
Ddydd Sadwrn roedd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg yn cynnal ei chyfarfod cyffredinol blynyddol. Fe es i’r cyfarfod agored yn y prynhawn; cyfarfod a oedd yn cael yn ei alw’n rali, ond a oedd mewn gwirionedd yn gyfle i wrando ar ddau siaradwr gwybodus iawn ym myd hawliau ieithyddol. Cadeiriwyd y cyfarfod gan gadeirydd y Gymdeithas, y Prifardd Hywel Griffiths. Cyflwynodd yn gyntaf Elin Haf Gruffudd Jones o sefydliad Mercator a siaradodd yn huawdl am ddatblygiad deddfau iaith yng Ngwlad y Basg gyda sylw arbennig i’r ymgais i gynnwys y sector preifat o fewn i’w deddfwriaeth iaith. Wedyn fe siaradodd Gwion Lewis. Mae yntau’n fargyfreithiwr ac yn awdur cyfrol ar hawliau ieithyddol, Hawl i’r Gymraeg. Ei bwyslais ef oedd y ddadl hawliau dynol dros roi hawliau...

Dwi’n teimlo fy mod yn dechrau dod i adnabod dinas a’i dofi wrth ddeall ei sustem drafnidiaeth. Felly wedi i’r cyfeillion fynd am yr eisteddfod fe es i ati i geisio deall bysus Caerdydd a sut i gyrraedd ble’r oeddwn i am ei gyrraedd yn y ffordd fwyaf effeithlon a rhataf. Wedi chwilio a darllen ar wefan Bws Caerdydd fe welais taw bws rhif 27 oedd ei angen arnaf o Neuadd Buddug i mewn i’r ddinas ac fe allwn brynu tocyn diwrnod o deithio o fewn i’r ddinas am £3. Doedd dim troi nôl wedyn.
Roedd y bws yn dweud ei bod yn ddull ‘gwyrdd’ (neu a ddylwn i ddweud, ‘gwerdd’) o deithio; ond y peth mawr a’m trawodd i oedd y ffaith fod Sky News yn cael ei arddangos ar sgrin yn y bws er mwyn arbed i bobol fynd i’r drafferth o...

Wel heddiw fe fues i mewn piced a phrotest tu fas i gaffi Costa Coffee yn Aberystwyth yn brwydro yn erbyn cyfalafiaeth ryngwladol a globaleiddio. Agorodd siop goffi Costa Coffee yn Stryd Fawr Aberystwyth heddiw. Roedd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg wedi trefnu piced trwy’r tu fas i’r siop a phrotest gyda siaradwyr amser cinio. Es i ar gyfer y brotest. Mae tri pheth yn benodol yn fy nghythruddo am y siop – dim arwyddion Cymraeg, dim cynnyrch lleol, a dim caniatâd cynllunio. Yr olaf sydd wedi cythruddo caffis bach annibynnol y dref. Does gan Costa ddim caniatâd i agor caffi, dim ond siop cymryd i ffwrdd. Ond dydyn nhw’n poeni dim am hynny gan fod ganddyn nhw’r adnoddau i ymladd unrhyw benderfyniad gan adran gynllunio’r Cyngor Sir yn eu herbyn. Felly wrth i...

Newydd ddod o hyd i flog newydd arall. Mae’n cuddio y tu fewn i wefan Cymdeithas yr Iaith Gymraeg oherwydd blog cadeirydd y Gymdeithas yw hwn, sef Hywel Griffiths. Mae wedi bod yn blogio ers dechrau mis Mai, ond dim ond heddiw welais i’r peth am y tro cyntaf. Mae newydd flogio am fod ar raglen Manylu ar Radio Cyrmu yn trafod yr angen am ddeddf iaith newydd ac am y brotest a gynhaliwyd y tu fas i siop Tesco ym Mhorthmadog. Difyr iawn.
Note: You can rate this post by visiting the site.
Rhanna hwn...
Roeddwn i wedi cael hwyl ar wrando ar raglen Rebecca Jones ar Radio Cymru y bore ‘ma, yn enwedig ei chyfweliad gyda Jill-Hailey Harries, gweinidog gyda’r Annibynwyr, ynglŷn â phriodas a phriodi fel fy mod wedi mynd i deimlo’n hunan-fodlon. Yna’n sydyn fe gefais fy nihuno gan gyhoeddiad ar y Newyddion fod arolwg barn yn dangos nad oedd mwyafrif pobol Cymru am weld Deddf Iaith newydd i orfodi cwmnïoedd i ddefnyddio’r Gymraeg a’r Saesneg. Ond roedd y stori’n cael ei throi o gwmpas yn gyson fel yn y diwedd nad oedd dyn yn rhy siŵr beth oedd y cwestiwn a ofynnwyd yn yr arolwg a beth oedd arwyddocâd yr atebion. Ar fwletin 7.00am ar Radio Cymru fe aeth y newyddiadurwr ati i ddweud beth oedd y canlyniadau mewn un ardal awdurdod unedol ar ôl y llall....

Mae’r ymgyrch i gael cwmni Thomas Cook i newid eu polisi iaith yn dal i fynd yn ei blaen. Ddydd Gwener nesaf, 15 Mehefin 2007, bydd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg yn protestio tu fas i siop y cwmni ym Mangor. Os nad wyt ti’n siwr ble mae’r siop dylai’r map hwn fod o help. Dyma beth mae Cymdeithas yr Iaith Gymraeg yn ei ddweud.
Mae Cymdeithas yr Iaith wedi ymateb i gonsesiynau diweddaraf Thomas Cook trwy gyhoeddi ei bod am fwrw mlaen gyda’r brotest am 1pm Ddydd Gwener tu allan i siop y cwmni teithio ym Mangor. Dywed Is-gadeirydd Cyfathrebu’r Gymdeithas, Hedd Gwynfor:
“Dyw Cymdeithas yr Iaith ddim yn gweld gwerth yn natganiad sarhaus Thomas Cook na byddant yn cosbi gweithwyr am siarad Cymraeg er eu bod yn dal i ofyn iddynt beidio a defnyddio’r...

Bues i bron â thagu dros fy nghreision ŷd y bore ‘ma. Yr oeddwn i’n gwrando ar newyddion Radio Cymru am 7.00am ac roedd ‘na gyfweliad gyda Meri Huws, cadeirydd Bwrdd yr Iaith Gymraeg. Y rheswm dros gynnal cyfweliad gyda chadeirydd y Bwrdd oedd achos cwmni Thomas Cook yn gwahardd aelodau o staff rhag trafod busnes y cwmni yn Gymraeg gyda’i gilydd. Mae’r cwmni wedi datgan taw dim ond yn Saesneg y mae’n bosib i staff drafod busnes – ac mae hynny’n cynnwys canghennau fel Bangor ac Aberteifi, ac unrhyw le arall yng Nghymru. Fel y gellid disgwyl mae hynny wedi achosi tipyn o gyffyffl i ddweud y lleia. Yr hyn a wnaeth imi dagu oedd un sylw gan Meri Huws – roedd hi’n llawn cydymdeimlad gyda’r gweithwyr, yn gresynu at bolisi y cwmni, yn...

Oherwydd bod protestiadau torfol a rhai gwirioneddol ddifrifol wedi bod yn brin dros y blynyddoedd diwethaf mae fy ymwybyddiaeth i o beth sydd wedi bod yn digwydd yn gyfreithiol i rai o'n hawliau sylfaenol wedi bod yn brin. Wedi'r cyfan rydw i'n heddychwr sy'n credu bod bygwth pobol yn anghywir. Ond erbyn hyn mae heddychwyr yn gymaint o fygythiad i'r drefn fel bod deddfau terfysgol yn cael eu defnyddio i'w rheoli - dyna o leia oedd profiad yr henwr Walter Wolfgang pan fu mor anfoesgar â heclo Jack Straw yng nghynhadledd y Blaid Lafur llynedd.
Nos Wener diwethaf, fel rhan o benwythnos cyfarfod cyffredinol Cymdeithas yr Iaith Gymraeg, bues i'n cadeirio cyfarfod ar y deddfau terfysgaeth sydd wedi'u pasio a'r mesur newydd sy'n dal i wneud ei ffordd drwy'r senedd yn Llundain a’u...

Pawb yn symud i'w seddauFel y dywedais i roeddwn i mewn bydysawd cyfochrog ddoe. I mi nid Cwpan y Byd 2006 oedd y realiti, ond yn hytrach sefyllfa'r Gymraeg wrth imi fod yn un o'r cannoedd a ddaeth ynghyd yng Ngŵyl Fawr Deddf Iaith Newydd a drefnwyd gan Gymdeithas yr Iaith Gymraeg yn y Neuadd Fawr, Canolfan y Celfyddydau, Aberystwyth. Yr oedd y rali yn cychwyn am ryw 2.00pm a'r unig dro i'r byd mawr tu fas dorri ar ein traws oedd y waedd a glywyd o du'r bar rhyw bum munud yn ddiweddarach. Heblaw am hynny roedd pawb yn canolbwyntio ar yr alwad am ddeddf iaith newydd fuasai'n rhoi statws swyddogol i'r Gymraeg yng Nghymru.Mae'r ymgyrch dros Ddeddf Iaith Newydd wedi bod yn un hir. Fe ddechreuodd yn union wedi gweithredu Deddf 1993, oherwydd erbyn i honno gyrraedd y llyfr statud a chael...

Deddf Iaith Newydd gan Sleepflower.
Dwi wedi derbyn neges gan Gymdeithas yr Iaith Gymraeg ar gyfer holl ddarllenwyr Blog Dogfael yn sôn am yr ŵyl fawr dros ddeddf iaith newydd sydd i'w chynnal ddydd Sadwrn. Dwi'n bwriadu bod yn yr ŵyl a'm gobaith i yw y bydd cymaint â phosib yn dod ynghyd ar gyfer yr achlysur. Byddai'n werth bod yno ond er mwyn cael cyfle i dalu teyrnged i Eileen Beasley. Mae'n anodd dychmygu pa mor arloesol oedd ei gweithred hi a'i gŵr yn y 1950au yn gofyn am gael bil y dreth yn Gymraeg a gwrthod talu nes ei dderbyn. Fel y mae pawb yn gwybod, mae gorfod gofyn am bethau yn Gymraeg yn rhan annatod o fywyd i siaradwyr Cymraeg o hyd. Dylai deddf iaith newydd newid y sefyllfa honno'n sylfaenol.
Gŵyl Fawr Cymdeithas yr Iaith Gymraeg
Am 2.00 y prynhawn ddydd...