Mi fydd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg, yn cyflwyno tystiolaeth ger bron Pwyllgor Deisebau Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn sioe Llanelwedd heddiw. Lansiwyd y ddeiseb wedi datganiad y cyn Weinidog Treftadaeth, Rhodri Glyn Thomas, yn mis Chwefror eleni, mai ond £200,000...

Cofnod ddifyr iawn gan Omniglot ar yr iaith/dafodiaith Shaetlan, neu Shetlandeg, ac os yw’n cael ei alw’n iaith neu dafodiath gan drigolion yr ynys. Wyddwn i ddim llawer amdan y sefyllfa ieithyddol yno, ond roeddwn yn siwr y buasai rhyw fath ar amrywiaeth ieithyddol ddiddorol gan ynys mor ddiarffordd a dwi’n siwr i mi weld rhaglen rhyw dro yn dangos yr orsaf radio lleol yno oedd â rhaglenni yn yr iaith/dafodiaith leol.
Wrth gwrs, doedd o ddim cweit mor dda a darllediadau Highland Angus ar yr Outer Hebrides Broadcasting Corporation, y sgets wych ‘na oddi ar y sioe gomedi 80au Naked Video oedd yn send-up o orsafoedd darlledu lleol.
Dwi’n cael y teimlad weithia taw dyna sut ma pobol yn gweld Radio Ceredigion, ond dwi’n credu ei fod yn......

Brynais i dusw o gennin pedr i ngwraig ddoe ar ddiwedd diwrnod hamddenol. Dyna’r cyfan wnes i o ran dathlu dydd ein nawdd Sant, ond roedd yn braf cael y blodau llachar yn goleuo’r stafell a rhoi blas o felyn yr haf ar ddiwedd gaeaf. A dweud y gwir, sa’n well gen i tasen ni’n dathlu Llywelyn ein Llyw Olaf, Owain Glyndŵr (neu Glyndr fel dwedodd yr Occidental Mule) neu arwr nad sydd wedi ei seintio gan bwy bynnag oedd yn dyrannu’r anhrydeddau yn Rhufain ar y pryd. Gwn fod Cymru wedi bod yn Gristnogol ers dechreuad unrhyw feddwl am Gymru fel gwlad, ond dio’n deud dim i fi’n bersonol fod nawdd sant ganddon ni. Llawer gwell ar gyfer dathlu ein cenedl, iaith a diwylliant fuasai dathlu uniolgyn sydd yn gallu ein ysbrydoli i feddwl amdanom ein hunain fel...
Bydd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg yn cyflwyno deiseb i'r Gweinidog Treftadaeth Rhodri Glyn Thomas yfory (dydd Llun Mawrth 3ydd 2008) yn galw arno i gadw at ei addewid i sefydlu papur dyddiol yn Gymraeg. Casglwyd dros 1,000 o enwau...

Mae Ymddiriedolaeth y BBC wedi cyhoeddi heddiw y byddan nhw’n
ystyried rhyddhau peth o’r cynnwys BBC Jam sydd mewn ieithoedd brodorol…a all gael ei ddefnyddio i gefnogi gwasanaethau cyfredol y BBC
A be? Mae o wedi cymryd blwyddyn iddyn nhw sylweddoli nad oedd yna unrhyw impact marchnad negatif o gynhyrchu adnoddau dysgu Cymraeg gwych gyda arian y ffi drwydded. Bôls dy Daid.
I roi chydig o gefndir, fe benderfynodd Ymddiriedolaeth y BBC atal gwasanaethau addysg BBC Jam nôl ym mis Mawrth 2007 oherwydd fod y diwydiant adnoddau meddalwedd addysg ehangach wedi gwneud cwynion fod y BBC yn gystadleuaeth anheg yn y farchnad.
Rwan, mi allai rhai sydd gyda bent marchnad rydd ddweud fod hyn yn wrth-gystadleuol, ond fe benderfynwyd atal gwaith ar yr holl gynnwys BBC Jam yn...

Bydd cynllun Yma i Chi y BBC yng Nghymru yn landio yn Nolgellau dirion deg dros y mis nesaf. Bydd bob math o ddigwyddiadau gan gynnwys darllediadau o Dŷ Siamas, sgyrsiau efo trigolion lleol a digwyddiadau i drio fflogio’r BBC (pdf) i chafis dre.
Dwi’n edrych mlaen yn arw i gael clywed rhai o’r rhaglenni, yn arbennig felly’r rhaglenni natur a rhaglen Mousemat Adam Walton (sydd yn ddarlledwr gwych gyda llaw ac yn dysgu Cymraeg!) fydd yn edrych ar y dre o safbwynt technolegol a chyfryngau newydd. Fydd honno’n raglen hir ta
Gwd thing......

Am ryw reswm mae’r ffilm deledu Dirgelwch yr Ogof a gynhyrchwyd yn 2002 ar gael i’w wylio ar wefan S4C tan y 23ain o Fawrth.
Addasiad oedd hon o lyfr enwog T.Llew Jones ac sydd wedi’i chyfarwyddo gan Endaf Emlyn, sydd yn ei amser wedi gwneud rhai o’r ffilmiau gorau yn y Gymraeg, fel Gadael Lenin ac Un Nos Ola Leuad. Ond o be dwi’n cofio o hwn, doedd o ddim yn dod yn agos at hynny. O’n i wrth y modd efo’r llyfr pan yn fach, a’r llyfr hwnnw oedd Dad wedi ei ddarllen ei hun hefyd.
Wedi deud hyn roedd yr adolygydd yma ar y BBC nôl yn 2003 wedi mwynhau. Ac mae hi’n iawn fod na elfen Bantoaidd iddi. Roedd y gwisgoedd i gyd yn edrych braidd yn annaturiol.
Beth bynnag, gallwch benderfynu drostoch eich hun. Gwyliwch hi......
Annwyl Rhodri Glyn Thomas (Gweinidog Treftadaeth), Rwyn ysgrifennu ar ran Cymdeithas yr Iaith Gymraeg i ddatgan siom ein haelodau bod Llywodraeth y Cynulliad wedi torri ei haddewid i sefydlu papur dyddiol Cymraeg. Nid wyf yn cwestiynu eich ymrwymiad personol...

Mae’r iaith Gernyweg, neu eu siaradwyr ddyliwn i ddweud wedi’i chael hi’n annodd o’u cymharu â ni siaradwyr Cymraeg. Mae’n nhw wedi bod at y dibyn, fel mynd at ochr y Discworld a syllu lawr i’r gofod (a phen Great A’Tuin…).
Oherwydd yr hanes cythryblus hyn maent wedi datblygu 4 orgraff wahanol ar gyfer yr iaith ar adegau gwahanol gan beri cryn ddryswch, trafodaeth ac hyd yn oed atgasedd rhwng arddelwyr y gwahanol rai. Ond mae hyn wedi cael sgil effeithiau andwyol ar yr ymgais i atgyfnerthu’r iaith - heb un orgraff sefydlog, mae pethau syml fel datblygu gwasg yn yr iaith ac hyd yn oed yn waeth - adnoddau dysgu’r iaith i blant ac oedolion! Hyd heddiw mae datblygiad yr iaith wedi cael ei effeithio’n andwyol gan hyn.
Ond...
Mae Radio Cardiff wedi cychwyn darlledu profion ar yr awyr rhwng Radio Cymru a Radio 1 ar 98.7FM ac ar-lein (ond ddim eto…). Yn ôl y sôn bydd ganddyn nhw drwydded 5 mlynedd. Gorsaf gymunedol ydyn nhw, sydd wedi datblygu o’r orsaf Beats FM a redodd yn ardal Butetown dan drwydded radio cyfyngedig.
[erthygl IC Wales]...

Galwch fi’n slo, ond rwan dwi’n sylwi ar y llwythi o fideos sydd ar gael ar wefan Uned Uned 5, ac mae na ddegau o’r rheiny’n rhai cerddoriaeth.
Gweech eeawn....
Ydi arwyddion ffyrdd yn drysu pobol ormod?
Y ffacin gneuen yna eto. Jiiaiiisys H Craist.
Ar ôl holi am “Gymraeg neu Saenseg gyntaf mewn gorsafoedd trên” a’r clasur “ydi’r Gymraeg yn cael ei or-hybu?”
Cwestiynau dwl, wedi eu sgiwio’n negatif, sy’n perthyn i ddadl a enillwyd 20 mlynedd nôl ac sy’n rhoi cyfleoedd perffaith, nid am ddadl dda, ond am chydig o waldio’r Gymraeg gan anwybodusion.
Dowch mlaen BBC. Faswn i’n disgwyl dadl chydig yn fwy datblygedig na hynna gan gorfforaeth ddarlledu sy’n honni i fod yr orau yn y byd…neu faswn i?
Ma’i weld yn reit ffasiynol dyddia ma i roi waldiad go dda i’r elite hynny sy’n mynnu siarasd eu iaith farw a’i hwrjo ar bawb arall gan gymryd y...
Gwyliwch y fideo am esboniad:
Fyddwch chi yno?...
Tra da ni’n dadlau am geisio newid . Mae’r Alban yn dal i orfod dadlau bod gwerth mewn sianel Aeleg, yng ngwyneb ymatebion chwyrn a chas. Mae’r elfen wrth-Aeleg yn yr Alban yn ymylu ar fod yn beryglus, gyda phobl yn galw am gael gwared o’r iaith gyda iaith afiach hiliol yn ymddangos yn rheolaidd.
£18m-a-year Gaelic broadcasting plan under scrutiny [The......
Bydd unrhyw un a fu’n dderyn y nos yn ystod diwedd yr wythdegau a chychwyn y nawdegau, yn gyfarwydd ag anturiaethau’r carchar menywod butch a lesbiaidd - Wentworth, ac yn fwy penodol, Cell Block H. Roedd Dad a finna’n arfar gwylio fo’n hwyr ar ôl i S4C orffan i weld be oedd Ferguson “The Freak” yn gwneud nesa. Roedd clywad y thîm tiwn weird (RRRRREMIX!!) yn golygu hanner awr o straeon bisâr, actio echrydus, a setiau cardbord. Jest y peth trashi i’w wylio cyn mynd i gwely.
Felly yn arbennig i chi ffans o high camp hileriys, dyma Prisoner Cell Block H - The Official Website.
Mae’n RHAID i chi glywed y sampls deialog arno fo, yn arbennig: “Whatever I might be Seymour, I could never sink as low as filthy sluts like you!”
Go...
Be bynnag da chi’n feddwl ohono, a be bynnag da chi di glywad amdano fo, gallwch chi rwan ei wylio fo ar-lein.
[tan 5ed Medi]...

Mae Sianel Amgen Cymru yn dal i fynd o nerth i nerth ar YouTube, a dwi’n siwr y gellir deud rwan taw hwn yw y prif le i wylio fideos Cymraeg ar y we.
Mae ‘na lot o sdwff da wedi cyrraedd yno’n ddiweddar, yn arbennig y fids cerdoriaeth. Un peth sydd ddim yno rhyw lawer yn y Gymraeg o’i gymharu â gweddill DyDiwb ydi blogiau fideo personol. Un theori gen i ydi os ma gynnoch chi ego digon mawr i’w fwydo yna fe wnewch chi drio cyrraedd y gynulleidfa fwyaf posib a fideo blogio yn Saesneg. Neu efallai ein bod ni gyd jest yn rhy shei…
Ond mae Uned5 wedi cychwyn darlledu blogiau fideo personol gan gynnwys yr isod gan Mari Lovgreen sef y 500fed fideo. Efallai ei fod yn addas gan ei fod yn dangos sut mae YouTube rwan yn cael ei ddefnyddio gan bob math o...
Mae’r rhaglen arbennig ar agoriad Tŷ Siamas ar gael i’w wylio ar y we. Heb ei weld eot, ond gymra i gip......
Prin 100 o bobol sy wedi gwylio’r fideos hyn o 1979 o’r gyfres anarchaidd, dreisgar ond hynod ddoniol Siop Siafins. Dwi’n meddwl ei fod yn haeddu mwy! Roedd y cyfuniad o Dyfed Thomas a John Bŵts yn wych. Joiwch.
Siop Siafins (Rhan 1 o 2)
Siop Siafins (Rhan 2 o 2)
Yn anffodus sdim posib mewnosod y fideo ar y blog, ond cliciwch ar y dolenni, da chi....
Da chi’n gwbod pan da chi’n gwrando ar y radio, jest yn genud llestri ne rwbath. A munud nesa ma na diwn yn neidio allan ohoni ac yn riglo lawr eich clust ac ista yn eich pen…na? O wel.
Dyma ddigwyddodd i fi efo Flickermood gan Forss ar label Sonar Kollektiv yn yr Almaen. Yr un label a’r ffantastwych Jazzanova.
Y trac arall wnaeth wneud i fi chwerthin a rocio r’un pryd oedd cover gan y cydweithrediad hwn rhwng Cato Salsa Experience, The Thing a Joe McPhee o’r gan Louie, Louie (gwrandwch yma). Ma’n dod oddi ar yr albym “Two Bands and a Legend” ac ame’n gneud i fi eisiau ei brynu, like, wap.
Ar raglen Break for Jazz, ar Radio Ceredigion o’n i’n gwrando. Yr unig raglen dwi’n gwrando arni bob wythnos (nos...
Danfownyd y llythr canlynol at Iona Jones, Prif Weithredydd S4C heddiw: Annwyl Iona Jones, Hoffwn fynegi fy nicter gyda S4C ar ôl deall fod Bwrdd Cyfarwyddwyr S4C yn cynnal ei gyfarfodydd drwy gyfrwng y Saesneg. Ni allaf yn fy...
300 Fideo…
Dyma’r 300fed fideo [alla i ddim ei embedio yn anffodus] - Anturiaethau Oli - Tafarn Y Gors - Johann Sebastian Bach. Oli Pen Chwadan yn rwdlan am Bach - gwych!...
Os da chi heb weld y fideo sy’ di bod yn cael yr holl sylw, lle da chi di bod?
Mae hi wedi cael ei thynnu oddi ar You Tube ond dal ar Google Video a ffôn pawb arall yng Ngogledd Cymru.
Sycyrs....
Dyma restr y ceisiadau newydd i Ofcom ar gyfer sefydlu gorsafoedd radio masnachol newydd yn Ne Cymru.
Siwr fasa hi’n eitha diddorol cael XFM yng Nghymru, ond eto does dim arlliw o unrhyw beth Cymraeg yn eu mysg.
Glywais i mewn darlith neithiwr fod 2 orsaf genedlaethol Fasgeg yn darlledu dros Wlad y Basg a 31 gorsaf leol. Mae hyn yn bosib yn ariannol oherwydd eu bod i gyd yn cyd-weithio a rhannu rhai rhaglenni yn ystod y dydd.
Tra da ni’n rhygnu mlaen efo 1 genedlaethol, 2 orsaf fasnachol efo 50% o’u rhagleni yn Gymraeg a rhyw dribs a drabs fan hyn fan draw fel arall. Ma’r sefyllfa’n jôc llwyr....
Efallai nad yw rhan fwyaf o wrandawyr radio yn ymwybodol, ond wedi ei guddio ar Radio Ceredigion mae yna opera sebon Gymraeg i guro’r Archers - Bontlwyd yw enw’r pentref dychmygol hwn.
Yn anghygoel mae wedi bod yn mynd ers 1993, gyda’r rhan fywaf o’r cast yn actorion amatur a’r sgriptwyr yn wirfoddolwyr lleol hefyd. Rhaid cyfadde fod hyn yn dangos ar adegau, ond dwi’n joio clywed acen leol ar y radio, a ma na ryw charm iddo fo.
Rhywsut, mae’n nhw’n llwyddo i sgriptio 5 rhaglen yr wythnos am 30 wythnos o’r flwyddyn! Tipyn o gamp i feddwl fod Rhydegwlys wedi dod ac wedi mynd yn yr un amser a hynny ar gyllideb lawer iawn mwy faswn i’n feddwl.
Gallwch wrando ar y rhaglenni diweddara fan hyn a darllen ei hanes yma!
Mae yno hefyd...
Mae yna berson hyfryd iawn wedi rhoi 40 munud o’r ffilm ddogfen awr a hanner o hyd “Tintin and I” gan Anders Ostergaard fyny ar YouTube. Dwn im faint o amser fydd o’n aros yna am ei fod yn ffilm eitha diweddar (2003 dwi’n meddwl), felly os da chi’n Tintin ffan ewch draw!!
YouTube - Tintin and I rhan 1
YouTube - Tintin and I rhan 2
YouTube - Tintin and I rhan 3
YouTube - Tintin and I rhan 4...
Mae gwefan newydd gale ei lawnsio o’r enw Newsfilm Online sydd yn gadael i chi wylio clipiau o newsreels sinema a newyddion teledu o 1920 hyd heddiw. Daw y clipiau o archifau ITN/Reuters. Mae yna tua 50 o glipiau newyddion (1 awr o hyd gyda’u gilydd) yna am rwan, ond bydd dros 3000 awr o glipiau yno erbyn 2007....
Mae OFCOM newydd gyhoeddi eu bod yn cysidro agor tonfedd i un neu ddwy orsaf radio fasnachol newydd i ogledd Cymru a’r canolbarth.
A fydd yna Gymraeg ar hon/y rhain sgwn i? Annodd credu a dweud y gwir os yw Radio Sir Gar unrhyw ffon fesur....
Mae yr arch-dwat a rheolwr Radio Sir Gar a Radio Penfro, Keri Jones, wedi pendefynu symud i borfeydd brasach ar orsaf radio ynysoedd Scilly (neu Ynysek Syllan yng Nghernyweg).
O leia fydd na ddim hen iaith fach ddibwynt i sbwylio ei gunlluniau o fan honno, bu’r Gernyweg farw yno amser maith yn ôl.
Un peth sydd i’w ddeud felly - twll dy din di Ffaro - a gobeithio gawn ni rywun yn dy le sydd yn deall y gymdeithas maent yn eu gwasanaethu....
Fethish i’r rhaglen gynta yng nghyfres newydd Armando Ianucci ond yn ffodus iawn mae gan wefan Time Trumpet dipyn o glipiau i lenwi’r bylchau.
Ac o! Dwi ddim am fethu gweddill y gyfres. Ardderchog....