Maen rhaid i mi gyfaddef mod i wedi colli pob diddordeb yn y sin roc gymraeg ers blwyddyn a mwy. Ddim mod i wedi i wedi "bradychu" y sin ac wedi ymroi yn lle i ddilyn cerddoriaeth saesneg a mynychu gigs saesneg jest fod dim byd egsiting yn digwydd yn y sin gymraeg dyddiau yma. Dim gigs. Dim bandiau newydd ffresh. Dim hip-hop. Yr eithriad i'r ddeddf amwni yw Derwyddon Dr Gonzo, nhw ydy'r unig fand Cymraeg ar hyn o bryd dwi'n disgwyl mlaen i weld a dwi byth yn cael fy siomi. Mae dirfawr angen bandiau newydd ar y sin sy'n gwneud mwy na bod yn efelychwyr ail ddosbarth o'i harwyr cerddorol. Mae hefyd angen band hip-hop newydd llawn all ddod ag egsitment nol i'r sin fel y gwnaeth Lo-cut a Sleifar gyda Miwsig i'ch traed a miwsig i'ch meddwl ac Mc Mabon gyda Nia Non rhyw bum mlynedd yn ol...

Bydd cynllun Yma i Chi y BBC yng Nghymru yn landio yn Nolgellau dirion deg dros y mis nesaf. Bydd bob math o ddigwyddiadau gan gynnwys darllediadau o Dŷ Siamas, sgyrsiau efo trigolion lleol a digwyddiadau i drio fflogio’r BBC (pdf) i chafis dre.
Dwi’n edrych mlaen yn arw i gael clywed rhai o’r rhaglenni, yn arbennig felly’r rhaglenni natur a rhaglen Mousemat Adam Walton (sydd yn ddarlledwr gwych gyda llaw ac yn dysgu Cymraeg!) fydd yn edrych ar y dre o safbwynt technolegol a chyfryngau newydd. Fydd honno’n raglen hir ta
Gwd thing......
Oedd hwn yn ddiawl o gig chwara teg. A phan oedd y Sesiwn yn y sgwar. Bendigedig.
Dyma fideo hefyd o “Aer” yn yr un......

[cliciwch ar y lluniau i weld llun mwy]
Deffro’n gynnar, deffro’n stiff (na, ddim fel’na). Roedd pawb chydig yn ddistaw wrth seiclo heibio godre castell Caernarfon wrth feddwl am weddil ein diwrnod. Ro’n i’n gwybod fod ‘na cilar o ddringiad uwch Harlech, a dwi’n meddwl fod pawb arall dal i gofio strach y noson cynt.
Ond, ymlaen â ni. Roedd y lôn yn fflat ar hyd Lôn Eifion ond roedden ni dal yn teimlo’r cyhyrau’n ymrthod. Serch hyn, roedd hwyliau da erbyn Bontnewydd ac roedd y reid i Port yn llyfn a di-stwr gyda’r tywydd yn cadw’n sych braf.
Ym Mhort arhoson ni am banad (a chacan, ac wy di sgramblo i Shayne) a weles i Arthur Tomos, gynt o Ddolgella, oedd yn gwisg crys rygbi Dyffryn Nantlla. Pam hyn me’chi?...
Clip Arall
Ac un arall
Ac un arall
O’n i wastad isio dysgu sut i chwara Bòdhran…...

wwfmdpc am byth!
Coginio ar danllwyth
Rownd y tân
Stumia Shayne
Abaty Boys (and Girls)
Gweddill y lluniau ar fy Flickr…...
Mae’r rhaglen arbennig ar agoriad Tŷ Siamas ar gael i’w wylio ar y we. Heb ei weld eot, ond gymra i gip......
Ma’r Sesh yn agosáu a minnau’n ecseitio i glywad Steve Earle ar ôl i mi gael menthyg rhai o’i CDs o’n ddiweddar. Do’n i ddim yn disgwyl lecio fo - ond dwi yn, lot. Yn arbennig felly El Corazon.
Ac felly gan mod i wedi llwyddo rywsut i ennill llyfr am fy limrig yn Ymryson/Stomp llynadd (clywch y sŵn rhwygo na, mae fy mron yn chwyddo fel Hulk drwy grys-t gyda’r balchder!), dyma hysbysebu testunau ‘leni:
Ymryson Flynyddol Sesiwn Fawr Dolgellau
Mae hi wastad yn hwyliog a difyr, y ffordd orau bosib i gloi’r penwythnos. Dewch yn llu a’ch cerddi efo chi – neu bensal o leia.
Amser: 2 y pnawn, dydd Sul Gorffennaf 22ain.
Lleoliad: Y Clwb Rygbi, Dolgellau.
Meuryn: Twm Morys.
Y Tasgau – agored i bawb sydd am roi cynnig arni:
1) Englyn yn...

Wythnos diwethaf agorwyd Tŷ Siamas - Canolfan Cerddoriaeth Draddodiadol Cymru.
Mae’r ganolfan yn sefyll yn nghanol Dolgellau yn yr hen Neuadd Idris. Fe gefais i gyfle i’w gweld hi y penwythnos blaenorol mewn dangosiad o ffilmiau archif gwefreiddiol o Ddolgellau. Mae’r lle wedi ei drawsnewid, ac yn edrych yn ogoneddus. I feddwl fod y lle ar fin mynd a’i phen iddi, wedi blynyddoedd yn segur - mae’n braf cael gweld canol Dolgellau yn cael hwb unwaith eto.
Mi gymrodd ddeng mlynedd i’r Pwyllgor dynnu’r cynllun at ei gilydd gyda sawl lleoliad yn methu am un rheswm neu’r llall a’r arian cyhoeddus byth cweit o fenw y gafael yn iawn. Ond nawr mae hi yma, a gwnewch y gorau ohoni fel canolfan genedlkaethol.
Llongyfarchiadau Mabon, criw...
Dyna oedd y sdiceri coch oedd ar bympar pob Daihatsu o Lanbrynmair i Lanbedr. Wel, “Go Gwyndaf, Go”, ond ella taw’r uchod fydd hi o hyn ymlaen am fod Gwyndaf Jr yn cymryd yr awennau ralïo.
Fydd o’n dreifio bysus plant ysgol Dinas hefyd ddo? Ac yn bwysicach fyth, fydd o’n cymryd y fantell o fod y gyrrwr rali sy’n edrych fwya fel dyn llaeth? Ella taw dyna oedd ei gyfrinach…...
Clywad ddoe fod hogyn ifanc arall wedi cael ei ladd ar y lôn droellog rhwng Bermo a Llanelltyd. Bu farw hogyn arall yno yn 2004 a dwi’n siwr y bu un arall farw yno yn 2002 hefyd. Dim ond ym mis Tachwedd bu farw David Smithies o dre ar y lôn rhwng Fairbourne a Dolgellau.
Pan drafodais i hyn efo dyn ambiwlans o Ddolgellau nos Sul, mi ddechreuodd o restru’r holl hogia ifanc (a hogia ydyn nhw gan fwya) sydd wedi colli eu bywyda fel hyn dros y blynyddoedd. Rhai ohonyn nhw’n frodyr i bobol o dre na wyddwn i fod ganddyn nhw frawd cynt. Di rhywun ddim yn sylweddoli fod rhywbeth ar goll pan does smic o sôn amdanyn nhw wedyn.
A dwi wedi colli cownt o faint o bobol ar fotobeics sy wedi marw ar ffyrdd o amgylch Dolgellau.
Be ddiawl sy raid gwneud i atal hyn?
Oes angen...
Newyddion Diweddaraf Ty Siamas - Neuadd Idris Dolgellau
Ymddengys fod y galeri wedi mynd a fod llawer arall hefyd (mae lluniau o’r gwaith os dilynwch y ddolen uchod). A chwarae teg, mae’r lle am ddefnyddio llechi o ‘Stiniog, nid Portiwgal fel mae rhai.
Cyffrous iawn!!...

Bleimi. Sesiwn dda. Pictiwrs da. Bandia da. Tywydd da. Cwmni da. Ond un o’r syrpreisus gora oedd cael y wobr gynta ar y cyd am fy limrig ar-y-pryd yn y Stomp ddoe.
Roll over Prys!
Dyma nhw:
Pe bai raid i mi adael rhen wlad,
Mi awn i Drelew mewn hen fad,
Mi glywais fod leidis,
Y paith yn ddireidus,
Caf damad o “sut mae dy Dad”.
Pe bai raid i mi adael rhen wlad,
Mi fachwn i ffleit weddol rad,
Fe awn i Kashmir,
Prynu tamad o dir,
Esgus ffarmio, jest fatha fy nhad.
Llongyfarchion i Ger Rhys am ennill Tarian y Marian eto - mai nôl yn Nolgella!...
Mae’r rhagolygon yn dda chafis…sych (ond dwi’m isio jincsio fo chwaith!)....
Eleni, ac am y tro cyntaf erioed, bydd ffilmiau byr Cymraeg yn cael eu dangos fel rhan o wyl Sesiwn Fawr Dolgellau mewn digwyddiad arbenig Pictiwrs yn y Pyb.
Gwesty’r Ship, yn nghanol y dref fydd y sinema am y dydd, gyda ffilmiau’n dangos yno rhwng 2.00 a 3.30 ar brynhawn dydd Sadwrn. Bydd criw www.pictiwrs.com yn cyflwyno 9 ffilm fer wahanol iawn o Gymru a gan Gymry i’ch diddanu a’ch diddori, o gomediau i ddrama i ffilmiau animeiddio digidol.
Ymysg y ffilmiau bydd ffilm fer o’r enw “Mantol” gan frodor o Ddolgellau, Rolant Tomos. Mae’r gomedi dywyll hon sy’n serennu Llyr Evans yn sôn am ddyn sy’n cadw pob dim yn ei fywyd yn gytbwys, beth bynnag fo’r canlyniad. Byddwn hefyd yn dangos y ffilm “Yr Ymwelydd” sydd wedi enill llu o wobrau yn ddiweddar,...
Sgwn i os mae’r bobol yma’n dal i chwilio am aur yn Clogau, Gwynfynydd a fyny’r Fawddach?...
Mae’r wefan ar gyfer Ty Siamas - Canolfan Genedlaethol i Gerddoriaeth Cymru, fydd wedi’i leoli yn - Neuadd Idris Dolgellau yn fyw erbyn hyn.
Ewch draw yno i weld be fydd yn digwydd dros y flwyddyn neud ddwy nesaf! Ewadd, am gyffrous. Neuadd Idris nôl yn fyw......