Welsh Blogs.com


Sylw am ddiffyg gwaith Mark Williams AS mewn erthygl yn y Daily Mail via Blog Dogfael October 28th, 2008 at 21:21

image Rhaid imi ddechrau’r cofnod hon trwy wadu yn gyfan gwbl fy mod yn prynu neu’n darllen y Daily Mail yn gyson. I ddweud y gwir byddaf yn cerdded o’r tu arall heibio i unrhyw un fydda i yn ei ddarllen os yw hynny’n bosib. Ond heddiw dywedodd rhywun wrtha i fod ‘na erthygl ddiddorol yn y papur. Erthygl gan Quentin Letts yw hon ac mae yntau gyda’r mwyaf asgell dde o golofnwyr y papur. Mewn erthygl am aelodau seneddol anweledig – hynny yw aelodau seneddol sydd ddim yn gwneud llawer o ddim byd yn y senedd – fe sylwodd ar diffyg ein haelod seneddol Dem Rhydd Mark Williams. Dyma beth oedd ganddo i’w ddweud amdano. On the LibDem benches, meanwhile, we are assured that one Mark Williams sits for the electors of Ceredigion (Cardiganshire in old money)....

Isetholiadau Cyngor Tref Aberystwyth via Blog Dogfael September 19th, 2008 at 00:26

image Roedd heno’n noson brysur arall. Roedd dau isetholiad yn cael eu cynnal ar gyfer Cyngor Tref Aberystwyth – un yn ward Rhediol, a’r llall ym Mhenparcau. Roedd un wedi’i achosi gan ymddiswyddiad un o gynghorwyr y Democratiaid Rhyddfrydol, a’r llall yn dilyn marwolaeth aelod annibynnol. Roedd y gorsafoedd ar agor tan 10.00pm ac wedyn roedd y cyfrif yn digwydd yn Neuadd Cadlanciau’r Môr yn ward Rheidol. Roedd y noson yn un dda i Blaid Cymru unwaith eto gan iddi gipio sedd Penparcau, ac fe gadwodd y Dem Rhyddiaid eu gafael ar sedd Rheidol. Ymgeisydd Plaid Cymru ym Mhenparcau oedd Owain Jones, a Sandra Oliver oedd yn chwifio’r faner dros Blaid Cymru yn Rheidol. Dyma’r canlyniadau: Penparcau Owain Jones PLAID CYMRU 171 LLAFUR 143 LIB DEM 46 Rheidol...

Siom via Blog Dogfael September 18th, 2008 at 07:28

image Dwi’n ddyn siomedig y bore ‘ma. Fe wnes i eistedd wrth y ffôn trwy’r nos neithiwr gan obeithio derbyn galwad gan arweinydd Prydeinig y Democratiaid Rhyddfrydol, Nick Clegg. Roedd y newyddion yn llawn o’i fwriad i ffonio 250,000 o bobl neithiwr ac roeddwn i’n siŵr y byddi rhai pobol yng Ngheredigion yn cael y fraint. Ond ni ddaeth yr alwad ac felly dwi’n byw mewn rhwystredigaeth o fethu medru dweud wrth Nick Clegg beth dwi’n ei feddwl! Note: There is a rating embedded within this post, please visit this post to rate it. Rhannu hyn Rhagor »Gyrrir gan...

Y dathlu yn parhau via Blog Dogfael July 12th, 2008 at 01:00

image Pedair awr ar hugain yn ddiweddarach a dwi’n dal i fod yn llawn cynnwrf wedi canlyniad yr isetholiad yn ward Rheidol gydag Aled Davies o Blaid Cymru yn cipio’r sedd oddi ar y Democratiaid Rhyddfrydol. Fel mae’n digwydd dwi’n byw yn ward Rheidol ers deng mlynedd a mwy a dyma’r tro cyntaf inni fod â chynghorydd sir Plaid Cymru. Yn ail roedd yn fuddugoliaeth nodedig mewn ward lle mae’r Democratiaid Rhyddfrydol wedi bod yn gryf iawn yn y gorffennol. Wrth gwrs roedd popeth wedi mynd yn eu herbyn y tro hwn – yn cynghorydd blaenorol wedi dewis ymddiswyddo oherwydd trosedd ryw, maer Aberystwyth yn ymddiswyddo oherwydd na chafodd ei dewis yn ymgeisydd, a’r ymgeisydd a ddewiswyd yn gweithio yn Llundain am bedwar diwrnod yr wythnos. Ar ben hyn i gyd roedd...

Buddugoliaeth! via Blog Dogfael July 10th, 2008 at 23:57

image Aled Davies o Blaid Cymru, cynghorydd sir newydd ward Rheidol, Aberystwyth Dwi’n gwybod bod fy mlog wedi bod yn dawel iawn dros yr wythnos neu ddwy a aeth heibio.. Y rheswm am hynny wrth gwrs yw fy mod wedi bod yn brysur yn gwneud pethau eraill. Un o’r pethau hynny oedd bod yn rhan o’r tîm yn gweithio dros Aled Davies yn isetholiad cyngor sir ward Rheidol. A dwi newydd glywed fod yr holl waith a wnaeth Aled a’i gefnogwyr wedi dwyn ffrwyth. Mae Plaid Cymru wedi cipio sedd cyngor sir Rheidol oddi wrth y Democratiaid Rhyddfrydol. Roedd y sedd yn arfer bod yn un cwbl ddiogel i’r Dem Rhyddiaid, ond ddim bellach. Dyma’r canlyniad. Aled Davies PLAID CYMRU 271 Alec Dauncey LIB DEM 252 Carol Ann Kolczak ANNIBYNNOL 98 Richard Boudier LLAFUR 36 Luke Evetts TORI...

Maer newydd Aberystwyth via Blog Dogfael June 16th, 2008 at 21:49

image Cafodd Sue Jones-Davies ei hethol yn faer Aberystwyth heno, yn dilyn wythnosau o ansicrwydd. Nid dim ond yn San Steffan neu ym Mae Caerdydd mae ‘na bethau cyffrous yn digwydd. Heno yr oedd Cyngor Tref Aberystwyth yn gorfod trafod y tro diweddaraf ym mywyd gwleidyddol y dref wythnos ers i Lorrae Jones-Southgate ymddiswyddo fel maer. Yn eironig ddigon y dirpwy-faer, aelod o’r Democratiaid Rhyddfrydol, oedd yn y gadair ar gyfer y drafodaeth ar y sefyllfa. Roedd gan bob un ohonom gopi o lythyr y cyn-faer yn ein llaw wrth inni wrando ar y ddadl fer iawn ar y sefyllfa. Mynegodd y cynghorydd a oedd wedi cynnig ei henw yn y cyfarfod diwethaf o’r cyngor ei siom gyda’r hyn oedd wedi digwydd a’n bod ni erbyn hyn yn chwilio am ei holynydd. Condemnio y modd yr oedd...

Gwleidyddiaeth ddiddorol Aberystwyth via Blog Dogfael June 10th, 2008 at 21:11

image Mae’n siŵr ddigon fod llygaid y byd ar ragetholiadau ac etholiad arlywyddol y Taleithiau Unedig, ond dylai rhywun gadw rhyw gilolwg ar yr hyn sy’n digwydd yn Aberystwyth? Wrth i’r byd gwleidyddol ddechrau paratoi am yr haf trwy dawelu ychydig ar ôl etholiadau’r cyngor sir ddechrau Mai mae’n ymddangos fod popeth yn digwydd yn y dref. Dechreuodd y cwbwl gydag ymddiswyddiad Eric Griffiths fel cynghorydd sir ward Rheidol oherwydd iddo gael ei arestio a derbyn rhybudd am drosedd rhyw gyda phlentyn o dan oed cysynio. Yn dilyn ei ymddiswyddiad fe bennwyd isetholiad ar gyfer 10 Gorffennaf ac felly fe aeth y pleidiau gwleidyddol ati i ddewis eu hymgeisyddion. Plaid Cymru oedd y cyntaf; nos Iau diwethaf fe ddewison nhw y cynghorydd tref Aled Davies fel eu hymgeisydd...

Isetholiad Rhediol, Aberystwyth via Blog Dogfael June 4th, 2008 at 21:50

image Mae’r ymgyrch wedi dechrau mewn gwirionedd yn yr isetholiad cyngor sir yn ward Rheidol yn Aberystwyth. Fel y gŵyr pawb bellach fe ymddiswyddodd cynghorydd Democrataidd Rhyddfrydol y ward o fewn mis i’w ethol ar ôl iddo gael ei arestio gan yr heddlu a derbyn rhybudd. Mae unrhyw isetholiad yn gynhyrfus wrth gwrs, ond yng Ngheredigion mae’r cyngor wedi rannu bellach rhwng 19 o gynghorwyr Plaid Cymru a 22 o gynghorwyr ‘Annibynnol’, Rhyddfrydol a Llafur sy’n ffurfio’r glymblaid sy’n rhedeg y cyngor. Felly gallai newid o un sedd fod yn arwyddocaol iawn. Neithiwr bu aelodau Plaid Cymru allan ar y stwmp yn dosbarthu taflenni yn y ward ac fe lwyddwyd i gyrraedd bob tŷ bron. Mae’n bwysig i’r neges gael ei throsglwyddo gan fod gan y...

Etholiadau Lleol - I (Ceredigion) via Blog Rhys Llwyd May 2nd, 2008 at 10:35

image Mae'r canlyniadau yn dechrau dod trwyddo bore ma a'r si mawr ar hyn o bryd yw fod Dafydd Iwan a Richard Pari Huws wedi colli eu seddau i Llais Gwynedd! Mi fydd hyn yn ergyd sylweddol i Blaid Cymru. Ond dwi am sylwebu am Geredigion yn gyntaf gan fod gyda ni set o ganlyniadau llawn. Esgusodwch yr arddull ysgrifennu ychydig bach mwy tafodiaethol na'r arfer, mae hyn er mwyn postio yn sydyn!CeredigionAnnibynol: 11Dem-Rhydd: 10Plaid Cymru: 19Llafur: 1Arall: 1Maen ergyd sylweddol i'r Blaid fod Penri James wedi colli ei sedd ar y cyngor - hyn ddim yn argoeli'n dda o gwbl i'w ymgyrch i ad ennill sedd San Steffan i'r Blaid yng Ngheredigion. Ond cofiwch wnaeth y Blaid ddim mor wael a hynny ar y cyfan yn y sir achos dim ond 2 sedd i ffwrdd o reoli'r cyngor oeddem ni ac o dynnu'r stops i gyd allan...

Y fuddugoliaeth well via Blog Dogfael May 1st, 2008 at 01:10

image Wel mae’r cyfan drosodd heno, heblaw am y bleidlais yfory. Dwi wedi bod yn brysur dros y tri diwrnod diwethaf yn dosbarthu taflenni o gwmpas y ward lle dwi’n sefyll yn Aberystwyth, y ward ganol. Unwaith eto dwi wedi dod ar draws rhai pobol sydd yn dweud eu bod nhw am bleidleisio i Blaid Cymru heb unrhyw amheuaeth, mae eraill yn gofyn cwestiynau. Wrth gwrs y cwestiwn mawr yw beth ydych chi yn mynd i’w wneud i fi. Heblaw am gynnig llwybrau troed diogelach a meinciau cyfforddusach does dim rhyw lawer iawn o bwerau gan y Cyngor Tref. O’r herwydd dwi wedi datblygu ateb parod i bobol sy’n gofyn “What are you going to do for me?” sef “Not a lot! … Because the Town Council doesn’t have a lot o powers to do much for you.” O ganlyniad mae’n...

Llongyfarchiadau Lembit ac Gabriela! via Blog Dogfael April 22nd, 2008 at 07:41

Mae’r clychau yn canu yn Nghegidfa a’r corau’n ymarfer yng Ngharno gan fod priodas fawr gogledd Powys ar ei ffordd yn ôl yr adroddiadau newyddion. Mae Lembit Öpik (43), aelod seneddol y Democratiaid Rhyddfrydol dros ogledd Powys, a Gabriela Irimia (25), aelod o’r grŵp pop the Cheeky Girls, wedi dyweddïo. Nid oes dyddiad wedi’i osod eto, ond mae pawb yn disgwyl yn eiddgar. Llongyfarchiadau mawr i’r ddau oddi wrthyf i, ac oddi wrth holl ddarllenwyr Blog Dogfael, mae’n siŵr. Note: There is a rating embedded within this post, please visit this post to rate it. Rhanna hwn...

Gwybod pwy yw fy ngwrthwynebwyr via Blog Dogfael April 4th, 2008 at 23:19

image Efallai yr hoffet ti wybod beth yw’r newyddion gwleidyddol diweddaraf o dref Aberystwyth. Mae’r enwebiadau wedi cau ar gyfer etholiadau’r Cyngor Tref a dwi’n gwybod nawr pwy fydd fy ngwrthwynebwyr yn yr etholiad ar 1 Mai 2008. Rydw i’n ymgyrchu ar y cyd gydag un ymgeisydd arall o Blaid Cymru yn erbyn pedwar ymgeisydd o blaid y Democratiaid Rhyddfrydol ac un ymgeisydd o’r blaid Geidwadol. Mae’n debyg y bydd hyn yn ddiddorol gan fy mod yn adnabod nifer o’r ymgeiswyr eraill ac felly bydd hi’n anodd bod yn rhy gas; er dwi’n siŵr y buasai rhai yn dweud ei bod hi’n weddol anodd bod yn or-gyfeillgar chwaith. Fy mwriad yw cadw’n dawel am ryw wythnos (tra ar fy ngwyliau ym Mrwsel) a gwneud sbloets fawr ar ôl dod yn ôl....

Hwyl fawr Menzies a diolch am yr yogh! via Blog Dogfael October 16th, 2007 at 21:36

image Dim ond diwrnod neu ddau yn ôl fe glywsom ni fod pob un aelod seneddol y Democratiaid Rhyddfrydol yn cefnogi’r arweinydd, Menzies Campbell. Roedd hynny’n arwydd pendant nad oedd pethau’n dda iawn yn yr ardd. O fewn pedair awr ar hugain roedd Menzies Campbell wedi ymddiswyddo. Ffarwél felly i’r dyn oedd yn enwog yn fy ngolwg i am adfer yr yogh (sef y ‘z’ yn ei enw) i lygaid y cyhoedd. Ond peidied neb â digalonni fod pob diddordeb ieithyddol wedi diflannu o wleidyddiaeth gan fod un o’r rhai sy’n debygol o sefyll ar gyfer yr arweinyddiaeth, Nick Clegg, yn siarad Iseldireg yn rhugl. Tiwlip i bawb o bobl y byd! Ffotograff gan bbcactii. Note: You can rate this post by visiting the site. Rhanna hwn...

Y drwg yn y caws via Blog Dogfael May 24th, 2007 at 08:21

Fel un nad yw’n gwrando ar BBC Radio4 o ran egwyddor (dwi ddim am orfod dioddef y is-bropaganda Prydeinllyd sydd ymhlyg yn ei holl allbwn darlledu) wnes i ddim clywed newyddiadurwr o Gymro yn adrodd bod y trafodaethau ynglŷn â ffurfio Llywodraeth Cymru wedi troi yn ffars, ond yn ôl yr hyn a ddywedwyd wrtha i roedd y peth yn drist. Mae’n rhaid bod y newyddiadurwr yn gwybod beth sy’n digwydd mewn seneddau lle nad oes sustem etholiadol wyrdroëdig sy’n rhoi’r holl bŵer i blaid sydd prin yn ennill dros 35% o’r bleidlais boblogaidd, fel y digwyddodd i Lafur Newydd yn 2005. Ond mae’n rhaid bod pwysau arno i adrodd beth y buasai ei gynulleidfa (Lloegeraidd Llundeinig) am ei glywed, mae pleidleisio cyfrannol yn estron i’r ysbryd ci-tarw Prydeinig...

Ta ta Mike! via Blog Dogfael May 24th, 2007 at 13:03

image Egsglwsif i Flog Dogfael Peter Black yn helpu Mike German i bostio ei lythyr ymddiswyddiad! Rhanna hwn...

Beth mae’r Democratiaid Rhyddfrydol yn ei wneud mewn gwleidyddiaeth? via Blog Dogfael May 24th, 2007 at 23:34

Yfory fe fydd y Cynulliad Cenedlaethol yn ymgynnull am yr eilwaith ers etholiad 3 Mai – y tro hwn i ethol Prif weinidog, ac mae pawb yn gwybod bellach taw Rhodri Morgan fydd hwnnw. Wedi’r holl drafod a’r gobeithio am newid, mae pethau’n aros yr un peth ag yr oedden nhw i bob pwrpas, sef llywodraeth leiafrifol Lafur. Ond mae’r dannod wedi dechrau, a’r Democratiaid Rhyddfrydol sy’n cael yr holl wawd, gan Blaid Cymru, gan y Torïaid, ac fe glywais i fod Llafur hefyd wedi ymuno yn y gêm. Roedd blog Vaughan Roderick yn weddol uniongyrchol neithiwr: Mae pwyllgor gwaith y Democratiad Rhyddfrydol wedi gwrthod yr enfys. Beth sy’n digwydd nesaf? Duw… neu Trish Law sy’n gwybod! Mi wnai fentro un sylw. Mae’n drychineb i Mike German a...

Gwynt yn chwythu via Blog Dogfael May 26th, 2007 at 22:35

Yfory y mae’n ŵyl y Pentecost pan fo Cristnogion yn cofio ac yn dathlu dyfodiad yr Ysbryd Glân. Roedd y digwyddiad yn annisgrifiadwy, ond gan nad oedd unrhyw ffordd i gofnodi’r digwyddiad ond trwy ddisgrifiad fe ddywedodd yr awdur Luc fod yr Ysbryd Glân wedi dod fel tafodau o dân a chyda sŵn mawr fel sŵn gwynt yn chwythu. Dros y canrifoedd mae’r eglwys wedi darllen disgrifiad Luc drosodd a throsodd fel ein bod wedi dod mor gyfarwydd â’r peth fel nad oes unrhyw ryfeddod ynddo i ni bellach. Felly mwy o reswm byth i gofio a dathlu er mwyn gwneud inni sylweddoli mawredd y peth. Os oedd ‘na sŵn fel gwynt mawr ar ddydd y Pentecost, gellid dweud fod ‘na wynt mawr wedi chwythu trwy Gymru heddiw, neu o leiaf trwy’r Democratiaid Rhyddfrydol yng...

Clymblaid? via Blog Dogfael June 27th, 2007 at 23:48

Wedi’r holl disgwyl mae’n edrych yn debygol y bydd Plaid Cymru yn ffurfio llywodraeth gyda Llafur yn y Cynulliad Cenedlaethol. Does dim pwynt imi guddio fy siom gyda’r penderfyniad hyn yn hytrach na dewis yr enfys. Ond does dim pwynt chwaith i mi ac eraill geisio gwyrdroi y penderfyniad os dyna oedd dymuniad y mwyafrif. Ni fyddai’n synhwyrol i orfodi rhywbeth ar gorff sydd wedi dewis dyfodol arall iddo’i hun a’n gwneud ni yn rhyw ail Lib Demiaid. Mae’r ffaith eu bod nhw wedi dewis bod yn bartner llai yn hytrach nag arwain yn fy siomi yn arbennig. Ond nawr dwi’n edrych ymlaen i weld y ddogfen sydd yn sail i’r cytundeb gan obeithio ei bod yn cynnig y pethau hynny sydd eu hangen ar Gymru gyfan, ac yn arbennig felly y meini hynny sydd eu...

Ffansi sedd yn y cabinet? via Blog Dogfael June 22nd, 2007 at 07:10

Os oes gen ti’r dalent mae ‘na le i ti yn y cabinet – ai dyna’r neges, ai dyna fydd ffordd Gordon Brown o wneud pethau? Neu’n hytrach, ai Llafur sy’n ceisio cael eu hunain i sefyllfa lle allan nhw gadw rheolaeth o ryw fath, os nad rheolaeth lwyr, yn Llundain a Chaerdydd ac efallai hyd yn oed ail afael yng Nghaeredin yw? Yn bendant wrth gynnig lle yn y cabinet i Paddy Ashdown mae Brown wedi rhoi ei imprimatur ar glymbleidio gyda’r Dem Rhyddiaid. ac felly nid yw’n syndod clywed fod aelodau seneddol Llafur o Gymru yn dweud wrth Rhodri Morgan i fynd i glymblaid gyda’r Dem Rhyddiaid yn y Cynulliad Cenedlaethol a pheidio â gwneud dim gyda Phlaid Cymru. I mi mae’n ddiddorol iawn fod Rhodri Morgan yn mynd i Lundain yn gyson i gael gwybod...

Pwy fydd yn cael dewis? via Blog Dogfael June 18th, 2007 at 07:11

Mae’r adeg y bydd hi’n rhaid i Blaid Cymru benderfynu beth maen nhw am ei wneud ynglŷn â chlymbleidiol yn dod yn nes. Ond mae’r gêm hefyd yn mynd yn fwy caled a chyfrwys. Yn y pendraw efallai nad Plaid Cymru fydd yn penderfynu o gwbwl gan fy mod yn siŵr imi glywed fod Mike [...]...

Beth sydd yn y ddogfen ‘enfys’ i mi? via Blog Rhys Llwyd May 29th, 2007 at 00:08

image Mae yna dipyn o bopeth i bawb yn y ddogfen enfys ond dyma un peth sy'n sefyll allan i mi. Dwi wedi bod yn weithgar yn yr ymgyrch am Goleg Ffederal Cymraeg ers pedair mlynedd bellach. Dy ni wedi gweld llanw a thrai ym mhoblogrwydd yr ymgyrch maen rhaid cyfaddef. Flwyddyn yn ôl cyhoeddodd Ymgynghorwyr Arad adroddiad ar ran Llywodraeth Llafur Cymru a Phrifysgolion Cymru yn nodi nad oedd angen strwythur newydd fel Coleg Ffederal Cymraeg. I'r Blaid Lafur dyna oedd diwedd y gan lle roedd yr alwad am Goleg Ffederal mewn cwestiwn – roedden nhw wedi addo llunio polisi ar sail awgrymiadau'r adroddiad a sypreis sypreis roedd argymhellion yr adroddiad bron yn unfath a polisi bresennol y Blaid Lafur. Roedd y momentwm wedi ei golli i raddau a chyfle wedi ei golli am rai blynyddoedd eto i gael yr...

Gwynt yn chwythu via Blog Dogfael May 26th, 2007 at 22:35

Yfory y mae’n ŵyl y Pentecost pan fo Cristnogion yn cofio ac yn dathlu dyfodiad yr Ysbryd Glân. Roedd y digwyddiad yn annisgrifiadwy, ond gan nad oedd unrhyw ffordd i gofnodi’r digwyddiad ond trwy ddisgrifiad fe ddywedodd yr awdur Luc fod yr Ysbryd Glân wedi dod fel tafodau o dân a chyda sŵn mawr fel sŵn gwynt yn chwythu. Dros y canrifoedd mae’r eglwys wedi darllen disgrifiad Luc drosodd a throsodd fel ein bod wedi dod mor gyfarwydd â’r peth fel nad oes unrhyw ryfeddod ynddo i ni bellach. Felly mwy o reswm byth i gofio a dathlu er mwyn gwneud inni sylweddoli mawredd y peth. Os oedd ‘na sŵn fel gwynt mawr ar ddydd y Pentecost, gellid dweud fod ‘na wynt mawr wedi chwythu trwy Gymru heddiw, neu o leiaf trwy’r Democratiaid Rhyddfrydol yng...

Beth mae’r Democratiaid Rhyddfrydol yn ei wneud mewn gwleidyddiaeth? via Blog Dogfael May 24th, 2007 at 23:34

Yfory fe fydd y Cynulliad Cenedlaethol yn ymgynnull am yr eilwaith ers etholiad 3 Mai – y tro hwn i ethol Prif weinidog, ac mae pawb yn gwybod bellach taw Rhodri Morgan fydd hwnnw. Wedi’r holl drafod a’r gobeithio am newid, mae pethau’n aros yr un peth ag yr oedden nhw i bob pwrpas, sef llywodraeth leiafrifol Lafur. Ond mae’r dannod wedi dechrau, a’r Democratiaid Rhyddfrydol sy’n cael yr holl wawd, gan Blaid Cymru, gan y Torïaid, ac fe glywais i fod Llafur hefyd wedi ymuno yn y gêm. Roedd blog Vaughan Roderick yn weddol uniongyrchol neithiwr: Mae pwyllgor gwaith y Democratiad Rhyddfrydol wedi gwrthod yr enfys. Beth sy’n digwydd nesaf? Duw… neu Trish Law sy’n gwybod! Mi wnai fentro un sylw. Mae’n drychineb i Mike German a...

Ta ta Mike! via Blog Dogfael May 24th, 2007 at 13:03

image Egsglwsif i Flog Dogfael Peter Black yn helpu Mike German i bostio ei lythyr......

Y drwg yn y caws via Blog Dogfael May 24th, 2007 at 08:21

Fel un nad yw’n gwrando ar BBC Radio4 o ran egwyddor (dwi ddim am orfod dioddef y is-bropaganda Prydeinllyd sydd ymhlyg yn ei holl allbwn darlledu) wnes i ddim clywed newyddiadurwr o Gymro yn adrodd bod y trafodaethau ynglŷn â ffurfio Llywodraeth Cymru wedi troi yn ffars, ond yn ôl yr hyn a ddywedwyd wrtha i roedd y peth yn drist. Mae’n rhaid bod y newyddiadurwr yn gwybod beth sy’n digwydd mewn seneddau lle nad oes sustem etholiadol wyrdroëdig sy’n rhoi’r holl bŵer i blaid sydd prin yn ennill dros 35% o’r bleidlais boblogaidd, fel y digwyddodd i Lafur Newydd yn 2005. Ond mae’n rhaid bod pwysau arno i adrodd beth y buasai ei gynulleidfa (Lloegeraidd Llundeinig) am ei glywed, mae pleidleisio cyfrannol yn estron i’r ysbryd ci-tarw Prydeinig...

“Peidiwch â rheoli dim byd allan” via Blog Dogfael May 24th, 2007 at 07:29

image Gyda phwyllgor cenedlaethol y Democratiaid Rhyddfrydol wedi dweud nad ydyn nhw am drafod mynd i glymblaid gyda neb i ffurfio Llywodraeth Cymru mae’n rhaid gofyn beth sy’n digwydd i’r Democratiaid Rhyddfrydol? Ydyn nhw wedi penderfynu nad ydyn nhw am fod yn blaid wleidyddol bellach ac am droi yn grŵp pwysau sy’n derbyn nawdd cyhoeddus ac heb unrhyw ddiddordeb mewn bod yn rhan o lywodraeth. Roeddwn i wedi teimlo taw clefyd a oedd yn effeithio ar Blaid Cymru oedd hynny ond fe ges i fy mhrofi’n anghywir yn hynny o beth (ac nid am y tro cyntaf!). Fe glywais i Alun Cairns (nid fy ffefryn) yn siarad ar Radio Cymru y bore ‘ma yn dweud efallai y gallai’r cytundeb rhwng y Ceidwadwyr ‘Cymreig’ a Phlaid Cymru fynd yn ei flaen ac na ddylen ni...

Democratiaid Rhyddfrydol Ystyfnig via Blog Rhys Llwyd May 24th, 2007 at 14:10

Mae'r blog wedi bod yn dawel ers y penwythnos tra mod i wedi bod fyny ym Mangor yn cyfarfod fy nhiwtor a hel rhyw bethau o'r llyfrgell ar gyfer gwaith y mis neu ddau nesaf. Fodd bynnag dydy gwleidyddiaeth Cymru heb fod yn ddistaw. Mae pob plaid wedi rhoi'r gorau i drafod gyda Llafur ac o ganlyniad roedd Llywodraeth Enfys i'w weld fel realiti posib ond heno fe drodd pethau yn flêr wrth i'r Democratiaid Rhyddfrydol dynnu allan o'r Glymblaid Enfys. Fe allai hyn arwain Cymru i fewn i argyfwng cyfansoddiadol.Mae'n rhaid i'r Democratiaid Rhyddfrydol dyfu fyny a sylwi mai gwleidyddiaeth glymbleidiol fydd gwleidyddiaeth ôl-ddatganoledig yng Nghymru. A beth bynnag, does ganddyn nhw ddim gobaith caneri o ddod yn brif wrthblaid heb sôn am arwain llywodraeth felly os ydy nhw yn gwrthwynebu...

Manylion y Bleidlais Ranbarthol via Blog Rhys Llwyd May 16th, 2007 at 03:49

image Fe fuodd V. Roderick ddigon caredig i anfon data manwyl y bleidlais ranbarthol i mi. A hyd y gwn i dydy nhw ddim ar y we yn nunlle eto felly dyma nhw i chi (rhowch glec i'w gweld yn fwy a chliriach):Rhanbarth y Gogledd (Os byddai Aberconwy wedi mynd i'r Ceidwadwyr byddai Wigely yn saff o fod mewn)Rhanbarth Canol a Gorllewin (Os byddai John Dixon wedi ennill yng Ngorllewin Caerfyrddin ni fyddai Nerys Evans wedi mynd mewn) Rhanbarth De OrllewinRhanbarth De-CanolRhanbarth De-Ddwyrain(Os byddai y Dem Rhydd wedi cipio sedd yng Nghasnewydd byddi Llafur yn ennill un yn ol ar y rhestr ranbarthol ac byddai'r Dem Rhydd yn colli un fan yna - ei harweinydd!)Mwynhewch y cnoi...

Ceisio dod o hyd i’r aur ar ben yr enfys via Blog Rhys Llwyd May 19th, 2007 at 12:10

image Maen rhaid fod Rhodri Morgan a'i gyd Lafurwyr mewn panig llwyr heno. Dydy nhw, yng Nghymru, erioed wedi cael y profiad o beidio dal pŵer. Ar ben y drychineb o golli awenau llywodraeth yng Nghymru bydd y glymblaid enfys yn dod a PR i fewn i etholiadau lleol ac o ganlyniad mi gollith Llafur ei hegemoni ar lefel Cyngor Sir hefyd. Er mai Llafur (gellid dadlau) ddaeth a Datganoli i Gymru, yr eironi fawr yw fod y datganoli hwnnw wedi dod a dechrau'r diwedd i hualau'r Blaid Lafur yng Nghymru.Yn wreiddiol fy ngobaith i oedd cael bod yn wrthblaid gref am bedair blynedd arall er mwyn cael codi momentwm i herio Llafur a chipio grym yn 2011. Ond gan bod y Dem. Rhyddion wedi dweud 'no we' i glymblaid gyda Llafur mae'n rhaid i Blaid Cymru fod yn rhan o'r llywodraeth mewn rhydd fodd. Felly y ddau...

Clymblaid Enfys: Pleidwyr ‘llawr gwlad’ yn gymysg eu barn via Blog Rhys Llwyd May 21st, 2007 at 05:00

image Yn ystod yr ymgyrch etholiadol fe drodd coffi ar ôl cwrdd fore Sul yn sesiwn drafod gwleidyddiaeth, yn anffurfiol beth bynnag. Oherwydd y datblygiadau diddorol does dim taw ar y sgwrsio am helyntion Plaid Cymru a bore ma ces i fy nghorneli gan un fam ifanc; “Beth yw hyn am Blaid Cymru yn rhoi pŵer i'r Ceidwadwyr?” Co' ni off. Roedd hi yn grac iawn ac yn dweud na fyddai hi'n pleidleisio i'r Blaid eto pe tase y glymblaid enfys yma yn cael ei ffurfio. Yn fwy na hynny adroddodd hi stori am ei rhieni yng nghyfraith a wnaeth bleidleisio i'r Blaid am y tro cyntaf erioed eleni, cam mawr oherwydd eu bod nhw'n hen Lafurwyr mawr ac wedi pleidleisio Llafur trwy eu bywydau hyd eleni. Roedd hi'n dweud y bydden nhw yn wyllt gacwn a byth yn ymddiried pleidlais i'r Blaid eto petaent i roi pŵer yn...