Cyn i fy Nhad-cu droi at Grist yr hyn wnaeth ei sbarduno ef i feddwl yn ddyfnach am ei berthynas (neu ddiffyg ar y pryd) gyda Duw oedd iddo dderbyn pamffled oedd a'r teitl brawychus GOD HAS NO GRAND CHILDERN. Byrdwn neges awdur y bamffled y diwrnod hwnnw oedd y ffaith fod rhaid i bawb ddod i adnabod yr Iesu drostynt hwy eu hunain. Nid oes unrhyw un yn etifeddu perthynas a Duw ar sail ffydd ei rieni neu am ei fod yn aelod o genedl a thraddodiad Cristnogol fel, meiddia i awgrymu, Cymru. Mae'r Beibl yn glir y bod pawb yn dechrau yn yr un man mewn perthynas a Duw does ots am unrhyw gefndir neu fagwraeth Gristnogol. Gwrandewch ar yr apostol Paul, mae'n dechrau gyda'r cwestiwn rhethregol: 'Felly beth ydyn ni’n ei ddweud? Ydyn ni Iddewon yn well yng ngolwg Duw na phawb arall?' cystal i ni ofyn...

Dyma barhad o'r blogiad blaenorol lle roeddwn yn sôn am dystiolaeth sy'n codi o archifau Dr. Tudur Jones am brofiadau pobl o 'fedydd yr Ysbryd Glan.'...Dwi wedi bod yn ystyried ysgrifennu rhywbeth ar y blog am y Diwygiad Iachau sydd ar gerdded yn Lakeland Florida ar hyn o bryd ar y blog ond heb gael cyfle eto. Ond yn hanesyn y wraig isod ceir sôn am y modd bu i'r Ysbryd Glan ei iachau hi a rhai eraill yn eglwys Mount Pleasant, Abertawe yn 1985:Digwyddodd dau beth allan o'r cyffredin i mi yn ystod yr wythnosau diwethaf. A fuodd chwi erioed yn cynnal gwasanaeth o weddi, eneinio, ac arddodiad dwylo? Iago V: 14,15. Ar ddiwedd pregeth nos Fercher galwodd ein hannwyl weinidog, y Parch. Glyn Morris ar nifer ohonom i eistedd yn y seddau blaen. Yr oedd wedi galw am enwau'r cleifion cyn y...

Dwi bellach yn adnabod fy hun fel Caresmatig-Diwygiedig ac dwi'n argyhoeddedig fod Duw yn, ac bod yn rhaid i Dduw anfon tywalltiad nerthol i lawr i unigolion ac i'r Eglwys trwy'r Ysbryd Glan. Dwi ddim yn meddwl fod y tywalltiad yna yn amod iachawdwriaeth a dwi ddim chwaith yn meddwl fod y tywalltiad yna yn amod sicrwydd ffydd ond mae, fe dybiaf, yn mynd a chi yn nes at Dduw ac yn eich gwneud chi, a'r eglwys, yn offeryn mwy effeithiol i dystiolaethu. Wythnos yma yn yr Archifdy fe ddois ar daws dau hanesyn difyr gan ddau unigolyn fu'n gohebu ac R. Tudur Jones, y naill yn adrodd sut y bu iddynt gael "ail fendith" neu "bedydd yr Ysbryd Glan" a hynny nid er mwyn dod a nhw yn Gristnogion oherwydd roedden nhw yn Gristnogion eisoes ond er mwyn dod a gwefr a profiad dyfnach o Dduw iddynt:Y cyntaf...
Dwi'n meddwl fod tystiolaeth Gristnogol wastad wedi cael y broblem o fod yn 'high-brow' a dwi cymaint a neb wedi gwneud fy siar yn cyfrannu i'r broblem yma, rwy'n ymddiheuro. Pan yn coleg roeddw ni ac eraill wedi tybio fod y model cyfarfod undeb Cristnogol o gael darlithydd neu weinidog i draethu ar bwnc trwm wedi apelio nol yn y 70au a bod tyrfa niferus yn mynychu'r cyfarfodydd ond fod y model yna ddim mynd i weithio heddiw, wrth reswm. Ond fe ddoes ar draws tystiolaeth yn awgrymu fod y model ddim yn gweithio yn y 70au chwaith ac fod y cyfan yn cael ei gynnal yn yr ysbryd cywir maen siŵr ac fod y cymhellion yn gywir ond yn anffodus yn rhy 'high-brow' i fod yn unrhyw gyfrwng effeithiol i genhadaeth.“Cafwyd blwyddyn gymharol lwyddiannus eleni. Mae gennym gnewyllyn o tua hanner dwsin o...

Dyma gyfweliad gan Adrian Warnock, un o flogwyr mwyaf adnabyddus y byd reformed-charismatic yn Lloegr gyda D.A. Carson, un o ddiwinwyr mwyaf blaenllaw yr Eglwys yn rhyngwladol ar hyn o bryd. Ei lyfr enwocaf yw The Gagging of God: Christianity Confronts Pluralism (Zondervan, 1996). Yr hyn sy'n hynod yw fod y cyfweliad wedi ei gynnal ym Mhenychain, Pwllheli pan oedd Carson yna dros y Pasg eleni fel un o brif siaradwyr yng nghynhaledd New Word Alive - tybed a wyddai poblach Pwllheli fod un o ddiwinwy'r mwyaf blaenllaw y byd yn troedio o amgylch eu tref yr wythnos hwnnw?! Mae gan Carson bethau diddorol iawn i ddweud am rôl y diwinydd a rôl addysg ddiwinyddol o fewn yr eglwys, a dyna'r gyfrinach, sef mae disgyblaeth i ymarfer er budd yr eglwys yw diwinyddiaeth ac y dylai sefydliadau addysg...

Echnos bues i yn gwylio'r ffilm Bloody Sunday (2002) sydd â James Nesbitt yn actio'r Cenedlaetholwr Gwyddelig Protestannaidd (ie, diddorol iawn) Ivan Cooper. Ivan wrth gwrs oedd yn trefnu ac arwain yr orymdaith heddychlon ddi-drais a drodd erbyn diwedd y dydd yn un o'r erchyllterau mwyaf o law gwladwriaeth so-called “gwaraidd” o fewn cof. Roedd y ffilm yn wirioneddol wych ac maen rhaid i mi gydnabod na chyffyrddodd yr un ffilm a mi cymaint ag y gwnaeth hon, roeddwn ni yn fy nagrau. Yr hyn oedd yn taro dyn fwy na dim oedd ffolineb a dallineb llwyr yr awdurdodau Prydeinig ar y diwrnod. Yr hyn oedd yn frawychus oedd mae dim ond cenhedlaeth yn ôl digwyddodd hyn, roedd y barbariaeth yr oedd y milwyr yn ei ddangos fel rhywbeth cyntefig allan o'r croesgadau – maen frawychus i feddwl y...

Sgwenesi y sylwadau yma i ddechrau ar maes-e mewn trafodaeth oedd yn trafod pam fod trafodaethau yn y seiad 'Ffydd a Chrefydd' wastad yn troi allan yn ryfel mawr rhwng safbwyntiau ffwndamentalaidd di-gred a ffwndamentalaidd Gristnogol. Dyma oedd rhai o fy sylwadau athronyddol grefyddol, maen gymhleth ydy ond triwch ddilyn y ddadl er mwyn gadael sylwadau, bydd yn ddifyr!:Difyr. Des i ar draws grwp o'r enw "We are not "believers", we are those who know the TRUTH" ar Facebook pwy ddiwrnod. Gwnaeth e i fi feddwl. Penderfynesi beidio ymuno a hynny am resymau tactegol (hy ddim ishe bobl feddwl mod i'n fwy o ben-bach nag ydw i'n barod!), fodd bynnag yn ôl dysgeidiaeth y Beibl/Cristnogaeth mae yn ddatganiad cywir. Dwi wedi pwysleisio dro ar ol tro ar y maes mae dim ond hyn a hyn o ffordd fedra i...

Dy chi'n gwybod fod e wedi dod i rhywbeth pan fo'ch teulu yn dibynnu ar eich blog i wybod eich bod chi'n iawn. Fe ges i neges destun gan Mam wythnos diwethaf yn dweud rhywbeth fel hyn: "Rhys, wyt ti'n iawn? Mae'r blog wedi bod yn daweld ers sbel." Wel, gan mod i yn trio troi papur yn cymharu safbwyntiau JE Daniel a Miall Edwards rownd mewn wythnos fydd yna ddim trafod unrhywbeth dwys nac o werth ar y blog wythnos yma chwaith ond fe dria i sôn am rywbeth o werth wythnos nesa - crynhoad o'r papur o bosib i rheini ohonoch chi (y rhai prin) fydd a diddordeb.Yn y cyfamser dau ddarn arall o fy mhortffolio dylunio dwi wedi gweithio arnyn nhw dros yr wythnos...
Dwi ddim si postio ers rhai diwrnodau bellach ac am y tro does dim amser gena i i bostio unrhyw beth swmpus felly dyma nodyn - yn arddull 'Beth mae DML yn ei ddarllen' (oddi ar blog dogfael) - i ddweud beth dwi'n ei ddarllen ar hyn o bryd. Wel wythnos yma y llyfrau sydd gena i 'on ddy go' ydy:'Llofion ym Maes Crefydd' - Robert Pope'Caradoc Jones: A Forgotten Missionary' - Noel Gibbard'Torri'r Seiliau Sicr: Ysgrifau J.E. Daniel' - D. Densil Morgan (gol.)'tu chwith 27:newid' - Catrin Dafydd (gol.)'Tescopoly' - Andrew SimmsFel y gwelwch chi dwi ddim yn un am orffen un llyfr cyn dechrau ar y...

Maen debyg i rai ohono chi ddarllen llythyr y Parch. Aled Jones-Williams yn Golwg wythnos diwethaf. Efallai i chi glywed y llythyr yn cael ei drafod ar raglen John Roberts fore Sul – ar y rhaglen canolbwyntiodd John ar ei sylwadau am fod dim dyfodol i enwadaeth ac nad oedd llyfrau Cristnogol o werth yn cael eu cyhoeddi ar hyn o bryd. Rwy'n deall i raddau pam y bu i John dynnu'r ddau bwnc yna allan o'r llythyr, maen nhw'n fwy 'radio friendly' na phynciau diwinyddol mawr. Fodd bynnag gau-athrawiaethau Aled Jones-Williams am hanfodion Cristnogaeth oedd yn sefyll allan i mi – dywedodd mai 'delwedd yw Duw' ac mai 'metaffor yw crefydd'.Petawn i'n esgob Bangor - sydd, gyda llaw, yn wael iawn o ran ei iechyd ar hyn o bryd - byddwn yn poeni'n fawr am 'efengyl' ficer Porthmadog. Oni bai mod i...
Fe addewesi bostio fy narlith/sgwrs ar 'Crefydd yn gwahanu - plaid yn uno' ar y blog. Felly dyma hi. Fe aeth y noson yn iawn dwi'n meddwl, fe gafodd fy syniadau ddigon o wrthwynebiad yn bennaf o dy y Methodistiaid Calfinaidd hynny nad sy'n arddel yr un Calfiniaeth (os o gwbl) a thadau eu henwad - perodd fy syniadau beth anesmwythod i Grynwr oedd yno hefyd oedd yn dadlau fod Duw wedi ei greu ar ein llun an delw ni, roeddwn ni wrth gwrs yn dadlau y ffordd arall. Dwi'n meddwl i Cynog Dafis ddilyn fy nadl trwyddo er na fynai ef gytuno chwaith er fe dybiaf ei fod yn dra ddiolchgar am y sgwrs. Roedd trafodaeth am ddiwinyddiaeth gyhoeddus o safbwynt ddiwigiedig uniongred yn newydd (neu o eliaf yn flash from the past) i lawer oedd yna gan fod y safbwynt ryddfrydol Gristnogol wedi mwynhau free run...