
Neithiwr fe fues i mewn noson hyfryd a noson arbennig, sef lansiad “fy nghyfrol gyntaf”. Yn anffodus rydw i’n rhannu’r gyfrol gyda chwech o bobol eraill, ond o leiaf mae fy enw i yn y llyfr ac fe alla i alw fy hun yn awdur o hyn mas.
Cynhaliwyd y lansiad yng nghanolfan newydd-addasedig Arad Goch yn Stryd y Baddon, Aberystwyth, a’r llyfr oedd yn cael ei lansio oedd Aber: ysgrifau am Aberystwyth gyda ffotograffau gan Keith Morris. Y cyhoeddwyr yw Gomer a hwy oedd wedi trefnu’r noson. Gan fy mod wedi cyfrannu ysgrif at y gyfrol cefais wahoddiad i siarad “ar ran” awduron yn y gyfrol Gymraeg. Roedd y noson hefyd yn lansiad i lyfr Saesneg tebyg am Aberystwyth yn cynnwys ffotograffau gan Keith Morris ac ysgrifau gan wahanol awduron. Roedd Andrew Green, y...

Dwi wedi darllen yr ysgrif gyntaf allan o’r gyfrol i gyfarch yr Athro Hywel Teifi Edwards, Cawr i’w genedl, sef un Allan James ar Arlunydd Penygarn. Fe wnes i ei chael hi’n erthygl ddiddorol dros ben, fel yr oedd T H Thomas, neu Arlunydd Penygarn ei hun. Dwi ddim yn siŵr pa ysgrif yr wyf am droi ati nesaf. Rwyf hefyd wedi ail-gychwyn ar ddarllen nofel Gareth F Williams, Dyfi Jyncshiyn : y dyn blin. Dechreuais ei darllen rhyw bedwar neu bump diwrnod yn ôl ac ildio cyn diwedd y bennod gyntaf bron â bod, ond dwi wedi rhoi cyfle arall iddi ac yn dechrau cael blas. A thrwy’r holl adeg, a phan nad ydw i’n darllen y ddau lyfr hyn ‘na, mae Gwyddoniadur Cymru yr Academi Gymreig wrth fy ochr er mwyn troi mewn iddo’n achlysurol. Dwi’n siŵr y...
Wedi ychwanegu lluniau i’r Galeri o Gapel Ebeneser, Penparcau, ger Aberystwyth.
Capel bach eithaf syml o ran bensaerniaeth yw Capel Ebeneser.
Ceir llun o du fewn Capel Ebeneser yma (fel rhan o luniau Flickr Lyn Dafis)
Adeiladwyd Capel Ebeneser ym 1848 ac fe’i ail-adeiladwyd ym 1938.
Yn o+l Gwefan Capel y Morfa, Aberystwyth (Capel Presbyteraidd)
Roedd gweithgarwch amlwg ym mhentref Penparcau mor gynnar ag 1812, pan oedd Ysgol Sul yn cael ei chynnal yng nghartref Richard Hugh. Yn 1848 codwyd capel yn gangen i’r Tabernacl, a’i alw’n Ebeneser. Wedi 90 mlynedd, ac yn wyneb twf y boblogaeth yn yr ardal, penderfynwyd codi capel newydd, ac agorwyd yr Ebeneser presennol ar 14 Mehefin......
Dwi ddim si postio ers rhai diwrnodau bellach ac am y tro does dim amser gena i i bostio unrhyw beth swmpus felly dyma nodyn - yn arddull 'Beth mae DML yn ei ddarllen' (oddi ar blog dogfael) - i ddweud beth dwi'n ei ddarllen ar hyn o bryd. Wel wythnos yma y llyfrau sydd gena i 'on ddy go' ydy:'Llofion ym Maes Crefydd' - Robert Pope'Caradoc Jones: A Forgotten Missionary' - Noel Gibbard'Torri'r Seiliau Sicr: Ysgrifau J.E. Daniel' - D. Densil Morgan (gol.)'tu chwith 27:newid' - Catrin Dafydd (gol.)'Tescopoly' - Andrew SimmsFel y gwelwch chi dwi ddim yn un am orffen un llyfr cyn dechrau ar y...
Dwi'n gwybod ei fod yn hen, ond o'r diwedd dwi wedi dod o hyd i'r blog y clywais sôn amdano beth amser yn ôl. Blog sy wedi mentro dychanu Dogfael! Da iawn Dwyn mae angen gwneud hynny o gofio'r holl ddoethinebu difudd dwi'n ei wneud. Pam fy mod i meddwl fod neb am glywed beth yw fy marn ar ddim byd, dwi ddim yn gwybod. Cofiwch taw therapi i fi yw hyn ac nid dim byd arall. Diolch i chi i gyd am fy helpu i oresgyn fy ngwendidau. Ond yn anffodus mae dychanu rhywun yn ffordd ychwanegol o fasajo ego rhywun, felly yn y pendraw fe wnaiff dim lles i mi o gwbwl.
Blog Dwyn.
Tagiau Technorati: Dogfael |......