
Nid yw sefydliadau diwylliannol yn cael lle mawr mewn trafodaethau gwleidyddol strategol, ond dro ar ôl tro mewn hanes mae’r sefydliadau yma yn cael eu hunain yng nghanol brwydrau geiriol a milwrol. Er nad yw’n ymddangos fel ‘ny bob amser mae sefydlu llyfrgell, amgueddfa ac archifdy cenedlaethol yn ganolog ym mywyd cenedl neu wladwriaeth. Dyma’r sefydliadau sydd yn galluogi pobl i adrodd ei hanes. Nid yw’n syndod felly fod sefydliadau o’r fath yn dod yn dargedau mewn rhyfeloedd – o losgi llyfrgell Prifysgol Gatholig Leuven yn 1914 hyd at yr ymosodiadau ar lyfrgell ac amgueddfa genedlaethol Bosnia-Hertsogofina ddechrau’r 1990au a’r rheibio ar sefydliadau diwylliannol Irác yn 2000au. Efallai nad ydyn ni yng Nghymru yn sylweddoli cymaint o...

Wedi ein hymweliad â Sempringham fe aeth Nan a Nigel â ni i’r Old Ship Inn, Pointon i gael cinio. Tra’r oedden ni yno fe gawsom gyfle i weld y llyfrau ymwelwyr y mae’r ddau yn gofalu amdanynt. Roedd ‘na bethau diddorol iawn ynddynt, ond efallai yr un a wnaeth i mi wenu fwyaf oedd ymateb unigolyn a oedd ar ymweliad ar adeg llwyddiant i dîm rygbi cenedlaethol Cymru.
20 th of March 2005. / Dear princess, / Wales won the / grand slam yesterday. You / would be pleased. Restoring / some pride to the Welsh / nation.
Note: There is a rating embedded within this post, please visit this post to rate it.
Bookmark and Share More »Powered by...

Er gwaetha’r glaw mae ‘na un llygedyn o heulwen wedi tywynnu i mewn i’n bywydau yn Neuadd Buddug. Mae brwydr y sianel wedi’i hennill! Wedi inni ddychwelyd o borfeydd gwlyb Caerffili fe aeth RO ati i weld beth oedd ar y teledu, ac O ryfeddod! ar sianel 15 roedd S4C Digidiol yn ei holl ogoniant. Dwi’n teimlo braidd yn euog am hyn gan nad oeddwn i wedi bod yn rhan o’r frwydr o gwbl, na neb arall yn fflat B1. Yn hytrach na chreu ffws roeddem ni wedi bodloni ar wrando ar Tocyn wythnos gyda Beti George. Ond mae ‘na lot o bobol yr eisteddfod yn aros yn Neuadd Buddug a rhai ohonyn nhw yn bobol ddigon bolshi. Dwi’n cymryd taw un ohonyn nhw a fartsiodd lawr at y groesawfan a mynnu’r hawl i weld ei sianel ei hun yn ei wlad ei hun. A diolch byth...

Dwi’n ofni i ddweud fod dydd Mawrth wedi hala cymaint o ofn arna i fel fy mod wedi credu’r BBC pan ddywedon nhw fod mwy o law i ddod dydd Mercher ac heb fynd i faes yr eisteddfod. Nawr mae’r bobol sy’n fy adnabod i yn gwybod nad oes angen rhyw lawer i wneud imi gadw’n glir o’r maes, ond roedd y cof am y gwynt ar glaw yng Nghaerffili ddoe yn drech na mi ac felly fe fues i’n crwydro o gwmpas ardal Neuadd Buddug a bues i mewn yng nghanol y ddinas unwaith eto ar fws rhif 27.
Mae Neuadd Buddug (Victoria Hall) yn llety i fyfyrwyr a ddarperir gan gwmni preifat ond mae bron â bod yn rhan o ddarpariaeth swyddogol y brifysgol. Mae’r cwmni yn darparu llety i fyfyrwyr mewn rhyw ddwsin o drefi a dinasoedd prifysgol ar hyd a lled y Deyrnas Gyfunol....

Does yr un eisteddfod yn haeddu glaw. Dwi’n dweud hynny o brofiad fel un oedd ar rai o bwyllgorau Eisteddfod Abergwaun yn 1986. Fe weithiodd trigolion yr ardal yn galed iawn er mwyn cael rhywun fel Gwilym Owen i gerdded rownd y maes yn datgan yr amlwg: sef bod pridd a dŵr yn creu mẁd. Gwelwyd yr un fath o beth yn digwydd yn Nhyddewi yn 2002. Ond am ryw reswm wrth wylio pigion yr ŵyl ar S4C digidol neithiwr prin soniodd Rhun ab Iorwerth am y glaw.
Ond dwi’n ofni taw glaw, glaw a hyd yn oed mwy o law sydd gen i i’w ddweud amdano heddiw. Roedd hi’n ofnadwy ddoe o ran tywydd. Yn lle mynd ar ein taith arferol o gwmpas bro’r eisteddfod, fel mae RO a minnau yn ei wneud am ddiwrnod neu ddau yn ystod yr wythnos, roedd yn rhaid inni fodloni i dreulio’r rhan...

Neithiwr fe fues i mewn digwyddiad difyr iawn yn neuadd Ysgol Penrhyn-coch, sef lansiad gwefan gymunedol Trefeurig. Mae’r wefan wedi’i geni fel rhan o broject cymunedol Pwerdai Ceredigion. Mae cynllun Y Pwerdai yn brosiect arloesol ar y cyd rhwng Cered a Theatr Felin-fach, ac yn ymgais “i ymateb yn gadarnhaol a chreadigol i’r ffactorau hynny sy’n bygwth diwylliant cynhenid a ffordd o fyw draddodiadol y sir”.
Penderfyniad lleol yn ardal Penrhyn-coch/Trefeurig oedd ceisio cynnal rhai agweddau ar y gymuned trwy wefan. Ac yn bendant roedd y noson lansio a’r pwyllgor lleol sy’n gyfrifiol am y wefan yn adlewyrchu bywiogrwydd a chyfoeth y gymuned leol ym Mhenrhyn-coch a’r ardal. Roedd hi’n draddodiadol ond heb fod yn hen ffasiwn, ac yn esiampl...

Mae gwynt y gwanwyn a gwynt y môr yn llenwi fy ffroenau yn Aberystwyth ac mae fy meddwl yn troi tuag at ein traddodiadau gorau ni fel cenedl – cerddoriaeth. A hithau’n dymor eisteddfodau cylch a sir Urdd Gobaith Cymru ni allwn i wneud dim ond canu. Felly, yn dilyn ar fy albwm Nadolig llwyddiannus a ryddhawyd rhyw ddwy flynedd yn ôl dwi wedi recordio fy hoff siantïau môr a chaneuon gwerin fel homage i Merêd. O dan y teitl Siantïau môr a chaneuon gwerin eraill gallwch fwynhau 10 o glasuron y werin yn eu purdeb. Heblaw am hyfforddiant Mr Voice flwyddyn yn ôl nid yw fy llais wedi’i drin mewn unrhyw fodd na’i sbwylio gan fasnachu diegwyddor fel ambell i ganwr a chantores y gallwn eu henwi petawn i’n teimlo fel gwneud. Na, yn hytrach, dyma sut y canwn ar...
Rhaglen ddiddorol ar BBC4 neithiwr, sef Rob Brydon’s Identity Crisis. Wnaeth Brydon daith fach o gigs yn Ne Cymru, gan ffilmio’r “daith darganfod hunaniaeth” oedd e arni’r un pryd. Mae Brydon yn actor arbennig (yn hytrach na “stand up” arbennig), ac oedd amheuaeth gen i a oedd Brydon wedi darganfod ei Gymreictod, neu dim ond [...]...

Dwi wedi treulio’r nos yn lapio anrhegion Nadolig. Nid bod llawer i’w wneud ond mae lapio’n broses sy’n cymryd llawer o amser i’w wneud yn hanner iawn. Rhaid mesur y papur yn weddol ofalus ac osgoi ei dorri a rhaid dod o hyd i’r ffordd iawn o lapio anrhegion o’r siâp anghywir. Cymaint y gwaith fel y gwnes i fethu rhaglen Y Sioe Gelf (Cwmni Da) ar S4C. Roedd hon yn rhaglen yr oeddwn am ei gweld yn arbennig am ei bod yn dweud hanes y ffotograffydd Marian Delyth yn dychwelyd i’r Mynydd Bach lle’r oedd hi wedi bod yn gweithio ddeng mlynedd ar hugain yn gynt ar un o’i phrosiectau ffotograffig cynharaf o dan y teitl ‘Y filltir sgwâr’. Ond diolch i wasanaeth gwylio eto S4C, Gwylio yma, roeddwn i’n medru edrych ar y...

Dwi’n ofni fy mod yn dal i feddwl am y London Stone. Doeddwn i erioed wedi clywed am y peth o’r blaen nes imi fynd i St Swithins Lane, ac er na chefais hyd i gofeb Catrin ferch Owain Glyn Dŵr dwi’n credu fod darganfod y garreg hon yn gwneud iawn am hynny. Yn ôl traddodiadol mae’r garreg yn mynd â ni yn ôl i ddyfodiad y Brythoniaid neu’r Prydeinwyr (cyn-deidiau’r Cymry) i’r ynys hon. Credai’r Cymry taw Brutus o Gaer-droia oedd sylfaenydd Prydain – dyna ddywedodd yr hanesydd Nennius yn y 9fed ganrif, ac yn bendant dyna oedd barn Sieffre o Fynwy (1090?-1155), awdur Brut y Brenhinoedd – a gwae neb a wadai hynny. Yn ôl Sieffre Brutus oedd yn gyfrifol am sefydlu dinas Llundain, Caer-droia newydd, a’r traddodiad oedd taw darn...
Dwi’n gwybod fy mod yn adrodd hanes fy ngwyliau haf yn ddarniog iawn, ond mae cymaint o bethau eraill i sylwi arnynt y dyddiau hyn. Ddoe, er enghraifft, cynhaliwyd angladd Ray Gravell ym Mharc y Strade, Llanelli. Y peth agosaf i angladd wladol i’w chynnal ers sefydlu’r Cynulliad Cenedlaethol gyda’r Prif weinidog Rhodri Morgan yn arwain y digwyddiadau. Roedd hwn yn ddigwyddiad nad oeddwn i’n medru cofio ei debyg o’r blaen, ac yn gasgliad eclectig o sumbolau cyfoethog o’n cenedligrwydd a’n hunaniaethau cenedlaethol amrywiol. Mewn rhyw ffordd, fel y dywedodd Rhodri Morgan ei hun, roedd Ray Gravell yn cyfuno y ffrwd genedlaetholgar (a nodweddir gan wleidyddiaeth Plaid Cymru, Cymdeithas yr iaith Gymraeg, a mudiadau eraill) gyda’r ffrwd...

Dwi newydd wylio rhaglen wych yn y gyfres Wynebau newydd (Telesgôp) ar wefan S4C. Roedd y rhaglen wyliais i yn adordd hanes pedair myfyrwraig o Ysgol Gyfun Gwynllyw, Pont-y-pŵl, sy’n ymuno â changen Merched y Wawr Casnewydd. Roedd y rhaglen Gwawr Casnewydd yn rhoi cipolwg inni beth ar beth oedd effaith hynny ar Ferched y Wawr a beth oedd effaith Merched y Wawr arnyn nhw. Yr oeddwn i’n edmygu penderfyniad y merched i ddod o hyd i gyfleon i ddefnyddio’r Gymraeg gan taw dim ond yn ysgol yr oedd nifer ohonynt yn medru defnyddio’r iaith o gwbl. Roedd yn ddiddorol iawn i glywed rhieni un o’r merched yn rhyfeddu at ei phenderfyniad i ymuno â mudiad ‘chwyldroadol’ fel Merched y Wawr. Mewn un ffordd fe allwn ni chwerthin, ond wrth edrych ar y peth o...

Des i ar draws un fenter ddiddorol yng nghanol y llif o syniadau sydd wedi dod oddi wrth Gordon Brown a’i lywodraeth newydd dros y dyddiau diwethaf. Ymhlith y cynigion ar gyfer newid cyfansoddiadol mae adran ar newid y rheoliadau (ynteu’r ddeddf) er mwyn caniatau i faner yr undeb gael ei hedfan yn fwy aml oddi ar adeiladau’r llywodraeth. Mae’r holl jamborî Prydeinig hyn yn ddiddorol iawn. Yn swyddogol mae’n cael ei ddweud ei fod yn cael ei anelu at newydd ddyfodiaid i’r Deyrnas Gyfunol, ond mae’n gyfleus iawn fod gan hyn i gyd sgil effeithiau sy’n llwyddo i dreiddio i ymwybyddiaeth pawb arall.
Dyma beth sy’n cael ei ddweud am faner yr undeb yn y ddogfen ymgynghorol The governance of Britain a gyhoeddwyd gan Lywodraeth San Steffan yr...

Bues i bron â thagu dros fy nghreision ŷd y bore ‘ma. Yr oeddwn i’n gwrando ar newyddion Radio Cymru am 7.00am ac roedd ‘na gyfweliad gyda Meri Huws, cadeirydd Bwrdd yr Iaith Gymraeg. Y rheswm dros gynnal cyfweliad gyda chadeirydd y Bwrdd oedd achos cwmni Thomas Cook yn gwahardd aelodau o staff rhag trafod busnes y cwmni yn Gymraeg gyda’i gilydd. Mae’r cwmni wedi datgan taw dim ond yn Saesneg y mae’n bosib i staff drafod busnes – ac mae hynny’n cynnwys canghennau fel Bangor ac Aberteifi, ac unrhyw le arall yng Nghymru. Fel y gellid disgwyl mae hynny wedi achosi tipyn o gyffyffl i ddweud y lleia. Yr hyn a wnaeth imi dagu oedd un sylw gan Meri Huws – roedd hi’n llawn cydymdeimlad gyda’r gweithwyr, yn gresynu at bolisi y cwmni, yn...
O’r diwedd mae blog Vaughan Roderick wedi’i ail enwi yn swyddogol yn Blog Vaughan Roderick – llongyfarchiadau iddo ar gael blog wedi’i enwi ar ei ôl! Er ei fod ar ei wyliau mae ganddo amser i flogio; mae’n rhaid ei fod yn cael y peth yr un mor gaethiwus â chyffur. Heddiw mae wedi dod o hyd i sylwadau diflas o ddisgwyliadwy gan y cyn-aelod seneddol Torïaidd Matthew Parris yn y Times sy’n cwyno am y defnydd o’r Gymraeg yng ngorsaf Casnewydd. Mae’n anodd credu fod rhywun sydd yn cael ei ystyried yn unigolyn hynaws yn medru coleddu’r fath syniadau.
Mae gwefan newyddion y Canadian Broadcasting Corporation yn adrodd hanes un gŵr ifanc anglophone o Montréal wnaeth ddefnyddio youtube.com i roi llafar i’w farn am siaradwyr Ffrangeg...

Dwi’n gwylio rhaglen Chris Cope unwaith eto gan fod y rhaglen yn cael ei hailddarlledu heno ar S4C. Un peth sydd yn fy nharo i yw pa mor ddymunol y mae St Paul a Minnesota yn ymddangos ar y ffilm. Dwi ddim am ddweud fy mod i’n teimlo fel bod yn Finnesotwr ond mae’n fy nharo i fel rhywle sy’n llawer gwell na rhai llefydd yn y Taleithiau Unedig. Roedd hi’n dda hefyd gweld y gefnogaeth yr oedd Chris yn derbyn oddi wrth ei deulu a’i gyfeillion. Roedd hi’n ddiddorol iawn sylwi sut roedd Chris yn ymdopi (neu ddim) heb fynediad at y rhyngrwyd wedi iddo gyrraedd Caerdydd ac hefyd sut mae’n gweld bod y gymuned ryngrwyd yn gryfach na’r gymuned. Roedd gweld y cyfarfyddiad gyda Siân Lloyd yr un mor ddifyr am yr ail waith – roeddwn yn disgwyl...

Fel Cymro mae cadw Gŵyl Dewi fel gŵyl genedlaethol yn bwysig iawn i mi. Fel eglwyswr mae dathlu Gŵyl Dewi yn bwysig iawn i mi hefyd. Ond nid yw’r ddau yn un. Neithiwr fe fues i’n dathlu Gŵyl Dewi fel gŵyl Gristnogol yng nghwmni cyd-Gristnogion o blwyf Aberystwyth. Eto doeddwn i ddim yn medru anghofio neu wadu nad oeddwn hefyd yn gweld elfennau gwladgarol yn yr hyn yr oeddem yn ei wneud.
Byddwn ni’n dathlu Gŵyl Dewi bellach ym mhlwyf Aberystwyth trwy gadw’r hyn a elwir yn swper agape, sef gweinyddiad o’r Cymun Bendigaid yng nghyd-destun pryd o fwyd arferol. Er taw dim ond unwaith y flwyddyn yr ydym yn cadw swper o’r fath mae yn ein hatgoffa ni fel Cristnogion fod y Cymun Bendigaid yn wreiddiol yn bryd o fwyd cymunedol, ond bod amser ac arferion ac...

Dim ond yn y deng mlynedd diwethaf yr ydw i wedi clywed pobol yn dymuno “Dydd Gŵyl Dewi Hapus” i’w gilydd. Does gen i ddim rhyw lawer yn erbyn yr arfer, ond ei fod yn swnio’n rhyfedd. Yr wyf fi wedi cymryd y diwrnod yn wyliau am y tro cyntaf ers blynyddoedd a dwi’n credu’n gryf iawn y dylai fod yn ŵyl y banc yng Nghymru. Ar hyn o bryd nid yw Dydd Gŵyl Dewi yn ŵyl genedlaethol mewn unrhyw ystyr o gwbwl. Rhyw fath o gytundeb preifat rhwng unigolion ydyw ar y gorau, neu hyd yn oed dewis unigolyddol. Fel y dywedais yr wyf wedi cymryd diwrnod o wyliau o’r gwaith er mwyn nodi’r achlysur, ond rhywbeth personol yw hynny i’r rhai sy’n medru ac yn dymuno gwneud; i’r mwyafrif mawr o’m cyd-Gymry nid yw’n ddiwrnod dim...

Dwi’n credu imi fod yn dyst i ddigwyddiad hanesyddol heno, un o’r trobwyntiau diwylliannol hyn’na sy’n digwydd nawr ac yn y man. Heno fe welais i’r blog Cymraeg yn dod i oed a hynny yng nghanolfan Morlan, Aberystwyth. Doeddwn i ddim yn rhyw siŵr beth i’w ddisgwyl – roedd y cyhoeddiad yn dweud taw T. Robin Chapman fuasai’n arwain trafodaeth ar Gristnogaeth a Chenedlaetholdeb (dylid bod wedi ychwanegu ‘Cymreig’) at hynny. Cafodd wahoddiad ar sail ei waith yn cofnodi bywydau rhai o arweinwyr cynnar cenedlaetholdeb Gymreig gan gynnwys y pennaf o’u plith, John Saunders Lewis. Fe allai fod wedi ein harwain i nifer o wahanol gyfeiriadau, ond yr hyn a gafwyd oedd cyflwyniad pryfoclyd a deallus yn dangos gwybodaeth a dealltwriaeth o...
Mae unrhyw sefydliad sy’n llwyddo i wneud i Geraint Jones (Geraint Twm), Trefor i ymddangos yn rhesymol a chymedrol yn haeddu rhyw fath o gydnabyddiaeth ar Flog Dogfael. Wel, dwi wedi gwylio’r wyrth honno’n digwydd ar rifyn yr wythnos hon o’r rhaglen deledu Y byd ar bedwar a’r sefydliadau anrhydeddus oedd yn gyfrifol am wneud hynny oedd Prifysgol Cymru, Corff Cyllido Addysg Uwch Cymru, a’r Ganolfan Datblygu Addysg Cyfrwng Cymraeg yng Ngholeg y Drindod, Caerfyrddin . A phwy arall oedd ar y rhaglen ond awdur Weirdoflog, sef Wierdo ei hun, neu fel y gwnes i ddysgu am y tro cyntaf ar y rhaglen, Mari Glyn Davies.
Mae Wierdo yn astudio Mathemateg ym Mhrifysgol Cymru, Aberystwyth. Mae’n astudio peth o’i chwrs gradd yn Gymraeg, ond dim ond cyfran....

Mae hi wedi cymryd diwrnodau imi ddod dros y profiad o fod yn rhan o’r gynulleidfa mewn perfformiad prin o ddrama Kitchener Davies, Meini gwagedd yn Neuadd Goffa Tregaron. Nos Iau diwethaf yr es i’r perfformiad trwy garedigrwydd cyfaill annwyl a gynigiodd lifft imi. Dwi’n un sy’n dwli ar ddramâu ond yn tueddu i beidio â mynd i’w gweld yn aml iawn. Fe ddysgodd RO a DML pam fy mod yn gwneud felly.
Drama fydryddol yw Meini gwagedd, ac yn wir fe anfonodd J Kitchener Davies hi i mewn i gystadleuaeth ddrama a barddoniaeth yn Eisteddfod 1945. Roeddwn i wedi darllen y ddrama o’r blaen, ond rywfodd roeddwn i wedi anghofio pa mor dywyll oedd y weledigaeth sydd ynddi. Mae’r holl gymeriadau yn ysbrydion sy’n dychwelyd i ail-fyw eu tynged yng...
Ar hyn o bryd mae rhaglen deledu Resoration yn dilyn Griff Rhys Jones wrht iddo adnewyddu hen dy fferm yn dŷ hâf. Tydw i heb wylio'r rhaglen, a dwi ddim am feiriandu'r syniad gan fod yr adeilad yn wag ac yn fyrddyn, a'r gobaith yw ei osod drwy gydol y flwyddyn (nid bod hynny'n ei wneu yn iawn), ond dyma'n fy atgoffa o erthygl nawddoglyd a ysgrifennwyd am y prosiect yn y Guraniad dros y nadolig gan yr awdur Niall Griffiths. Dyma'r baragraff a'm gwilltiodd:
He’s rediscovered his Welshness, now that it’s no longer widely seen as shameful to hail from that country, and his keen participation in the Trehilyn project is seen by some as disingenuous and smacking of self-redress.Ers pryd fuodd hi'n gywilydd dod o Gymru? Os dwi'n cofio'n iawn, Sais yw Niall Griffiths sydd wedi...
Brecwast yn yr Adelphi
Pan yr ych chi ar eich gwyliau ni all y bore ddod yn ddigon buan. Rydych chi’n gorwedd yn y gwely yn ystyried a yw’r amser wedi dod i godi. A yw 6.30am yn rhy gynnar i fynd i gael brecwast ac yna allan i grwydro. Cyn bo hir fe ddaw synnwyr cyffredin i’ch helpu ac fe wnewch chi sylweddoli ei bod hi braidd yn gynnar i feddwl am wneud dim byd. Felly rydych chi’n gorfodi eich hun i fynd yn ôl i gysgu am ychydig. Roedd RO yn fwy bywiog na finnau ac erbyn rhyw 8.30am roedd y ddau ohonom yn barod i fynd i frecwast. Roedd brecwast yn yr Adelphi yn cael ei weini yng nghrombil yr adeilad ond roedd y lle wedi’i addurno mewn marmor gyda cherfluniau bob man. Doedd dim llawer o drefn i frecwast, ond roedd digon ohono ond ichi fod yn amyneddgar....
Cyfaill annwyl a fu’n ddigon caredig i ddarparu teitl ar gyfer y blogiad hwn ac i dynnu fy sylw at y stori yn y Western mail heddiw o dan y teitl Elis-Thomas backs right to choose veil. Mae’n stori gwerth ei darllen ac mae’n awgrymu fod ychydig o dân yn yr hen Arg o hyd - sylwch yn arbennig at y cyfeiriad at y ‘British state’.
Lord Elis-Thomas, speaking at a reception in the Senedd to mark Iftar, the end of Ramadan, said Wales had ‘always prided ourselves on our acceptance of diversity’.
He said, ‘I do not believe it is the role of any Government to insist on a dress code, or to insist that its citizens conform to a way of thinking that happens to suit the Government of the day.
‘I know that for many Muslims, the past few months have...
Gwelais i’r stori am y cyfrifiad ysgol diweddaraf Cymru yn y Western mail heddiw, ond dwi’n methu dod o hyd i gopi o’r cyfrifiad ei hun eto. Yn ôl y Western mail mae’r arolwg a wnaed gan National Statistics yn dangos bod 57% o fyfyrwyr ysgol yn eu hystyried eu hunain yn Gymry, 27% yn ystyried eu hunain yn Brydeinwyr, a’r 16% sy’n weddill yn eu hystyried eu hunain yn perthyn i genhedloedd eraill. Ydy hyn yn newyddion da neu’n newyddion drwg? Dwi’n ei chael hi’n anodd penderfynu. Mae’n swnio’n ofnadwy taw dim ond ychydig dros hanner myfyrwyr ysgol ein gwlad sy’n medu uniaethu’n â’r wlad, ac eto i gyd mae’r ffaith taw dim ond rhyw ychydig dros chwarter sy’n gweld eu hunain fel Prydeinwyr yn codi...
Nid David Pickering yw’r unig un i groesawu penodiad William fel is-noddwr Undeb Rygbi Cymru. Yn y Western mail heddiw ceir sylwadau Gareth Jenkins, aelod o grŵp cefnogwyr Clwb Rygbi Castell-nedd; mae yntau yn adlewyrchu gweniaith anfeirniadol Pickering.
“I think it’s an excellent idea.
“I think he is following in his mother’s footsteps because she used to go to most of the games.
“Prince William comes across as a smashing guy and he seems to have the human touch.
“I think all Welsh rugby fans will welcome him with open arms.”
Mae rygbi Cymru mewn gwaeth sefyllfa nag yr oeddwn yn ei dybio os bydd pob cefnogwr yn croesawu hyn â breichiau......

Yn fy marn i pan fo rygbi a’r teulu brenhinol yn dod at ei gilydd mae’n rysáit perffaith ar gyfer cyfog. Felly ni ddylai fod yn syndod i neb fod y cyhoeddiad diweddar fod William Dywysog yn mynd i fod yn is-noddwr Undeb Rygbi Cymru heb gael llawer o groeso ym Mhlas-yn-Dogfael. Dyma ymateb gwenieithus David Pickering, cadeirydd URC:
“Rugby truly is our national sport in Wales, and the prince’s passion for and commitment to the game is well-known.
“I saw his tremendous ambassadorial qualities first-hand during the British and Irish Lions tour last summer and during his visit to Cardiff for the FA Cup Final in May.
“He has particular qualities when it comes to interacting with young people and I am sure he will prove inspirational in his new role...

Dafydd ap Gwilym a dysgwyr
Roedd dwy awr a hanner yn uffern eisteddfodol y gorlan fwyd yn ddigon i mi. Ac fe aeth RO a minnau tuag at Y lle celf; ond ar ein ffordd dyma alw heibio i stondin Prifysgol Cymru, Abertawe i gael golwg fanylach ar wefan Dafydd ap Gwilym. Roedd Dafydd Johnston wedi cyhoeddi ar ddiwedd ei ddarlith yn y bore y buasai modd gwneud hynny trwy’r dydd ar y stondin. Cafodd RO a minnau ein tywys o gwmpas y wefan gan ddau sydd wedi bod yn gweithio ar y wefan. Roedd gen i ddiddordeb gwybod mwy am y dechnoleg a oedd tu ôl i’r wefan ond nid oedd yr unigolyn a oedd yn gyfrifol am hynny ar y stondin ar y pryd; ond fe gefais wybod mwy am y defnydd o TEI ganddynt hwy. TEI yw’r dull o amgodio neu wneud nodiadau amrywiol am destun er mwyn ei ddefnyddio mewn...

Diwrnod i’r brenin
Diwrnod tawel ar ben fy hunan heddiw, a dwi ddim yn bwriadu gwneud rhyw lawer gan fod pawb arall yn mynd i’r eisteddfod am y dydd. Fe es i mewn i ganol y ddinas wrth iddyn nhw adael. Trafaeliais ar fws rhif 20. Mae’r sustem drafnidiaeth yn wahanol iawn i’r hyn sydd ar gael yn Aberystwyth. Yn ystod y dydd mae bws yn mynd bob deng munud o’r ‘pentref’ i ganol y ddinas. Dwi wedi bod yn Abertawe yn ddigon aml i fod yn gyfarwydd â’r hyn sydd i’w weld yma felly siopa oedd y prif nod. A’r lle i fynd i siopa yn Abertawe yw’r Farchnad, marchnad dan do fwyaf Cymru. Fe gefais amser hyfryd yn prynu nwyddau o gwmpas y lle – cocos fan hyn, bara fan draw, cig, ffrwythau. Mae popeth bron ar gael yn y farchnad. Popeth...

Fe dynnais i nifer o fideos byr o brotest yn y castell ac yn cerdded i lawr y Stryd Fawr yn Aberystwyth. Ar y blaen roedd grŵp Samba yn cadw reiat ac yn bywiogi’r holl. Roedd hi’n ddiddorol iawn sylwi ar y manŵfrio gwleidyddol oedd yn digwydd yno. Roedd y Dem Rhyddiaid a Phlaid Cymru yn ceisio bod yn fwy anwleidyddol na’i gilydd ac ar yr un pryd yn bod yn wleidyddol iawn. Un peth sylwais i arno oedd yn ddiddorol, ond dwi ddim yn credu ei fod i’w weld ar y fideo, oedd y modd yr oedd ymgeisydd cynulliad y Dem Rhyddiaid, sy’n siarad Cymraeg, yn cysgodi yr aelod seneddol Dem Rhydd nad yw’n medru siarad Cymraeg, yn agos iawn. Nawr efallai bod esboniad cwbwl ddiniwed dros yr agosatrwydd hyn, ond i’m tyb roedd yn edrych ychydig yn rhy debyg i...