Welsh Blogs.com


Effaith mynychu Prifysgol ar dueddiadau crefyddol via Blog Rhys Llwyd June 24th, 2008 at 22:44

Ar hyn o bryd dwi wrthi yn darllen cyfrol gyntaf 'Ffydd ac argyfwng Cenedl' ac maen chwith gyda mi gyfaddef mae dyma'r tro cyntaf i mi weithio trwyddi er mod i'n dod i ddiwedd fy ail flwyddyn yn gwneud doethuriaeth am R. Tudur Jones, awdur y gyfrol!Yr hyn a'm trawodd heno oedd darllen ystadegyn am yr 1890s oedd yn dweud mai dim ond 10 y cant o blant yr eglwysi fyddai'n parhau'n aelodau eglwysig wedi iddynt fudo i Lerpwl ar dinasoedd mawrion i weithio. Mor debyg yw'r phenomenon ymysg myfyrwyr Cymraeg heddiw o gael eu derbyn yn gyflawn aelod neu eu bedyddio jest cyn mynd i'r coleg yna wedi cyrraedd Aberystwyth, Bangor neu lle bynnag ni fyddant yn twllu cyfarfod am dair mlynedd heb son am ymroi yn llawn i fywyd eglwys tra yn y coleg. Maen amlwg fod had problem heddiw wedi ei hau yn...

Gwaith / Work via glas January 21st, 2008 at 19:53

Mae gen i fwy o waith nac erioed eleni. Dwi wedi arfer gyda un traethawd yr wythnos - dim mwy, dim llai, rhythm arferol. Tymor yma - traethawd yr wythnos, ymarferion paragraffau bychain o ffynonellau (gobbets), darllen ar gyfer dosbarthiadau Historical Argument and Practice a dau draethawd hir i'w gwneud drwy'r cwbl.Ac fel sydd wedi digwydd yn ddibynadwy drwy fodolaeth y blog hwn, dwi'n blogio pan dwi fwyaf prysur am mai bryd hynny mae gen i rhywbeth i'w ddweud! Pan mae gen i amser i ysgrifennu, does gen i ddim byd i'w ddweud! Beth bynnag, yn ôl at y gwaith.Mae fy nhraethawd i'r wythnos hon yn wahanol i bob un arall dwi wedi eu cael ers dod i Gaer-grawnt. Traethawd yn cymharu A Room of One's Own a Three Guineas sydd gen i ac er nad nofelau yw'r ddwy ysgrif, maen nhw'n dra gwahanol i'r...

Y cyfnod diweddar via glas June 23rd, 2007 at 15:07

Mae hi'n dros bythefnos ers i mi ysgrifennu yma ac mae tipyn wedi digwydd ers hynny - Palesteina yn ceisio curo'r Fatican a dod yn wlad leia'r byd, Bernard Manning yn marw a Tal Ben-Haim yn arwyddo i Chelsea. Mae digwyddiadau yr un mor bwysig ond llai cosmig wedi bod yn fy mywyd bach i.Gorffenais fy arholiadau ddydd Mawrth diwethaf a dwi wedi bod yn mwynhau fy hun yn ddi-hid ers hynny yn diota a gor-fwyta. Fe wnai sôn mewn mwy o fanylder yn fy negeseuon nesaf.Sut bynnag dwi wedi bod yn llenwi fy amser, mae'r ffaith trist yn aros bod y flwyddyn academaidd wedi dod i ben a byddai ddim yn gweld rhai ffrindiau am dri mis a falle ddim yn gweld rhai eraill am flynyddoedd neu fyth eto...

Access via glas April 7th, 2007 at 01:33

Mae gan bob coleg rhai awdurdodau addysg i'w targedu i ddod â myfyrwyr o gefndir na fyddai fel arfer yn ystyried ymgeisio i Gaer-grawnt i'r Brifysgol. Gan fod disgwyliadau academaidd Caer-grawnt yn eitha uchel, mae codi ymwybyddiaeth gyffredinol o fudd Prifysgol yn rhan o raglenni colegau fel arfer hefyd. Mae Coleg y Brenin, fy ngholeg i, yn adnabyddus am gael y canran uchaf o fyfyrwyr o ysgolion y wladwriaeth ac yn un o'r colegau mwyaf egniol wrth geisio denu ymgeiswyr "not from traditional backgrounds." Dyw Coleg y Brenin ddim yn wag o fyfyrwyr ysgol bonedd ac mae canran eitha sylweddol yn dod o ysgolion gramadeg yr Home Counties, ond mae enw da (neu ddrwg, yn nhyb rhai) ganddon ni fel coleg sy'n trio'n galed i agor drws Caer-grawnt i bawb.Eira! O ffenest y gwestyGyda hynny mewn golwg,...

Y gorwel, yn y ddau gyfeiriad via glas April 1st, 2007 at 16:09

Dwi dal yng Nghaer-grawnt er bod y tymor wedi dod i ben ers tua pythefnos. Mae hi wedi bod yn bythefnos brysur iawn. Y bwriad oedd aros yma i gael fy ngwynt ataf ar ôl i'r tymor orffen a dechrau ar yr adolygu, ond mae hi wedi troi allan yn dra gwahanol.Mae cyrsiau gradd Caer-grawnt wedi eu rhannu'n ddau - Part I a Part II. Mae Part I yn para dwy flynedd mewn hanes felly mae pump arholiad ar y pump cyfnod dwi wedi eu hastudio dros y pump tymor diwetha gen i mewn tua dau fis.ARGH.Mae fformat yr arholiadau i gyd yr un fath - tair awr, tri traethawd. Ar un olwg, mae hyn yn olreit gan mai dim ond un "techneg" arholiad, h.y un math o draethawd, sydd angen ei berffeithio. Y broblem yw bod hyn yn golygu adolygu ( / dysgu) lot fawr o wybodaeth mewn amser byr. 8 pwnc (traethawd wythnosol) X 5...