Welsh Blogs.com


Mark Driscoll yn Llundain via Blog Rhys Llwyd July 14th, 2008 at 17:43

Dwi newydd ddychwelyd adre ar ôl ychydig ddyddiau ar y ffordd. Yn gyntaf fe es i i Gaerfyrddin i groesawu Menna nôl, roedd hi wedi bod yn teithio ers bron i fis – dwi'n eithriadol o falch ei bod hi nôl yng Nghymru nawr a hynny yn saff a diogel! Fe es i ymlaen o Gaerfyrddin i Lundain i glywed Mark Driscoll o Mars Hill, Seattle yn siarad. Fe ges i'r fraint o gael sgwrs gyflym ag ef rhwng un o'r sesiynau ar y dydd Sadwrn. Esboniais iddo fe mae un o'r problemau oeddem ni yn ei wynebu yng Nghymru oedd drwgdeimlad ac amheuaeth o dŷ gwahanol Gristnogion tuag at waith a dulliau Cristnogion eraill boed yn amheuaeth enwadwyr at waith eglwysi Efengylaidd neu amheuaeth eglwysi efengylaidd o waith mwy emerging fel yr ydw i'n ceisio cael fy ngafael ynddi. Roedd cyngor Driscoll yn ddoeth iawn sef...

Tân yn y Tabernacl ond mae’r Gyffes Ffydd yn sefyll yn gadarn! via Blog Rhys Llwyd July 5th, 2008 at 14:25

Neithiwr fe rwygodd tan drwy hen gapel y Tabernacl yn Aberystwyth. Fe gaewyd yr Eglwys bum mlynedd yn ôl a dwi'n cofio mynd i un o'r gwasanaethau olaf yna cyn iddo gau gyda Nhadcu yn pregethu. Wrth gwrs, i anghydffurfwyr nid yw'r adeilad yn bwysig, pobl yw'r eglwys ac nid adeilad. Fodd bynnag roedd i gapel y Tabernacl bwysigrwydd neilltuol yn hanes y ffydd yng Nghymru oherwydd ar y safle yn 1823 y lluniwyd a mabwysiadwyd Cyffes Ffydd enwog y Methodistiaid Calfinaidd. Mae'r gyffes i'w darllen yn llawn YMA (yn Saesneg yn anffodus, er mai Cymraeg, wrth reswm, oedd y gwreiddiol). Mae'r gyffes yn un o'r gweithiau gorau sy'n bodoli yn holl wledydd cred ac yn dangos cymaint o rîn oedd ar Gristnogaeth Cymru ar y pryd, cymaint oedd llaw Duw arnom fel cenedl. Isod ceir crynodeb fer o'r gyffes a...

Beth sy’n bosib mewn saith diwrnod? Creu byd? via Blog Rhys Llwyd March 5th, 2008 at 07:16

Mwy o bigion maes-e...Macsen (maes-e): "Ond onid wyt ti'n dal i gredu bod y byd wedi ei greu gan Dduw mewn saith diwrnod ychydig filoedd o flynyddoedd yn ôl? Mae hynny i fi hefyd yn rwtsh. Croeso i ti fy nghywiro os nad wyt ti!"I mi nid y cwestiwn creiddiol yw 'wyt ti'n credu ddaru Duw greu y Byd mewn Saith diwrnod?' Mae yna sawl cwestiwn tipyn pwysicach sydd angen eu hystyried yn gyntaf cyn dod at gwestiwn y cread. A'r ddau brif gwestiwn sydd angen ateb iddyn nhw cyn dod i drafod y cread ydy'r ddau gwestiwn yma: wyt ti'n credu fod Duw yn holl-alluog a phwerus? Fy ateb i yw ydw. Ac yn ail: wyt ti'n credu mewn gwyrthiau? Fy ateb i yw ydw. Os yw eich atebion i'r ddau gwestiwn yna yn myn tu hwnt gwyddoniaeth, hynny yw ateb yn bositif iddynt, yna rydych chi mynd i ddod at gwestiwn...