Dwi wedi blino'n lan. Ma gin i 2 ddarn o waith dwisho'i wneud heno ond allai ddim meddwl am wnaeud run ohonyn nw.Mi eshi chwara rygbi pnawn ma, ac er bo fi di mwynhau lot fawr iawn, mae o wedi cymryd fy holl egni. Allai ddim meddwl am ddadansoddi'r ANOVA a'r tests gwaanol heb son am feddwl am abstract algebra (ma maths yn hwyl!). Dwisho cyrlio fyny yn y gwely a cysgu.Dwi dal angen swper a bath.Y plan yr eiliad yma yw i roi swper yn y popty tra'n gwneud un darn o waith. Wedyn, tua hanner ffordd trwy'r coginio mae angen ychwanegu caws. Wedi gwneud hyn, cael bath am ryw hanner awr, cyn bwyta yn fy ngwely o flaen never mind the buzzcocks. Deffro chydig cynt bore fory i orffen y gwaith.Wneith ddim ddigwydd fel hyn, ond dyna'r oll dwisho'i wneud!Hwyl a...
Thioreticli di hwn ddim yn ganol nos chos main 3:20am sydd tua....tri chwarter nos...ish. Ond, dwin hyper. Dwi di bod allan ers tua 9 a dwi jesd di llwyddo heipio fy hun i fyny; dwi heb feddwi o gwbwl.. Mi adewish i'r pyb chos mod in shatyrd, ond dwi di llwyddo i basio hynny. Wooo!Bethbynnag. Ymddiheuraf am beidio blogio yn ddiweddar. Dwin shwr ddoi nol ir habit ar ol wthos yma. Dwin treulio bob nos wthos yma yn feddw a bob dydd yn ricyfro.Eeenihw, diwedd ar fwydro. Mi nai siarad efo chin fuan.Cariad a pizza, Hwyl a...
Jamborii! via Wierdo April 29th, 2007 at 21:20
Doeddwn i ddim yn gwybod beth oedd jambori, ond mi oedd yn ennyn rhyw fath o deimlad od o waelod fy mol, teimlad o aros ac o blentyndod a fu. Mi oedd y jambori yn cael ei gynnal fel rhan o wythnos UMCA i gasglu arian at elusenau. Mi oni wedi clywed si pan yn feddw yn ystod yr wythnos fod na gastell neidio am fod yno, ond falla mai breuddwyd meddw oedd hwnnw wedi bod!Brthbynnag, dyma ddoe yn cyrraedd yn blyri ac yn hyngofyr fel arfer ar ol y gig Cowbois noson gynt. A dyma ni off i'r cae uwchben Pantycelyn. Wir yr, hwn di un or diwrnoda gora i mi gael ers dipyn! Mi oedd na gastell neidio, mi oedd hin braf, mi oedd na farbeciw, mi oedd na gemau o rownderi a pel droed a mi oedd na ffrindiau. Mi neshi fwynhau fy hun lot. Wedyn rth sgwrs mi oedd rhaid mynd allan.Dyma y peth gorau i mi erioed...
Haza! via Wierdo January 25th, 2007 at 13:32
Hwre dwi'n rhydd! Hwre dwi di methu 3 arholiad allan o bump. Hwre gai feddwi heno!Petai chi'n gofyn i mi sut ath yr arholiad heddiw, yr ateb sa chin gal ydi "wbath tebyg i'r un ddoe". Sydd ddim yn datgely lot o wybodaeth rili nadi. Wel ddoish i allan o'r arholiad yn reit hapus, ond dwin reit siwr mod i di methu (dwin deud huna fatha mai methu oedd fy ngobaith; "dwin meddwl mod i di methu, ond falla mod i di cal gormod o farcia yn cwestiwn 3...oddo braidd yn rhu hawdd"). Ond cyn belled mod i'n hapus, dosam otch tan y 1af o Fawrth.Dwi di cysgu llai nag arfer wthos yma o lot. A dwi wirioneddol wedi blino. Y gobaith oedd mynd i gysgu ar ol cyraedd adra o'r arholiad. Ond doni methu. Felly geshi fath yn lle. Mi fysa wedi bod yn anffodus ond yn ddigon posib i mi foddi yn y bath trwy ddisgyn i...
Cwsg via Wierdo January 23rd, 2007 at 14:51
Ma'r wthnos yma yn un mwd-swing tew sydd ddim yn cal digon o gwsg.Dwi ar gyfartaledd, yn cael 4 awr o gwsg ers i'r arholiada gychwyn. 12 awr o gwsg mewn 3 noson. I am the walking dead. Dwi'n cal trafferth aros yn ddeffro erbyn wan, ond ma gin i arholiad arall eto fory felly ma angen sdydio. Dwin meddwl, os nai ddechra sdydio yn fuan wan, mi allai fynd i'ng ngwely cyn 12 am chenj. Byw mewn gobaith bethbynnag.Ddoe, mi geshi'r arholiad gwaetha erioed. Wir yr. 2 awr o uffern. 40% ydi pass ac os dwi'n anhygoel o wirion o lwcus, falla gai 30 allan o 120. Bols. Felly, ar ol cyradd adra tua 4, mi ddechreuish i sdydio yn syth. A blaw am 10 munud i fynd i neud paned bob awr, awr i wylio walking the dead (ia, dwin gwbod mai waking dio fod, y mental image sydd yn gneud mi chwerthin), a ryw awr i...