Iesu! Aled Jones Williams via Blog Rhys Llwyd
Mae'r theatr a'r ddrama yn gyfryngau pwerus tu hwnt ac o safbwynt Cristion a Christnogaeth mae'r theatr yn sicr a photensial i gyflwyno pobl o'r newydd i Iesu Grist y Gwaredwr. Fodd bynnag trist oedd gweld fod Aled Jones Williams, ac yntau wrth gwrs yn Ficer yn yr Eglwys yng Nghymru, yn defnyddio'r theatr i ymosod ar ein Gwaredwr yn hytrach na'i gyflwyno o'r newydd i genedl sydd wirioneddol angen clywed a deall y newyddion da. Yn y ddrama roedd Iesu, wrth gwrs, yn cael ei actio gan Ferch – nid oedd hynny yn fy nghynhyrfu rhyw lawer ond yn hytrach yr hyn wnaeth fy nigalonni rhyw damaid oedd fod Aled yn portreadu Iesu fel Duw llipa a phathetig. Mi oedd Iesu Grist, wrth gwrs, yn ostyngedig ond mae bod yn ostyngedig yn dra wahanol i fod yn llipa. Er enghraifft cymerwch Ghandi, roedd yn ŵr... Dilyn Iesu nid y traddodiadaeth: gwersi i Eglwys Loegr via Blog Rhys Llwyd
Wedi dwy noson yng Nghaerdydd dwi wedi dianc yn ôl i'r Fro yn barod am seibiant (mi fydda i'n dychwelyd i'r steddfod fory cofiwch). Nol yn Llanddarog fe'm syfrdanwyd i weld fod Tom Livingston yn y Western Mail yn dyfynnu fy mlog, dyma maen dweud:Not everyone is a fan of this mini-Glastonbury [maes b] exising in pararell to the main Eisteddfod, though. Las year Welsh blogger Rhys Llwyd complained of the Eisteddfod's “dark secret” - the huge amount of booze consumed on Maes B. “After the carnage of Maes B my conscience told me I had to say something,” he wrote. “I'm not against drinking, just be sensible and do it in moderation.”Chwarae teg i Tom, maen fy nyfynnu yn ei gyd-destun yn gywir er fe ddylwn ychwanegu mod i yn ffan o wyliau cerddorol ac mae dim ond y diwylliant yfed... Dylanwad llesol yr eglwys ar gymdeithas via Blog Rhys Llwyd
Yn ddiweddar, yn Cristion ac hefyd ar fy mlog, rwyf wedi bod yn annog pobl i edrych tu hwnt i grefydd gyfundrefnol er mwyn ail-ddarganfod Cristnogaeth y Beibl ac ail ddarganfod Crist drostynt hwy eu hunain. Rwyf hyd yn oed wedi cyfeirio at ymadroddion beiddgar fel “Everyday people are leaving the Church and coming Back to God” yn ogystal â “Jesus – OK, Church – No Way!”. Rwyf wedi fy nghyhuddo o ddifrïo'r Eglwys lle mewn gwirionedd fy mwriad oedd herio a chwyldroi'r eglwys. Yn y blogiad yma felly fy mwriad yw tanlinellu o'r newydd beth yw'r eglwys a thanlinellu fod rhaid i ni ymroi i'n heglwysi mewn modd radical a graslon yr un pryd. Maen ystrydebol bellach i gyfeirio a chymharu'r Eglwys a McDonalds - dydy mynd i'r Eglwys ddim yn eich gwneud chi'n Gristion mwy nag y gwnaiff... Dylunio fy nghlawr llyfr cyntaf! via Blog Rhys Llwyd
Dwi newydd anfon fy nghlawr llyfr cyntaf bant i'r wasg. Clawr ar gyfer cyfieithiad Saesneg o lyfr Cymraeg Huw John Huws ydy e: 'Amazing Lives' sef cyfieithiad o 'Am bobl' - llyfr yn rhoi hanes bras 100 o Gristnogion enwog. Dwi ddim wedi dylunio clawr cymhleth a sgleiniog, dim ond un syml ond un sydd dal am ddenu'r llygad... gobeithio.Dylunio Rhys Llwyd - proffesiynnol a...
Flyer cyntaf Llanw 2009 via Blog Rhys Llwyd
Dwi wedi bod yn dylunio'r flyer cyntaf i ŵyl Llanw 2009 p'nawma:Yn chwilio am ddylunydd? Dylunio Rhys... Wncwl John Llanymawddwy via Blog Rhys Llwyd
Heddiw yn Ninas Mawddwy roedd crebrwng dyn arbennig iawn - Wncwl John gynt o fferm Bryn Ucha, Llanymawddwy. Hen gyfaill i'n Nhadcu a'm Mamgu oedd John a'i Wraig Mari - mi fyddai ein teulu ni gyd, pob cangen o deulu mam, yn arfer mynd i aros ar y fferm wythnos olaf Awst yn ddi-ffael. Tan i John a Mari ymddeol i'r Bala rhyw ddeng mlynedd yn ol fe fuodd Mam yn aros ar y fferm bob haf ers ei geni. Roedd apel y fferm i ni fel plant o'r dre yn anhygoel, ro' ni'n disgwyl mlaen yn eiddgar gydol y flwyddyn i gael mynd i Lanymawddwy. Erbyn y blynyddoedd ola ro' ni'n ddigon hen i helpu Wncwl John ac ro' ni'n cael mynd da fe lan y mynyddoedd yn y Defender 90 - dwi dal i gofio llythrennau olaf y registration: "WFF". Wrth edrych yn ol heddiw maen debyg mae mwy o ffwdan nag o help oeddw ni i Wncwl...
Hip-Hop yn Mars Hill via Blog Rhys Llwyd
Maen ymddangos mae nid dim ond pregethu da mae Mars Hill yn Seattle yn deall ond mae ganddyn nhw sesiynnau mawl pen i gamp hefyd. Dyma fideo o'r band oedd yr arwain y mawl ddydd Sul diwethaf, pa mor cŵl yw hwn, mewn capel! Ffantastig! 'Send Me' - Live at MHC | Ballard from Mars Hill Church on...
Llawenhewch yn yr Arglwydd bob amser via Blog Rhys Llwyd
Pan fo pethau yn tueddu i fynd yn anghywir neu beidio gweithio allan fel yr oedde chi wedi ei weithio allan yn eich pen mae yna duedd yndom ni gyd i droi a beio Duw. Ond dwi wedi fy atgoffa o'r newydd heddiw fod y gwrthwyneb yn wir sef mai at Dduw y dyliem droi am gadernid a chysur yn hytrach na rhywun i'w feio. Yn llythyr Paul at y Philipiaid dawn eglur fod croes a gwirionedd Crist wedi ein harfogi i wynebu problemau a helbulon y byd hwn yn ogystal a'n paratoi ar gyfer y daith olaf. Dyma rai enghreifftiau, does dim gwadu fod unigrwydd yn broblem enfawr yn ein cymdeithas heddiw - maen broblem sy'n cael ei guddio drwy ddibyniaeth pobl ar gwmni y teledu a chyfryngau tebyg, neu yn fy achos i a llawer o bobl ifanc: facebook/maes-e/blogs/twitter! Yn adnodau agoriadol yr epistol at y Philipiad... Dylunio crys-t Y Gorlan 2008 via Blog Rhys Llwyd
Dwi wedi bod yn gwneud lot o waith dylunio dros y penwythnos, ddoe a bore ma; y rhan fwyaf mewn paratoad i waith llawer o fudiadau i'r Eisteddfod yng Nghaerdydd. Bore ma dwi wedi bod yn dylunio Crys-T i'r Gorlan, mi fydd mynnychwyr ffyddlon y Gorlan wedi hen arfer gyda'r crys-t thematic blynyddol y mae'r staff yn gwisgo. Thema'r Gorlan eleni ydy Datguddiad 21 a'r syniad am nef a dear newydd sy'n rhydd o unrhyw ofid a phoen. Dyma'r dyluniad/drafft cynta o'r crys-t wnes i weithio arno bore ma:Gwefan y GorlanGwefan fy ngwaith...
Yr Anglicaniaid ac ordeinio Merchaid yn Esgobion: Duw sydd ar gair olaf. via Blog Rhys Llwyd
Maen ddiwrnod mawr i'r Eglwys Anglicanaidd fory gan fod y Synod yn Efrog yn pleidleisio ar y mater o dderbyn merched fel Esgobion. Ni welaf i urnhyw broblem gyda chael Merched ochr yn ochr a dynion yn arwain yr Eglwys - mae'r ddau ryw yn hafael ac mae angen y ddau ryw. Maen gywir i nodi fod gwahanol bobl yn cael eu galw i wahanol rôls o fewn yr Eglwys ond dwi ddim yn meddwl fod hynny o'r rheidrwydd yn golygu fod y split yn digwydd ar linellau rhyw oherwydd fe geir dynion llipa a fyddai'n gwneud arweinyddion ofnadwy ond efallai yn gaffeiliadau yn gwneud tasgau eraill tra ar y llaw arall mae yna ferchaid sy'n arweinwyr naturiol ac yn haeddu'r hawl i ymarfer y rôl yna o fewn yr Eglwys a hynny er lles gwaith y Deyrnas.Rwyf wedi bod yn meddwl yn ddwys am hyn yn ddiweddar ac er mod i'n deall...
Adolygiad o ‘Stop Dating the Church’ gan Joshua Harris via Blog Rhys Llwyd
Cyfarfod drwy ffrind i ffrind gwnaeth Tomos a Ruth. O'r munud y gwnaethon nhw gyfarfod roedden nhw'n ymddangos fel y pâr perffaith. Roedd Ruth yn cynnig popeth roedd Tomos wastad wedi bod yn deheu amdano. Roedd hi'n brydferth, yn allblyg, yn alluog ac yn annwyl – roedd hi wastad yna pan oedd Tomos ei hangen hi. Am y pum mis cyntaf nid oedd modd eu gwahanu. Nid oedd angen i Tomos edrych ymhellach, byddai'n dweud wrth ei ffrindiau: “Hi yw'r Un!” Bellach mae tair blynedd wedi pasio heibio. Mae Tomos yn parhau i fwynhau'r cysur a'r cwmni o fod gyda Ruth, ond mae'r sbarc a'r cariad cyntaf wedi diflannu. Mae Tomos yn sylwi fwy fwy ar wendidau Ruth. Nid yw'n siŵr os ydy Ruth mor brydferth ag oedd hi unwaith ac mae'r wefr o fod gyda'i gilydd wedi ei golli. Un noson dyma Ruth yn holi Tomos... Ydy bod yn Gymro a bod yn Gristion yn synonymous? via Blog Rhys Llwyd
Cyn i fy Nhad-cu droi at Grist yr hyn wnaeth ei sbarduno ef i feddwl yn ddyfnach am ei berthynas (neu ddiffyg ar y pryd) gyda Duw oedd iddo dderbyn pamffled oedd a'r teitl brawychus GOD HAS NO GRAND CHILDERN. Byrdwn neges awdur y bamffled y diwrnod hwnnw oedd y ffaith fod rhaid i bawb ddod i adnabod yr Iesu drostynt hwy eu hunain. Nid oes unrhyw un yn etifeddu perthynas a Duw ar sail ffydd ei rieni neu am ei fod yn aelod o genedl a thraddodiad Cristnogol fel, meiddia i awgrymu, Cymru. Mae'r Beibl yn glir y bod pawb yn dechrau yn yr un man mewn perthynas a Duw does ots am unrhyw gefndir neu fagwraeth Gristnogol. Gwrandewch ar yr apostol Paul, mae'n dechrau gyda'r cwestiwn rhethregol: 'Felly beth ydyn ni’n ei ddweud? Ydyn ni Iddewon yn well yng ngolwg Duw na phawb arall?' cystal i ni ofyn...
Effaith mynychu Prifysgol ar dueddiadau crefyddol via Blog Rhys Llwyd
Ar hyn o bryd dwi wrthi yn darllen cyfrol gyntaf 'Ffydd ac argyfwng Cenedl' ac maen chwith gyda mi gyfaddef mae dyma'r tro cyntaf i mi weithio trwyddi er mod i'n dod i ddiwedd fy ail flwyddyn yn gwneud doethuriaeth am R. Tudur Jones, awdur y gyfrol!Yr hyn a'm trawodd heno oedd darllen ystadegyn am yr 1890s oedd yn dweud mai dim ond 10 y cant o blant yr eglwysi fyddai'n parhau'n aelodau eglwysig wedi iddynt fudo i Lerpwl ar dinasoedd mawrion i weithio. Mor debyg yw'r phenomenon ymysg myfyrwyr Cymraeg heddiw o gael eu derbyn yn gyflawn aelod neu eu bedyddio jest cyn mynd i'r coleg yna wedi cyrraedd Aberystwyth, Bangor neu lle bynnag ni fyddant yn twllu cyfarfod am dair mlynedd heb son am ymroi yn llawn i fywyd eglwys tra yn y coleg. Maen amlwg fod had problem heddiw wedi ei hau yn...
Rhyddid a Hunanlywodraeth yw’r asgwrn cefn a’r ffydd Gristnogol yw’r sbeinal cord via Blog Rhys Llwyd
Fe ddoes ar draws llythyr difyr a phwerus tu hwnt heddiw yn yr archifau. Llythyr ydyw oddi wrth R. Tudur Jones at Gwynfor Evans. Mae yna dri peth ysgytwol sy'n sefyll allan i mi:1. Yn gyntaf beirniadaeth RTJ o duedd y blaid tua diwedd yr wythdegau i goleddu "sosialaeth". Ddim bod RTJ yn wrth-sosialaidd ac yn Dori, ddim o gwbl, roedd RTJ yn hytrach yn credu mewn cydweithrediaeth, neu'r drydedd ffordd. Maen trafod hyn ym mharagraff cyntaf y llythyr.2. Dibyniaeth a chred lwyr RTJ ym mhenarglwyddiaeth Crist cyn unrhywbeth arall, gweler hyn yn yr ail baragraff.3. Cred ddiysgog RTJ fod tynged wleidyddol ac ysbrydol Cymru yn dod law yn llaw. Gwelir hyn yn y dair paragraff olaf.4. Beirniadaeth gwbl ddi-flewyn-ar-dafod RTJ o'i enwad ef yr Annibynwyr oherwydd dylanwad (i.) traddodiaeth sy'n ymylu...
Ysblander Frenin Nef (cyflwyno emyn newydd) via Blog Rhys Llwyd
Dyma un o fy hoff emynau cyfoes ar hyn o bryd Ysblander Frenin Nef (The Splendor of the King) gan Chris Tomlin. Recordiad o fand addoli Llanw ydyw - nid yw safon y sain yn y fideo yn dda o bell ffordd ond gobeithio y bydd yn rhoi rhyw syniad i chi o'r emyn.YSBLANDER BRENIN NEF,Mawredd sy’n Ei wedd,Gadewch in lawenhau, dewch i lawenhau,Mae’n gwisgo golau purMae’n treiddio’r tywyll-dirSy’n crynu’n sŵn Ei lais, yn crynu’n sŵn Ei lais.Mor fawr yw ein Duw,cenwch fryMor fawr yw ein Duw,fe welwn niMor fawr, mor fawr yw ein Duw.Fe saif o oes i oes;Mewn grym teyrnasa’n ddoethO’r dechrau a hyd byth, dechrau a hyd bythYn Drindod, Ef yw’r Tad,Y mab a’r Ysbryd GlânY llew a’r oen yn un, y llew a’r oen yn un.Enw’r uchaf Un,Haedda’n mawl i gydFe ganwn niMor fawr yw ein...
Wedi meddwl mynd i’r capel ond y pyb yn fwy atyniadol? via Blog Rhys Llwyd
Faint o’r gloch mae’r cwrdd dydd Sul? via Blog Rhys Llwyd
Nid yw mynd i Capel yn boblogaidd dyddiau yma ond hyd yn oed os byddech chi eisiau mynychu cwrdd ar y Sul maen arbennig o annodd gwneud hynny oherwydd nad oes unrhyw ffordd o wybod faint o'r gloch mae'r gwasanaethau. Dim ond nifer fychan iawn iawn o Eglwysi Cymraeg sydd a gwefannau felly dwi wedi cychwyn llenwi map google gyda lleoliadau Eglwysi Cymraeg ynghyd ac amseroedd eu cyrddau. Hyd yma dwi ond wedi rhoi gwybodaeth yr Eglwysi mae gennyf gyswllt a nhw ac felly yn digwydd gwybod y lleoliad ac amseroedd y cyfarfodydd, os ydych chi am i mi ychwanegu eich eglwys chi cysylltwch gyda mi.Yn ein dydd ni gyda cyn lleied yn mynychu'r cwrdd maen gwbl hurt nad ydy'r Eglwysi yn gwneud mwy o ymdrech i adael pobl i wybod lle a phryd maen nhw yn cwrdd. Gobeithio bydd y map yma yn gymorth:View Larger...
Tystiolaethu’n Ddigidol a’r Emerging Church via Blog Rhys Llwyd
Fel y soniais ar y blog ddiwedd wythnos diwethaf fe wnes i fynychu Cynulliad Oedolion Ifanc yr Annibynwyr dros y penwythnos lle roeddw ni'n siarad ar y testun Tystiolaethu'n Ddigidol a'r Emerging Church. Dyma grynodeb o'r neges, ar waelod y postiad mae dolen i chi islwytho'r anerchiad yn llawn fel PDF. Gellid dadlau gyda chryn argyhoeddiad fod dylanwad Cristnogaeth ar Gymru wedi bod cyn gryfed os nad yn fwy, dyweder, na dylanwad Marcsiaeth a'r Rwsia. Mae gan Gymru, yn ddi os, hanes gyfoethog o fod yn genedl sydd wedi ei chyffwrdd a'i ddylanwadu gan Gristnogaeth ond gadewch i ni edrych ar y sefyllfa heddiw. Fe ddywedodd 71% (sef dros ddwy filiwn o bobl) ohonom ni ein bod ni'n Gristnogion yn y cyfrifiad diwethaf. Ar bapur felly mae'r Cymry yn Gristnogion ac mae Cymru'n wlad Gristnogol o... COI 2008 - Cristnogaeth a Thechnoleg via Blog Rhys Llwyd
Penwythnos yma mi fydda i yn mynychu Cynulliad Oedolion Ifanc (COI) yn Annibynwyr ar y thema: "Dewch i addoli, dathlu, mwynhau'r cymdeithasu, rhannu gwybodaeth a thrafod defnydd Cristnogol o'r dechnoleg newydd!" Oce nid thema oedd hwna, ond dyna oedd y tag line ar Facebook i'r digwyddiad. A dyma, yn fras, beth fydd rhaglen y penwythnos:Nos Wener7.00 Croeso, defosiwn (Rhodri, Hawys ac Andras a’r band!)7.20 Torri’r Iâ (Hawys)8.00 Blogio’n enw’r Iôr (Dafydd Tudur) (Wedi’i ddilyn â thrafodaeth/ cyfnod o weddio)Dydd Sadwrn10.00 Defosiwn ac Addoliad (Andras a'r Band)10.30 Coffi11.00 Beibl.net/Gobaith i Gymru (Arfon Jones) Trafodaeth11.45 Tystiolaethau Digidol a'r Emerging Church (Rhys Llwyd) Trafodaeth i ddilyn12.30 Cinio2.00 Trafodaeth gyffredinol ar yr hyn y gellid ei wneud yn...
Cenedlaetholdeb Gristnogol: ateb dadl “hen ferchetan” via Blog Rhys Llwyd
Ar y blogiad yma yn trafod Cenedlaetholdeb Gristnogol R. Tudur Jones fe adawodd hen ferchetan y sylwad diddorol a heriol canlynol:Allaim gweld unrhyw gyslltiad o gwbwl Rhys. Doesna ddim cysylltiad amlwg rhwng Cristnogaeth a Chenedlaetholdeb - mae'r syniad fod yr hen athiestaid na wedi pylu y gefnogaeth i genedlaetholdeb yn nonsens.Rhydd i bawb ei ddehongliad ond ni all neb sydd ond wedi gwario cyn lleied a phum munud yn astudio Hanes Cymru wadu fod cysylltiad cryf os nad an-wahanadwy rhwng Cristnogaeth a Chenedlaetholdeb yng Nghymru. Cymer er enghriafft yr olyniaeth yma sydd yn cael ei chyfri fel un olyniaeth o Genedlaetholdeb Gymreig:Dewi Sant>John Penry>Griffith Jones>Michael D. Jones>Emrys ap Iwan>Saunders Lewis>Lewis Valentine>J.E. Daniel>Gwynfor Evans>R. Tudur JonesMaen nhw oll yn...
Plaid Cymru a moesoldeb Gristnogol via Blog Rhys Llwyd
Yn archifau Dr. Tudur bore me dois ar draws llyfr nodiadau gyda anerchiadau ac areithiau o'i eiddo mewn llaw fer a draddododd mewn ralîau a chyfarfodydd Plaid Cymru yn ry 1950au. Dyma fy ffefryn i:Nid rhywbeth a dyfodd dros nos yw bwyd cenedl ond tyfiant araf dros y cenedlaethau. Y mae gwin y gorffennol wedi ei gostrelu yn ein harferion, a'n hiaith a'n dull o fyw. Ac os collir y gwin hwn collir rhywbeth na ellir byth ei ail gynhyrchu. Y peth tristaf ynglŷn â Chymru ar hyn o bryd yw'r perygl enbyd i'r cwbl yma fynd ar goll. A hynny oherwydd y gwrthodir inni'r rhyddid teg i fynegi cyfoeth ein traddodiad. Atelir ni ymhob rhyw fodd... Beth allwn ni ei wneud? Sylwch mai cwestiwn moesol yw hwn, cwestiwn ynglŷn â'n hagwedd at fywyd dyn ar y ddaear, at gymdeithas a dyfodd dros lawer o... Gwerth Cristnogaeth i’r gymdeithas yn gyffredinol via Blog Rhys Llwyd
Tynnodd Menna fy sylw at y stori ddiddorol yma oedd yn y Times heddiw:Hunger to put faith into action is frustrated by secularist agendaJesus commanded: “Love thy neighbour as thyself.” The Church will undoubtedly be strongly criticised by secularists and politicians for interfering yet again in politics. But all it is doing is attempting to fulfil its gospel mandate to help others. What the report shows is a Church heavily engaged in social welfare through its dioceses, cathedrals, bishops, priests and laity, and receiving little or no recognition from the Government. Research shows that more than 50,000 churchgoers are regularly involved in church-based or church-backed social action, such as helping the poor, elderly or disabled. A similar number of churchgoers are involved in...
Tystiolaeth o “Fedydd yr Ysbryd Glan” yn archifau Dr. Tudur II via Blog Rhys Llwyd
Tystiolaeth o “Fedydd yr Ysbryd Glan” yn archifau Dr. Tudur I via Blog Rhys Llwyd
Dwi bellach yn adnabod fy hun fel Caresmatig-Diwygiedig ac dwi'n argyhoeddedig fod Duw yn, ac bod yn rhaid i Dduw anfon tywalltiad nerthol i lawr i unigolion ac i'r Eglwys trwy'r Ysbryd Glan. Dwi ddim yn meddwl fod y tywalltiad yna yn amod iachawdwriaeth a dwi ddim chwaith yn meddwl fod y tywalltiad yna yn amod sicrwydd ffydd ond mae, fe dybiaf, yn mynd a chi yn nes at Dduw ac yn eich gwneud chi, a'r eglwys, yn offeryn mwy effeithiol i dystiolaethu. Wythnos yma yn yr Archifdy fe ddois ar daws dau hanesyn difyr gan ddau unigolyn fu'n gohebu ac R. Tudur Jones, y naill yn adrodd sut y bu iddynt gael "ail fendith" neu "bedydd yr Ysbryd Glan" a hynny nid er mwyn dod a nhw yn Gristnogion oherwydd roedden nhw yn Gristnogion eisoes ond er mwyn dod a gwefr a profiad dyfnach o Dduw iddynt:Y cyntaf... Llythyr i’r Pedair Tudalen via Blog Rhys Llwyd
Mae'r Pedair Tudalen, sef pedair tudalen cyffredin y tri papur enwadol wythnosol wedi cyhoeddi llythyr o'm heiddo i wythnos yma. Gan y tybiaf mae bychan iawn yw nifer darllenwyr y blog sydd wedi tanysgrifio i'r Goleuad, Y Tyst neu Seren Cymru dyma gyhoeddi'r llythyr yma hefyd. Gosod her ac nid beirniadu oedd diben y llythyr ond rwy'n barod am "frosty responce" ys dywed y Sais:Annwyl Olygydd, Cynhyrfus yn wir oedd clywed yr Annibynwyr yn ddiweddar ar donfeddi'r BBC yn beirniadu Esgobaeth Tŷ Ddewi am ddiffyg dwyieithrwydd yn eu caffi a'u canolfan groeso newydd. Mwy cynhyrfus byth oedd clywed yr Annibynwyr eto fyth yn galw ar Eglwys Loegr i ymddiheuro am ferthyru John Penry, ein John Penry ni, nol yn 1593. O roi fy mhen ar y bloc maen debyg y buaswn yn cymryd ochr yr Annibynwyr yn y ddau...
Obama a’i berthynas a’i Eglwys via Blog Rhys Llwyd
Fe ddois ar draws y fideo difyr isod ar wefan y BBC bore ma. Yn y datganiad mae Barack Obama yn cyhoeddi ei fod yn ildio ei aelodaeth Eglwysig o'i Eglwys yn yr UDA. I ddechrau yr hyn sy'n drawiadol yw y modd cwbwl agored maen trafod ei ffydd, "It was here" meddai am yr Eglwys "that i found Christ." Ond mae hefyd yn ddifyr iawn sut y bo Obama yn bendant iawn fod angen gwahanrwydd o ryw bellter rhwng gwleidyddiaeth y dalaith a'r eglwys ac ei fod yn credu y bydd ei ymddiswyddiad fel aelod o'r Eglwys yn rhyddhau'r Eglwys i fynd yn ôl at ei phriod waith sef moli Duw. Fideo: Obama breaks with Chicago...
Plaid Cymru yn jerimandro tuag at Ewrop? via Blog Rhys Llwyd
Mae Dyfrig Jones (Golygydd bARN) ar ei flog 'answyddogol' yn datblygu i fod yn aelod mainc gefn tra effeithiol i Blaid Cymru yn fy nhyb i. Mae Dyfrig fel y fi a llawer o'm cymfeillion yn parhau i fod yn aelodau o'r Blaid ond wedi llawn ddeall erbyn hyn fod rheolau'r gêm wedi newid. Mae dyddiau amddiffyn y Blaid doed a ddelo "er budd y genedl" wedi hen basio a hynny oherwydd fod y Blaid bellach mewn llywodraeth. Anghyfrifol, an-nemocrataidd ac yn sicr ang-Nghristnogol, a dweud y lleiaf, yw amddiffyn unrhyw Blaid doed a ddelo os yw'r Blaid honno mewn llywodraeth ac yn hynny o beth rwy'n gwerthfawrogi safiad ac arweiniad Dyfrig yn arbennig felly gan ei fod yn newyddiadurwr blaenllaw hefyd yn nhraddodiad anrhydeddus Alwyn D. Rees.Yr achos diweddaraf i Dyfrig godi yw'r busnes yma o jerimandro... Rol arweiniol merched yn yr Eglwys? via Blog Rhys Llwyd
Fel un sydd wedi fy nghyhuddo yn ddiweddar o gymylu efengyl syml iachawdwriaeth Iesu gyda materion "eilradd" gwleidyddol a diwyllianol fe wnes i dagu ar fy nghorn fflêcs heno ma wrth ddod ar draws y frawddeg yma ar flog tra diwygiedig:"...women presbyters – the first sign of a man losing his evangelical moorings would be his support for them."O fy nealltwriaeth i o efengyl iachawdwriaeth nid yw eich barn am rôl merched o fewn yr Eglwys yn dod i mewn i'r hafaliad o gwbl! Ond ymddengys ei bod hi'n dderbyniol mewn rhaid cylchoedd i nodi rhai materion eilradd fel "rol y ferch" o dragwyddol bwys i'ch "evangelical moorings"; fodd bynnag ar y llaw arall fod materion eilradd fel "pwysigrwydd amddiffyn diwylliant" ddim yn bwysig o gwbl! Yn ôl diffiniad y blogiwr yma maen ymddangos mod i wedi... Diwylliant Cristnogol yn rhyw high-brow? via Blog Rhys Llwyd
Dwi'n meddwl fod tystiolaeth Gristnogol wastad wedi cael y broblem o fod yn 'high-brow' a dwi cymaint a neb wedi gwneud fy siar yn cyfrannu i'r broblem yma, rwy'n ymddiheuro. Pan yn coleg roeddw ni ac eraill wedi tybio fod y model cyfarfod undeb Cristnogol o gael darlithydd neu weinidog i draethu ar bwnc trwm wedi apelio nol yn y 70au a bod tyrfa niferus yn mynychu'r cyfarfodydd ond fod y model yna ddim mynd i weithio heddiw, wrth reswm. Ond fe ddoes ar draws tystiolaeth yn awgrymu fod y model ddim yn gweithio yn y 70au chwaith ac fod y cyfan yn cael ei gynnal yn yr ysbryd cywir maen siŵr ac fod y cymhellion yn gywir ond yn anffodus yn rhy 'high-brow' i fod yn unrhyw gyfrwng effeithiol i genhadaeth.“Cafwyd blwyddyn gymharol lwyddiannus eleni. Mae gennym gnewyllyn o tua hanner dwsin o...