
Nid yw sefydliadau diwylliannol yn cael lle mawr mewn trafodaethau gwleidyddol strategol, ond dro ar ôl tro mewn hanes mae’r sefydliadau yma yn cael eu hunain yng nghanol brwydrau geiriol a milwrol. Er nad yw’n ymddangos fel ‘ny bob amser mae sefydlu llyfrgell, amgueddfa ac archifdy cenedlaethol yn ganolog ym mywyd cenedl neu wladwriaeth. Dyma’r sefydliadau sydd yn galluogi pobl i adrodd ei hanes. Nid yw’n syndod felly fod sefydliadau o’r fath yn dod yn dargedau mewn rhyfeloedd – o losgi llyfrgell Prifysgol Gatholig Leuven yn 1914 hyd at yr ymosodiadau ar lyfrgell ac amgueddfa genedlaethol Bosnia-Hertsogofina ddechrau’r 1990au a’r rheibio ar sefydliadau diwylliannol Irác yn 2000au. Efallai nad ydyn ni yng Nghymru yn sylweddoli cymaint o...

Un o’r pethau oedd yn dal i fod yn y Senedd oedd y gwaith celf dadleuol yn portreadu Aneurin Bevan a Margaret Thatcher mewn tunplat. Pan glywais i’n wreiddiol am y ddadl ynglŷn â’r gwaith fy mod wedi teimlo fod y cwynwyr yn gwneud lot o stŵr am ddim byd. Ond rhaid i mi ddweud ar ôl ymweld â’r Senedd a gweld y peth drosof fy hun fy mod wedi dod i ddeall yn well pa mor rhyfedd yw gweld wyneb Margaret Thatcher yn edrych i lawr arnoch chi yn Neuadd y Senedd a pham bod cymaint wedi teimlo’n grac am y peth. Roedd yn edrych yn òd iawn. Dwi’n gwybod fod rhai yn dweud fod y gwaith wedi gwneud ei waith wrth inni ei drafod, ond ai mewn senedd y mae lle i weithiau dadleuol o’r fath?
Note: There is a rating embedded within this post, please visit this...

Wedi rhedeg trwy’r glaw o’r Senedd i Adeilad y Lanfa i weld yr offeryn statudol cyntaf i’r Cynulliad Cenedlaethol ei awdurdodi roeddwn i’n barod am fy nghinio, ac felly hefyd fy nghyfaill RO. Roedden ni wedi bwriadu yn wreiddiol mynd mas o’r ddinas am ginio, ond yng nghanol y glaw – ac oherwydd inni dreulio mwy o amser o lawer yn crwydro’r Senedd nag yr oeddem wedi’i fwriadu yn wreiddiol – fe gawsom ni ginio mewn bwyty Pizza Express gerllaw. Roedd y lle yn edrych yn dawel yn y glaw, ond wrth inni eistedd yno fe wnaeth hwnnw beidio ac yn sydyn ymddangosodd torf ar ôl torf yn chwilio am fwyd ac yn crwydro o gwmpas gan ddod â bywyd i’r ardal.
Wedi cinio roedd gennym un lle arall i’w weld. Bellach mae’n rhaid i’r rhai...

Rhyw ddwy flynedd yn ôl bues i yng Nghaeredin a’r pryd hynny cefais gyfle i ymweld â Senedd yr Alban yn Holyrood. Roedd hwnnw’n brofiad gwych, ond er nad oedd cymaint o ffws yn cael ei wneud yn y Senedd yng Nghaerdydd, rhaid dweud fod y pleser o weld y siambr a’r ystafelloedd pwyllgora a chyfarfod yn fwy i mi. Mae’r adeilad yn un trawiadol, ac mae’r ffaith fod y gwleidyddion wastad ar y lefel isaf gyda’u etholwyr yn cerdded uwch eu pen, yn sumbolaidd iawn. Nid yw’n adeilad mor fawr na mawreddog ag yw Senedd yr Alban – dim ond siambr ac ystafelloedd pwyllgora sydd yma o’u cymharu â’r cymhlethdod adeiladau roedd yn cael eu codi yn yr Alban – ond mae ei arwyddocâd cymaint yn fwy. Roedd ‘na adeilad yng Nghaeredin yn barod a...

Does yr un eisteddfod yn haeddu glaw. Dwi’n dweud hynny o brofiad fel un oedd ar rai o bwyllgorau Eisteddfod Abergwaun yn 1986. Fe weithiodd trigolion yr ardal yn galed iawn er mwyn cael rhywun fel Gwilym Owen i gerdded rownd y maes yn datgan yr amlwg: sef bod pridd a dŵr yn creu mẁd. Gwelwyd yr un fath o beth yn digwydd yn Nhyddewi yn 2002. Ond am ryw reswm wrth wylio pigion yr ŵyl ar S4C digidol neithiwr prin soniodd Rhun ab Iorwerth am y glaw.
Ond dwi’n ofni taw glaw, glaw a hyd yn oed mwy o law sydd gen i i’w ddweud amdano heddiw. Roedd hi’n ofnadwy ddoe o ran tywydd. Yn lle mynd ar ein taith arferol o gwmpas bro’r eisteddfod, fel mae RO a minnau yn ei wneud am ddiwrnod neu ddau yn ystod yr wythnos, roedd yn rhaid inni fodloni i dreulio’r rhan...

Mae’n bosib bod darllenwyr cyson y blog yn gwybod yn gwybod yn barod nad oes gen i lawer o amynedd gydag Alun Cairns AC. Efallai bod y ffaith ei fod yn Dori o Glydach yn rhywbeth i’w wneud â’r peth; mae’r ffaith ei fod wedi bod yn gweithio i Lloyds TSB hefyd yn cyfri yn ei erbyn yn fy meddwl i - dyna yw fy manc innau ac mae meddwl bod fy arian wedi bod yn mynd i’w dalu ef yn uniongyrchol yn broblem arall. Wrth gwrs, fel aelod cynulliad, mae fy arian yn parhau i’w dalu i wneud ei waith!
Pan glywais i am ei ffopa ar raglen Dau o’r Bae ar Radio Cymru mae’n rhaid imi gyfaddef fy mod wedi ymroi i schadenfreude – pleser dymunol iawn ond rhywbeth i’w gadw’n gyfrinachol ar y cyfan dwi’n teimlo. Mae gweld Tori yn cael ei haeddiant wastad yn bleserus, ond yn fwy...

Dwi’n ymwybodol iawn fod ‘na un peth nad ydw i wedi sôn amdano ar y blog hyd yn hyn a hynny yw ffurfio’r cabinet yn dilyn cytundeb clymblaid Llafur a Phlaid Cymru yn y Cynulliad Cenedlaethol. Byddai’n dda fod wedi gweld un aelod arall gan Blaid Cymru yn y cabinet, ond dwi’n ofni fod un apwyntiad yn fwy na’r un arall wedi mynd â fy sylw. Dwi’n siŵr nad yw’n syndod pan ddyweda i taw apwyntiad Elin Jones AC fel Gweinidog Materion Gwledig yw hwnnw. Rwy’n hynod o falch drosti hi’n bersonol, ond dwi hefyd yn credu y bydd hi’n llais dilys dros gefn gwlad yn y cabinet. Dwi ddim yn disgwyl i bethau fod yn hawdd; dwi ddim yn disgwyl i ffermwyr fod yn hapus, ond efallai y byddan nhw ychydig bach yn llai blin na’r arfer!...

Dwi ddim am i hyn swnio fel rhyw fath o erthygl goffa i Rhodri Morgan, ond dwi’n teimlo y dylwn i wneud ychydig sylwadau ac yntau yn rhoi’r gorau am ychydig i fod yn brif weinidog gweithredol oherwydd ei lawdriniaeth. Mae’r dyn yn ennyn teimladau cymysg ynof fi, cymysgedd o barch a siom. Yn gyntaf mae’n rhaid ddweud imi edmygu’r modd y bu’n barod i dorri ei gŵys ei hun wedi marwolaeth John Smith a phan etholwyd Tony Blair yn arweinydd Llafur Newydd. Roedd yn barod i’w herio a phan ddaeth ei gyfle yn ystod cyfnod byrhoedlog Alun Michael fel prif weinidog, neu’n hytrach prif ysgrifennydd, ni dynnodd yn ôl gan sicrhau y fuddugoliaeth yr oedd yn ei haeddu. A chwedyn dechreuodd pethau i fynd o chwith yn fy marn i. Credaf ei fod wedi penderfynu...

Does dim yn rhyfeddach na bywyd go iawn. Gallwch chi ddychmygu beth all ddigwydd ond wnewch chi byth llwyddo i ragweld popeth sy’n digwydd. Pedair blynedd yn ôl fe ymddiswyddodd Ieuan Wyn Jones fel arweinydd Plaid Cymru; dros y penwythnos fe bleidleisiodd ei blaid dros fynd i lywodraeth glymblaid gyda Llafur oedd yn cadarnhau ei safle fel dirprwy brif weinidog yn hytrach na’r prif weinidog y gallai fod wedi bod o ddewis clymblaid yr enfys. Ond heno, gyda Rhodri Morgan druan yn sâl, dyma ni ar drothwy cyfnod pan fydd Ieuan Wyn Jones yn rhedeg Cymru gyda bendith y frenhines! Ond yw bywyd yn rhyfedd. Does dim angen mynd yn ôl yn bell iawn pan roedd tipyn o anniddigrwydd ymhlith aelodau ei blaid ei hun gyda’i berfformiad yn y Cynulliad Cenedlaethol a nawr fe lwyddodd i...

Y peth diwethaf y mae blogiwr am fod yn euog ohono yw bod yn ystrydebol. Felly dwi’n ofni ac yn petruso rhag defnyddio’r gair ‘hanesyddol’ i ddisgrifio beth ddigwyddodd ym Mhontrhydfendigaid dros y penwythnos. I raddau mae’n rhaid cael y peth mewn persbectif o gofio beth sydd wedi digwydd i un o’r chwaraewyr yn y gêm heddiw. Mae’n rhaid bod gair arall i’w gael y buasai’n rheitiach ei ddefnyddio:-’arwyddocaol’ efallai, ynteu ‘nodedig’. Ond y gwir amdani yw nad yw’r un ohonynt yn dod yn agos i grynhoi’r teimlad a gefais o fod yno. Felly er gwaethaf fy mwriadau da, fy nymuniad i ddangos teithi’r iaith, nid oes unrhyw fodd imi ddisgrifio’r cyfarfod o Gyngor Cenedlaethol Plaid Cymru ond fel...

Nos yfory mae’r Blaid Lafur yn cynnal cynhadledd arbennig i drafod a phleidleisio ar y cytundeb ar gyfer llywodraeth glymblaid gyda Phlaid Cymru yn y Cynulliad Cenedlaethol. Mae lleisiau wedi’u clywed yn erbyn gan rai o hoelion wyth Llafur – Paul Murphy, Don Touhig a’r Dr Kim Howells. Rydyn ni hefyd wedi clywed pedair aelod o’r Cynulliad yn datgan eu bod yn erbyn y cytundeb; dwi’n ofni nad yw’r un ohonyn nhw yn enwog iawn am eu cyfraniad yn y Senedd. Pan ddaeth yr Ail Gynulliad i ben ei dymor dyma’r asesiad a gafodd y pedair yn y Western mail.
Irene James, Islwyn, Labour
Comment: Useless nonentity as far as we are concerned. Has added nothing to the Assembly that we can see
Marks out of 10:2
Ann Jones, Vale of Clwyd, Labour
Comment: Poor...
Wedi’r holl disgwyl mae’n edrych yn debygol y bydd Plaid Cymru yn ffurfio llywodraeth gyda Llafur yn y Cynulliad Cenedlaethol. Does dim pwynt imi guddio fy siom gyda’r penderfyniad hyn yn hytrach na dewis yr enfys. Ond does dim pwynt chwaith i mi ac eraill geisio gwyrdroi y penderfyniad os dyna oedd dymuniad y mwyafrif. Ni fyddai’n synhwyrol i orfodi rhywbeth ar gorff sydd wedi dewis dyfodol arall iddo’i hun a’n gwneud ni yn rhyw ail Lib Demiaid. Mae’r ffaith eu bod nhw wedi dewis bod yn bartner llai yn hytrach nag arwain yn fy siomi yn arbennig. Ond nawr dwi’n edrych ymlaen i weld y ddogfen sydd yn sail i’r cytundeb gan obeithio ei bod yn cynnig y pethau hynny sydd eu hangen ar Gymru gyfan, ac yn arbennig felly y meini hynny sydd eu...
Os oes gen ti’r dalent mae ‘na le i ti yn y cabinet – ai dyna’r neges, ai dyna fydd ffordd Gordon Brown o wneud pethau? Neu’n hytrach, ai Llafur sy’n ceisio cael eu hunain i sefyllfa lle allan nhw gadw rheolaeth o ryw fath, os nad rheolaeth lwyr, yn Llundain a Chaerdydd ac efallai hyd yn oed ail afael yng Nghaeredin yw? Yn bendant wrth gynnig lle yn y cabinet i Paddy Ashdown mae Brown wedi rhoi ei imprimatur ar glymbleidio gyda’r Dem Rhyddiaid. ac felly nid yw’n syndod clywed fod aelodau seneddol Llafur o Gymru yn dweud wrth Rhodri Morgan i fynd i glymblaid gyda’r Dem Rhyddiaid yn y Cynulliad Cenedlaethol a pheidio â gwneud dim gyda Phlaid Cymru. I mi mae’n ddiddorol iawn fod Rhodri Morgan yn mynd i Lundain yn gyson i gael gwybod...
Mae’r adeg y bydd hi’n rhaid i Blaid Cymru benderfynu beth maen nhw am ei wneud ynglŷn â chlymbleidiol yn dod yn nes. Ond mae’r gêm hefyd yn mynd yn fwy caled a chyfrwys. Yn y pendraw efallai nad Plaid Cymru fydd yn penderfynu o gwbwl gan fy mod yn siŵr imi glywed fod Mike [...]...