Welsh Blogs.com


‘Ryff Gaed’ via Clecs Cilgwri August 18th, 2008 at 08:17

Ces i gopi o'r 'Rough Guide to Wales' fel anrheg heddiw, sy'n amserol iawn gan ein bod ni'n mynd lawr i ardal Llanberis am ychydig o ddyddiau dydd mercher. Pob tro dwi'n gweld teithlyfrau am Gymru (mewn siop llyfr fel arfer), dyma fi'n ffeindio fy hun yn eu chwilota am son am y Gymraeg (neu diffyg son!). Faswn i wedi disgwyl i'r 'ryff gaed' tynnu sylw a dangos parch i iaith lleafrifol, a ces i mo fy siomi wrth bodio trwy'r cyfrol am tro cyntaf. A dweud y gwir teimlais roedd y teithlyfr wedi gor-bwysleisio cryfder sefyllfa'r Gymraeg trwy dweud pethau fel: 'magazines,newspapers and websites in the old language are mushrooming'. Mae'n amlwg mi gafodd y pennod am yr iaith ei sgwennu cyn i freuddwyd pabur dyddiol 'Y Byd' dod i ben. Dwi ddim yn gweld y sefyllfa 'ar y tir' yr un mor...

Cymry’r Gemau Olympaidd via Blog yr Hogyn o Rachub August 15th, 2008 at 12:52

Does gen i ddim math o ddiddordeb yn y Gemau Olympaidd. Am ryw reswm fydda i’n hoffi javelin ac mi fedraf wylio’r deifio (dwi mond yn dweud hynny oherwydd y bu i mi ei weld yn chwilio am newyddion a phenderfynu gwylio’r gweddill ohono), ond ar wahân i hynny dyma’r tro dwi’n teimlo sympathi dros y bobl hynny sy’n casáu pêl-droed ond sy’n cael cachlwyth ohono bob yn ail flwyddyn yn ystod yr haf.Ond mae ‘na ddimensiwn gwbl wahanol i’r Gemau Olympaidd. Y peth ydi, dwi’n teimlo wedi fy eithrio yn gyfan gwbl, oherwydd ‘does 'na’r un tîm sy’n fy nghynrychioli i, na’r un tîm felly nid o reidrwydd i mi ei gefnogi, ond y gallaf ei gefnogi.Ga’i roi enghraifft. Y ddynes beicio, Nicole Cook. Iawn, da iawn hi ac ati ond wyddoch chi, uffern o ots gen i os Cymraeg ydi...

Wrthi’n llosgi pontydd Eisteddfod via Arth sy'n Dawnsio August 7th, 2008 at 11:23

Ysgrifennais gofnod hir iawn ar fy mlog Saesneg am yr hyn nad ydw i'n hoffi am Eisteddfod. Ar hyd yr wythnosau diweddar rydw i'n ceisio gafael ar beth sy'n digio (efallai byddai "siomi" yn air gwell) fi cymaint am y Brifwyl -- dyma rhan o'r ymdrech hwnnw.Yn wreiddiol roeddwn i am ei ysgrifennu yn y Gymraeg. Ond roeddwn i'n pryderu y byddai'r neges yn cael ei cholli ymhlith cwestiynau...

Cymylau yn Aberystwyth 2008-07-11 via Blog Dogfael July 23rd, 2008 at 07:10

image Rhyw wythnos neu ragor yn ôl roedd yr awyr dros Aberystwyth yn rhyfeddol yn hwyr y prynhawn ac felly fe dynnais i gyfres o ffotograffau. Yn anffodus nid yw fy nghamera bach i yn gwneud chwarae teg â’r olygfa. I weld gweddill y ffotograffau. Note: There is a rating embedded within this post, please visit this post to rate it. Rhannu hyn Rhagor »Gyrrir gan...

Barack Obama yn Gymro via e-clectig July 5th, 2008 at 14:25

Mae Obama yn...

Ali G yng Nghymru via Blog Rhys Llwyd June 27th, 2008 at 23:57

Dwi ddim yn cofio os ydw i wedi cyfeirio at y fideo yma o'r blaen ond maen un o fy ffefrynau. Ali G yng Nghymru, mwynhewch:...

Neges oddi wrth Gwenllian via e-clectig June 5th, 2008 at 03:09

Y mae ar Gymru wledig angen mwy o gartrefi y gall pobl eu fforddio via e-clectig June 4th, 2008 at 09:06

Y mae adroddiad a gyhoeddir heddiw (4 Mehefin) yn galw am gynnydd enfawr yn y cyflenwad o dai fforddiadwy yng Nghymru wledig. Cenfydd fod yr angen am dai sydd heb ei ddiwallu yng Nghymru wledig ar gynnydd: fod tai’n mynd yn ddrutach; fod mwy o bobl yn ddigartref; a bod llai byth o dai cymdeithasol mewn ardaloedd gwledig nag syddmewn trefi a dinasoedd. Y mae’n galw ar Lywodraeth Cynulliad Cymru ac awdurdodau lleol i wneud mwy a bod yn fwy craff a deallus er mwyn sicrhau bod anghenion tai yng Nghymru wledig yn cael eu diwallu. Y mae Comisiwn Sefydliad Joseph Rowntree ar Dai Gwledig yng Nghymru wedi treulio’r wyth mis diwethaf yn dadansoddi data ystadegol newydd a phresennol, yn derbyn tystiolaeth ac yn gwrando ar bobl ledled y wlad er mwyn pwyso a mesur y broblem tai yng Nghymru...

Deiseb yn erbyn y Tywysog via e-clectig June 2nd, 2008 at 20:08

Rydym ni, y Cymry o bedwar ban y byd, yn rhoi rhybudd gyda hyn na dderbyniwn unrhyw ymgais gan Lywodraeth Prydain i lwyfannu unrhyw "arwisgiad" arall o "Dywysog Cymru", gan y byddai hynny yn anghyson a Datganoli a'i ddatblygiad anochel a hefyd yn groes i dynged y genedl Gymreig fel pobol rydd a sofran. Gellwch arwyddo'r ddeiseb...

Diwylliant Cristnogol yn rhyw high-brow? via Blog Rhys Llwyd May 20th, 2008 at 00:30

Dwi'n meddwl fod tystiolaeth Gristnogol wastad wedi cael y broblem o fod yn 'high-brow' a dwi cymaint a neb wedi gwneud fy siar yn cyfrannu i'r broblem yma, rwy'n ymddiheuro. Pan yn coleg roeddw ni ac eraill wedi tybio fod y model cyfarfod undeb Cristnogol o gael darlithydd neu weinidog i draethu ar bwnc trwm wedi apelio nol yn y 70au a bod tyrfa niferus yn mynychu'r cyfarfodydd ond fod y model yna ddim mynd i weithio heddiw, wrth reswm. Ond fe ddoes ar draws tystiolaeth yn awgrymu fod y model ddim yn gweithio yn y 70au chwaith ac fod y cyfan yn cael ei gynnal yn yr ysbryd cywir maen siŵr ac fod y cymhellion yn gywir ond yn anffodus yn rhy 'high-brow' i fod yn unrhyw gyfrwng effeithiol i genhadaeth.“Cafwyd blwyddyn gymharol lwyddiannus eleni. Mae gennym gnewyllyn o tua hanner dwsin o...

Gwidbaith arall i ogledd Powys via Blog Dogfael May 10th, 2008 at 19:49

image Ddydd Llun diwethaf, gŵyl y banc Calan Mair, cefais gynnig gwibdaith i ogledd Powys gan gyfaill, sef DJP. Gadawsom Aberystwyth cyn 1.00pm a bwyta cinio yng nghanolfan ymwelwyr Cwm Nant yr Arian. Wedyn aethon ni ymlaen i Drefaldwyn a threulio cwpwl o oriau yno cyn gwneud ein ffordd yn ôl trwy Ddyffryn Banw i Aberystwyth. Wrth fynd trwy Dyffryn Banw fe wnaethon ni alw yn nghartref mam DML a chael DML yno yn mwynhau gofal a chariad. Wedyn fe ddaeth e gyda ni yn ôl i Aberystwyth. Rhagor o luniau o’n taith i Drefaldwyn a Dyffryn Banw. Note: There is a rating embedded within this post, please visit this post to rate it. Rhanna......

Protest yn Morrisons Caernarfon [Vlog] via Blog Rhys Llwyd May 4th, 2008 at 08:36

Protest yn Morrisons Caernarfon -...

Carpet Bagger via Eric the Red's Welsh Football April 3rd, 2008 at 16:37

Well I've bought some stupid pieces of memorabilia in my time but this beats the lot I think. This is a square of carpet that used to be on the floor in the old FAW offices in Westgate Street in Cardiff. It was sold to me by Neil Dymock of the Welsh supporters charity, Gol. I am assured that it has been professionally cleaned since it was trod on by the likes of Terry Yorath and Gavin Maguire....

Bywyd via Wierdo March 16th, 2008 at 12:40

Ma'n edrych fel mod i'n catch-up blog eto. Chenj.Ond dion ddim i gyd wedi bod yn feddwi troma. Gaddo.Lle i ddechra? P'thefnos yn ol mi gymerais ran yn y relay-for life i godi arian i Cancer Research UK. Timoedd o rhwng 8 a 15 yn cerdded am 24 awr heb stopio gydag oleia un person o bob tim ar y trac ar un pryd. Mi oedd na 7 ohonom ni gan fod un person yn sal. Gadewch i mi ddeutha chi, dydio ddim mor hawdd a ma'n swnio. Mewn theori dim ond 3-4 awr oedd rhaid i bawb gerdded yr un ond mi oedd hi mor oer a gwyntog mi oedd hi'n well cerdded! Erbyn tua hanner ffordd roedd pawb yn brifo drostynt - pengliniau, pherau, traed. Mi ath y nos ei hun yn ddigon cyflym gan fod pawb yn gwneud awr ar ben eu hunain a'r gweddill yn trio cysgu drwy'r miwsic mawr.Ond oh, roedd hi'n wyntog. Mi roeddwn i'n poeni...

Pob lwc Cymru via Wierdo March 15th, 2008 at 12:52

Dim ond blog sydun iawn iawn i ddeud pob lwc cymru ac i ddeutha chi fod na blog ar ganol ei sgwennu ond dwi heb ei orffen eto (fydd on hir dwin ama). Dwi off i Ffrainc ganol wthos felly gai o fyny erbyn ganol wthos fel fy mod i'n rhydd i flogio lot am ffrainc pan ddoi nol!!Hwyla sbriiWaaaales, Waaaales,...

Nodweddion Pennaf y Cymry via Blog yr Hogyn o Rachub March 5th, 2008 at 11:54

Nid yn anaml yr hoffwyf ddweud pethau mawrion, ac nid yn anaml i’r iaith Saesneg y cyfeirir y llid hwnnw ati. Yn wir, mor drahaus ydwyf ar y mater fel y byddaf yn datgan yn groch a phendant mai hen iaith gomon a hyll ydi’r Saesneg: hyll oherwydd ei seiniau di-nod a diflas a chomon oherwydd bod pawb yn ei medru. Does math o goethder na chelf yn perthyn iddi, yn fy marn onest i. Adroddir cyfrolau am y Saesneg y medr bron pob gwlad arall ei siarad yn well na’i wlad a roes enedigaeth iddi. Ond gwell i mi beidio â dweud mwy, neu bydd rhywun yn sicr am fy ngwaed.Ar ôl darllen Morfablog a gweld dolen i raglen Rob Brydon’s Identity Crisis fe’m synnwyd sut yr oedd ei ddirnadaeth o’r Cymry yn wahanol i ddirnadaeth y Cymry am eu hunain. Wyddwn i fy hun fyth y cawsom ein hystyried yn...

Siantïau môr a chaneuon gwerin eraill via Blog Dogfael March 4th, 2008 at 23:08

image Mae gwynt y gwanwyn a gwynt y môr yn llenwi fy ffroenau yn Aberystwyth ac mae fy meddwl yn troi tuag at ein traddodiadau gorau ni fel cenedl – cerddoriaeth. A hithau’n dymor eisteddfodau cylch a sir Urdd Gobaith Cymru ni allwn i wneud dim ond canu. Felly, yn dilyn ar fy albwm Nadolig llwyddiannus a ryddhawyd rhyw ddwy flynedd yn ôl dwi wedi recordio fy hoff siantïau môr a chaneuon gwerin fel homage i Merêd. O dan y teitl Siantïau môr a chaneuon gwerin eraill gallwch fwynhau 10 o glasuron y werin yn eu purdeb. Heblaw am hyfforddiant Mr Voice flwyddyn yn ôl nid yw fy llais wedi’i drin mewn unrhyw fodd na’i sbwylio gan fasnachu diegwyddor fel ambell i ganwr a chantores y gallwn eu henwi petawn i’n teimlo fel gwneud. Na, yn hytrach, dyma sut y canwn ar...

Parhau i ddathlu Gŵyl Dewi via Blog Dogfael March 3rd, 2008 at 22:54

image Gan nad oedd Dydd Gŵyl Dewi yn syrthio ar ddiwrnod gwaith eleni roedd hi braidd yn anodd i feddwl am ffordd i wneud y dydd yn wahanol i’r gweddill. Ond yn y diwedd penderfynais taw dyma’r dydd i brynu fy nghopi o Wyddoniadur Cymru yr Academi Gymreig. Fel mae’n digwydd roedd gen i docynnau llyfrau a oedd bron yn ddigon i dalu amdano yn Siop Inc, Aberystwyth lle mae’n cael ei werthu am bris gostyngol. Roeddwn i’n teimlo’n eithaf balch o fi fy hun wrth imi gerdded i mewn trwy byrth Plas-yn-Dogfael i arddangos fy mhryniad newydd. Pam? Wel am fod DML wedi archebu ei gopi yntau fisoedd yn ôl yn uniongyrchol oddi wrth Wasg Prifysgol Cymru a’i fod yn dal i ddisgwyl am ei gopi fis a mwy wedi’r dydd cyhoeddi. Dwi’n edrych ymlaen yn fawr iawn i...

Dydd Gwyl Arwyr via Rwdls Nwdls March 2nd, 2008 at 21:52

image Brynais i dusw o gennin pedr i ngwraig ddoe ar ddiwedd diwrnod hamddenol. Dyna’r cyfan wnes i o ran dathlu dydd ein nawdd Sant, ond roedd yn braf cael y blodau llachar yn goleuo’r stafell a rhoi blas o felyn yr haf ar ddiwedd gaeaf. A dweud y gwir, sa’n well gen i tasen ni’n dathlu Llywelyn ein Llyw Olaf, Owain Glyndŵr (neu Glyndr fel dwedodd yr Occidental Mule) neu arwr nad sydd wedi ei seintio gan bwy bynnag oedd yn dyrannu’r anhrydeddau yn Rhufain ar y pryd. Gwn fod Cymru wedi bod yn Gristnogol ers dechreuad unrhyw feddwl am Gymru fel gwlad, ond dio’n deud dim i fi’n bersonol fod nawdd sant ganddon ni. Llawer gwell ar gyfer dathlu ein cenedl, iaith a diwylliant fuasai dathlu uniolgyn sydd yn gallu ein ysbrydoli i feddwl amdanom ein hunain fel...

George Gallowy shows his Respect via Gwenu dan Fysiau February 12th, 2008 at 21:37

Wps blog anghywir! o wel, adawa i o yma ta bethIn an artice rant about the proposed new Gaelic channel by the BBC, he only mentions to call the Gaelic language 'obscure' twice in the artice which was dissapointing.Language is a living thing or nothing at all if you ask me. And the rest of us, by a stroke of luck, are in possession of a tongue worth the weight of Ben Nevis in gold.This is often an argument used against any money being spent on the Welsh language, that it shouldn't be supported in any way by the state and that it should be left to fight it out with other languages, which is an argument that one can understand. But then he goes on to say:The English language is our greatest asset and the government spends far too little spreading it even wider. The money spend on Gaels...

Led-led via Arth sy'n Dawnsio January 7th, 2008 at 11:50

Bu'r briodferch ifanc a mi yn Iwerddon ar gyfer Nos Galan, a fu'n brofiad life-affirming mewn ffordd ryfedd. Ni chaf lawer o gyfleodd ffoi rhag y brifddinas y dyddiau hyn ac anghofiaf sut mae'n dda cael newid ar amryw amseroedd.Oherwydd prinder arian, a chasineb Rachel tua hedfan, aethom ni i Iwerddon trwy drên i Gaergybi a fferi i Dún Laoghaire. Petai pethau'n mynd yn ôl cynllunio (ac nad aethant -- oherwydd y tywydd, bu rhaid inni aros yn y porthladd am dair awr ychwanegol), mae'n daith tua wyth awr. Ni phoenid Rachel a mi ganddi: gallem ni deimlo'n well amdanom ein hunain ar gyfer teithio wrth fodd mwy "gwyrdd"; mae'n well gennyf deithio heb y trafferthu o raid mynd trwy atal diogelwch Draconiaidd (a); a bu gennyf ddigon o amser i ddarllen yn llwyr Ffawd, Cywilydd a Chelwyddau ar y...

Amos yn ymweld a Chymru [1/2] via Blog Rhys Llwyd December 29th, 2007 at 23:39

“Yn y dydd hwnnw, codaf furddun dadfeiliedig Dafydd; trwsiaf ei fylchau a chodaf ei adfeilion.” Amos 9:11Mae un o'm cyfeillion yn hoff o wahaniaethu rhwng yr Hen Destament a'r Newydd drwy nodi fod yr hen yn adain-dde a'r newydd yn adain-chwith. Gellid deall sut fydd pobl yn neidio i'r fath gasgliadau ond o edrych ar rai o lyfrau'r Hen Destament a'u negeseuon, daw'n amlwg yn weddol sydyn nad oes modd tynnu cymhariaeth wleidyddol môr bendant rhwng y ddwy destament. Mae Amos a sawl proffwyd arall yn yr Hen Destament yr un mor feirniadol â Iesu Grist ei hun o anghyfiawnderau ac achosion o orthrymu'r tlawd. Felly cyfeiliorni yw datganiadau ysgubol fod yr hen destament yn 'adain-dde'. Prin yw'r bobl bellach yng Nghymru sy'n credu fod y Beibl yn siarad yn uniongyrchol gyda ni heddiw a...

Amos yn ymweld a Chymru [2/2] via Blog Rhys Llwyd December 29th, 2007 at 23:40

parhad o'r postiad blaenorol...Ym mhroffwydoliaeth Amos maen amlwg fod dosbarth pwerus a chefnog o drigolion Samaria, prifddinas Israel, wedi dod i fod yn bobl gyfoethog, hunanol ac anghyfiawn. Oherwydd i'r dosbarth uwch drethu'n drwm a chipio tiroedd dechreuodd caethwasiaeth anghyfreithlon ac anfoesol yn ogystal â chreulondeb tuag at y tlawd yn gyffredinol. Ar yr olwg gyntaf nid oes modd tynnu cymariaethau amlwg rhwng y sefyllfa yn oes Amos â'r sefyllfa gyfoes yng Nghymru ac nid wyf am ddechrau beirniadu trên grefi Caerdydd ond gadewch i ni ystyried rhai cymariaethau. Wrth goffáu diweddu'r fasnach gaethwasiaeth eleni fe dynnwyd sylw gan elusen Gristnogol Tearfund fod caethwasiaeth ar ffurf human-trafficing at ddiben y diwydiant rhyw yn broblem fawr yn y gorllewin a phroblem sy'n...

Problemau Parcio Pysgodyn Powys via e-clectig December 14th, 2007 at 15:19

Mae Andy Hazell o Dref-y-Clawdd ym Mhowys wedi gwario miloedd o bunnoedd i drawsffurfio ei Vauxhall Corsa i fod yn fodel 5.5m o ysbinbysg y môr. Am ryw reswm mae o'n cael problemau i...

Emma Reese yng Nghymru via Blog Dogfael December 5th, 2007 at 22:42

image Ers rhyw fis bellach mae Emma Reese wedi bod yn adrodd hanes ei hymweliad â Chymru ar ei blog Fel y moroedd. Mae’n ddiddorol iawn gweld sut mae hi yn ein gweld ni, y wlad, a sut brofiad yw hi i fod yn rhywun sy’n dysgu Cymraeg ac yn ceisio siarad yr iaith gyda phobl. Byddwn i’n annog darllenwyr Blog Dogfael i gael golwg arno. Nid yw’n waith hawdd o gwbl siarad iaith yr ydych chi’n ei dysgu. Pan fues i ar fy ngwyliau yn Strossburi (Strasbourg) a Brwsel dros yr haf roeddwn i’n ceisio siarad Ffrangeg ac Iseldireg, ond yn aml iawn byddai’r person yr oeddwn i’n siarad gydag ef yn dyfalu fy mod yn medru Saesneg ac yn troi at yr iaith honno. Mae hynny’n dorcalonnus am ddau reswm – nid ydych yn cael y cyfle i ymarfer yr iaith yr ydych yn ei...

Noson ‘dyn’ o beldroed via Clecs Cilgwri November 21st, 2007 at 23:46

Mae hi wedi bod noson reit rhyfedd a dweud y gwir. Pigiais i draw i'r Wyddgrug fel arfer ar nos fercher, ond yn hytrach na clywed lleisiau cyfarwydd Magi Dodd a Glyn Wise ar radio'r car , mi glywais i sylwebaeth ar gém Cymru yn erbyn Yr Almaen. Hanner amser ac roedd hi'n dal i fod "dim dim i Gymru" (fel y dwedodd Bryn yn y dafarn nes ymlaen), sgór anhygoel ar unrhyw noson! ond yr heno 'ma roedd 'na ddrama arall dim ond cyffyrddiad botwm bach i ffwrdd. Clywais sgór gém Lloegr mewn stad o sioc, 0-2 wedi dim ond hugain munud. Doedd dim ond rhaid iddynt cael gém cyfartal i fynd drwyddi i ffeinals pencampwriaeth Ewrop, sut gallai pethau mynd gymaint i'r chwith iddyn nhw? Eisteddodd criw bach yn y Castell Rhuthun, eu llygaid ar y sgrn yn y cornel, mewn sioc hefyd. Nid gallen nhw cytuno...

Monarchy Wales yn mwynhau fy mlog via Gwenu dan Fysiau October 22nd, 2007 at 21:37

Sylwais o ystadegau Smiling under Buses mod i'n cael tipyn o ymwelwyr o Monarchy Wales. O ymchwilio drwy'r wefan druenus, yn eu hadran 'News Update', mae nhw'n cyfeirio at gofnod ar fy mlog:Our September 2006 campaign letter also resulted in this being sent to us and Neil Welton, the leader of Monarchy Wales, being accused of having the opinions of "a sixty-year-old man".Mae hyn yn gelwydd llwyr. Dwi wedi ei ail-ddarllen dwywaith, a welai ddim sôn amdano'n cael ei ddisgrifio fel plentyn 6 oed, er mae'n cael ei alw'n "dwat", "idiot" a "fool" (i gyd gan fi), a "complete and utter nutcase" gan rhywun arall. A wnes i ddim ei ddanfon atynt chwaith - ar-lein mae o. Mae'n hen bryd i'r pobl ma gael eu ffeithiau'n...

Ffilmio Capel Celyn via Morfablog October 14th, 2007 at 14:03

Aethon ni i weld cynhyrchiad y Theatr Gen, Porth y Byddar, noson o’r blaen, ac ardderchog oedd hi hefyd. Wrth bori trwy archif Tryweryn yng Nghasglu’r Tlysau, ffeindiais i ffilm gan Ysgol Friars, Bangor, “Tryweryn, the story of a valley”. Mae’n rhyfedd faint o syndod ydyw i weld pobl a thirwedd Cwm Tryweryn mewn lliwiau’r [...]...

Yn dathlu Cymreictod Lerpwl via Clecs Cilgwri October 5th, 2007 at 06:35

Dwi ddim cweit yn sgowser. Ces i fy ngheni ochr anghywir y dŵr i fy ngalw fy hun hynny, ond dwi'n hoff iawn o'r hen ddinas budr (Lerpwl..) sy'n pwysig dros ben i fywyd ar y penrhyn 'ma. Ces i fy niddori felly i weld y darn hon ar raglen Wedi 7 ynglŷn â dylanwad Cymry ar Lerpwl dros y canrifoedd, a'r plac newydd yn ardal Pall Mall (Little Wales) i ddathlu'r ffaith. (Symudwch y 'chwaraewr ymlaen at 18'00" er mwyn mynd at y darn am Gymry Lerpwl).Roedd 10% o boblogaeth Lerpwl yn 1813 yn Gymry, y rhan mwyaf yn Gymry Gymraeg wrth rheswm, cysylltiad unigryw (ar ran cryfder a deaeryddiaeth) sy'n clymu Lerpwl a Chymry o hyd, ac sy'n gwneud i fi ofyn wrth fy hun pam ar wyneb y ddaear ydy cymaint o Gogs yn cefnogi Man U!!...

Chwaraeon siomedigaethus via Arth sy'n Dawnsio September 30th, 2007 at 22:11

image Cofiaf unwaith, ar ôl gêm arbennig o agos a gollodd y Minnesota Vikings, gofynnodd fy ffrind Paul Gronert o'i hunan: "Why do I put myself through this?"Roeddwn i'n meddwl yr un peth nos Fercher, ar ôl collodd yr Unol Daleithiau'i gêm erbyn Samoa*, ac rydw i'n siŵr y roedd sawl Cymro'n gofyn hyn o'u hunain prynhawn Sadwrn. Gellir deall pam dewisodd Cymru'r Byd rhoi stori am ymgodymu ar ei dudalen blaen ar ddydd Sul, yn lle nag unrhyw gyfeiriad at y traed moch a ddigwyddodd rhwng Ffiji a Chymru. Gyda reslo, o leiaf gellir cymryd cysur yn y ffaith ei bod yn ffug. Petai'r Celtic Warrior** (a edrycha fel Batista, on'd yw fe?) yn colli ei ornest, o leiaf nid yw'r bai arno fe -- mae'n rhywbeth arfaethedig.Ond bu'r golled ar ddydd Sadwrn yng ngo iawn. Ac mae'r ffaith nad yw Cymru yn ddigon...