
Wel heddiw fe fues i mewn piced a phrotest tu fas i gaffi Costa Coffee yn Aberystwyth yn brwydro yn erbyn cyfalafiaeth ryngwladol a globaleiddio. Agorodd siop goffi Costa Coffee yn Stryd Fawr Aberystwyth heddiw. Roedd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg wedi trefnu piced trwy’r tu fas i’r siop a phrotest gyda siaradwyr amser cinio. Es i ar gyfer y brotest. Mae tri pheth yn benodol yn fy nghythruddo am y siop – dim arwyddion Cymraeg, dim cynnyrch lleol, a dim caniatâd cynllunio. Yr olaf sydd wedi cythruddo caffis bach annibynnol y dref. Does gan Costa ddim caniatâd i agor caffi, dim ond siop cymryd i ffwrdd. Ond dydyn nhw’n poeni dim am hynny gan fod ganddyn nhw’r adnoddau i ymladd unrhyw benderfyniad gan adran gynllunio’r Cyngor Sir yn eu herbyn. Felly wrth i...