Fy marn am Brand a Ross via Blog Dogfael
Newyddion syfrdanol: Papur Sul yn rhoi sylw i Gymru via Gwenu dan Fysiau
Prynnias yr Observer am y tro cyntaf ers amser maith (yn wir allai'm cofio pryd brynniad u rhyw bapur newydd ddiwetha), ac er mawr syndod rhoddwyd bron i dudalen lawn i erthygl yn ymwneud a gwleidyddiaeth Cymru, a Plaid Cymru. Mae hyn yn rhywbeth go anghyffredin. Ond cyn i chi wirioni'n lân, pwnc yr erthygl oedd y ffaith bod cyn-actores o'r ffilm Life of Brian, Sue Jones-Davies, rwan yn faeres tref Aberystwyth, a bod y ffilm wedi ei gwahardd yn y dref (dw i ddim yn siwr sut na gan bwy). New role for Python star: lifting ban on Life of Brian Sue Jones-Davies had no powers as Brian's girlfriend but as Aberystwyth mayor she has vowed to end the town's curbs on the film.Hyd yn oed mewn erthygl di-ddim...
aisiwêls via daflog
Wel mae icWales wedi newid ei enw i Wales Online heddiw. Be fydda nhw ddim yn dweud wrtho chi yw mai dyna yr enw gwreiddiol! Yn 1997 roeddwn i’n gweithio ar y fersiwn gyntaf o ‘Cardiff Online’ sef y wefan brawf gyda’r bwriad o’i ddatblygu i fod yn borth genedlaethol.
Ar y pryd, roedd pawb (yn y cyfryngau masnachol) yn credu mai’r dyfodol oedd creu gwefannau lleol i bob tref, felly roedd pawb yn prynu cannoedd o barthau fel ‘cardiffonline.co.uk’, ’swanseaonline.co.uk’, ‘cwmsgwtonline.co.uk’ ac yn y blaen. Mae’r BBC wedi gallu parhau gyda’r strategaeth o wefannau lleol mewn rhyw ffordd, am nad oes unrhyw ystyriaeth fasnachol. Ond o ran gwerthu hysbysebion, roedd e’n syniad gwael - mae’n well cael...
Blog Mercator via Rwdls Nwdls
Dadl Iaith: Pa Ddadl? via e-clectig
Am resymau llwythol hanesyddol, ni ddylai fod yn syndod bod yna rai pobl o'r Blaid Lafur sy'n dal i wrthwynebu rhoi statws cyfartal i'r iaith Gymraeg, ond mae'n eitha chwithig serch hynny gweld pobl sydd yn ystyried eu hunain yn 'sosialwyr' yn dadlau na ddylid gwario arian ar y Gymraeg am nad ydy hynny'n economaidd gall. Mae'r fath resymeg yn perthyn i ganol-dde'r spectrwm gwleidyddol, hyd y gwelaf i. Ymddengys nad ydy egwyddorion sosialaidd y bobl 'ma yn mynd mor bell â chynnwys hawliau sylfaenol y 20% o boblogaeth Cymru sy'n siarad Cymraeg, am ryw reswm.Pob tro mae pwnc yr iaith yn codi yn y cyfryngau ceir adroddiadau blinedig am ddiffyg 'dadl agored' ar ddefnydd swyddogol y Gymraeg, ond mewn gwirionedd: pa ddadl? Naill ai ti'n credu bod gan siaradwyr Cymraeg yr un hawliau ieithyddol...
Sanhedrin via Blog Dogfael
Dwi’n falch iawn o gael dweud fod y byd yn ei le o hyd wrth i Gwilym Owen ddweud “Sanhedrin” ar y Post Cyntaf ar BBC Radio Cymru heddiw eto. Mae’n dda gwybod fod rhai bethau’n gwbl ddibynadwy a sicr amewn byd sy’n newid cymaint.
Rhanna hwn...
Sanhedrin via Blog Dogfael
Dwi newydd wrando ar Gwilym Owen yn adolygu’r wasg wythnosol ar raglen Post cyntaf BBC Radio Cymru ac mae un cwestiwn wedi codi yn fy meddwl: oes ‘na gymal yng nghytundeb Gwilym Owen gyda’r BBC sy’n golygu ei fod yn gorfod cynnwys y gair sanhedrin mewn pob cyfraniad? Mae’n ymddangos felly i mi gan ei fod wedi defnyddio’r gair unwaith eto y bore ‘ma. Efallai ei fod yn gwneud hynny fel rhan o gêm wyrdröedig gyda’i gyfeillion yn y byd darlledu. Ond diolch amdano, oherwydd mae’n debyg taw dim ond Gwilym Owen a’i ffans sy’n gwybod beth yw ystyr y gair erbyn hyn ac yntau yw’r unig un sy’n ei ddefnyddio’n gyson.
Note: There is a rating embedded within this post, please visit this post to rate it.
Rhanna hwn...
Lot o sŵn am ddim byd pwysig via Blog Dogfael
Roedd y papurau Sul yn drwm o newyddion am y Tywysog Harry dros y penwythnos. Lluniau ohono yn bod yn ‘normal’ oedd yn cael y sylw. Dim ond ychydig oedd yn ceisio edrych y tu hwnt i’r dyn ifanc yn gwisgo’r cap gyda’r arwyddair “We do bad things to bad people” arno. Prin oedd y cwestiynau am pam fod y cyfryngau wedi penderfynu nad oedden nhw’n mynd i adrodd y newyddion amdano hyd nes bod yr awdurdodau yn dweud bod hynny’n iawn i’w wneud. Efallai bod hynny’n iawn yn achos busnesau preifat fel y papurau newyddion, ond beth am y BBC. Maen nhw â dyletswyddau stadudol, a oedd peidio â dweud am Harry yn cydfynd gyda’r dyletswyddau rheiny? Am rywbeth nad oedd yn ddigon pwysig i sôn amdano wrth iddo ddigwydd mae wedi cael... Mwy am bapur dyddiol Cymraeg a chwarae gyda geiriau via Blog Dogfael
Y newyddion da yw fy mod yn gwybod bellach fod y Gweinidog Treftadaeth, Rhodri Glyn Thomas, wedi bod yn darllen fy mlog. Wel, pan dwi’n dweud ei fod wedi bod yn darllen fy mlog, yr hyn dwi’n ei olygu mewn gwirionedd yw ei fod wedi darllen un cofnod, sef yr hyn yr ysgrifennais am ei benderfyniad i ychwanegu £200,000 i’r grant y mae’r Llywodraeth yn ei roi ar gyfer darpariaeth newyddion yn Gymraeg, gan gynnwys papur newydd dyddiol newydd. Y newyddion drwg yw na fyddai’n debygol o ddefnyddio ei sylwadau fel hysbyseb i’r blog. Dyma beth oedd ganddo i’w ddweud (diolch Hedd!).
“Diddorol gan fod y Blogiwr yn gwbl anwybodus am fanylion cynllun busnes Dyddiol Cyf ac hyd yn oed yn fwy anwybodus am gyflwr y wasg brintiedig cyfrwng Cymraeg. RGT”... Siom ynteu ddadrithiad? via Blog Dogfael
Cwrdd â Chris Needs via Blog Dogfael
Roedd dydd Sadwrn yn ddiwrnod arbennig oherwydd dyna’r tro cyntaf imi gwrdd â’r enwog Chris Needs. I’r rhai ohonoch nad ych chi’n gyfarwydd â Chris mae’n e’n cyflwyno rhaglen 3 awr bob nos ar Radio Wales. Ond nid darlledwr cyffredin mo Chris – mae’n sefydlu perthynas gref iawn gyda’i gynulleidfa ac maen nhw’n ei ffonio’n gyson ac yn rhannu problemau dyrys bywyd gydag ef. Maen nhw’n gwneud hynny, hyd y galla i weld, oherwydd eu bod nhw yn ymddiried ynddo a’i fod mor barod i rannu y problemau a’r boen y mae yntau wedi’i ddioddef mewn bywyd a’r ffordd y mae wedi’u goresgyn. Dwi’n ofni i ddweud taw ffonio i mewn i raglen radio byddai’r peth diwethaf fuaswn i’n ei wneud gyda... Gwyliau Awst 2007-08-30 via Blog Dogfael
Gwneud dim byd oedd fy nod ar gyfer diwrnod olaf y gwyliau ym Mrwsel a dwi’n falch o fedru adrodd fy mod wedi cyrraedd y nod yn gwbl ddidrafferth. Roeddwn i wedi gwneud yr holl grwydro, yr holl deithio a’r holl ddysgu yr oeddwn yn bwriadu ei wneud, ac felly roedd un diwrnod ar ôl i ymsegura pur. Codi’n hwyr, brecwast hwyr, ac yna RO a minnau i’n gwahanol ffyrdd trwy strydoedd Brwsel. Es i lan i sgwâr De Brouckèreplein a’r ardal yng nghanol y ddinas i ddechrau ac yn ar y premetro (yr enw am y tram tanddaearol) i sgwâr Rogierplein lle mae ‘na siopau diri a chanolfan siopa fawr City 2. Cyn mynd o gwmpas y siopau fe gefais ginio mewn bar ar Rogerplein ac yna i mewn i ganolfan City2. Ar lawr uchaf yr adeilad mae siop lyfrau, fideos, &c. enfawr Fnac.... Al Jazeera via Gwenu dan Fysiau
Bu tipyn o ffws pan lawnsiwyd sianel Saesneg Al Jazeera, ond dwi heb glywed dim amdano ers hynny.Mae un o'i rhalgenni People & Power wedi bod ag eitem am garcharorion Basgaidd, ac mae nifer o bynciau eraill yn cael eu trafod fel y wal yn Belffast ac Ucheldiroedd y Golan. Mae dolen at bob rhaglen ar YouTube (er sdim speakers gyda fi yma).Er bod rhai'n awgrymmu bod yr orsaf yn tueddu ochri gyda eithafwyr Islamiadd, all ansawdd y newyddiadura ddim bod dim gwaeth na prif ddarparwyr newyddion...
Angladd Ray Gravell via Blog Dogfael
Dwi’n gwybod fy mod yn adrodd hanes fy ngwyliau haf yn ddarniog iawn, ond mae cymaint o bethau eraill i sylwi arnynt y dyddiau hyn. Ddoe, er enghraifft, cynhaliwyd angladd Ray Gravell ym Mharc y Strade, Llanelli. Y peth agosaf i angladd wladol i’w chynnal ers sefydlu’r Cynulliad Cenedlaethol gyda’r Prif weinidog Rhodri Morgan yn arwain y digwyddiadau. Roedd hwn yn ddigwyddiad nad oeddwn i’n medru cofio ei debyg o’r blaen, ac yn gasgliad eclectig o sumbolau cyfoethog o’n cenedligrwydd a’n hunaniaethau cenedlaethol amrywiol. Mewn rhyw ffordd, fel y dywedodd Rhodri Morgan ei hun, roedd Ray Gravell yn cyfuno y ffrwd genedlaetholgar (a nodweddir gan wleidyddiaeth Plaid Cymru, Cymdeithas yr iaith Gymraeg, a mudiadau eraill) gyda’r ffrwd...
Cariad golwg cyntaf via e-clectig
Cariad golwg cyntaf ar drên danddaear Efrog... Aliwns Llwyd yn goresgyn y gerddi via e-clectig
Ydych Chi Wedi Gweld Y Wiwer Hon?Lladdwch Hi Ar... Pwy sy’n siarad Iseldireg (2) via Blog Dogfael
Dwi wedi penderfynu dechrau casglu enwau pobol annisgwyl sy’n siarad Iseldireg. Dwi wedi sôn am y cyntaf o’r blaen, sef un o’r ymgeiswyr am arweinyddiaeth plaid y Democratiaid Rhyddfrydol, Nick Clegg. Mae’r ail ar rhy rhestr yn fwy annisgwyl byth, sef y darlledwr poblogaidd Chris Needs sydd newydd gyhoeddi ei hunangofiant, Like it is. Wrth ddarllen beth oedd gan y cyhoeddwyr, Y Lolfa, ddweud amdano ar eu gwefan dyma ddarllen y datganiad canlynol: “An extremely intelligent man and able linguist who can speak Welsh, English, Spanish and Dutch …” Dwi’n teimlo ei bod hi’n fraint cael enw Chris Needs MBE ar fy rhestr i o bobl sy’n medru siarad Iseldireg. Tybed pwy fydd y nesaf?
Note: You can rate this post by visiting the site.
Rhanna hwn... S4C Digidol Dwyieithog? Dim Diolch! via e-clectig
Dw'i ddim yn gweld -yn yr oes digidol- pam dylai ein sianel deledu uniaith Gymraeg ddod yn sianel ddwyieithog.Oni ddylai Llywodraeth y Cynulliad bwyso am ddatganoli BBC Cymru, ein prif gyhoeddwr cyhoeddus Saesneg ni? Neu ddilyn esiampl Gwlad y Basg a chreu sianel newydd ar gyfer y Cymry di-Gymraeg? Byddai hynny yn gwneud mwy o synnwyr imi, yn hytrach na gadael i Lafurwyr gwrth-Gymraeg ddefnyddio'r mater i'w droi yn gyfle i ymosod ar fuddiannau'r hen...
Rhieni i sefyll? via e-clectig
Mae rhieni sy'n ymgyrchu yn erbyn y bygythiad i gau ysgolion cynradd yng Ngwynedd yn dweud y byddan nhw'n ystyried sefyll fel ymgeiswyr yn etholiadau'r cyngor y flwyddyn nesaf:Mae rhai rhieni nawr yn dweud eu bod nhw'n ystyried o ddifrif sefyll fel ymgeiswyr yn etholiadau'r cyngor ym mis Mai er mwyn ceisio achub eu hysgolion lleol.Dywedodd Euron Jones o Landwrog ei fod yn ystyried sefyll."Er mwyn diogelu ysgolion ein cymunedau dyma'r unig ffordd," meddai....
Pigo’r Cymro via e-clectig
Prin yw Gweledigaeth y glymblaid unigrywMae Gwilym Owen yn ysgrifennu:Roeddwn i'n credu y byddai yna arwyddion o fywyd newydd anturus unwaith y byddai'r Llywodraeth Glymblaid unigryw yn dod at ei gilydd i weithredu eu breuddwydion uchelgeisiol o gael "Cymru'n Un".Ond hyd yma mae hi'n ymddangos mai prin iawn yw'r weledigaeth wleidyddol sy'n dod o goridorau grym Llywodraeth Rhodri Morgan a Ieuan Wyn Jones.Wel ni allaf ddweud 'mod i'n cael fy synnu gan eiriau Mr Owen. Wedi'r cwbl, 'dydy o ddim yn un a chanddo fri am bwyso a mesur cyn cyrraedd barn. 'Dydy'r fath beth â llywodraeth berffaith yn bod, ond serch hynny hyd yma mae'r glymblaid heb wneud unrhywbeth sy'n groes i gytundeb "Cymru'n Un". Mae gweinidogion Plaid Cymru wedi gwneud argraff da ar y cyhoedd gan ddangos aeddfedrwydd cyfrifol...
Anghysondeb cau ysgolion via e-clectig
Diddorol darllen erthygl ar dudalen 9 Golwg yr wythnos yma, sef Arbenigwr yn condemnio anghysondeb cau ysgolion.Mae'r Athro David Reynolds o Brifysgol Exeter sydd wedi ysgrifennu nifer o adroddiadau am bolisi addysg Cymreig yn condemnio agwedd ein llywodraeth tuag at broblem cau ysgolion."Mae angen i Lywodreath y Cynulliad ymddwyn fel llywodreath genedlaethol. Mae angen iddyn nhw ystyried y dystiolaeth yn hytrach na throi cefn arni."Mae gyda ni tua 1600 o ysgolion cynradd a thua 200 ysgol uwchradd. Ond dim ond chwech ohonyn nhw sydd wedi cael eu hastudio, o fewn dau awdurdod lleol."O'r ddau awdurdod rydyn ni wedi astudio, mae'n amlwg fod yna elfen o amrywiaeth rhwng gwahanol siroedd, o ran safonau y maen nhw'n eu defnyddio er mwyn cau ysgolion."Fe wn i fod rhai awdurdodau yn fwy parod i...
Bwrdd nid cabinet! via Blog Dogfael
Newyddion ITV via e-clectig
Pa mor shit ydy 'Wales Tonight'?Pa mor shit ydy newyddion Cymreig ITV? Dw'i ddim yn gwylio'r rhaglen yn aml, ond dw'i newydd gweld 'Wales Tonight'. Mae'r rhaglen fel rhyw fath o hunan-barodi. Mor wael ydy'r safon fel mae'n anodd credu fy llygaid. Anhygoel. Oes 'na wobr ar gael am fod mor ofnadwy? Os felly, yn erbyn pwy ydyn nhw'n cystadlu? Wsbecistan? Oherwydd maen nhw'n ymddangos fel petaen nhw'n ffacin awyddus dros ben i ennill y fath...
Er mwyn ichi gael gwybod… via e-clectig
Yn ôl Golwg heddiw, er nad ydy o yn fy enwi, roedd ymddiswyddo Dave Collins yn fuddugoliaeth i'r "blogiau cenedlaetholgar" a wnaeth dynnu sylw at ei sylwadau.Gadewch imi siarad yn blwmp ac yn blaen. Dw'i ddim yn teimlo unrhyw bleser o gael y fuddugoliaeth honedig yma. Y gwir syml ydy i'r unigolyn dan sylw, beth bynnag y rheswm a beth bynnag yr esgus, wneud nifer o sylwadau oedd yn wleidyddol annerbyniol, ac felly fe gafodd ei fflagio amdani.Yn bersonol, byddai yn well gen i petai Mr Collins wedi ymddiheuro am ei sylwadau yn lle ymddiswyddo, diolch yn fawr. Ond ymddengys nad ydy pethau mor syml o fewn y Blaid Lafur.Serch hynny, o fewn y blogosffer cymaint ag yn y byd go iawn, os ydych yn aelod o blaid wleidyddol a mynegi safbwynt sy'n sarhau iaith neu hil, gellwch ddisgwyl canlyniadau...
Atal Rhyddid via e-clectig
Mae'r llun yma o dywysog Felipe a'i wraig wedi cael ei wahardd yn Sbaen. Yn amlwg nid yw rhyddid barn a mynegiant yn yr Undeb Ewropeaidd yn cynnwys dychanu teulu brenhinol...
Jonsi, Geraint Lloyd a sgandal y BBC via Blog Dogfael
Neithiwr cyhoeddodd y BBC fod pob cystadleuaeth ffôn a drefnir ganddynt, “all its TV and radio phone-related competitions” yn ôl y datganiad, yn dod i stop hyd nes bod holl sgandalau’r gorffennol wedi’u hastudio’n fanwl. Ydy hynny’n golygu y bydd cystadleuaeth brawddeg Jonsi a chiosg ffôn Geraint Lloyd yn dioddef hefyd? Mae’n ymddangos yn annheg iawn i mi fod pawb, hyd yn oed Jonsi a Geraint yn cael eu paentio gyda’r un brws â throseddwyr Comic relief a Children in need.
Mae’r holl stŵr yma yn fy atgoffa i fod hyn wedi digwydd yng Nghymru flynyddoedd yn ôl yn achos pleidlais ffôn Cân i Gymru 2000. Methodd y sustem bleidleisio ffôn ar y noson ac felly dyma’r cwmni oedd yn cynhyrchu’r rhaglen yn ffugio’r... Yr Americanwyr Cyfoethocaf Erioed via e-clectig
Mae gan y New York Times siart ryngweithredol sy'n dangos yr Americanwyr cyfoethocaf...
Cusanu Llewod Gwyllt via e-clectig
wrth deithio heibio gwefan FunPic ddes i o hyd at y stori yma am y dyn o Dde Affrica sy'n gallu cusanu llewod gwyllt....