Bues i'r gogledd am noson er mwyn mynd i weld nain yn yr ysbyty. Fe gafodd hi godwm tua 5 wythnos yn ôl a thorri ei chlun, ac fe gafodd lawdriniaeth i osod pin yn ei chlun. Gwelais i hi rai diwrnodau wedi'r lawdrinaieth a doeddwn heb ei gweld ers hynny. Roedd hi'n edrych yn well y tro yma, ond roedd yn dal yn ffwndrus ofnadwy. Hyd yn oed cyn iddi ddisgyn, doedd hi ddim yn gallu cerdded bron oherwydd ei phengliniau, ac mae hi fwy neu lai'n ddall. Does dim rhaid dweud nad oes ganddi fywyd hawdd iawn, nac fy mam druan chwaith sy'n edrych ar ei hol. Ta waeth, roedd nain yn 93 oed ddoe, ac roedd Inffyrmari Dinbych ble mae nain yn aros ar hyn o bryd yn 200 oed hefyd ar yr un diwrnod.Tra ar y tren, dyma fi'n darllen 2 rifyn diwethaf o'r Faner Newydd nad oeddwn wedi cael cyfle i'w darllen,...
Dinbych, set o luniau o fy nhref enedigol ar gyfrif Fflicyr Traed Mawr.
dinbych, denbigh, flickr
Generated By Technorati Tag Generator...
Dwi'n mynd i'r gogledd y penwythnos yma i helpu fy nhad gyda'r cneifio yn Hafodty. Plygu'r gwlan fydda i nid y cneifio ei hun. Dwi heb wneud hyn ers sawl blwyddyn (7 mlynedd neu fwy efallai). Roeddwn yn casau'r diwrnod pan yn iau gan nad ydw i'n farm boy o bell ffordd. Er nad yw'r cneifwyr yn greulon, mae'r defaid yn naturiol yn cael braw pan maent yn gael eu gwasgu rhwng coesau Cymro nau Maori mawr ac felly'n tueddu cachu a piso eu hunain, sy'n gwenud y dasg o blygu'r gwlan yn amhleserus. Ond mwy fwy dwi'n meddwl am adref a'r ffaith bydd fy nhad am dau ewythyr (sydd a dim plant) yn ymddeol yn fuan, dwi'n sylweddoli bod rhywbeth sydd wedi digwydd am genedlaethau am ddod i ben a bydda i'n ei fethu.
Y tywydd ac argaeledd y criw cneifio sy'n penderfynnu pryd mae'r cneifio'n digwydd,...