Dwi wedi bod i bob un o wledydd Ynysoedd Prydain heblaw am Ogledd Iwerddon, yn bennaf gan ei fod yn shait, a chaiff pwy bynnag sy’n anghytuno roi ei fys fyny ei din a chael wanc, achos dwi ddim yn mynd yno a dyna ddiwadd arni. Os mae’n ddigon da i Lembit Opik gael ei eni yno, dydi o’n sicr ddim yn ddigon da i mi.Ga’i bwysleisio fan hyn nad oes neb erioed wedi gofyn i mi fynd i Ogledd Iwerddon, ac nad ydwyf efo’r syniad lleiaf pam ddaeth yr uchod i’m mhen.Pam ffwc bod Gloria Hunniford yn gwneud yr hysbysebion Flora? Dio ddim fel bod y ddynes yn bictiwr o iechyd, nac ydi? Wel, dydi hi fawr o bictiwr o ddim i fod yn onest. Wn i ddim amdanoch chi, ond ‘swn i ddim.Ydi’r hysbysebion Flora yn ffug? Wyddoch chi be, wn i ddim, dwi ddim yn barod i gredu eu bod nhw’n rhai go iawn...
Mae ymgyrch Free Tibet yn un ddigon teilwng, er bu i mi bron â mynd at y bobl sy’n gofyn am lofnodion neu rywbeth yn ganol dre a ydyn nhw’n credu mewn Cymru Rydd ac ydyn nhw’n actiwli gwybod rhywbeth am Tibet yn y lle cyntaf.Y rheswm feddyliais hynny, ar wahân i’r elfen sinicaidd hynod sy’n nodweddiadol ohonof, oedd mai dyma’r un bobl, yn yr un fan ac yn wir efo’r un bwrdd llofnodion â’r bobl oedd yno wythnos diwethaf isio llofnodion yn erbyn difa moch daear. Byddwn i wrth fy modd petai Elin Jones yn mynd yno ac yn rhoi swadan i’r ffycars. Heblaw am fod yn fastads bach heintus a allai beryglu bywoliaeth ffermwyr, mae moch daear yn ffycars bach cas. Go wir rŵan: fel elyrch maen nhw’n edrych yn ddigon annwyl ond nhw ydi’r pethau cyntaf a fydd yn brathu dy goes...
Fel rhywun sy’n colli’n aml ond yn parhau i fod yn gollwr drwg, os nad milain o chwerw ym maes gwleidyddiaeth, waeth i mi gadw hyn yn fyr. Pob hwyl i Obama – dwi wir yn golygu hynny (er ddim yn siŵr y bydd yn darllen fy ngeiriau) – ond mi gaiff bawb sioc ar y diawl pan fyddant yn sylwi nad y Meseia disgwyledig mohono a ffyc ôl yn newid yn y bôn. Os bydd Man Utd a Chymru’n colli dros y dyddiau nesaf fyddai’n rili mynd dros ben...
Taswn wedi rhedeg y marathon deirgwaith ac wedyn ‘di gorfod cael sgwrs efo Lowri Llewelyn, ni fyddwn fwy blinedig nag wyf ar hyn o bryd. Fy mai ydi’r peth oherwydd fy mod yn ystyfnig. Gair Lowri Llewelyn amdanaf oedd ‘ystyfnig’, gyda llaw, y geiriau a ddefnyddiwyd gennyf i oedd ‘penderfynol’ neu ‘anturus’.Gwraidd y blinder a’r anghydfod ydi’r daith a wnaed i Aberystwyth ar y penwythnos. Tai’m i mewn i siarad am y meddwi ac ati, ond wedi gweld bod Lord of the Rings ar y teledu yn Y Llew Du a slagio off myfyrwyr a Saeson a digio am fod yr Academi yn hen gapel a drowyd yn dafarn ond eto yn ddigon bodlon cael peint yno, mi drodd pethau’n eithaf llanast. Hidia befo am hynny.Yn lle mynd i fyny’r A470, sy’n lôn erchyll, ddiflas ar y gorau adegau, penderfynais fel y...
Nid blogiwr y Sadwrn mohonof fel rheol ond heddiw fe wnaf eithriad. Dwi newydd fod yn pysgota gyda fy arch-elyn y mae’n fy ngharu’n ddarnau sef Dyfed Flewfran.Gwn eich meddwl. Wedi’r aflwyddiannau lu y’u cofnodwyd ar y flog hon: paham? Erbyn hyn, dydyn ni ein dau ddim yn siŵr chwaith.Prynwyd yr abwyd ac ambell i declyn ac aethpwyd i Benmon, lle, yn ôl dyn y siop ym Miwmares, y mae mecryll. Y ffycar celwyddgar.Taflem ein bachau i’r môr ar ôl dod o hyd i fan fach ddelfrydol. Ni ddaeth y bachau’n ôl. Y môr a’u hawliasant, a ninnau symudasem.Rŵan, yn y fan newydd fe aeth pethau o ddrwg i waeth i mi. Fe lwyddodd Dyfed ei hun gael ambell i gynnig arni. Y tro cyntaf yno, mi aeth fy rîl i bobman a sbwyliwyd y tafliad hwnnw. Digwyddodd yr un peth yr eildro wrth i’r cont...
Mwy na digon trahaus ydwyf i allu dweud y galla i wisgo fel y mynnaf ac edrych yn weddol gall. Iawn, mi gyfaddefaf, nid goth o’r radd flaenaf y byddwn, ond dwi’n iawn efo popeth arall, fwy neu lai. Yr un olwg na fedrai er fy myw edrych yn hanner call ynddo ydi’n ffurfio, crys a thei ac ati. Rŵan, nid y peth deliaf mohonof p’un bynnag ond efo crys a thei dwi ar fy ngwaethaf - sydd, gadewch i mi eich sicrhau, yn bur ffycin ofnadwy.Ond ow, ond ow, ond ow, mi gachodd dderyn ar fy mhen ddoe. Yn bur ffodus, yn fy ymdrech parhaus, ond nad digalon o aflwyddiannus, i fod yn cŵl, roeddwn yn gwisgo sbectols haul, neu shêds fel y bydd pobl sy’n ymdrechu i fod yn cŵl yn ei ddweud, ar fy mhen. Yn bur ffodus tarodd y cachu hwnnw ac arbedwyd fy ngwallt yn gyffredinol. R’on i’n meddwl...
O bosibl, fy nghas gân i ydi ‘Imagine’ gan John Lennon. Heblaw am fod yn diwn ddiflas a hyll, dwi ddim isio byw yn y byd crap mae o’n fwydro amdano, a bob tro dwi’n glywed y gân dwi’n mynd yn flin.Un o’r pethau mwyaf digalon posibl ydi dychmygu nad oes math o nefoedd. Neu uffern. Dwi’n meddwl pe baem ni gyd yn 100% siŵr nad oedd y ffasiwn bethau byddai’r hen fyd ma’n troi’n llanast llwyr. Prin fod cwymp crefydd a materoldeb pathetig y Gorllwein a’r symud tuag at adfail o gymdeithas yn gyd-ddigwyddiad. ‘Sdim rhaid i rywun fod yn grefyddol i allu gweld hynny.Wedyn mae’r llipryn sbectols yn sôn am fyd heb wledydd. Rŵan, tra nad ellir dadlau na fyddai neb yn colli Liechtenstein yn ormodol, fedra’ i ddim meddwl am fyd heb wledydd. Prin ydi’r bobl nad ydynt yn...
Celwydd ni chewch. Gas gen i’r Iseldiroedd heddiw. Beth ydynt ond am Saeson acen wirion sy’n byw hanner milltir o dan y môr, wn i ddim. Dynesed cynhesu byd eang a distrywio’r melinau gwynt a’r tiwlips. Chwaled eu cawsiau a’u canals.Iawn, efallai bod dyheu am dranc cenedl braidd yn or-ymateb, ond p’un bynnag dwi’n ddig ar y diawl heddiw. Ym maes chwaraeon, dwi’n gollwr drwg a chwerw. Yr unig beth sydd o gysur i mi oedd, er gwaethaf colli 3-0, chwaraeodd Yr Eidal yn well na Ffrainc na Rwmania. Tra bo pizza, bo gobaith.O leiaf ei bod hi’n braf. Dwi’n tisian fel mong ond ta waeth, mae’r tywydd braf yn codi hwyliau’n ddi-ffael, fel y mae’r gaeaf, ond am y Nadolig, yn ddigon i dduo’r enaid i’r iselfannau, wel, isaf. Fodd bynnag, dwi’n byw ar gabaets a thatws ar...
Fel arfer dwi’n chwerwach na lemon y mae ei wraig wedi rhedeg i ffwrdd gyda banana gan ddwyn y siwgr ‘run pryd. Nid gwahanol mo heddiw.Dwi’n ôl yn y ddinas ac yn ddig. Nid anaml y byddaf yn ddig, ac yn aml iawn pan fyddaf naill ai o amgylch Lowri Llewelyn (sy’n fy nigio) neu’n gwylio twat dosbarth canol yn sôn am fwyd organig (sy’n fy nigio) neu’n clywed rhywun yn mynegi barn dwi’n cytuno â hi ond ddim yn licio’r person (sy’n fy nigio), ond dig roeddwn neithiwr. Dwi ‘di malu’r rhyngrwyd acw. Fedrai’m mynd ar Facebook. Sydd, rhaid dweud, wedi fy nigio.Un peth bach arall sy’n fy nigio ydi’r haul fastad ‘ma. Mae pawb yn licio haul, ond dwi’m yn licio haul. Ar y funud mae’n llygid i’n teimlo fel pe bai llwch ynddynt ac yn brifo. Hynny fydd yn digwydd i...
Ew, dwi’m wedi bod atoch chi ers sbel, naddo? Roeddwn yn bwriadu rhoi dadansoddiad manwl o’r etholiadau cyngor cyn penderfynu nad oeddwn i wirioneddol isio gwneud hynny. Wel, roeddwn i isio, ond wnes i ddim, felly dyna ddiwedd ar hynny.Mi es ddoe i ben Foel. Mae’n bosib iawn mai ben Moel Faban ydi fy hoff le yn y byd i gyd; ‘doeddwn i heb fod am flynyddoedd felly mi es. Yr ochr draw i Foel ceir cwm diffaith, ond dwi wrth fy modd yno. Yr unig beth a glywch yno ydi brain a defaid, gweld y ceffylau gwyllt yn mynd ar eu busnes rhwng y carnau. Mae rhywbeth dwfn am heddwch y fan honno sy’n rhoi rhyw flas tangnefeddus i mi.Serch hynny, dim ond Saesneg sydd i’w chlywed ar uchaf gyrion Rachub erbyn hyn. Fedra’ i ddim disgrifio’r teimlad yn llawn i chi o glywed Saesneg yn y pentref....
Wyddoch chi fi erbyn hyn: mwyn, aeddfed, heb na sarhad na gair drwg am ddim. Ond dwi’n ffwcin flin heddiw a dyna ddiwadd arni. Yr hwn fore roeddwn wedi deffro’n fuan iawn, am tua 7, ac wedi codi erbyn hanner awr wedi. Ew, uwd fydda’n dda, meddyliais, y peth iawn i’m cadw i fynd drwy’r bore hyd fy nghinio.Ni all na Macbeth na chyflafan Peterloo y’i cyflawnwyd dwy ganrif nôl gymharu efo be ddigwyddodd nesaf. Disgynnodd y sosban ar hyd y popty, gan ddymchwel y rhan helaethaf o’r uwd dros fat y gegin. Llefrith ym mhobman. Dw i’n cofio’r union eiriau y bu i mi eu sgrechian yn y gegin, sef “Ffyc, bastad, bolycs”, a hynny atseiniodd ledled Grangetown.Mi gymrodd chwarter awr dda i lanhau’r stôf, ac mi roddais y mat, sy’n gythraul o beth trwm, allan ar y lein yn uwd i...
Mi gliriais fy mhen neithiwr a phrynu 24 can o Fosters am ddegpunt o Morristons. Byddai dilyn y trywydd o droi’n alcoholic yn beth hawdd iawn i mi ei wneud pe nad gwyliwn fy hun yn ofalus. Yn fy mlwyddyn gyntaf yn y Brifysgol, sydd yn echrydus o amser maith yn ôl erbyn hyn, nid yn anaml y cawn rywfaint o fodca amser cinio neu gan o seidr ar y ffordd i ddarlithoedd.Serch hyn, ieir sy’n mynd â fy mryd heddiw, ar ôl gorffen gwylio’r gyfres efo’r boi posh ‘na yn gwneud ryw ymgyrch yn erbyn ieir yn cael eu cadw mewn amodau ofnadwy. Roedden nhw’n ofnadwy, cofiwch, mae hawl gan y bobl cynhyrchu ‘ma i gadw 17 iâr i bob metr sgwâr, felly amlygwyd cymaint yn fwy egwyddorol, os mai dyna’r gair cywir, ydyw ieir buarth.Ond dydw i ddim am wario mwy ar iâr buarth a dyna ddiwedd...