Welsh Blogs.com


Rhod y Rheolwyr via glas May 16th, 2007 at 00:04

image Ar ôl tymor gweddol dawel o hiring and firing yn y Premiership (heblaw am saga Charlton a West Ham, a pan gollodd Chris Coleman ei swydd yn Fulham - penderfyniad hollol dwp), mae 'na ffrwydriad wedi digwydd ers diwrnod ola'r tymor. Gadawodd Sam Allardyce Bolton cwpwl o gemau cyn diwedd y tymor ac erbyn hyn mae wedi cymryd drosodd gan Glenn Roeder yn Newcastle, wedi iddo neidio cyn iddo gael ei wthio. Mae Stuart Pearce wedi cael y sac gan Man City ond dydi Paul Jewell (adawodd Wigan ddiwrnod ar ôl i'r tymor orffen) ddim am gymryd drosodd. Yn ôl ei is-reolwr, Stuart McCall (nes i gwrdd ag ef yn ystod Cynhadledd Geltaidd yn Aberystwyth dau haf yn ôl. Roedd ar gwrs i gael trwydded A FIFA, un cam o dan y drwydded sydd arnoch chi i reoli ar y lefel uchaf erbyn hyn. Dyn neis iawn.) mae Neil...