Welsh Blogs.com


Unbennaeth Sion Corn via Blog yr Hogyn o Rachub October 21st, 2008 at 15:41

Dros y penwythnos galwais heibio fy hen Arch Gas-gyfaill Dyfed y Blewfran yng Ngwalchmai draw. Gofynnodd imi, yn y modd aneglur, slyriog arferol a fyddai’n well gennyf fyw mewn gwlad ddemocrataidd neu unbennaeth a reolid gan Sion Corn.Wrth gwrs, Sion Corn dywedais heb amheuaeth, ond wedi meddwl am y peth dwi ddim isio rhoi anrhegion i bobl na bwyta twrci bob diwrnod, byddai gyfystyr â’r Almaen Natsiaidd (ac eithrio’r twrci a’r anrhegion). Yn wir, byddai Sion Corn Arweinydd yn rêl cont.Ond mae’n bosibl mai efe sydd wrthi’n ein rheoli eisoes. Cyrhaeddodd y Nadolig i mi bythefnos nôl yn siopa yn Boots ar fusnes o ryw fath, a gweled yr anrhegion yn dechrau pentyrru. Dwi heb weld hysbysebion eto. Mi ddônt yn fuan. 65 sydd tan y Nadolig – sy’n 17.8% o’r flwyddyn o Nadolig...

Technoleg Fodern via Blog yr Hogyn o Rachub September 15th, 2008 at 13:56

Fyddech chi’n meddwl, a minnau’n ŵr ifanc, gwancus tair blynedd ar hugain oed, y byddwn yn cofleidio’r byd modern hwn, ond dydw i ddim. Ddim fy mod i’n tecnoffôb, ond dwi’m ffan fwyaf technoleg. Rŵan, mi fyddai’n hoffi’r hen feicrodon ac yn licio cyfrifiaduron ond mae ‘na ambell beth nad ydw i’n eu hoffi o gwbl.Y SatNav ydi un o’r pethau hyn. I mi, mae’r SatNav yn un o’r dyfeisiadau dibwrpas hynny y mae pobl yn licio’u cael jyst er mwyn dangos eu bod nhw’n fodern. Wn i ddim amdanoch chi, ond mi fedra i ddarllen (mae’n siŵr os ydych chi’n darllen hwn y gallech ddarllen). Be sy’n bod efo cynllunio lle ti’n mynd yn y lle cyntaf, o fap neu drwy ddarllen arwyddion? Dwi ddim yn dallt, de. Ac oes gwaeth na rhywun yn dweud wrthot ti le i fynd beth bynnag?...

Dychweliad y Gwlithod via Blog yr Hogyn o Rachub July 30th, 2008 at 11:48

Dwi bron â cholli’n llais. Ers deffro bora ‘ma, drwy ryw fodd ar ôl y drydedd noson yn olynol o gael llai na pum awr o gwsg, mae’r llais yn grimp a’r gwddw’n cosi. Fel un sy’n hoff siarad (ac yn dueddol o beidio gwrando os gallaf), gan amlaf gyda fy hun ond nid yn anaml ag eraill chwaith, mae’n eithaf ergyd.Mi gollais fy llais o’r blaen, tua dwy flynedd yn ôl erbyn hyn pan drigais yn Russell Street. Roedd hynny’n annifyr achos roedd pawb yn gwneud hwyl ar fy mhen a minnau heb fodd i’w hateb yn ôl.Mae’r slygs yn ôl ‘fyd. Gyda’r tywydd milain mwll yn parhau, sy’n effeithio’n ddybryd arnaf ar ôl ychydig ddyddiau, maen nhw wrth eu boddau ac yn dechrau mynd i mewn i’r gegin yn Stryd Machen. Roedd un wrth y drws cefn echnos, a neithiwr yn crwydro o amgylch...

Diwedd y Byd via Blog yr Hogyn o Rachub July 18th, 2008 at 10:52

Mam bach dydw i ddim yn unigolyn iach. Wel. Dydi hynny ddim yn wir; yn gorfforol felly mae ‘nghorff i’n iwsles a phob math o bethau’n troi ac yn dadleoli, ond pan ddaw at heintiau a chlefydau a phethau felly dwi’n wydn iawn yn gyffredinol. Felly pan fydda i’n sâl go iawn mae’r byd ar ben.Mae’r capsiwlau sy’n rhaid i mi eu cymryd i reoli fy stumog yn rhoi cythraul o gur pen i mi ar y funud. Dim ond y trydydd diwrnod ydyw ers y feddygfa (ofnadwy o braf yn Penham Green, os ca’i ddweud) ac mae gen i gur pen parhaol. Ar ôl mân ymchwil mae 7% o bobl sy’n cymryd y feddyginiaeth dwi arni yn dioddef o gur pen, felly dwi wedi penderfynu fy mod i yn y 7% hwnnw, yn ogystal â bod ymhlith y chwarter o bobl sy’n golchi o’u fyny i lawr yn y gawod.Beth bynnag, dwi bellach yn...

Dim pêl-droed, gormod o Big Brother via Blog yr Hogyn o Rachub June 24th, 2008 at 11:21

Y llynedd ni wyliais Big Brother rhyw lawer. Yn wir, cyfres y llynedd oedd y cyntaf i mi beidio â’i gwylio. Mi wyliais y dechrau a cholli diddordeb yn raddol wrth i bethau fynd rhagddynt. Eleni, mae pethau fwy neu lai’r un peth. Dwi wedi gwylio ambell i raglen ond heb fawr o ddiddordeb, er mi a’i gwyliaf pan nad oes dim byd arall ar y teledu, a fu’n wir neithiwr a minnau’n cael withdrawl symptoms oherwydd y diffyg pêl-droed.Yn wir, dw i ddim yn or-hoff o’r un o’r timau yn y pedwar olaf. Cefnogwn i ddim mo’r Almaen, yn enwedig oherwydd bod dau o’m ffrindiau gorau yn gwneud, ond pwy ddiawl sy’n cefnogi’r Almaen eniwe wn i ddim. Dwi byth, byth wedi licio Twrci, a hynny fwy na thebyg achos dw i’m yn dallt pam eu bod nhw’n chwarae ym Mhencampwriaeth Ewrop tra bod...

Y Cardotyn Nas Ymddiriedaf via Blog yr Hogyn o Rachub June 19th, 2008 at 12:05

Dydi pobl Big Issue ddim yn “working not begging” fel y mae’n dweud ar eu cotiau. Bob tro y bydda’ i’n cerdded o’r gwaith mi fydd o leiaf un yn ohonynt yn erfyn arnaf i brynu'r un olaf. Go iawn wan. Y peth mwyaf od wrth i mi gerdded adref ydi rhywun sy’n eistedd ar ochr y stryd efo’i gap o’i flaen ac ambell i geiniog ynddo. Dydi hynny ddim yn od ond mae’n ddiawledig o od fod ganddo ddigon o bres i liwio’i wallt yn felyn bob tro dwi’n ei weld. Ydw i’n rhy sinigaidd neu a ydi hynny’n od?Iawn, fi sy’n sinig, ond dydi hynny ddim yn beth anodd bod pan fo pawb yn ceisio cael fy mhres, a hynny sy’n ddigon prin fel y mae. Wn i ddim p’un ac ydyw drwy’r prisiau’n codi ond am y tro cyntaf dw i ‘di gwario fy nghyflog cyn i mi gael y nesaf. Ydi, mae’n brifo. Y...

Y Gân Gylchdroi via Blog yr Hogyn o Rachub June 16th, 2008 at 14:09

Cân y funud ydi ‘O ble gest ti’r ddawn?’. Mae gan bawb wastad cân y funud y mae ganddynt obsesiwn â hi. Mae pawb yn hoff o’u cân y funud; mae’n ysbrydoli ac yn rhoi gwên i rywun, ‘blaw os rhyw Emo ydych chi a’ch bod chi’n gwrando am ryw lwmp o gân am hunanladdiad neu’i thebyg. Nid fy mod i’n gwybod beth ydi Emo, ond dwi’n gwybod taswn i yn un, mi fyddwn yn un hen.Rhywbeth arall, fodd bynnag, ydi’r Gân sy’n Cylchdroi yn eich Pen. Mi all hon fod yn unrhyw beth ac mae’n mynd ar nerfau rhywun fatha Sais cofiwch. Yr un diweddaraf i wneud ei thaith o amgylch fy mhen am ryw bythefnos oedd anthem genedlaethol Ffrainc.Y dacteg, yr unig dacteg, i gael y Gân Gylchdroi allan o’ch pen ydi ei chlywed yn ddidrugaredd o aml a dysgu’r geiriau. Go iawn. Ac ydi, mae...

Uwdlyd Fore via Blog yr Hogyn o Rachub April 15th, 2008 at 11:41

Wyddoch chi fi erbyn hyn: mwyn, aeddfed, heb na sarhad na gair drwg am ddim. Ond dwi’n ffwcin flin heddiw a dyna ddiwadd arni. Yr hwn fore roeddwn wedi deffro’n fuan iawn, am tua 7, ac wedi codi erbyn hanner awr wedi. Ew, uwd fydda’n dda, meddyliais, y peth iawn i’m cadw i fynd drwy’r bore hyd fy nghinio.Ni all na Macbeth na chyflafan Peterloo y’i cyflawnwyd dwy ganrif nôl gymharu efo be ddigwyddodd nesaf. Disgynnodd y sosban ar hyd y popty, gan ddymchwel y rhan helaethaf o’r uwd dros fat y gegin. Llefrith ym mhobman. Dw i’n cofio’r union eiriau y bu i mi eu sgrechian yn y gegin, sef “Ffyc, bastad, bolycs”, a hynny atseiniodd ledled Grangetown.Mi gymrodd chwarter awr dda i lanhau’r stôf, ac mi roddais y mat, sy’n gythraul o beth trwm, allan ar y lein yn uwd i...

Y Celfyddydau via Blog yr Hogyn o Rachub April 10th, 2008 at 11:14

Ni fu’r celfyddydau byth at fy nant. Yn wir i chi, pan ddaw at y rhan fwyaf o’m gwaethaf weithgareddau, mae’r celfyddydau yn dod yn agos i frig pob rhestr. Er gweithio yng Nghanolfan y Mileniwm ac ymhyfrydu mewn barddoniaeth Gymraeg , dw i’n un o’r bobl hynny sy’n meddwl bod y celfyddydau, yn gyffredinol, yn ddiflas.Hyd yn oed o ran barddoniaeth dw i’n eithaf cul fy meddwl: dw i’n gwybod bod dweud bod barddoniaeth Saesneg yn rybish yn orsymleiddio ac yn beth ysgubol i’w ddweud, felly gwell i mi ei ddweud: mae barddoniaeth Saesneg yn rybish. Mae hyd yn oed y farddoniaeth Saesneg orau, fel rhai Dylan Thomas ac R.S. Thomas, yn rhai efo tinc Cymraeg iddi. Dw i’n meddwl y byddwn yn chwydu gwaed petawn yn gorfodi dioddef clywed cachu fel cerddi Shakespeare neu Wordsworth am...

Cofiwch y cyfieithwyr… via Blog yr Hogyn o Rachub December 27th, 2007 at 09:54

Dw i’m am sôn am y Nadolig i chi. Mi gefais het, a dyna ddiwedd y ddadl. A chyda’r twrcwn cafwyd combác (neu guinea-fowl, mae’r enwau Cymraeg a Saesneg yn wirion, mi wn) sy’n gyfuniad o borc, twrcwn a chyw iâr, yn dibynnu â phwy y byddech yn siarad â hwy.Dw i’n unigolyn blin ac annifyr ac mi fyddaf am beth amser canys anghofiais wifrydd fy ffôn yn y gogledd, ac mi aeth y batri’n fflat ddoe. Bydd Mam yn ei ddanfon i lawr, wrth gwrs, ond fy mhryder mwyaf yw na fydd yn cyrraedd mewn da bryd i drefnu ba flwyddyn newydd bynnag sydd o’m mlaen. Diolch i Dduw am y rhyngrwyd. Heb hwnnw, mi fyddai modd gennyf i gysylltu â neb. A ddaw neb i’m gweld i drefnu, cewch weld.A dw i ddim chwaith yn edrych ymlaen at y penwythnos. Does neb yng Nghaerdydd. Y fi, a minnau’n unig. Am...

‘Dolig a Rhegi via Blog yr Hogyn o Rachub December 12th, 2007 at 12:01

Os nad yw yfed a bwyta yn ddigon o hwyl, mae rhegi hefyd. Wn i ddim beth ydi o am regi, ond mae’n amhosib rhag atal mewn sawl sefyllfa. Mae’n rhaid i mi gyfaddef mai “ffwc” yn ei niferus weddau ydi, mwy na thebyg, y rheg a ddefnyddiaf fwyaf, yn aml ar ôl cael braw, neu weld David Cameron ar y teledu. Prat.Sôn am regi, mi fyddaf yn gwneud yn aml iawn dros y Nadolig (e.e. “ffycin Nadolig”, “ffwcin Sion Corn” a.y.y.b.). Dw i’n siŵr fy mod i’n ‘di sôn bob ‘Dolig a welodd y flog hon, ond dydw i ddim yn ffan. Boi gwanwyn dwi, yn ymhyfrydu yn gweld y blodau bychain yn tyfu a’r ŵyn ar y dolydd (neu drosedd yn Grangetown, yn hytrach, yn anffodus). Ond does ‘na ddim hud i’r Nadolig bellach, ac fel un sy’n wrthun iawn i fateroliaeth, mae’r Nadolig yn hir.Yn...