Eisteddfod yn y ddinas 2008-08-04 via Blog Dogfael
Dwi’n teimlo fy mod yn dechrau dod i adnabod dinas a’i dofi wrth ddeall ei sustem drafnidiaeth. Felly wedi i’r cyfeillion fynd am yr eisteddfod fe es i ati i geisio deall bysus Caerdydd a sut i gyrraedd ble’r oeddwn i am ei gyrraedd yn y ffordd fwyaf effeithlon a rhataf. Wedi chwilio a darllen ar wefan Bws Caerdydd fe welais taw bws rhif 27 oedd ei angen arnaf o Neuadd Buddug i mewn i’r ddinas ac fe allwn brynu tocyn diwrnod o deithio o fewn i’r ddinas am £3. Doedd dim troi nôl wedyn.
Roedd y bws yn dweud ei bod yn ddull ‘gwyrdd’ (neu a ddylwn i ddweud, ‘gwerdd’) o deithio; ond y peth mawr a’m trawodd i oedd y ffaith fod Sky News yn cael ei arddangos ar sgrin yn y bws er mwyn arbed i bobol fynd i’r drafferth o... Gwibdaith i’r Fro 2008-08-03 (3) via Blog Dogfael
Er y gallwn i fod wedi aros yn Llan-fair am oriau, roedd gennym nodau eraill i’w cyflawni, a llefydd eraill Ioloaidd i ymweld â hwy. Erbyn hyn roedd rhai yn galw am eu cinio, ond cyn troi tuag at Lanilltud Fawr i chwilio am le i fwyta, roedd yn rhaid galw heibio i Drefflemin. Roeddwn i’n gwybod fod ‘na gofeb yn yr eglwys yno i Iolo Morganwg. Mae rhywbeth braidd yn chwithig mewn codi cofeb i Iolo, yr arch-ryddfrydwr a’r undodwr, mewn eglwys oedd ar y pryd yn rhan o’r sefydliad, ond mae’n dda bod ‘na rywbeth gweladwy i nodi cysylltiad y dyn rhyfeddol gyda’i gynefin.
Does dim rhyw lawer yn Nhrefflemin ond yr eglwys ac ychydig o dai. Roedd drws yr eglwys wedi’i gloi, ond daeth DJP o hyd i Court Cottage o fewn munudau a chawsom ni’r... Gwibdaith i’r Fro 2008-08-03 (1) via Blog Dogfael
Eisteddfod yn y ddinas (4) 2008-08-02 via Blog Dogfael
Beth mae DML yn ei ddarllen 2008-07-17 via Blog Dogfael
Cinio dydd Sul yn Llanbadarn Fawr via Blog Dogfael
Wedi gwasanaeth y Cymun Bendigaid y bore ‘ma bues i yng ngwesty Llety Parc er mwyn cael cinio dydd Sul. Roeddwn i a DML wedi cael lifft yno gan ein cyfaill caredig RO. Y rheswm am fynd i Lety Parc oedd am fod y cinio dydd Sul yn rhan o ymgyrch Pwyllgor Apêl Llanbadarn Fawr Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd 2010 i godi arian. Roedd rhyw 50 a mwy yno i gael cinio. Cefais i bysgod fel fy mhrif gwrs a phwdi roli-poli jam yn bwdin. Wedi cinio cafwyd araith ddifyr gan y cyfarwyddwr a’r cynhyrchydd teledu John Hefin.
Rhagor o luniau o’r cinio.
Note: There is a rating embedded within this post, please visit this post to rate it.
Rhannu hyn Rhagor »Gyrrir gan... Gwidbaith arall i ogledd Powys via Blog Dogfael
Ddydd Llun diwethaf, gŵyl y banc Calan Mair, cefais gynnig gwibdaith i ogledd Powys gan gyfaill, sef DJP. Gadawsom Aberystwyth cyn 1.00pm a bwyta cinio yng nghanolfan ymwelwyr Cwm Nant yr Arian. Wedyn aethon ni ymlaen i Drefaldwyn a threulio cwpwl o oriau yno cyn gwneud ein ffordd yn ôl trwy Ddyffryn Banw i Aberystwyth. Wrth fynd trwy Dyffryn Banw fe wnaethon ni alw yn nghartref mam DML a chael DML yno yn mwynhau gofal a chariad. Wedyn fe ddaeth e gyda ni yn ôl i Aberystwyth.
Rhagor o luniau o’n taith i Drefaldwyn a Dyffryn Banw.
Note: There is a rating embedded within this post, please visit this post to rate it.
Rhanna...... Brwsel unwaith eto via Blog Dogfael
Dim ond nodyn bach byr yw hwn i ddweud fy mod i ar fy ffordd i Frwsel y bore ‘ma. Dwi’n gadael Aberystwyth ar y trên 9:27am gan newid yng ngorsaf Birmingham Stryd Newydd a chyrraedd Llundain Euston erbyn 2:00pm. Wedyn mae’n rhaid inni ddisgwyl tan 4:35pm i’r trên Eurostar am Frwsel adael St Pancras Rhyngwladol. Erbyn hyn mae’n cymryd ychydig o dan dwy awr i deithio i Frwsel, felly fe fyddwn ni’n cyrraedd yno erbyn 7:30pm (amser Brwsel). Rydyn ni’n aros mewn gwesty heb fod yn bell o ganol y ddinas, yn agos i’r lle wnes i aros rhyw ddwy flynedd a hanner yn ôl – hanner ffordd rhwng gorsaf Brwsel Zuid a’r canol. Nid yw’n westy pum seren, ond dwi’n gobeithio y bydd yn ddigon cyfforddus i’r tri ohonom ni – finnau, RO... Beth mae DML yn ei ddarllen 2008-03-18 via Blog Dogfael
Beth mae DML yn ei ddarllen 2008-01-19 via Blog Dogfael
… ac yn ei wrando
Fe ddaeth yr amser unwaith eto i ysgafnhau ychydig ar faich trwm y ford goffi. Dwi ddim yn credu imi glirio ers cyn imi fynd i Frwsel. Felly mae ‘na dipyn o amrywiaeth arni, yn llyfrau a CDau. Hoffwn petawn yn medru rhestru rhai o’r rhaglenni teledu mae DML yn eu gwylio hefyd, er mwyn rhoi darlun mwy cyflawn fyth ohono. Mae’r dewis wastad yn eclectig, ond wastad yn ddiddorol. Mae DML yn gwybod yn iawn beth sydd yn newydd ac yn y siopau gan ei fod yn ddarllenwr brwd ar dudalennau adolygu y papurau dydd Sadwrn a dydd Sul. Ond y mae hefyd yn troi at y clasuron yn aml iawn.
Llyfrau
Gareth F Williams, Dyfi Jyncshyn : y dyn blin (Gwynedd, 2007)
Angharad Tomos, Wrth fy nagrau i (Carreg Gwalch, 2007)
William Williams, Drws y society profiad (Caernarfon:... Diwrnod i Blaid Cymru via Blog Dogfael
Roedd dydd Sadwrn yn ddiwrnod mawr yn Aberystwyth, diwrnod Ffair y Blaid. Bob Rhagfyr bydd Plaid Cymru yn cynnal ffair Nadolig yn Aberystwyth i godi arian. Pan ddes i Aberystwyth am y tro cyntaf ddiwedd y 1970au roedd y ffair yn ddigwyddiad mawr cymdeithasol a oedd yn denu pobol nad oedd ganddyn nhw ddim cysylltiad o gwbl â Phlaid Cymru a dim diddordeb mewn gwleidyddiaeth. Bellach mae hynny wedi newid a chefnogwyr Plaid Cymru yw mwyafrif llethol y rhai sy’n dod i’r ffair. Ers blynyddoedd lawer dwi wedi bod yn gyfrifol am y peth hyn neu’r peth arall, ond eleni doeddwn i ddim wedi addo gwneud dim ac felly roeddwn yn rhydd i fwynhau’r prynhawn fel aelod cyffredin o’r cyhoedd. Fe wnes i wneud fy nyletswydd trwy wario ar y peth hyn a’r peth arall, ac fe... Beth mae DML yn ei ddarllen? via Blog Dogfael
Mae’n nos Fercher a dim ond heddiw dwi’n llwyddo i ddod i delerau gyda’r hyn wnes i ddydd Sadwrn. Yn fy mrwdfrydedd i glirio a glanhau fe wnes i glirio’r bwrdd coffi o’i lwyth llyfrau heb eu cofnodi. Felly nid yw’n bosib imi ysgrifennu fy nghofnod arferol o’r hyn y mae DML yn ei ddarllen. Felly ymddiheuriadau mawr i ffans yr hyn mae DML yn ei ddarllen. Erbyn imi gofio yr oedd hi’n rhy hwyr; yr unig lyfr oedd gen i yn fy llaw oedd nofel Meinir Pierce Jones, Lili dan yr eira. Dwi ddim wedi darllen y nofel fy hunan, ond mae’r crynodeb ohoni ar wefan Gwales yn darllen fel hyn: “Nofel am hen gartref sy’n llawn cyfrinachau. Stori afaelgar wedi’i lleoli yn Sir Fôn, yn ymwneud â phroblemau cymdeithasol a’r gymuned...
Eisteddfod 2007-08-12 (2) via Blog Dogfael
Dwi’n ofni fy mod heb orffen gyda’r eisteddfod eto. Rhaid cau y pen hwnnw i’r mwdwl cyn symud ymlaen i sôn am fy ngwyliau yn Strasbourg a Brwsel. Roedden ni ar ein ffordd yn ôl o’r eisteddfod ddydd Sul ac wedi aros yn y Waun i gael cinio ac i dalu teyrnged i Nic Dafis. Ond roedd DML am fynd yn bellach i dalu teyrnged i un arall o blant y ffin, ond ochr Lloegr y tro hwn, sef y bardd Wilfred Owen a aned yng Nghroesoswallt. Fel mae’n digwydd roedd DJP a finnau wedi bod yno ychydig fisoedd yn gynt a hynny ddiwrnod hyfryd, y tro hwn eto yr oedd y tywydd yn garedig iawn. Mae Croesoswallt yn dref ddeniadol ac fe dynnwyd ni’n pedwar tuag at y cerflun o ffermwr y ffin sydd yn agos i’r eglwys lle mae’r gofeb i Wilfred Owen. Cofeb syml yw hi, plac ar... Mwy o ŵyl lyfrau Aberystwyth via Blog Dogfael
Fore Sadwrn fe es i i’r ŵyl lyfrau unwaith eto. Yn y bore roedd dau yn siarad – Dylan Iorwerth yn sôn am lyfr Islwyn Ffowc Elis, Wythnos yng Nghymru Fydd, ac Angharad Tomos yn cael ei chyfweld am ei gwaith gan DML.
Dylan Iorwerth oedd yn agor y bore gyda sgwrs ddifyr iawn am Wythnos yng Nghymru fydd. Fe wnaeth sôn am y llyfr ei hun a’r ffaith taw Cymru’r 1950au yw Cymru 2033 Elis a taw llyfr a ysgrifennwyd yn unswydd fel propaganda ar Plaid Cymru. Edrychodd wedyn ar y genre ffuglen wyddonol feddal (soft science fiction) sy debycaf i Wythnos yng Nghymru fydd. Er mwyn deall gweledigaeth Elis fe wnaeth dynnu ein sylw at bedwar gwaith arall yn benodol, Gulliver’s travels gan Jonathan Swift, Brave new world gan Aldous Huxley, Ninteen eighty four gan George Orwell,... Beth mae DML yn ei ddarllen 2007-09-29 via Blog Dogfael
Eisteddfod 2007-08-05 (5) via Blog Dogfael
Un fideo byr i orffen y dydd, sef yr olygfa wych o glos fferm Pen-y-bryn, neu Top of the Hill, yn Nercwys lle magwyd mam-gu DML.
Note: You can rate this post by visiting the site.
Rhanna hwn...
Beth mae DML yn ei ddarllen 2007-07-28 via Blog Dogfael
Taith i ogledd Powys a’r gororau 7 via Blog Dogfael
Roedd ‘na ddau le roedd DJP am ymweld â hwy ar y ffordd yn ôl am adref. Dau le sy’n gysylltiedig â dau ffigwr allweddol yn hanes Cymru dros yr hanner canrif diwethaf. Y lle cyntaf oedd Manafon. Yr atynfa oedd cysylltiad y lle gyda’r bardd, R S Thomas. Roedd ef wedi bod yn offeiriad y plwyf yn y 1940au. O’i flaen roedd dau fardd-offeiriad arall wedi bod yno yn bersoniaid – Gwallter Mechain a William Morgan (Penfro). Ond rhaid cyfaddef taw R S Thomas oedd yn ein denu ni, ac yn denu DJP yn benodol. Roeddwn i wedi ymweld â’r eglwys yn ystod haf poeth 2003 pan roedd yr Eisteddfod Genedlaethol ym Meifod. Mae Manafon yn gorwedd ym mhrydferthwch hyfryd dyffryn Afon Rhiw ac mae rhyw lonyddwch yn y lle. Mae’r pentref wedi newid yn fawr ers i R S fod yno... Beth mae DML yn ei ddarllen 2007-07-09 via Blog Dogfael
Unwaith eto mae bwrdd coffi Plas-yn-Dogfael yn drymlwythog gyda deunydd darllen DML. Mae’r cyfan wedi’i ddewis yn ofalus ond yn creu casgliad eclectig yn darlunio beth yw ei chwaeth mewn llyfrau a cherddoriaeth.
Llyfrau
Gwyn Thomas, Teyrnas y tywyllwch (Barddas, 2007)
Doniau disglair 2007: prif gyfansoddiadau llenyddol buddugol a beirniadaethau Eisteddfod Genedlaethol Urdd Gobaith Cymru Sir Gâr, 28 Mai – 2 Mehefin 2007 (Urdd Gobaith Cymru, 2007)
Carmen Gallil, Bad faith: a forgotten story of family and fatherland (Vintage Books, 2007)
Mihangel Morgan, Cestyll yn y cymylau (Lolfa, 2007)
The new Faber book of love poems (Faber, 2006)
John Roberts, Yr helygen gam (Bwthyn, 2007)
Islwyn Ffowc Elis gyda rhagymadrodd newydd gan Dylan Iorwerth, Wythnos yng Nghymru fydd (Gomer,... Beth mae DML yn ei ddarllen 2007-05-19 via Blog Dogfael
Gwibdaith i Swydd Henffordd via Blog Dogfael
Dwi’n llawn cyffro gan fy mod i newydd drefnu penwythnos bant yn Lloegr ddyfnaf, sef yn nwyrain swydd Henffordd. Ddiwedd y mis bydda i a chyfeillion – RO, DML, a’r Dr HW – yn treulio’r penwythnos yn yr Hopton Arms, Ashperton ger Ledbury. Mae tref Ledbury yn enwog am yr ŵyl farddoniaeth flynyddol sy’n cael ei chynnal yno, Ledbury Poetry Festival. Mae gan y dref gysylltiadau barddol pwysig – cred llawer taw dyma gartref William Langland, awdur y gerdd Saesneg Canol, Piers Plowman; treuliodd Elizabeth Barrett-Browning lawer o’i hieuenctid yma, a dyma hefyd fan geni John Masefield. Saif y dref rhwng Henffordd a Chaerwrangon ac mae digonedd o bethau i’w gweld yn yr ardal. Yn y lle cyntaf mae’r ddwy eglwys gadeiriol, ac yn Henffordd y Mappa Mundi... Portread damweiniol via Blog Dogfael
Dyma enghraifft wych yn dangos gallu y ffotograff i gofnodi llawer mwy nag oedd hi’n fwriad gan y crewr. Yr oedd ef neu hi yn canolbwyntio ar brif wrthrych y llun, sef y fenyw yn y ffrog lachar. Yn y cefndir yr oedd ‘na un yn eistedd yn darllen ei lyfr nad oedd syniad gan y ffotograffydd pwy oedd e na bwriad o dynnu ei lun. Ond trwy ryfedd ffyrdd fe ddaeth hi’n amlwg i rywun taw DML oedd hwn yn methu’n deg â rhoi ei lyfr i lawr ac wedi ymgolli ynddo i’r fath raddau nad oedd yn sylwi ar yr hyn oedd yn digwydd o’i gwmpas. Efallai y dylai’r Cyngor Llyfrau ddefnyddio’r llun hwn fel rhan o’i ymgyrch ar gyfer Diwrnod y llyfr - alla i ddim meddwl am unrhyw ddelwedd sy’n dangos yn well beth yw nerth geiriau i’n hudo!... Dechrau canu… via Blog Dogfael
Bydd unrhyw un sydd yn darllen Blog Dogfael yn gyson yn gwybod fy mod yn un o ddisgyblion ffyddlonaf Samuel Smiles awdur y gyfrol Self help; yr wyf yn gyson yn ceisio “gwella fy hun”. Ddoe fe’m temtiwyd i fewn i siop lyfrau Galloways gan DJP. Wrth imi fynd i mewn trwy’r drws roeddwn i gwybod fy mod yn mynd i hala, ond prin y gwyddwn beth yr oeddwn yn mynd i’w brynu. Un o’r pethau sydd wedi achosi y rhwystredigaeth fwyaf i fi mewn bywyd yw fy anallu i ganu – gyda’r llais neu gydag offeryn. Nid oedd gennym biano yn y tŷ ac nid oedd fy rhieni yn arbennig o gerddorol. Roedd ‘na rai aelodau o’m teulu estynedig yn fwy cerddorol. Roedd gen i wncwl oedd yn canu’r acordion ac roedd ei wraig, chwaer fy nhad, yn canu’r llwyau. Rwy’n... Meini gwagedd gan J Kitchener Davies via Blog Dogfael
Mae hi wedi cymryd diwrnodau imi ddod dros y profiad o fod yn rhan o’r gynulleidfa mewn perfformiad prin o ddrama Kitchener Davies, Meini gwagedd yn Neuadd Goffa Tregaron. Nos Iau diwethaf yr es i’r perfformiad trwy garedigrwydd cyfaill annwyl a gynigiodd lifft imi. Dwi’n un sy’n dwli ar ddramâu ond yn tueddu i beidio â mynd i’w gweld yn aml iawn. Fe ddysgodd RO a DML pam fy mod yn gwneud felly.
Drama fydryddol yw Meini gwagedd, ac yn wir fe anfonodd J Kitchener Davies hi i mewn i gystadleuaeth ddrama a barddoniaeth yn Eisteddfod 1945. Roeddwn i wedi darllen y ddrama o’r blaen, ond rywfodd roeddwn i wedi anghofio pa mor dywyll oedd y weledigaeth sydd ynddi. Mae’r holl gymeriadau yn ysbrydion sy’n dychwelyd i ail-fyw eu tynged yng... Beth mae DML yn ei ddarllen 2007-01-21 via Blog Dogfael
Beth mae DML yn ei ddarllen 2006-11-29 via Blog Dogfael
Beth mae DML yn ei ddarllen 2006-10-20 via Blog Dogfael
Eisteddfod - Dydd Mercher 9 Awst 2006 (7) via Blog Dogfael
Glenda Slagg a chnau pîn
Wedi galw i mewn i babell Cymdeithas yr Iaith Gymraeg i weld DML a phawb oedd yno dyma fynd yn ôl tuag stondin Cyngor Llyfrau Cymru i gwrdd â DJP ac RO ar gyfer cael lifft ‘nôl i ‘bentref’ Hendrefoelan. Yr oedd pawb yn trafod enillydd y Fedal Ryddiaith, sef Fflur Dafydd, gyda’i nofel Atyniad. Mae’r peth yn ddigon i’ch gwneud sâl, neu fel buasai Glenda Slagg yn ei ddweud “Dontcha feel sick”. Mae Fflur Dafydd yn ddarlithydd prifysgol mewn Saesneg, llenor Cymraeg, golygydd, colofnydd a sylwebydd, ac yn fwy na dim byd arall cantores a pherfformwraig wych. Dwi’n teimlo fel ‘dafad farw’ hyd yn oed wrth sôn amdani.
Oherwydd fy nesperasiwn i gael cnau pîn roeddwn wedi gofyn am gael galw heibio i siop... Eisteddfod - Dydd Mawrth 8 Awst 2006 via Blog Dogfael
Diwrnod i’r brenin
Diwrnod tawel ar ben fy hunan heddiw, a dwi ddim yn bwriadu gwneud rhyw lawer gan fod pawb arall yn mynd i’r eisteddfod am y dydd. Fe es i mewn i ganol y ddinas wrth iddyn nhw adael. Trafaeliais ar fws rhif 20. Mae’r sustem drafnidiaeth yn wahanol iawn i’r hyn sydd ar gael yn Aberystwyth. Yn ystod y dydd mae bws yn mynd bob deng munud o’r ‘pentref’ i ganol y ddinas. Dwi wedi bod yn Abertawe yn ddigon aml i fod yn gyfarwydd â’r hyn sydd i’w weld yma felly siopa oedd y prif nod. A’r lle i fynd i siopa yn Abertawe yw’r Farchnad, marchnad dan do fwyaf Cymru. Fe gefais amser hyfryd yn prynu nwyddau o gwmpas y lle – cocos fan hyn, bara fan draw, cig, ffrwythau. Mae popeth bron ar gael yn y farchnad. Popeth...