nol i'r sin fel y gwnaeth Lo-cut a Sleifar gyda Miwsig i'ch traed a miwsig i'ch meddwl ac Mc Mabon gyda Nia Non rhyw bum mlynedd yn ol...

Hip-Hop yn Mars Hill via Blog Rhys Llwyd July 16th, 2008 at 10:51

Maen ymddangos mae nid dim ond pregethu da mae Mars Hill yn Seattle yn deall ond mae ganddyn nhw sesiynnau mawl pen i gamp hefyd. Dyma fideo o'r band oedd yr arwain y mawl ddydd Sul diwethaf, pa mor cŵl yw hwn, mewn capel! Ffantastig! 'Send Me' - Live at MHC | Ballard from Mars Hill Church on...

Cariad mawr mawr via Morfablog July 10th, 2008 at 21:52

Pixies - Gigantic Diolch i......

Rhwng An Daingean ac Hawai’i via Morfablog July 10th, 2008 at 16:15

Wythnos diwetha, ar ein gwyliau yn An Daingean, cwrddon ni â Clyde Sakamoto a’i wraig Gerrianne yn nhafarn An Droichead Beag, a chawson ni sgwrs diddorol iawn am ieithoedd Cymru, Iwerddon ac Hawai’i, ymysg pethau eraill. (Fel cwrw - diolch i Clyde, ffeindiais i dafarn arall ar bwys y dre sy’n wneud eu cwrw eu [...]...

Ymgyrch Mwtant via e-clectig June 26th, 2008 at 21:55

Mae rhai o'm ffrindiau yn Sbaen yn hoff iawn o'r fersiynau clasuron pop Sbaen a'r byd mae Operacion Mutante yn eu gwneud....

Penwythnos osym via Wierdo June 23rd, 2008 at 18:19

Wel, nachi'r haf wedi dechra go iawn. Mi gyrhaeddish i adra ddoe wedi blino'n lan ac yn drewi dipyn go lew. Gwychder yr haf wedi cychwyn o'r diwedd.Dydd gwenerCael lifft lawr i Aberystwyth a wedyn parti pwnsh yn nhy newydd fy mrawd yno. Ma pynsh yn lethal. A minna yn downio gymaint a phosib gan modi'n trio arbed arian a doedd y pynsh ddim yn fy meddwi bethbynnag. Hynny yw tan i mi adael y ty i fynd i gig texas radio band yn yr Angel. Dau beint o siedr yn fana ac wedyn dwi jesd abowt yn cofio mod i wedi mynd adra i'ng ngwely ar ol gwario dim ond £10 (£5 o hwnw ar fynd i mewn i'r gig!).Dydd SadwrnBrecwast yn varsity er mwyn trio sobri ein designated driver. Yno trafod y planiau. Y plan gwreiddiol oedd cael tacsi i Llanrwst ac aros yn ty rhywun yn fana. Ond doedden ni methu cael tacsi....

Ysblander Frenin Nef (cyflwyno emyn newydd) via Blog Rhys Llwyd June 18th, 2008 at 12:41

Dyma un o fy hoff emynau cyfoes ar hyn o bryd Ysblander Frenin Nef (The Splendor of the King) gan Chris Tomlin. Recordiad o fand addoli Llanw ydyw - nid yw safon y sain yn y fideo yn dda o bell ffordd ond gobeithio y bydd yn rhoi rhyw syniad i chi o'r emyn.YSBLANDER BRENIN NEF,Mawredd sy’n Ei wedd,Gadewch in lawenhau, dewch i lawenhau,Mae’n gwisgo golau purMae’n treiddio’r tywyll-dirSy’n crynu’n sŵn Ei lais, yn crynu’n sŵn Ei lais.Mor fawr yw ein Duw,cenwch fryMor fawr yw ein Duw,fe welwn niMor fawr, mor fawr yw ein Duw.Fe saif o oes i oes;Mewn grym teyrnasa’n ddoethO’r dechrau a hyd byth, dechrau a hyd bythYn Drindod, Ef yw’r Tad,Y mab a’r Ysbryd GlânY llew a’r oen yn un, y llew a’r oen yn un.Enw’r uchaf Un,Haedda’n mawl i gydFe ganwn niMor fawr yw ein...

Dad-dadeni’r Delyn Geltaidd via Morfablog June 4th, 2008 at 08:35

Re-renaissance Of The Celtic Harp - llawn CD i’w lawrlwytho am ddim, sy’n ailddychmygu clasur Alan Stivell. O’r wastad yn ardderchog, Recordiadau Safon Uchel. Hefyd, MP3s gan Listen With......

Nadie via e-clectig June 3rd, 2008 at 02:23

Dyma un o fy ffrindiau dawnus o Zaragoza, Martin Navarro, brawd y flogwraig (a bardd) Marta Navarro, gwraig y blogwr Chesus Yuste, ffrind arall, sydd yn ddysgwr Gwyddeleg ac yn aelod Senedd Aragon ar gyfer Chunta Aragonesista, chwaer-blaid Plaid Cymru yn Aragon.Treuliodd rhieni Martin a Marta flynyddoedd maith yn y carchar am fod yn anarchwyr ac am fod yn anffyddwyr yn ystod cyfnod Franco. Mae mam y ddau yn dal yn fyw, a dw'i erioed wedi cwrdd â henwraig mor finiog-ei-meddwl â hi!Mae gwefan Martin, sy'n cuddio dan yr enw 'Nadie' (Neb) yn wych! Dw'i'n...

Sigur Rós : Gobbledigook via Morfablog May 31st, 2008 at 13:13

Gobbledigook gan Sigur Rós? Dim byd newydd ‘na ‘te. Braf clywed bod y band yn newid cyfeiriad tipyn bach. Ro’n i’n ffeindio’r albym diwetha bach yn rhy debyg i bopeth oedd wedi mynd o’i flaen, ond mae hyn yn wahnol. Dylanwad yr Animal Collective? Mae’r gân ar gael am ddim (wel, am bris cyfeiriad ebost) ac mae [...]...

Terry Wogan ac Eurovsion via Blog Dogfael May 26th, 2008 at 11:08

image Dwi’n troi yn ôl at gystadleuaeth cân Eurovision ar ôl clywed fod Syr Terry Wogan wedi pwdu yn dilyn canlyniad nos Sadwrn. Mae’r Guardian yn adrodd yr hanes heddiw o dan y teitl “Eurovision contest voting is no laughing matter, says Wogan”. Yn yr erthygl mae Wogan a Bruce Forsyth yn cwyno taw dim ond gwleidyddiaeth sy’n gyrru’r gystadleuaeth bellach a dim ystyriaethau cerddorol. Hoffwn i wybod ers pryd mae hynny’n wir, oherwydd creadigaeth wleidyddol yw’r gystadleuaeth yn dilyn yr Ail Ryfel Byd, a gwleidyddiaeth sydd wedi gyrru’r gystadleuaeth ers hynny. Dwi ddim yn cofio Syr Terry yn holi pam nad oedd Cymru neu Gatalwnia yn rhan o’r gystadleuaeth dros y blynyddoedd. Dwi ddim yn cofio’r sylwebyddion yn holi pam bod Portiwgal a...

Eurovision 2008 (7) via Blog Dogfael May 24th, 2008 at 23:04

image Mae canlyniadau y pleidleisio yn cael eu cyhoeddi. Mae’r diwedd yn dod yn nes. Dim llawer o obaith fod Bosnia yn mynd i ennill. Ond dwi’n synnu i weld Groeg a Rwsia ar y brig. Dyna ni dwi ddim yn meddwl yr un peth â gweddill poblogaeth Ewrop mae’n amlwg. O leia roedd y dyn wnaeth ganu dros Rwsia dynnu ei grys! Mae’n dda hefyd i weld fod solidariaeth ranbarthol yn dal i fod yn gryf. Dwi’n gobeithio fod Syr Terry Wogan yn colli ei limpyn yn lân gyda’r pleidleisio hyn. 3 gwlad i fyd ac mae’n edrych yn debyg taw Rwsia sy’n mynd â hi. Note: There is a rating embedded within this post, please visit this post to rate it. Rhannu hyn Rhagor »Gyrrir gan...

Eurovision 2008 (8) via Blog Dogfael May 24th, 2008 at 23:13

image Mae canlyniadau y pleidleisio yn cael eu cyhoeddi. Mae’r diwedd yn dod yn nes. Dim llawer o obaith fod Bosnia yn mynd i ennill. Ond dwi’n synnu i weld Groeg a Rwsia ar y brig. Dyna ni dwi ddim yn meddwl yr un peth â gweddill poblogaeth Ewrop mae’n amlwg. O leia roedd y dyn wnaeth ganu dros Rwsia dynnu ei grys! Mae’n dda hefyd i weld fod solidariaeth ranbarthol yn dal i fod yn gryf. Dwi’n gobeithio fod Syr Terry Wogan yn colli ei limpyn yn lân gyda’r pleidleisio hyn. 3 gwlad i fyd ac mae’n edrych yn debyg taw Rwsia sy’n mynd â hi. Does dim gobaith i neb ddal Rwsia bellach, felly nhw sydd wedi ennill cystadleuaeth cân Eurovision 2008. Mae’n amlwg ei bod hi’n talu i agor eich crys a dangos eich brest – doedd y gân yn gwneud...

Eurovision 2008 (5) via Blog Dogfael May 24th, 2008 at 21:55

image Pa fodd y syrthiodd y cedyrn! Dyma sgandal ieithyddol y noson. Ffrainc yn canu eu cân yn rhannol mewn Saesneg. Beth fyddai France Gall yn ei ddweud? Er taw yn enw Luxembourg yr enillodd hi y gystadleuaeth dwi’n credu y byddai hi’n poen rhyw ychydig. Ac ar ôl hynny i gyd doedd y gân ddim yn werth ei chanu. Sŵn dechrau cân Azerbaijan yn f’atgoffa i ychydig o Barcelona! Freddie Mercury a Monsterat Caballe. Yna’n sydyn mae’n troi yn anthem gothaidd. Arllwys y gwin/gwaed dros un o’r menywod? Dwi ddim yn deall hyn o gwbwl. Mae’n rhaid eu bod nhw’n meddwl fod rhywun yn mynd i fwynhau’r fath hyn o beth. Mae hyn yn wahanol iawn i Buks Fizz. Rhoes Gwlad Groeg Socrates, Platon, Aristoteles… a Kalomira i’r byd! Dwi ddim yn rhy...

Eurovision 2008 (6) via Blog Dogfael May 24th, 2008 at 22:18

image Dyna drueni nad oedden nhw wedi canslo’r gystadleuaeth cân Eurovision a llenwi’r amser gyda chyngerdd gan Goran Bregović a’i fand! Am fywiogrwydd. Prin oedd hwnnw yn y gystadleuaeth ei hun. Note: There is a rating embedded within this post, please visit this post to rate it. Rhannu hyn Rhagor »Gyrrir gan...

Eurovision 2008 (4) via Blog Dogfael May 24th, 2008 at 21:02

image Mae’r grŵp nesaf o ganeuon yn dechrau gydag Israel. Cân hanner mewn Hebraeg ond gyda chyffyrddiad o Saesneg. Pam? Mae’r gân nesaf yn fwy tebyg iddi. Y Ffindir mewn Ffineg ac yn canu cân sydd yn gwbl groes i’r diddimrwydd rydyn ni wedi clywed yn gyffredinol tan hyn. Croatia. Mae hon yn bendant mewn Croateg. Ond mae fel petai wedi’i hysgrifennu ar gyfer y 1950au. Dwi’n gwybod fod ‘retro’ yn boblogaidd, ond dwi’n methu gweld pobol Ewrop yn dewis hon fel enillydd y gystadleuaeth. Ond da iawn nhw. Ac mae’n dda gweld hefyd nad oes gwahaniaethu ar sail oed yn y gystadleuaeth. Os dyma’r fath o ganu sy’n boblogaidd yng Ngwlad Pwyl dyw hi ddim yn syndod bod byw yn Llanybydder yn fwy deniadol. Does dim cân hyd yn hyn yn...

Eurovision 2008 (5) via Blog Dogfael May 24th, 2008 at 21:24

image Portiwgal. Du a gwyn, Portiwgaleg. Cymysgedd dda, ond ddim yn taro deuddeg. Latfia. Môr ladron. Disco. Cymysgedd anhyfryd. Roedd mwy o siâp ar Barti Ddu nag ar y rhain. Dwi ddim yn rhy siŵr pam roedd y wlad am ei hannibyniaeth er mwyn gwneud hyn ar y llwyfan rhyngwladol. Efallai taw dyma’r gwaethaf hyd yn hyn. Sweden. Na! Dewch yn ôl Abba, maddeuwyd popeth ichi. Cân Denmarc, ond fe allai fod yn gân unrhyw le mewn gwirionedd. Dyw hi ddim yn ffôl ac mae’r gân yn swnio’n debyg i gân a allai ennill y gystadleuaeth. Dyna siom yn Georgia. Mae ganddi draddodiad o gerddoriaeth cynganeddol ryfeddol ac maen nhw’n penderfynu rhoi hyn o’n blaenau. Mwy o siom fyth yng nghân Wcráin. Dros y blynyddoedd maen nhw wedi bod yn dod â chynigion diddorol i’r...

Eurovision 2008 (3) via Blog Dogfael May 24th, 2008 at 20:35

image Mae’r darllediad wedi dechrau ar y we yn fyw o Beogradska Arena gyda lle i gynulleidfa o ryw 23,000. Maen nhw’n agor gyda chân mewn Serbeg gan enillydd llynedd, Marija Šerifović, yna mae’n troi at Saesneg. Yn ei thro mae’n cyflwyno’r cyflwynwyr ffantastig yn siarad Saesneg Canol Ewrop gyda’r gorau. Ac oherwydd fy mod yn gwylio heb gyfrwng y BBC does dim sôn am Terry Wogan. Mae’r gân gyntaf yn dod o Romania. Mae’r canwr gwrywaidd yn ddigon golygus, ond mae’r gân ei hun yn ddi-ddim. Nid hon fydd cân Ewrop. Mae’r gantores gyda rhyw awgrym o’r Celine Dion amdani. Mae’r gân yn gwaethygu wrth fynd yn ei blaen. Os yw hon yn ennill dwi’n fodlon bwyta fy ngeiriadur Iseldireg – yn araf! Pwy fydd nesaf? Wel,...

Eurovision 2008 (1) via Blog Dogfael May 24th, 2008 at 18:57

image Wel, mae’r noson wedi dod pan fydd cyfandir cyfan yn dathlu eu diwylliant cyffredin a’u hamrywedd trwy gyfrwng yr iaith ryngwladol, sef cerddoriaeth. Heno yw noson rown derfynol Cystadleuaeth Cân Eurovision 2008. Dwi wedi paratoi ar gyfer y noson wrth wylio’r ddau ragbrawf ar y we. Mae’n amlwg fod Serbia yn taflu adnoddau at y gystadleuaeth a dwi’n disgwyl i’r noson fod yn un fawr o ran cynhyrchiad. Mae’n siomedig fod cynifer wedi dewis canu mewn Saesneg, ac mae’n siom fwy fod nifer o’r rhai nad oeddent yn canu yn Saesneg heb fynd trwy’r rhagbrofion chwaith gan gynnwys Gwlad Belg gyda’r gân mewn iaith wneud. Ni wnaeth Montenegro na Chyprus lwyddo i gyrraedd y rownd derfynol chwaith. Felly y gwledydd ar ôl yn y...

Eurovision 2008 (2) via Blog Dogfael May 24th, 2008 at 19:15

image Nid fi yw’r unig un sydd wedi dwlu ar gân Bosnia gan Elvir Laković Laka, dyma beth sydd gan HecklerSpray ddweud ar ei flog. Without a trace of exaggeration, Pokusaj might just be the best Eurovision song by any country in five years. It’s incredible - a kind of statacco Tropicalia opening that bursts into a heart-rending chorus that sounds equally like Sigur Ros and a better version of Coldplay and a 20-year-old Japanese videogame and Sabres Of Paradise, with lyrics like “I will try to kiss you and you act stupid/ I will try to wake you up and you pretend to be awake” that are touchingly universal and odd at once. It’s completely different to any of the other Eurovision entries and it’s brilliant. But, and here’s the weird bit, Pokusaj is...

NWOBHM (Cymru) via Rwdls Nwdls May 18th, 2008 at 21:23

image Argol, ma’r we’n dod a phetha difyrra ar hap weithia dydi. Wele erthygl ar flog Metal Rorschach am fandiau Roc Trwm Cymraeg yr 80au! (mewn Portiwgeeg - bras gyfieithiad Bablesgodaidd yma) Arweiniodd sylwadau hwnnw a fi at dudalen ar wefan y band Ceffyl Pren a gafodd ei ysbrydoli gan y gofnod flaenorol, ac yna gweddill tudalennau Ceffyl Pren sydd a llwyth o luniau a phosteri cwl (ac sydd i fod a MP3s ond dydi’r ddolen yna ddim yn gweithio mwya’r piti). O’n i’n reit ifanc pan oeddan nhw’n chwara ond dwi’n cofio mynd i’r babell roc ar faes y Steddfod i’w gweld nhw rhyw dro a chael fy nghlustia wedi’u chwalu’n dipia!...

Fids Roc Cymraeg yr 80au via Rwdls Nwdls May 18th, 2008 at 21:29

Gan bo fi ar hefi roc Cymraeg tip, dyma atgyfodi cofnod sydd wedi bo yn hel llwch yma… Dyma gasgliad gwych o fids roc Cymraeg ar YouTube gan MaggsCymru. Louis a’r Rocyrs, Bran, Jarman, Hefin Huws, Rhiannon Tomos a…Gardd? [does dim posib embedio’r fids hyn ond da chi ewch draw i’r Twib am......

Eurovision ar y ffordd via Blog Dogfael May 14th, 2008 at 20:46

image Bues i ar raglen Radio Cymru Taro’r Post heddiw yn amddiffyn Cystadleuaeth Cân Eurovision yn erbyn eu beirniaid. Daeth yn hynod o ffasiynol i chwerthin ar ben y gystadleuaeth ond dwi’n wyliwr ffyddlon ac wedi bod ers yn grwt 5 mlwydd oedd bochgoch ym Mynachlog-ddu. Cystadleuaeth Eurovision oedd yn dod â glam a selebrwydd i mewn i fywyd oedd yn arbennig o brin o’r ‘rhinweddau’ hynny. Roeddwn yn dwlu ar yr amlieithrwydd a’r amrywiaeth arddulliau. O’r gore, dwi’n gwybod mewn cystadleuaeth taw ceisio plesio’r nifer fwyaf posib yw’r gamp, ond weithiau fyddai na grŵp neu unigolyn yn llwyddo i oresgyn hynny a chynnig rhywbeth oedd yn wirioneddol wreiddiol; rhaid cyfaddef nad hwy oedd yn ennill fel arfer, ond roedd yn brofiad gwych i...

OK GO via e-clectig May 14th, 2008 at 04:31

OK GO: 'Here It Goes...

Wrthi’n adolygu via Arth sy'n Dawnsio May 4th, 2008 at 15:55

Rydw i'n wrthi'n adolygu ar hyn o bryd, felly nid oes gennyf lawer o amser ar gyfer blogio (a ydw i wedi defnyddio "ar gyfer" yn gywir? Rydw i'n cael moment o fethu â chofio sut ysgrifennu'r Gymraeg). Gobeithiaf ysgrifennu cofnod ar ddydd Mercher neu ddydd Iau. Yn y cyfamser, cyfeiriaf chi i'm blog Saesneg, lle gellir gweld fideos o grŵp ska fy ffrind gorau, y Secondhand Ska Kings. Pam fyddech chi eisiau gweld fideos o grŵp na welwch chi fyth yn fyw, ni ŵn. Ond dyna chi. Mae'n rhywbeth i'w...

El Chiki Chiki via e-clectig April 24th, 2008 at 16:04

Fersiwn gwreiddiol y gân ar y rhaglen 'Buenafuente'Dechreuodd fel jôc ar y rhaglen ddychanol Buenafuente, hynny yw ethol y "Chiki Chiki" -cân y cerddorwr Radolfo Chikilicuatre ( o chiquilicuatro, enw sy'n golygu "runt" yn Saesneg)- fel cân swyddogol Sbaen ar gyfer yr Eurovision. Ond daeth y jôc yn realiti. Pam? Wel yn amlwg mae'r Sbaenwyr eisiau cymryd y pis allan o gystadleuaeth flinedig sy'n llawn haeddu'r fath driniaeth. Pob lwc...