Mae grwp fideos DyDiwb Sianel Amgen Cymru wedi derbyn ei ganfed fideo!
Y Gweithdy Cymraeg ydi’r fid, gan neilwyn. Mae’n dangos saer wrth ei waith yn crefftu ratl o bren onnen. Ma’n wych gweld crefftwr wrth ei waith, rili. Mae’r miwsig yn rhoi naws hyfryd o gawslyd, fatha rhyw fideo addysgol o’r 80au - lle ffeindiais ti hwnna Neil?!...
Mae grwp fideos DyDiwb Sianel Amgen Cymru wedi derbyn ei ganfed fideo!
Y Gweithdy Cymraeg ydi’r fid, gan neilwyn. Mae’n dangos saer wrth ei waith yn crefftu ratl o bren onnen. Ma’n wych gweld crefftwr wrth ei waith, rili. Mae’r miwsig yn rhoi naws hyfryd o gawslyd, fatha rhyw fideo addysgol o’r 80au - lle ffeindiais ti hwnna Neil?!...
Mae OFCOM wedi dyfarnu nad oedd hysbyseb deledu Pot Noodle am y glowyr nwdls yn hiliol.
Pwy ddiawl ddaru gwyno? Am lwyth o nonsens. Oedd o’n reit ddoniol o’n i’n meddwl. Rwdls nwdls, indeed....

Edge Case yw blog Saesneg Conn Ó Muíneacháin, y boi a gychwynodd y podcast Gwyddeleg cyntaf flwyddyn yn ôl, ac sydd yn ysgrifennu am flogio a thechnoleg yn y papur newydd dyddiol Gwyddeleg Lá.
Dwi’n edrych mlaen at y dydd pan gawn ninnau golofn dechnoleg Gymraeg yn ein papur newydd dyddiol y flwyddyn nesaf…dwi’n siwr buasai digon o ymgesiwyr i’w sgwennu...

Gormod o nostalgia rhaglenni plant dagith gi, a sgwrs hefyd, ond mae’n dda cael ambell i oifad yn mhwll nofio teli plentyndod.
Dwisio diolch felly i PwdinBlew ar y maes am ddod o hyd i sdwff am y cartwn Now a Ned neu ei wir deitl
Pat a Mat!
Dwi wedi gwglo’n ddifrwyth o’r blaen am hanes y cartwn bendigedig yma o slapstic creulon Keaton-aidd, ond doedd gen i ddim clem ar yr enw Czech gwreiddiol a does neb wedi sgwennu am “Now a Ned” ond pobol maes-e.
Felly dyma chi lwyth o glipia sain a fideo o’r ddeuddyn direidus ac anffodus eu hap.
A dyma wefan swyddogol eu creawdwr Lubomír Beneš gyda llawer mwy o ddanteithion.
Joiwch!
Ella ga i’r thîm tiwn fel ringtôn…...
Fel ma siwr da chi wedi sylwi dwi di bod yn ffidlan efo neud fideos yn ddiweddar. A ffidlan ydi o a gyd a dweud y gwir, ond mae’n grêt cael rhywle i’w darlledu, ac sy’n rhoi’r gallu i chi eu dangos ar unrhyw wefan arall yn rhad ac am ddim.
Mae llawer o bobol erill wedi cychwyn llwytho sdwff mlaen i YouTube gan ddilyn esiampl Mr Cope felly dwi wedi creu grwp ar gyfer aelodau Cymraeg YouTube - Sianel Amgen Cymru - er mwyn i bobol gael rhannu eu fideos eu hunain a thynnu sylw pobol at fideos Cymraeg eraill sydd ar YouTube.
Mae 24 fideo yno yn barod yn amrywio o fids cerddoriaeth i glipiau teledu i fideo flogia. Edrych mlaen yn arw i weld be arall gaiff ei bostio yno yn y dyfodol.
Felly bachwch gamera digidol, ac mae gan bron i bawb un erbyn hyn hyd yn oed os...

Mae asiantaeth newyddion amgen Llydaw wedi lawnsio podcast sain a fideo ar gyfer newyddion ac ati.
Mae’r wefan yn adrodd llawer o newyddion ynglyn â chenedlaetholdeb Llydewig a’r ymgais i roi tegwch a pharhad i’r iaith yno.
Rhowch glec yma i wylio fideos o brotestiadau diweddar yn erbyn dirywiad oriau yn narllediadau lleol Llydaw....