
Heno fe fues i mewn cyfarfod o Siambr Fasnach Aberystwyth. Roeddwn i wedi cael gwahoddiad yno fel cynghorydd tref oherwydd fod Cyngor Sir Ceredigion wedi mabwysiadu rheoliadau ar gyfer rheoli dodrefn stryd yn unol ag adran 137 Deddf Priffyrdd 1980 (c.66) yn gwahardd atalfeydd ar briffyrdd (sy’n cynnwys palmentydd) a Deddf Llywodraeth Leol (Darpariaethau Amrywiol) 1982 (c. 30). Golyga hyn fod yn rhaid i siopwyr sydd am osod arwyddion ar y stryd neu berchnogion caffis sydd am osod bordydd a chadeiriau tu fas yn gorfod gwneud cais am drwydded y byddai’n rhaid talu amdano’n flynyddol. Yn ogystal bydd yn rhaid i bob siop gael gofod o ryw 1.8m o bafin yn rhydd o flaen ei siop ar ôl gosod unrhyw beth o’i blaen – gallai hyn olygu trafferth i rai busnesau.
Roedd llawer...

Dyma’r papur pleidleisio ar gyfer yr isetholiad cyngor sir yn ward Rheidol a enillwyd gan Aled Davies o Blaid Cymru, 10 Gorffennaf 2008. Roedd yn rhaid imi ddefnyddio’r gwreiddiol i bleidleisio! Ond dwi’n falch imi wneud copi fel swfenîr o’r digwyddiad hanesyddol hwn yng ngwleidyddiaeth Aberystwyth. Bellach Plaid Cymru sy’n dal tair o’r chwe sedd yn ardal Aberystwyth a Phenparcau, y Dem Rhyddiaid â dwy, ac un aelod annibynnol. Cyn etholiad Mai 2008 dim ond un aelod cyngor sir oedd gan Blaid Cymru yma.
Note: There is a rating embedded within this post, please visit this post to rate it.
Rhannu hyn Rhagor »Gyrrir gan...

Mae’r ymgyrch wedi dechrau mewn gwirionedd yn yr isetholiad cyngor sir yn ward Rheidol yn Aberystwyth. Fel y gŵyr pawb bellach fe ymddiswyddodd cynghorydd Democrataidd Rhyddfrydol y ward o fewn mis i’w ethol ar ôl iddo gael ei arestio gan yr heddlu a derbyn rhybudd.
Mae unrhyw isetholiad yn gynhyrfus wrth gwrs, ond yng Ngheredigion mae’r cyngor wedi rannu bellach rhwng 19 o gynghorwyr Plaid Cymru a 22 o gynghorwyr ‘Annibynnol’, Rhyddfrydol a Llafur sy’n ffurfio’r glymblaid sy’n rhedeg y cyngor. Felly gallai newid o un sedd fod yn arwyddocaol iawn.
Neithiwr bu aelodau Plaid Cymru allan ar y stwmp yn dosbarthu taflenni yn y ward ac fe lwyddwyd i gyrraedd bob tŷ bron. Mae’n bwysig i’r neges gael ei throsglwyddo gan fod gan y...

Neithiwr fe fues i mewn digwyddiad difyr iawn yn neuadd Ysgol Penrhyn-coch, sef lansiad gwefan gymunedol Trefeurig. Mae’r wefan wedi’i geni fel rhan o broject cymunedol Pwerdai Ceredigion. Mae cynllun Y Pwerdai yn brosiect arloesol ar y cyd rhwng Cered a Theatr Felin-fach, ac yn ymgais “i ymateb yn gadarnhaol a chreadigol i’r ffactorau hynny sy’n bygwth diwylliant cynhenid a ffordd o fyw draddodiadol y sir”.
Penderfyniad lleol yn ardal Penrhyn-coch/Trefeurig oedd ceisio cynnal rhai agweddau ar y gymuned trwy wefan. Ac yn bendant roedd y noson lansio a’r pwyllgor lleol sy’n gyfrifiol am y wefan yn adlewyrchu bywiogrwydd a chyfoeth y gymuned leol ym Mhenrhyn-coch a’r ardal. Roedd hi’n draddodiadol ond heb fod yn hen ffasiwn, ac yn esiampl...

Mae bil y dreth gyngor am y cyfnod 2008-04-01 hyd at 2009-03-31 wedi cyrraedd Plas-yn-Dogfael heddiw. Mae’r annedd ym mand C. Mae tri yn mynnu arian – Cyngor Sir Ceredigion sy’n mynnu’r swm uchaf, sef £733.66, wedyn Heddlu Dyfed Powys sy’n gofyn am £147.66, ac yn olaf Cyngor Tref Aberystwyth sydd am £56.31.
Gyda’r bil, fel arfer, daeth llawer o fwnff yn esbonio mewn ysgrifen ac ystadegau sut mae’r arian yn cael ei wario ac ar beth. Mae taflen Cyngor Sir Ceredigion ar ffurf calendr ac mae’n cynnwys rhai hysbysebion masnachol – syniad da siŵr o fod er mwyn cadw’r gost yn isel, ond trueni nad yw pob un o’r hysbysebion hynny yn Gymraeg! Mae’r rhan fwyaf o wariant y cyngor ar bedwar gwasanaeth: Addysg (£66m), Gwasanaethau...

Wythnos diwethaf fe wnes i dderbyn llythyr gan Adran Gyllid Cyngor Sir Ceredigion ynglŷn â thalu Treth y Cyngor. Byddaf yn talu treth Plas-yn-Dogfael trwy ddebyd uniongyrchol. Ond am ryw reswm neu’i gilydd nid oedd taliad Gorffennaf wedi’i dynnu o’r cyfrif. Daeth yr esboniad yn y post. Pam na chasglwyd y taliad? “Camgymeriad technegol.” Digon hawdd gwneud mae’n siŵr. Ond nid yn aml y bydd dyn yn derbyn llythyr oddi wrth gyrwyddwr cyllid yn “taer ymddiheuro” am unrhyw beth. Dwi’n cofio’r drafferth ynglŷn â thalu treth y pen ddechrau’r 1990au. Dim gair o ymddiheuriad bryd hynny am gydweithio gyda’r llywodraeth Thatcheraidd i weithredu treth oedd yn sylfaenol anghyfiawn, ond efallai yr oedd hynny’n disgwyl gormod....