Welsh Blogs.com


Dr who via Wierdo March 22nd, 2007 at 19:15

Ewadd, amser maith ers mi flogio dwetha, ymddiheuraf. Dwi wedi bod yn treulio lot o amser yn gwylio'r teledu yn ddweddar. Diogi ydwi dal, jesd mewn modd gwahanol i'r arfer.Wel, mi wylish i Comic Relief nos wener. Mi oeddo'n dda iawn chwara teg as charity programs go bethbynnag. Mae'n rhaid mi ddweud i mi fwynhau'r sketch yma er nad ydwi'n hoffi Cathrine Tate Gymaint a hynny.Oce, iawn. Mi nai dderbyn fod y sgets yma gymaint a hynny yn well oherwydd fod na son am Dr who ynddy fo. Guilty as charged. Ond mwy am Dr Who wedyn.Bethbynnag; nos wener. am tua 1 o'r gloch y bore, mi benderfynnom ni sortio hyn allan;Mae o nol rybeth tebyg erbyn heno. Mi barodd o wythnos ai sbôs.Y gem rygbi. Waw. Mi oeddwn feddw. Yn y pyb erbyn 12:30 yn yfed trw'r dydd. Gwylio Cymru yn curo ar ben bar stool (fi oedd...

Diflasu via Wierdo May 9th, 2007 at 21:56

Pan oeddwn wrthi'n clirio fy llofft heddiw am y tro cynta ers tua dau fis, mi ddargynfyddish i ambell boster dr who oni wedi cal dros y pasg mewn papur newydd neu gan deulu f'annwylyd. Mi rois y posteri ar y wal ac wrth edrych o amgylch f'ystafell glan nawr, dwi'n dechra ama mod i'n mwy na licio doctor who. O be allaf i weld rwan, ma gin i 19 eitem dr who o amgylch yr ystafell. 10 poster neu lun, cerdyn post, plat dr who, tin dalek, remote control dalek, model David Tennant, infatable dalek (bach), dvd (cyfres 2), tegannau play mobil sydd fod yn doctor who (anrheg nadolig) a modelau bach sydd yn rhan o gem "warhammer-esque". Dydi hyn ddim yn cyfri'r poster dr who sydd lawr stair, y dvds o'r gyfres gynta sydd wedi'w menthyg na'r myg sydd gin i. Ma gin i hefyd ambell i fagazin. Newydd gofio...

Llawn-botensial via Wierdo February 20th, 2007 at 16:11

Dwin meddwl mod i wedi cyrraedd fy llawn botensial. Ddim yn y petha' da dalltwch, ond waeth i mi farw ddim.Reit, dyna fi wedi dechra'r blog mewn ffordd neis a phositif, gai gario mlaen.Dwi wedi bodyn fwy "crazy" yn ddiweddar. Dwi'n reit fodlon cyfaddef mod i'n ditzy ac yn rhyfedd weithiau. Dwi'n siarad gyda fy hun yn aml, ac yn amlach fyth gyda "innanimate objects", dwi'n obsesive cumpulsive am rai pethau (ffyrc, cwpannau, switchis golau....) ond dydwi ddim yn cael fy adnabod fel person "crazy" (wel, ddim gen bawb ;) ) Ond y dyddia dwetha ma, dwi wedi bod mewn mwd gwirion iawn. Mae fel petai fod fy holl agweddau gwirion wedi gwaethygu. Dwi wedi bod yn siarad gyda fy hun ar bob cyfle bosib, wedi bod yn siarad a phopeth bosib. Enghraifft yw pan eshi neud brechdan menyn i'n hun dros y...

Blogio Nôs via Wierdo January 19th, 2007 at 01:11

Ma hi wedi un yn y bore. Dwi'n gwneud beth dwi'n ei wneud yn aml yn ddiweddar. Dwi yn fy ngwely yn gwylio Dr who (tra ar y laptop, yn amlwg). Dwi di gwylio "Girl in the fireplace" oleia 2 os nad 3 gwaith wthos yma (oleia un yn feddw). Och, dwin caru Dr who.Ond os nad ydi hyn yn ddigon geeky, dwi hefyd yn aelod o grŵp ar facebook o'r enw "I wish I were your derivative so I could lie tangent to your curves". Yn darllen lot o betha clefar felna. "Your mamma is easier than differentiating e^x" neu "there are 10 tyoes of people in the world; those who understand binary and those with friends" (dwin falch o ddweud nad ydwi'n dallt binary. Mi ydwi'n dallt sut ma barcodes yn gweithio...) Hmmm. Mana fwy. "Nerds do it rarely", "If I could rearrange the periodic table, I would put "I" on top of...

Dr Who via Bodio'r Bydysawd July 3rd, 2006 at 21:30

Mae tipyn wedi cael ei ysgrifennu am Dr Who ers i Bodio’r Bydysawd gychwyn. Ond, rhaid yw son am (o bosib) y geek-fest mwyaf yn hanes teledu: Dr Who v Daleks v Cybermen Jiawcs! Syniad sydd lan yna gyda Aliens v Predators, dim ond gobeithio bydd Dr Who yn gwneud llwyddiant gwell o’r holl beth nac y gwnaethpwyd o’r ffilm ‘Alien v Predator’. Neis gweld Torchwood yn cael ei gyflwyno’n araf bach hefyd, gyda Cwin Vicky yn dechrau’r holl beth yn dilyn y werewolf yn yr Alban, wedyn symud i Canary Wharf yn Llundain. Ymddengys y bydd y gyfres newydd wedi ei leoli yng Nghaerdydd, ar ben y rifft ‘na soniwyd am yn y gyfres gyda Eccleston. A bydd Capten Jac yn ddi ‘fyd....

Y Doctor a’r Cynrhon Cymreig via Bodio'r Bydysawd March 27th, 2006 at 16:55

Yr wythnos nesaf, mi fydd BBC FOUR yn darlledu stori 6-pennod o Doctor Who, fel rhan o’i wythnos arbennig yn edrych nôl ar y flwyddyn 1973. Jon Pertwee oedd yn chwarae rôl y Doctor yn y flwyddyn yma. Mae’r stori The Green Death yn cymeryd lle ym mhentre Llanfairfach lle mae’r gwastraff o gwmni cemegion lleol, Global Chemicals, wedi llygru y tir a chreu cynrhon anferth gwenwynig. Yn y cyfamser, mae cyfrifiadur o’r enw BOSS sy’n berchen i gwmni Global wedi mynd yn wallgo ac am orchfygu’r byd (wrth gwrs). A fydd y Doctor yn gallu achub y dydd unwaith eto? Gwyliwch y pennodau ar BBC FOUR dros dri diwrnod - Ebrill 3ydd i’r 5ed am 19.10 bob nos....

Dr.Who ‘dolig a’r gwrogi i Star Wars via Bodio'r Bydysawd January 6th, 2006 at 13:11

Darllenais a diddordeb sylwadau Ceribethlem ynglŷn a’r episode gwych o Dr.Who ar diwrnod ‘dolig cŵ. (Rhagfyr 26, 2005 12:02) Fel unrhyw nyrd werth ei halen, wnes i hefyd pigo fynnu ar y gwrogiad (ai dyma’r air cywir?) i Star Wars pan dorwyd llaw y doctor ffwrdd a la Luke vs Vader, ac hefyd y modd iwniqe na’ o cau drws trwy taflu rhywbeth tuag at y bwtwm…ac, wrth gwrs, yn taro’y targed tro cynta’!! Ond o ni ddim cweit mor craf a ceri nath sylwi ar y gwn laser mawr - Da iawn ti hogyn! Oedd yna ‘tip o’r cap’ i Indiana Jones hefyd, neu ydw i yn cymysgu a rhywbeth arall? Hefyd, a oedd y gwrogiad i Star Wars yn bwrpasol fellu? Neu jest byr o amser oedd y cynhyrchwyr ac fellu wnaethant dygyd steil a scenarios o Star Wars? Roeddwn i wrth fy modd a David Tennant, llawer...

Dr Who Nadolig via Bodio'r Bydysawd December 26th, 2005 at 12:02

Dydd Nadolig wedi dod a mynd. Anrhegion wedi eu hagor, beth arall oedd i’w wneud? Edrych ar Dr Who wrth gwrs. Oedd y mrawd nol am y ‘dolig, ac oedd e ddim yn rhy siwr o’r syniad o wylio Dr Who. Dyw e heb gweld dim o’r gyfres newydd ac felly oedd e’n cofio Dr Who fel plentyn. Cysgu nath e’ drwy’r holl beth. Weles i fe ta beth. Gwd thing o’n i’n meddwl, David Tennant yn neud jobyn reit dda o fod yn Ddoctor, ddim yn rhy debyg i Ecclestone, ac felly yn dod ac agweddau newydd i’r cymeriad. Ambell beth gwleidyddol ynddo fe hefyd (tic mawr i Russel T felly) megis y rhan lle roedd Harriett Jones yn gwrthod gadael i’r Unol Daleithiau gymryd drosodd ac arwain y byd i ryfel yn erbyn y bois drwg. Ar y diwedd wedyn roedd y rhan am...

Pennod Nadolig via Bodio'r Bydysawd December 20th, 2005 at 20:38

Wrth i’r bennod Nadoligaidd o Dr Who agosau, mae’r BBC yn parhau i roi fwy o gliwiau i ni drwy roi dolen i wefan Guinevere - cynllun gan dîm o Brydain i ddanfon chwiledydd gofod i’r blaned Mawrth. Mae’n edrych fel fod y stori wedi’i seilio ar prosiect y Beagle2 ond yn lle Prof. Colin Pillinger gyda’i sideburns mawr mae’r wefan yn rhoi hanes Professor Daniel Llewellyn a’i farf - rhan sy’n cael ein chwarae gan ‘ein Daniel Evans ni’. Mi fydd y bennod yn cael ei ddarlledu ar nos Sadwrn (dydd Nadolig) am 19:00 ar BBC ONE, ac ar BBC THREE ar Ionawr 1af....

Arddangosfa Dr Who via Bodio'r Bydysawd December 20th, 2005 at 20:23

Ar ddydd Iau, Rhagfyr 22ain fe fydd arddangosfa am y Doctor yn agor yng Nghaerdydd - mae’r mynediad am ddim a fe fydd yn para am ddwy fis. Cynhelir yr arddangosfa yng Nghanolfan Red Dragon ym Mae Caerdydd. Fe fydd cyfle i weld hanes y gyfres a’r cymeriadau dros 40 mlynedd ynghyd a gelynion pennaf y Doctor - y Daleks. Ar ôl i’r bennod arbennig gael ei ddarlledu ar ddiwrnod Nadolig fe fydd rhai o wisgoedd a phrops y bennod hynny i’w gweld hefyd....