Welsh Blogs.com


Atebion i’r angaramau awduron via Blog Dogfael October 7th, 2008 at 21:14

image Ar gais sawl un dyma’r cwestiynau a’r atebion i’r cwestiwn anagramau awduron a osodais yn y cwis ar gyfer myfyrwyr y flwyddyn gyntaf yn Adran y Gymraeg, Prifysgol Aberystwyth yr wythnos diwethaf. 1. BREAK OTTERS 2. DADDY FLAG WIMPY 3. JAWS DIM ILL 4. NEON ORGY WOW 5. LEADEN WINO 6. NANNY ELF ME 7. DID WHOOPER MORE 8. AIRMAIL BUY SWELLS 9. FARTHINGS FIN 10. A SNOWMOBILE WRITER Mae’r atebion yn dilyn yma. 1. Kate Roberts. 2. Dafydd ap Gwilym. 3. D J Williams. 4. Goronwy Owen. 5. Daniel Owen. 6. Menna Elfyn. 7. Mererid Hopwood. 8. William Salesbury. 9. Ann Griffiths. 10. Wiliam Owen Roberts. Note: There is a rating embedded within this post, please visit this post to rate it. Bookmark and Share More »Powered by...

Cwis yr Adran Gymraeg 2008 via Blog Dogfael October 4th, 2008 at 21:38

image Dwi ddim yn gwybod a ydw i wedi bod yn cynnal noson gwis i staff a myfyrwyr blwyddyn gyntaf yr Adran Gymraeg ym Mhrifysgol Aberystwyth yn ddigon hir i’r peth gael ei ystyried yn draddodiad. Ond dwi’n credu taw eleni oedd fy mhedwerydd cwis a dwi wedi dysgu wrth i’r blynyddoedd fynd yn eu blaenau nad y cwis yw’r peth pwysig, ond y cyfle i’r myfyrwyr a’r staff i ddod i adnabod ei gilydd yn well. Felly mae natur y cwestiynau wedi newid gyda’r pwyslais yn fwy ar y math o gwestiynau a fyddai’n gofyn i bobol drafod gyda’i gilydd a chytuno (neu anghytuno!) ar atebion. Eleni roedd y cwis yn cael ei gynnal yng Nghlwb Rygbi Aberystwyth – ac roedd hi’n noson ddifas iawn o ran tywydd. Eto i gyd daeth nifer go dda at ei gilydd yn fyfyrwyr...

Dydd Gŵyl S. Siôr hapus! via Blog Dogfael April 23rd, 2008 at 07:23

Dydd Gŵyl S. Siôr hapus i holl ddarllenwyr Blog Dogfael. Dyma’r atebion i’r Cwis S. Siôr a osodais echdoe. 23 Ebrill Twrci 303 Rupert Brooke (1915; Lemnos, Gwlad Groeg) Golff amatur Gwlad Pwyl (Kazimierz, Casimir, yw ei nawddsant) Robert Baden-Powell Edward III Malta/Melita Sid James (George Russell), Peggy Mount (Gabrielle Dragon) Note: There is a rating embedded within this post, please visit this post to rate it. Rhanna hwn...

Cwis yn Llanbadarn Fawr via Blog Dogfael April 20th, 2008 at 23:39

image Nos Wener bues i mewn cwis i lansio apêl leol Llanbadarn Fawr i godi arian tuag Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd sydd yn cael ei chynnal rhywle yng Ngheredigion yn 2010. Roedd y cwis yn cael ei gynnal yn ystafell gefn y Llew Du yn Llanbadarn ac roedd y lle’n orlawn gydag 11 o dimau yn amrywio mewn maint o ryw 4 hyd at 8 (os nad mwy). Golygai hynny fod na awyrgylch da yno a thipyn o sbort. Fi oedd yn arwain y cwis ac fe holais gwestiynau yn dilyn fy mhatrwm arferol. Gan ei bod hi’n Ŵyl S. Siôr yr wythnos hon fe wnes i rownd fer ar S. Siôr. Dwi ddim yn credu bod llawer o’r rhai oedd yn bresennol yn disgwyl cael rownd ar y pwnc, ond roedd yn chwa o awyr iach, ac yn gyfle inni affirmiadu ein cyd-ddiwylliant ar yr ynys hon. Wyt ti’n gwybod yr atebion i’r...

Cwis hanner tymor i ddysgwyr, Merthyr 3.4.08 via Dysgwyr De Ddwyrain March 27th, 2008 at 15:03

Cymdeithas Gymraeg BeddllwynogCwis hanner tymor i ddysgwyr - Gwnewch rhywbeth Cymraeg dros y gwyliau. Croeso i bawb, mynediad am ddimYn: Tafarn y Rheilffordd, BeddllwynogDydd Iau 03/04/2008 Am:...

Faint wyddost ti am Ddewi Sant? via Blog Dogfael March 2nd, 2008 at 22:33

image Un o’r rowndiau yn y cwis nos Wener yn Nhal-y-bont oedd un ar Dewi Sant. Gan ei bod hi’n ddydd Gŵyl Dewi ddoe dwi am rannu’r cwis gyda chi. Mae’r atebion ar waelod y cofnod. Pwy oedd tad Dewi? Pwy oedd athro Dewi yr iachaodd yn wyrthiol o’i ddallineb? Fe aeth Dewi ar bererindod i Rufain gan fynd â dau o’i gyfeillion yn gwmni. Enwch un o’r ddau. Yn ôl traddodiad beth oedd hoff ddiod Dewi Sant – seidr, cwrw, neu ddŵr? Beth oedd enw’r llecyn yn Nhyddewi lle cododd Dewi ei eglwys? Ble cynhaliwyd y cyfarfod lle roedd Dewi yn pregethu ac y cododd y ddaear o dan ei draed? Yn y synod honno yr oedd yn pregethu yn erbyn syniadau un gŵr yn benodol. Pwy oedd hwnnw? Pwy a ysgrifennodd hanes bywyd neu fuchedd Dewi? Fel arfer mewn darluniau caiff...

Cwis dafarn yn Nhal-y-bont via Blog Dogfael March 2nd, 2008 at 21:43

image Dwi wedi cael penwythnos prysur, dwi wedi bod y fan hyn a’r fan ‘co yn gwneud y peth hyn a’r peth arall. Dechreuodd y cyfan nos Wener, 29 Chwefror, pan es i allan i Dal-y-bont i gynnal noson ar gyfer y Clwb Nos Wener sy’n cwrdd yn y Llew Du yno. Roeddwn i wedi paratoi cwis tafarn. Roeddwn i’n tybio y byddwn i’n adnabod y rhan fwyaf a fyddai yno ac ni chefais fy siomi. Ond fe gafwyd noson ardderchog ac fe wnes i fwynhau mas draw. Dwi ddim yn gwybod am y pynters eu hunain, ond roeddwn i’n credu fod ‘na ysbryd reit dda yno ac fe wnaeth pawb ymroi i’r cwis. Cyn mynd i’r cwis roeddwn i wedi cael gwahoddiad i swper gan gyd-weithiwr a’i deulu ac roedd hynny’n brofiad dymunol iawn. Wedi swper fe dreuliasom beth amser yn...

Cwis yn Bow Street via Blog Dogfael February 28th, 2008 at 00:18

image Dyma dusw o gennin Pedr a gefais fel rhodd am fynd mas i Bow Street i gynnal cwis ar gyfer aelodau clwb Os mêts yng Nghapel y Garn. Roedd hi’n noson i ddathlu Gŵyl Dewi ac felly cyn y cwis fe gawsom ni gawl, pice bach a bara brith. Blasus iawn. Fe wnes i fwynhau mas draw, dwi ddim yn siŵr am y bobol ifainc, er fe wnaeth y rhan fwyaf ohonyn nhw lwyddo i guddio’u diflastod am ryw gyfnod yn ystod y noson! Cefais groeso mawr gan bawb ac roedd hi’n bleser cael bod yno. Weithiau dwi’n holi fy hun pam fy mod yn addo gwneud y pethau hyn, ond roedd hi’n werth addo er mwyn cael noson fel hon. Rhagor o luniau o’r noson a’r cennin Pedr. Note: You can rate this post by visiting the site. Rhanna hwn...

Cwis Plaid Cymru yng nghlwb golff Capel Bangor via Blog Dogfael January 27th, 2008 at 23:11

image Dwi’n falch o ddweud nad oedd y penwythnos yn un rhy brysur. Roedd digon i’w wneud, ond roeddwn i’n teimlo fy mod â phopeth o dan reolaeth (bron â bod!). Nos Wener fe fues i mas yng Nghlwb Golff Capel Bangor, nid i chwarae golff, ond er mwyn bod yn gwis feistr mewn cwis wedi’i drefnu gan gangen Bro Dafydd o Blaid Cymru. Doeddwn i erioed wedi bod yng Nghlwb Golff Capel Bangor o’r blaen ond gan ei bod hi’n dywyll wrth inni gyrraedd ni chefais gyfle i weld rhyw lawer o’r wlad o gwmpas. Roedd yr adeilad ei hun yn drawiadol o fawr gydag un ystafell enfawr. Doedd dim angen ystafell cweit mor fawr i gynnal y noson, ond fe gafwyd amser da. Roedd ‘na ryw ugain wedi dod ynghyd ac fe ddywedodd pawb eu bod wedi mwynhau. Yn fy marn i roedd popeth wedi...

Cwis yn nhafarn y Cŵps via Blog Dogfael December 5th, 2007 at 22:15

image Nos Lun roedd y Gymdeithas Wleidyddol Gymraeg yn Aberystwyth yn cynnal cwis yn nhafarn y Cŵps. Fi oedd yn cael y fraint o’i gynnal. Daeth rhyw ddwsin at ei gilydd ar gyfer y noson ac fe gafwyd tipyn o hwyl – roedd pawb yn fodlon ymroi i ysbryd y gystadleuaeth. Roedd myfyrwyr ychydig yn brin, ond roedd ‘na gefnogwyr eraill i wneud iawn am hynny. Roedd ‘na saith rownd i gyd. Un wnaeth gydio yn y dychymyg orau oedd rownd o anagramau yn seiliedig ar enwau aelodau’r Cynulliad Cenedlaethol. Tybed a all darllenwyr Blog Dogfael adnabod yr ACau oddi wrth eu hanagramau? BARLEY MILL WINS RHINO RAG DORM WAR COS JENNY LAVA UPSIDE THE JUNTA NEAR DRY JET SILLY KIWI TRAMS LARD RAM LINER HERBAL MANURE ON WHILE WUS Atebion 1. BRYNLE WILLIAMS. 2. RHODRI MORGAN. 3. CARWYN JONES....

mysh o ddarlithoedd a meddwi via Wierdo October 11th, 2007 at 10:30

Mae'r dyddia'n hedfan heibio a dwi wedi bod yn ol yn y brifysgol ers ddigon agos at 3 wythnos. A hwn yw fy mlog cynta ers dod yn ol. Mi wn nad oes esgus am hyn ac ymddiheuraf. Mae'r dyddiau erbyn rwan yn cymysgu'n un mwsh mawr o ddarlithoedd a meddwi.Ond, i fod yn deg dwi wedi bod ym mhob darlith oni bai am un. Sydd yn wych i mi. A'r unig reswm fethish i'r un ddarlith yna oedd achos mod i'n hynnod hynnod hyng-ofyr. A dwi di cal y nodiada i gopiio i fyny felly pw i unrhywun feiddia edrych yn flin arnai am ei fethu!Wedi dweud hyn i gyd, mi fysa'n anodd i mi fethu lot o'n narlithoedd. Dydd off ddydd llun, diwrnod llawn ddydd mawrth, dydd off dydd mercher, bora llawn ddydd iau a mond 2awr dydd gwener. Unwaith dwi fyny yn fy narlithoedd, mi ai i bob un. Codi allan o'r gwely sydd yn...

Cwis Dysgwyr, Croesyceiliog, 19.10.07 via Dysgwyr De Ddwyrain October 9th, 2007 at 15:49

image Cwis Dysgwyr19.10.07Clwb NALGO, Neuadd y Sir/County Hall, Croesyceiliog£2 Rhaid cofrestru o flan llaw / You must register in advance (01495...

Pwy ydwi via Wierdo February 16th, 2007 at 16:20

image Dwi'n caru scrubs. Dwi yn. Fy hoff gyfres ar ol Dr who. Wel, ylwch; Which Scrubs Character Are You Most Like? (14 Results with Pics!) You're JD. You're the crazy, awesome, hilarious best friend we all want. You've got the strangest way of making the world love you, but it's so very effective. You're smart, and a good doctor, but don't burn yourself out, man. We couldn't live without you. Rate and Message, please!Take this quiz!Quizilla |Join| Make A Quiz | More Quizzes | Grab CodeHehe. Hwyl a...

Myfyrwyr bywiog a brwdfrydig! via Blog Dogfael December 6th, 2006 at 00:05

image Ydy myfyrwyr wedi newid? Yr rheswm dwi’n holi’r cwestiwn yw achos fy mod wedi cael noson ardderchog heno yng nghwmni aelodau Cymdeithas Wleidyddol Gymraeg Prifysgol Cymru Aberystwyth. Y cof sy gen i o fyfyrwyr y 1990au yw nad oedd ganddyn nhw lawer o ddiddordeb mewn unrhyw beth. Doedden nhw ddim yn gadael i ddim i’w cyffroi o gwbl; buasai dangos unrhyw fath o frwdfrydedd yn cael ei weld fel gweithred o frad yn erbyn pob myfyriwr arall oedd yn ceisio gwasgu lawr unrhyw emosiwn er mwyn ymddangos nad oedd ganddynt ddiddordeb mewn dim. Dyma’r myfyrwyr pan fyddwn i’n cael cyfle i siarad gyda nhw fuasai’n treulio’u hamser yn edrych ar eu traed neu mas trwy’r ffenest, neu cyfuniad o’r ddau. Ac yn bendant oes oedd ‘na gyfle i ofyn...

Wyt ti’n gwybod beth yw’r ateb? via Blog Dogfael December 6th, 2006 at 00:14

Beth am gystadlu yn erbyn y myfyrwyr. Dyma gwestiynau’r rownd ar wleidyddiaeth Ewrop y cwis heno. Wyt ti’n gwybod yr atebion? 1. Pa wladwriaeth Ewropeaidd yw’r weriniaeth hynaf yn y byd? 2. Pwy oedd llywydd y gynhadledd Ewropeaidd a luniodd yr hyn sy’n cael ei alw yn Cytuniad sy’n sefydlu Cyfansoddiad i Ewrop, ac y mha flwyddyn y cyhoeddwyd y cytuniad terfynol? 3. Pwy oedd arlywydd cyntaf y Ffederasiwn Rwsiaidd wedi cwymp yr Undeb Sofietaidd ac ym mha flwyddyn y cafodd ei ethol? 4. Lluniwyd cyfansoddiad modern yr Almaen gan tri gallu gorllewinol – Prydain, Ffrainc a’r Taleithiau Unedig – yn dilyn yr Ail Ryfel Byd. Gydag ychydig ddiwygio y mae’n dal yr un heddiw. Ond nid yw’n cael ei alw’n gyfansoddiad, felly beth yw enw’r...

Cwis via Blog Dogfael October 6th, 2006 at 21:59

image Fel mae’r byd yn rhannu’n ddau ar fater Marmite , mae’r un peth yn wir am gwisiau. Rydych chi’n eu mwynhau, neu yn eu casáu; does dim man canol. Dwi’n digwydd bod yn rhywun sy’n dwlu arnyn nhw. Pan yn ifanc fe fues i’n anffodus iawn a chystadlu fel rhan o dîm Ysgol Preseli ar y gyfres deledu Trenau Cantamil - dwi’n credu taw dyna’r enw - fe wnaethon ni golli’n rhacs. Ond erbyn hyn roedd y gwis â’i grafangau yn ddwfn ynof fi. Ac felly roeddwn yn cymryd pob cyfle i fod arnyn nhw, ac roedd llwyddo (ac roeddwn i yn llwyddo yn aml) yn bleser pur. Fe ddaeth y cyfan i’w benllanw yn 1990 pan enillais i gystadleuaeth Pennau bach Radio Cymru - rhyw fath o Mastermind Cymraeg ar y radio. Roeddwn i’n gorfod ateb...

Ydych chi’n adnabod y llyfrau a’r emynau hyn? via Blog Dogfael October 6th, 2006 at 22:10

Er mwyn cystadlu yn erbyn myfyrwyr a staff Adran y Gymaeg, PC Aberystwyth dyma gyfle i ddarllenwyr Blog Dogfael geisio ateb un o’r rowndiau. Y gamp yw adnabod y llyfrau a’r emynau oddi wrth llythyren gyntaf pob gair yn y teitl neu’r llinell gyntaf. Er enghraifft, yr emyn I T G Y N yw “Iesu tirion gwêl yn awr”, neu’r llyfr FF A A C yw “Ffydd ac argyfwng cenedl”. Beth am y canlynol? PA LYFRAU? 1. FF C A CH 2. Y LL I 3. U N O L 4. C P S 5. S H L 6. A Y C S Y M 7. Y G S U 8. D P 9. O H G I C G 10. Y B S C PA EMYNAU? 11. A I D I G 12. C G B T 13. D I T Y H DD 14. D G G O D D G 15. M G A R A Y G 16. N W G B M 17. O LL A I 18. T A W Y W O G F D 19. W S RH Y M 20. P W Y S U Atebion i’r cwis....

Cwis Cymraeg, Caerdydd a Merthyr: 5/10/06 via Dysgwyr De Ddwyrain October 4th, 2006 at 16:49

image Dwi eisioes wedi sôn am noson cwis yn Merthyr nos yfory (nos Iau), ond hefyd mae noson 'Cawl a Cwis' ymlaen yn nhafarn y Mochyn Du, Caerdydd fel rhan o ymgyrch apel codi arian at Eisteddofd 2008I've already mentiond a quiz in Merthyr that's taking place tommorow (Thursday), but there's also a 'Cawl a Cwis' night in in the Mochyn Du pub in Cardiff at the same time as part of a fundraising appeal for the 2008 Eisteddfod.Pwyllgor Apel Llandaf, Y Tyllgoed a Threlai. Cwis a Chawl. Dim mwy nag 8 mewn tim. £5 i gynnwys cawl i'w dalu wrth y drws. I gofrestru tim, cysylltwch â Judith James ar 029 2056 3947caerdydd, cardiff, quiz, cwis, eisteddfod2008Generated By Technorati Tag...

Cwis / Quiz, Merthyr Tudful 5.10.06 via Dysgwyr De Ddwyrain September 19th, 2006 at 10:39

Cwis i ddysgwyr a Chymry Cymraeg A quiz for Welsh Speakers and Welsh Learners NOS IAU / THURSDAY - HYDREF 5 OCTOBER TAFARN Y BELLE VUE PUBMERTHYR TUDFUL CWIS I GYCHWYN AM 8YH QUIZ TO COMMENCE AT 8PM Hyd at 6 mewn tîm – rhaid bod o leiaf un person sy’n siarad Cymraeg yn rhugl ac un person sy’n dysgu ym mhob tîm Up to 6 in a team – there must be at least one fluent Welsh speaker and one learner in each team Does dim rhaid i neb ateb cwestiwn yn unigiol - gweithio fel tîm a chael tipyn o hwyl! No one has to answer a question individually – work as a team and have lots of fun! £1.50 yr un / each I gofrestru eich tim cysylltwch â/ To register your team contact 01685 722176 merthyr tudful, cwis, cymraeg, welsh, quiz Generated By Technorati Tag Generator...