Welsh Blogs.com


Deiseb ar-lein am Goleg Ffederal Cymraeg via Blog Rhys Llwyd June 9th, 2008 at 09:32

Coleg Ffederal CymraegGalwn ar Lywodraeth y Cynulliad i gadw at addewid cytundeb ‘Cymru’n Un’ o sefydlu Coleg Ffederal Cymraeg. Rhaid i Goleg Ffederal gynnwys yr elfennau canlynol:1. Statws statudol a chyfansoddiad annibynnol2. Siarter a chylch gorchwyl annibynnol gan gynnwys cyfrifoldeb dros holl addysg uwch cyfrwng Cymraeg Cymru3. Llif arian annibynnol — o leiaf £20 miliwn yn y lle cyntaf4. Cofrestr myfyrwyr annibynnol, a fydd yn sicrhau bod modd i fyfyrwyr gofrestru gyda’r Coleg Ffederal a chyda’u coleg daearyddol, gan arwain at ymdeimlad o berthyn a pherchnogaeth ohono.Byddai unrhyw beth llai na chyfuniad cyflawn o’r uchod yn torri’r addewid. Galwn ar y llywodraeth i ail-ystyried eu cynlluniau os nad yw’r uchod yn rhan ohonynt.Rho glec YMA i arwyddo'r...

Protest ‘Cadwn ein Ysgolion’ yn ’steddfod yr Urdd ‘08 [Vlog] via Blog Rhys Llwyd May 29th, 2008 at 22:00

R. Tudur Jones y “nutter” treisgar via Blog Rhys Llwyd May 14th, 2008 at 18:07

image Soniais ar y blog wythnos diwethaf (fan yma) am gefnogaeth agored R. Tudur Jones i Gymdeithas yr Iaith. Annodd yw denu cefnogaeth 'pwysigion parchus' i ymgyrchoedd gwleidyddol radical heddiw ac nol yn y 60au roedd hi'n fwy o beth byth i RTJ ddod allan yn gyhoeddus o blaid Cymdeithas yr Iaith. Yn ôl y disgwyl nid oedd cefnogaeth eofn Dr. Tudur i Gymdeithas yr Iaith at ddant pawb - dyma rannu ambell frawddeg o ddau lythyr y dois ar eu traws yn yr archifau heddiw yn ffieiddio Dr. Tudur am fynegi cefnogaeth i'r Gymdeithas."I feel many of your sort are nutters... you don't have Wales behind you. This is a fine young man [Carlo] and should be left to feel happy." at Dr. Tudur gan S. Llewellyn Rees, Sheffield, 4.1.69Ac yna y gair mwy difrifol hwn:"I read with a sense of shame and horror of...

Protest yn Morrisons Caernarfon [Vlog] via Blog Rhys Llwyd May 4th, 2008 at 08:36

Protest yn Morrisons Caernarfon -...

Picedu Tesco [Vlog] via Blog Rhys Llwyd May 1st, 2008 at 08:10

Dr. Tudur a’i gefnogaeth i CYIG via Blog Rhys Llwyd April 22nd, 2008 at 10:46

Dyma ypdet bach am y gwaith ymchwil. Heddiw fe ddes i derfyn pori drwy un mlynedd ar hugain o bapurau Plaid Cymru, yr un mlynedd ar hugain oedd ac R. Tudur Jones yn eu golygu – Y Welsh Nation rhwng 1952 a 1962 a'r Ddraig Goch rhwng 1963 a 1973. Roedd y swmp gwaith iddo yn rhyfeddol yn enwedig wrth gofio fod y Welsh Nation yn bapur wythnosol dan ei olygyddiaeth am gyfnod. Fe ddaeth sawl peth diddorol i'r wyneb ond un o'r pethau mwyaf diddorol erbyn y diwedd oedd cefnogaeth gadarn ac agored Dr. Tudur i Gymdeithas yr Iaith. Dyma ddywedodd am y Gymdeithas yn 1972:“Llyfryn gyda'r pwysicaf a gyhoeddwyd eleni yw MANIFFESTO CYMDEITHAS YR IAITH GYMRAEG wedi'i lunio gan Cynog Dafis. Bydd croeso cynnes iawn iddo ymhlith cenedlaetholwyr Cymru a bydd ei ddarllen yn lles i bawb sydd am ddeall beth...

Martin Luther King a Radicaliaeth Gristnogol yng Nghymru via Blog Rhys Llwyd April 2nd, 2008 at 01:39

image Ar ôl gweld a chael fy ysbrydoli gan y rhaglen Martin Luther King: American Prophet am Gristnogaeth efengylaidd (i bob pwrpas) Luther King roedd hi'n braf gweld fod yr un radicaliaeth Gristnogol yn fyw yn rhengoedd Cymdeithas yr Iaith heddiw - wele yr 'hoodie' Gorlan yr oedd un o'r ymgyrchwyr yn gwisgo allan neithiwr yn rhywle (Caerfyrddin?):Gwnaeth y rhaglen am Luther King wneud i mi sylwi o'r newydd nad oes rhaid i mi gadw fy ffydd a'r hyn mae Duw wedi rhoi ar fy nghalon yn breifat, i'r gwrthwyneb, bydd fy ymwneud cyhoeddus yn wleidyddol, fel Luther King, yn gyfoethocach o bwyso mwy a mwy ar fy...

Fideo o weithredu CYIG neithiwr via Blog Rhys Llwyd April 2nd, 2008 at 00:51

Ymddiheuriadau fod y blog wedi bod yn dawel ers wythnos a mwy, dwi wedi bod i ffwrdd yn Llanw - gwyl Gristnogol Gymraeg newydd - cawsom ni amser bendithiol iawn ffilmiais dipyn yna felly gobeithio bydd adroddiad fideo o'r wyl fyny ar y blog cyn bo hir. Yn y cyfamser dyma fideo a ffiliwyd neithiwr tra'n targedu Tesco a Morrisons Bangor fel rhan o ymgyrch genedlaethol i Weddnewid y Sector Breifat ac i bwysleisio fod yn rhaid i Rhodri Glyn gynnwys rhannau helaeth o'r sector breifat o fewn y Ddeddf Iaith Newydd sydd ar y ffordd. Chware teg i'r merched a finnau'r wimp yn dal y...

Plaid Cymru yn methu cadw addewidion… siomedigaeth via Blog Rhys Llwyd February 7th, 2008 at 05:46

Roedd ddoe yn ddiwrnod trist iawn, gwelwyd Llywodraeth Cymru'n Un yn methu cyflawni yr ail o dri addewid penodol parthed yr Iaith Gymraeg yr oedd Ieuan Wyn Jones yn ei addo yn ei deithiau o amgylch Cymru i werthu'r glymblaid. Methwyd a gwireddu'r cyntaf, Coleg Ffederal Cymraeg, nol ym mis Tachwedd. Yn swyddogol mae'r polisi yn parhau i gael ei lunio ond gyda dim ond £4.3m dros dair mlynedd (i gymharu gyda'r £15m y flwyddyn sydd ei angen) mae'r addewid i bob pwrpas wedi ei dorri. Yr ail a dorrwyd ddoe wrth gwrs oedd yr addewid i ariannu papur Dyddiol Cymraeg – mae £600,000 wedi ei addo i'r wasg Gymraeg yn gyfan, ond mae angen o leiaf £600,000 ar bapur Dyddiol yn unig. Ar y diwrnod lle drylliwyd gobaith Y Byd (y papur dyddiol arfaethedig) yn dra eironig fe'n hatgoffwyd o'r angen am Y...

BBC Wales dal i drin Cymru fel rhanbarth yn hytrach na cenedl via Blog Rhys Llwyd December 14th, 2007 at 05:20

Mae wedi fy nharo i droeon sut y mae BBC Wales yn trin Cymru fel rhanbarth o Brydain yn hytrach na fel cenedl. Cymharwch Wales Today gyda'r 6 o' clock news o Lundain – nid yw Wales Today, ein rhaglen newyddion genedlaethol, yn trin Cymru fel cenedl ond yn hytrach mae jest fel rhaglen newyddion unrhyw ranbarth arall yn Lloegr. O bell ffordd y brif stori newyddion yng Nghymru heddiw oedd bod 600 wedi troi allan i brotestio yn erbyn cynlluniau cyngor Gwynedd i gau ysgolion – 600! Does dim 600 wedi troi allan ar y strydoedd yng Nghymru ers blynyddoedd lawer, ddim yn fy oes i beth bynnag. Cymharwch lleoliad y stori ar wefan BBC Cymru a BBC Wales. Maen brif stori gan BBC Cymru chwarae teg ond sylwch ar ei leoliad gan BBC Wales. British Broadcasting Corporation yn wir! Beth sydd tu ôl i'r...

Ron Davies, on the Eve of Destruction via Aberdare Blog December 2nd, 2007 at 22:02

image At the Bridgend Eisteddfod in August 1998, Ron Davies was made a member of the Gorsedd of Bards in a special ceremony. He was Secretary of State for Wales at the time. It was rare praise for a politician and it came in recognition of his work steering through the devolution plans. In September 1997, the Referendum was won by only a whisker (around 6,000 votes). Without Davies’ contribution convincing the conservative British Nationalists within the Labour Party the Referendum result would have been a “no”. Ron Davies had reason to feel confident at that Eisteddfod. He was truly the ‘architect of devolution’. Thus during the week he made a very confident appearance at a meeting organised by Cymdeithas yr Iaith (Welsh Language Society) to discuss the...

Cymdeithas yn chwilio am Swyddog Maes y Gogledd via e-clectig October 4th, 2007 at 11:55

Mae Cymdeithas yr Iaith yn chwilio am swyddog maes ar gyfer Gogledd Cymru:Mae angen unigolyn brwdfrydig, gweithgar a threfnus i arwain a chyd-lynu gwaith lobio ac ymgyrchu Cymdeithas yr Iaith Gymraeg yng ngogledd Cymru. Lleolir y Swyddfa yng Nghaernarfon. Mae trwydded yrru yn hanfodol i'r swydd yma. £20,000. Lleolir yng Nghaernarfon.Manylion llawn:Swydd Swyddog Maes y GogleddFersiwn pdfDYDDIAD CAU - YFORY, Dydd Gwener, 04 HydrefCais trwy ebost at - dafydd(at)cymdeithas(dot)org - yn...

Fy Steddfod i via Blog Rhys Llwyd August 14th, 2007 at 22:24

Dwi wedi dychwelyd o'r Eisteddfod ac wedi mwynhau fy hun mas draw. Yn ôl yr arfer fe renais fy amser yn gywrain rhwng gweithgareddau a gigs y Gymdeithas a gweithgaredd y Gorlan. Fe aeth gigs y Gymdeithas yn wych, roedd yr awyrgylch yn arbennig y system sain yn rhagorol a'r gallu i osod eich pabell yna mewn awylgylch lot mwy ymlaciol na maes b yn goron ar y cyfan. Dau set wnaeth aros allan yn arbenniog i mi oedd set Sibrydion a set Y Derwyddon. Sibrydion heb os yw pros mwya y Sin Roc Gymraeg – roedd profiad dros 15 mlynedd ar y sîn (Beganifs>Big Leaves>Sibrydion) yn amlwg yn aeddfedrwydd eu set. Mae'r Derwyddon yn fand fydd yn tyfu i fod yn fand enfawr – roedd eu set nhw yn hollol sgleiniedig ac eu sengl ddiweddara 'Madrach' yn profi i fod yn anthem y 'steddfod.Fe aeth...

Tor-Cyfraith a Christnogaeth Ddiwygiedig via Blog Rhys Llwyd July 17th, 2007 at 07:12

Mewn ymateb i fy mhostiad am garchariad Gwenno fe ofynodd ffrind i mi, Gethin Jones, sawl cwestiwn pryfoclyd am briodolrwydd gweithredu tor-cyfreithiol i Gristion. Dyma ymateb i'w gwestiynnau.Mae'r cyfan yn dechrau gyda lle wyt ti'n rhoi terfyn ar Benarglwyddiaeth Crist. Yn ôl fy nehongliad i a'r traddodiad Calfinaidd does dim terfyn iddo. Mae Gwladwriaethau ac Awdurdodau wedi eu neulltuo a'i penodi gan Dduw, ydyn. Ond dydy Duw heb roi siec wag iddyn nhw ac lle bod nhw yn fforeddu eu cyfrifoldeb o flaen Duw (a dwi'n cyfri cam-wahaniaethu ar sail hil ac iaith yn ffordd o ffordeddu cyfrifoldeb o flaen Duw) mae cyfrifoldeb gan Gristnogion lefau a gwrthwynebu yn erbyn yr awdurdodau - wrth gwrs fod yn wahaniaethau mynd i fodoli rhwng Cristnogion ar y tactegau gorau o wneud hyn.Y brif ddadl...

Gwenno Teifi - Hanesyn Difyr via Blog Rhys Llwyd July 12th, 2007 at 23:26

image Llongyfarchiadau i Gwenno Teifi am dreulio ei hail gyfnod yn y carchar drosom ni wythnos yma. Mae ei charchariad yn arbennig o bwysig i mi yn bersonnol oherwydd fod Gwenno yn Gristion o argyhoeddiad a da yw gweld Cristnogion ar flaen y gad ym mrwydrau cymdeithasol yr oes yn ogystal a'r brwydrau ysbrydol. Mae Cristnogion o argyhoeddiad (meiddia i ddweud efengylaidd) môr llwath eu hagwedd tuag at faterion cymdeithasol a gwleidyddol ond diolch i Dduw bod yn grop ohonom gyda Gwenno yr enghraifft orau o bosib sy'n dewis peidio cyfyngu ein ffydd i'r Capel yn unig.Dwi ddim wedi dod ar draws yr hanesyn isod yn y rhithfro eto felly dyma hi. Yng ngeiriau Ffred, tâd Gwenno:Merch yn dod i mewn i gell Gwenno, eistelawr a chau'rdrwsMerch - What are you in for ?Gwes - Non-payment of fines. What are...

Welsh Not O Hyd via e-clectig June 24th, 2007 at 00:06

Protest yn erbyn Thomas Cook yn Wrecsam.Mae pythefnos wedi mynd heibio ond eto mae Thomas Cook yn dal i ddilyn ei bolisi Welsh Not a gwrthod i'w staff gyfathrebu gyda'i gilydd trwy gyfrwng y Gymraeg. Cynhalwyd protestiadau yn Wrecsam a Chaerdydd ddoe gan Gymuned a Chymdeithas yr...

Ffred Ffransis ar Thomas Cook via e-clectig June 15th, 2007 at 20:12

Dyma fi yn gofyn Ffred Ffransis yn ystod gwrthdystiad Cymdeithas yr Iaith yn erbyn Thomas Cook am ei ymateb i benderfyniad y cwmni gwyliau i wahardd ei staff rhag siarad yn Gymraeg. Roedd sawl aelod o Gymuned hefyd wedi dod i gefnogi'r digwyddiad, a da oedd gweld fod y cyfryngau yno hefyd i roi sylw i'r mater.Adroddiad BBC ar y...

Protest Thomas Cook via Morfablog June 14th, 2007 at 12:52

Fel Rhodri, dw i heb flogio am hyn tan nawr. Mae’n anodd gwybod beth i’w ddweud am ddigwyddiad mor hurt. Dydy hynny ddim yn stopio pobl maes-e, wrth reswm....

Lluniau o’r Protest via e-clectig June 11th, 2007 at 23:50

image Dyma luniau o brotest bach gan aelodau Cymuned a Chymdeithas yr Iaith ym Mangor heddiw ar gyfer y cyfryngau:Fi!Chwith i dde: merch, Aled, Richard, Aran, Sanddef (Cymuned); Ieuan, Menna, baban mewn pram (Cymdeithas)Ar ochr dde y llun: y nofelwraig o fri Angharad Tomos (Cymdeithas)Newyddiadurwyr...

Ail gadair i Hywel via Morfablog June 4th, 2007 at 12:36

Llongyfarchiadau mawrion (ac hwyr) i Hywel Griffiths ar ennill ei ail gadair yr Urdd. Hywel wrth gwrs, yw Cadeirydd Cymdeithas yr Urdd. Gyda cymaint o gadeiriau ambyty y lle, bydd rhaid iddo fe ffeindio tŷ newydd cyn bo hir. Welsh Language Society chairman Hywel Griffiths has won his second Chair in the Urdd eisteddfod....

A ddylai CYIG roi’r gorau i dor-cyfraith nawr fod genym ni ££? via Blog Rhys Llwyd May 14th, 2007 at 03:15

Ysgrifenais yr isod yn wreiddiol fel ysgrif i'r Tafod nol ym mis Ionawr ar gyfer rhifyn y Cyfarfod Cyffredinol, ond am ryw reswm ni ymddangosodd y rhifyn yna byth felly dyma gyhoeddi'r erthygl ar y blog. Gwerth fyddai rhoi disclemer mai fy marn i yw'r isod nid barn CYIG o'r rheidrwydd:Eleni mi dderbyniodd y Gymdeithas swm mawr o arian mewn ewyllys. Tybia rhai fod hwn yn gyfle i'r Gymdeithas “droi'n broffesiynol” a “rhoi'r gorau i fandaleiddio” a “troi'n lobïwyr proffesiynol.” I ddechrau rhaid holi pam fod rhai wedi dweud pethau o'r fath am y Gymdeithas yn ddiweddar? Mae'r clebar yma yn awgrymu mae diffyg arian a beri i'r Gymdeithas droi at brotestio, weithiau yn anghyfreithlon, dros y blynyddoedd. Gellid taflu'r dybiaeth anghywir yn allan o'r ffenestr yn syth – nid diffyg...

Annwyl Ioan Matthews via Blog Rhys Llwyd February 13th, 2007 at 07:00

Llawer un wedi cwyno fod y blog wedi bod yn dawel yn ddiweddar. Dwi di bod reit brysur rhwng gwahanol bethau. Y Piwritaniaid yn fy nghadw'n brysur rhan fwyaf o'r dydd a digon o bethau erill mlaen hefyd. Dwi'n trio helpu Menna cymaint fedrai yn y gwaith paratoi ar gyfer y rali dydd Sadwrn (dewch!) - dwi'n helpu i ffilmio a torri fideo ddogfen fer ar ran UMCA i chwarae yn y rali. Wrth gwrs, unwaith bydd hi'n barod fe rof hi fyny ar y blog i chi weld hefyd. Gig cyntaf Kenavo ers misoedd lawer nos Wener felly bydd rhaid meddwl paratoi rywfaint ar gyfer honno hefyd. Felly ar y cyfan wythnos brysur ac felly heb amser i sgwennu postiad difyr dim ond esbonio pam nad oes amser gyda fi roi postiaid difyr!Ond dyma rywbeth bach difyr i chithau sy'n dilyn yr ymgyrch am Goleg Ffederal Cymraeg. Yn dilyn...

Bangor a Vavasor Powell via Blog Rhys Llwyd January 30th, 2007 at 22:20

Dros y penwythnos fuesi lan ym Mangor ym Mhrotest Cymdeithas yr Iaith dros Ddeddf Iaith Newydd. Roedd rhyw 150 yna a rhaid mi ddeud mae dyma'r brotest fwyaf lwyddiannus i mi ei fynychu gan y Gymdeithas ers y blynyddoedd. Wedi i drafodaethau gyda chwmni Morrisons dorri i lawr fe benderfynwyd eu targedu gyda phrotest. Yn ddiddorol ddigon dywedd y rheolwr "We don't have to provide welsh stuff, we are not oblijed by law to do so - your argument is with the Welsh office therefore" A'r Llywodrarth sy'n dweud nad oes angen newid y ddeddf gan y gwnaiff cwmniau cyhoeddus fel Morrision ddarparu'n ddwy-ieithog allan o ewyllys da - hurt.Isod wele fideo you tube o gasgliad o'r lluniau dynesi pan i lawr mewn lobi yn y Cynulliad cyn 'dolig ac yna lluniau o'r Brotest ddydd Sadwrn. Rhaid cael fy nanell...

Gig Ffarwel ‘06 via Blog Rhys Llwyd ...yn lliwio'r llwydni! December 9th, 2006 at 07:19

image

No voice via Smiling under Buses March 1st, 2006 at 14:23

image My dial-up connection's being a pain in the pen ôl, so I'll try and keep this short.I've just returned from Cardiff Bay after yelling and booing my head off at the English Queen and any Dic Siôn Dafydd (Urdd, Dafydd El, Rhodri Morgan...) in sight. The atmosphere at the opening of the Welsh Assembly was amazing, the media will have one hell of a job editing us out as the noise was deafening. There were protestore from Cymdeithas yr Iaith, Welsh Republicans, British Republicans, former ASW workers, Socialists, Anarchists and many others. I bet we won't see a member of the English royal family in Wales for a long time following this morning, da iawn everyoneI'm off to the St David's Parade in town now and I'm going to watch Wales play footie this evening. Happy St David's day...