
Neithiwr fe fues i mewn digwyddiad difyr iawn yn neuadd Ysgol Penrhyn-coch, sef lansiad gwefan gymunedol Trefeurig. Mae’r wefan wedi’i geni fel rhan o broject cymunedol Pwerdai Ceredigion. Mae cynllun Y Pwerdai yn brosiect arloesol ar y cyd rhwng Cered a Theatr Felin-fach, ac yn ymgais “i ymateb yn gadarnhaol a chreadigol i’r ffactorau hynny sy’n bygwth diwylliant cynhenid a ffordd o fyw draddodiadol y sir”.
Penderfyniad lleol yn ardal Penrhyn-coch/Trefeurig oedd ceisio cynnal rhai agweddau ar y gymuned trwy wefan. Ac yn bendant roedd y noson lansio a’r pwyllgor lleol sy’n gyfrifiol am y wefan yn adlewyrchu bywiogrwydd a chyfoeth y gymuned leol ym Mhenrhyn-coch a’r ardal. Roedd hi’n draddodiadol ond heb fod yn hen ffasiwn, ac yn esiampl...

Os na chefais fy nymuniad ddydd Sul roedd hi’n fater gwahanol ddydd Mawrth. Yn hytrach na mynd i’r eisteddfod roedd RO a minnau am fynd i grwydro ychydig yn Sir y Fflint a Sir Wrecsam. Nid fy mwriad i oedd gorfodi RO i fynd â mi i weld ein hetifeddiaeth, ond roeddwn i’n credu fy mod yn medru cynnig taith ddifyr a fyddai’n cwmpasu nifer o wahanol elfennau diddorol. Fel rhan o’r pecyn cyfan roeddwn i’n cael mynd i Shotton, Mancot a Glannau Dyfrdwy a dwi’n ddiolchgar i’m cyfaill am hynny. Dwi’n hoff o’r llefydd hyn am eu bod nhw’n wahanol, am fod pobol yn dueddol iawn o’u hanghofio a’u hanwybyddu, ond yn fwy na dim am eu bod ar y ffin. Ers yn blentyn mae ffiniau wedi’u fy nifyrru – ffiniau ieithyddol a...

Gallai rhywun dybio taw dyna fyddai uchafbwynt ein hymweliad â’n hetifeddiaeth ddiwydiannol ac ôl-ddiwydiannol. Ond roedd gwell i ddod sef pentrefi Sandycroft, Queensferry (Y Fferi Isaf), Mancot, Shotton a Chei Connah. Creadigaethau digon diweddar yw’r llefydd hyn, gyda nifer ohonynt wedi’u codi adeg y Rhyfel Mawr fel anheddau ar gyfer gweithwyr yn y ffatrïoedd oedd yn cyflenwi arfau. Dyna oedd hanes Mancot, pentref a gynlluniwyd gan adran dai y Weinyddiaeth Arfau, Ministry of Munitions, rhwng 1916-1918. Ac o’r herwydd gwelir eglwysi a chapeli newydd dros y lle i gyd. Roedd Eglwys S Ethelwold yn edrych yn ddiddorol iawn ar ochr y ffordd, ond doedd dim amser i ymweld â hi. Ym Mancot roedd yr Eglwys Bresbyteraidd yn drawiadol iawn. Gyda’r eglwysi ceir...