
....ond weithiau mae'r pethau lleiaf yn gallu creu...

Rhywun newydd ffefnrynnu hwn ar fy Fflicr…o’n i di anghofio popeth amdano.
Gyda llaw os oes unrhyw un isio gêm o Scrabulous efo fi ewch draw i weld fi ar y Gweplyfr. 14 gêm heb golli un ar hyn o bryd…ond ma na ddwy yn y fantol gwaetha’r modd. A wel, mae angen gwybod fod rhywun ddim yn anorchfygol weithia dydi...

Hoelen. Pen. Taro.
gan......

Ocê, ma na label recordiau o’r enw Trunk Records. Ma nhw’n casglu bob math o hen sdwff obsciwar a’i ail-gyhoeddi. Sdwff folky doky fel arfer. Ond am un record. Mae ‘na un casgliad o recordiadau sy’n mynd a obsciwyr, bisâr a doniol i lefel arall.
FLEXI SEX yw enw’r albym.
Beth ar wymab y ddaear ydi hwnna medda chi?
Wel, casgliad o recordiadau o ddisgiau flexi a ddaeth am ddim gyda chopiau o gylchgronnau porno, megis Rustler, yn y 70au. Cynnwys y records fflopi hyn oedd lleisiau swynol Fenella, Deborah neu Babs yn siarad yn fudr! Biwt!
Er ei wychder o ran syniad, efallai nad yw prynu’r ddisg yn apelio, ond gallwch gael blas ar yr arlwy yn y gêm Flash (a fflash yw’r gair cywir yma credaf…) wych sydd ar waelod y dudalen...

Ma’n rhy dda i fod yn wir, ond gwir yw:
Joskin
Os ma na greawdwr rwla, diawl ma ganddo synnwyr digrifwch!
[clod llawn fan hyn i Jenks am sbotio’r trelar Joskin a thynnu’i lun tra allan ar alwad filfeddygol - *clap mawr*!]...

Cyfres o gerddi a gyfansoddwyd yn deyrnged i Forwyn Siocled* Eisteddfod Sir Fflint a’r cyffiniau 2007.
O Forwyn, o Fair y Steddfod
Rho im siocled yn ôl y ddefod,
Cans o’th law a’th dwll pwps y daw,
Ein brown luniaeth a’n llawenydd.
Aaaa-men
Y Forwyn brown ar faes y Brifwyl – siocled
Ansanctaidd i’th berwyl
Afon o gachu o’i ffondŵ ffownt
Yn gymysg a phŵ-pŵ prifeirdd ar ein dwyfol lawnt
Siôn Ddu “Cwmcagle” (Bardd y Gadair Frown)
Y forwyn, anfarwol frown,
At dy lifeiriant feunydd down,
Sicrwydd dy siocled biso
Blesia oll a dyrant iddo,
Yn gachlyd dy wedd a’th bryd,
Trichant galwyn o dyrdiau hyfryd.
Ieuan Ddrewllyd a’i cânt
Ar gornel werdd faes ein gwareiddiad, -’’sbïwch'’!
Ffreutur brown ei edrychiad;
Ansanctaidd...

Newydd sylwi fod Jerry Sadowitz (mae ei wefan werth cip), y comic/consuriwr nyts o’r Alban, yn mynd i chwarae (ymddangos yn hytrach?) yn ATP fis Rhagfyr. Ddyla fod yn ddifyr…...
Bydd unrhyw un a fu’n dderyn y nos yn ystod diwedd yr wythdegau a chychwyn y nawdegau, yn gyfarwydd ag anturiaethau’r carchar menywod butch a lesbiaidd - Wentworth, ac yn fwy penodol, Cell Block H. Roedd Dad a finna’n arfar gwylio fo’n hwyr ar ôl i S4C orffan i weld be oedd Ferguson “The Freak” yn gwneud nesa. Roedd clywad y thîm tiwn weird (RRRRREMIX!!) yn golygu hanner awr o straeon bisâr, actio echrydus, a setiau cardbord. Jest y peth trashi i’w wylio cyn mynd i gwely.
Felly yn arbennig i chi ffans o high camp hileriys, dyma Prisoner Cell Block H - The Official Website.
Mae’n RHAID i chi glywed y sampls deialog arno fo, yn arbennig: “Whatever I might be Seymour, I could never sink as low as filthy sluts like you!”
Go...

Efallai y gwyddoch fod Boris yn y ras am fod yn faer ar Lundain. Dim byd arbennig am hyn medde chi a sgen i’m lot i ddweud i Doriaid, a Thoriaid tofflyd gan hynny, ar y cyfan, ond mae unrhyw un sydd â’r hyfdra i sgwennu ffurflen gais i fod yn ymgeisydd fel maer Llundain FEL HYN yn cael cymeradwyaeth galonnog gen i.
Esiampl fach i chi:
“Challenge’s faced”
.
.
3. Negotiating Hyde Park Corner by bicycle. Outcome: survival.”
Fel sa En Vogue yn deud - “What a man!“....
Furthermore, farts are an occasion for self-examination, for questioning the extent of our freedom and the nature of self-mastery.
Bravo!...
He he he…
[Am Peter Greenaway] I have met film snobs who deem this guy one of the few true artists in cinema, and I’ve told each and every one of them “You’re lucky I don’t throw a pot of boiling coffee in your fucking face!”
Da....

Dyna’i gyd....
Prin 100 o bobol sy wedi gwylio’r fideos hyn o 1979 o’r gyfres anarchaidd, dreisgar ond hynod ddoniol Siop Siafins. Dwi’n meddwl ei fod yn haeddu mwy! Roedd y cyfuniad o Dyfed Thomas a John Bŵts yn wych. Joiwch.
Siop Siafins (Rhan 1 o 2)
Siop Siafins (Rhan 2 o 2)
Yn anffodus sdim posib mewnosod y fideo ar y blog, ond cliciwch ar y dolenni, da chi....
20 arall o’r rhain yma. A rhagor fan yma gan gynnwys Star Wars Tintin, Boro Style.
[ddim rhy saff i’r gwaith]
Neu os di hwnna’n rhy hyll i chi, be am “Tintin a Gwrthryfel y Gweithwyr”.
Neu am y fersiwn siriysli doji, cymrwch gip ar Tintin in Thailand:
[Clic am fersiwn fwy]
[ysbrydoliaeth - MeFi]...
Fydd hi’n ddim collad o moderatio tunnelli o sbam unwaith y bydda i’n ychwanegu’r filter newydd, ond mae na rai sydd yn gneud i fi chwerthin. Jest oherwydd natur random y geiriau. Dyma rai brawddegau:
Outer bouncer cassock rampaged toadying nestlike.
He needed. Look, his. But we had to avoid having to have been snorting wet cunt back.
Mae eu darllen nhw’n atgoffa fi o un o’n hoff clips oddiar YouTube…
Dwi’n meddwl fod rhywun yn trio cracio gwefan Pictiwrs ar hyn o bryd hefyd…paranoid, moi?...

Llun gwych gan Meilyr.
[Sori, i’w atgynhyrchu fan hyn ond ma’n siwpyrb!]...

Cardiff Terrifies Me - Casgliad o lunaiu 'billboard's' gyda pennawdau y South Wales Echo. Rhai doniol iawn.Gol.Nid yw'r llun uchod yn rhan o'r blog mae'n ymddengys, ond yn lun o gyfrif flickr Dwlwen!. Tydi'r Rhithfro'n le bach dudwch?caerdydd, cardiff, doniolwch, south wales echoGenerated By Technorati Tag...
Gurning championships Cae Lleci 2006
A’r enillydd yw…Gav...

[Diolch i Miri Mawr]...
300 Fideo…
Dyma’r 300fed fideo [alla i ddim ei embedio yn anffodus] - Anturiaethau Oli - Tafarn Y Gors - Johann Sebastian Bach. Oli Pen Chwadan yn rwdlan am Bach - gwych!...

Newydd gael sioc wrth ddarllen straeon diweddaraf o wefan newyddion y BBC. Cliciais ar y teitl rhyfedd, Lluniau potel i chwilio am ddêt, a gweld llun Iwan fy nghefnder yn hwrio ei hun ar ochr poteli llefrith.
Dwi'n ceisio cysuro fy hun mai mond gwneud hyn i hyrwyddo cwmni cydweithredol Calon Wen y mae Iwan, gan ei fod yn gyfarwyddwr arno. Er, mae Iwan yn digwydd bod yn sengl ar hyn o bryd ac yn uffern o foi, felly os ydych yn ferch ac yn Ffansio Ffarmwr, byddwch yn wallgo i beidio ag ymweld â pishyn.com.
*nid llun Iwan sydd ar y poteli yn y llun, ond fo sy'n dal y botel yn erthygl y BBC.
doniolwch, pishyn.com, rhithfro, teulu, calon wen
Generated By Technorati Tag Generator...
Os da chi heb weld y fideo sy’ di bod yn cael yr holl sylw, lle da chi di bod?
Mae hi wedi cael ei thynnu oddi ar You Tube ond dal ar Google Video a ffôn pawb arall yng Ngogledd Cymru.
Sycyrs....
Daeth ffrind i ni draw dros dolig gyda thamaid o Twix, ond nid un arferol oedd o, ond un anferth oedd hi a'i nith wedi bod yn greu ar gyfer y wefan Pimp that Snack!. Tydi'r i ddim i'w weld ar-lein eto, ond rhaid edmygu brwdfrydedd a'r ymdrech mae bobl yn roi mewn i'r peth. Fy ffefrynnau i yw'r Tyrannosaurus Toffee Crisp a'r Retro Wagon Wheel.
Mae rhai lluniau ar Flickr hefyd.
bwyd, doniolwch, web2.0
Generated By Technorati Tag Generator...
Mae ganddon ni lunia bach o robin goch, sion corn ac ambell angel hardd, ond draw yng Nghatalonia mae eu traddodiadau ‘dolig ymhell o fod mor bur â hynny.
Rwyf yn cyflwyno i chi y [Caganer [y Cachwr], cymeriad Nadoligaidd hoffus sydd yn rhoi sbin ffresh ar y “Yule Log”. Beth am brynu un i’ch plantos i roi yng ngwaelod yr hosan? Neu efallai un i Nain gael rhoi drws nesa i’w phorslen o John Wesla yn i chwpwr’ gwydr? Ac i chi gîcs y we dyma gachwr cyfrifiadurol. Yr anhreg perffaith y ‘dolig hwn.
Viva Scatalonia!!...
This nonsense song is reportedly the most famous rugby song in Wales.
Mae eu “cyfieithiad” ffonetig nhw werth i weld. Good lord. rhaid fod rhyw ystyr i eiriau’r gan oes?...
Dim clem be ma’r dudalen yn sôn amdano ond drychwch ar y map o......
Fethish i’r rhaglen gynta yng nghyfres newydd Armando Ianucci ond yn ffodus iawn mae gan wefan Time Trumpet dipyn o glipiau i lenwi’r bylchau.
Ac o! Dwi ddim am fethu gweddill y gyfres. Ardderchog....
Be ddiawl medde chi?
Wel, mae hi fel hyn…yn ystod Eisteddfod Tyddewi saethodd Marc Evans ffilm ddwys o’r enw Dal:Yma/Nawr am hen hanes barddoniaeth Cymraeg…wrth ei wylio yn ddiweddar gan edmygu gwallt Gerallt Lloyd Owen am y canfed tro, daeth fflach o flaen fy llygaid…ymddangosodd ysbryd Y Parch. Rhys Jones, y bardd budr o’r Blaenau gynt, ac ysbrydoliaeth y Rhegiadur.
“Hei ti! Yr hen fflewjan lac,” dywedodd wrthyf “rwyf am i ti fyned allan a chynhyrchu ffilm gyffelyb â’r Dal:Yma/Nawr hwn i ddathlu gogoniant y Rheg Gymraeg, fel y gwnaeth yntau i farddoniaeth. Casgliad y penillion piws pennaf a blodeugerdd y frawddeg front fel petai. Dyma yw fy ngorchymyn!”
“Iawn,” me’fi yn syn “ond shifftia draw i’r chwith ‘chydig, dwi’n...
He! Mae’r lluniau ar flog Sdeddz Bandit247 heddiw’n werth eu gweld. Yn arbennig Henri Filo. Atgoffa fi o luniau Vic Reeves....

Gormod o nostalgia rhaglenni plant dagith gi, a sgwrs hefyd, ond mae’n dda cael ambell i oifad yn mhwll nofio teli plentyndod.
Dwisio diolch felly i PwdinBlew ar y maes am ddod o hyd i sdwff am y cartwn Now a Ned neu ei wir deitl
Pat a Mat!
Dwi wedi gwglo’n ddifrwyth o’r blaen am hanes y cartwn bendigedig yma o slapstic creulon Keaton-aidd, ond doedd gen i ddim clem ar yr enw Czech gwreiddiol a does neb wedi sgwennu am “Now a Ned” ond pobol maes-e.
Felly dyma chi lwyth o glipia sain a fideo o’r ddeuddyn direidus ac anffodus eu hap.
A dyma wefan swyddogol eu creawdwr Lubomír Beneš gyda llawer mwy o ddanteithion.
Joiwch!
Ella ga i’r thîm tiwn fel ringtôn…...