Dwi newydd anfon fy nghlawr llyfr cyntaf bant i'r wasg. Clawr ar gyfer cyfieithiad Saesneg o lyfr Cymraeg Huw John Huws ydy e: 'Amazing Lives' sef cyfieithiad o 'Am bobl' - llyfr yn rhoi hanes bras 100 o Gristnogion enwog. Dwi ddim wedi dylunio clawr cymhleth a sgleiniog, dim ond un syml ond un sydd dal am ddenu'r llygad... gobeithio.Dylunio Rhys Llwyd - proffesiynnol a...

Dwi wedi bod yn dylunio'r flyer cyntaf i ŵyl Llanw 2009 p'nawma:Yn chwilio am ddylunydd? Dylunio Rhys...
Dwi wedi bod yn gwneud lot o waith dylunio dros y penwythnos, ddoe a bore ma; y rhan fwyaf mewn paratoad i waith llawer o fudiadau i'r Eisteddfod yng Nghaerdydd. Bore ma dwi wedi bod yn dylunio Crys-T i'r Gorlan, mi fydd mynnychwyr ffyddlon y Gorlan wedi hen arfer gyda'r crys-t thematic blynyddol y mae'r staff yn gwisgo. Thema'r Gorlan eleni ydy Datguddiad 21 a'r syniad am nef a dear newydd sy'n rhydd o unrhyw ofid a phoen. Dyma'r dyluniad/drafft cynta o'r crys-t wnes i weithio arno bore ma:Gwefan y GorlanGwefan fy ngwaith...

Fe glywesi am y blog difyr yma rhai dyddiau yn ôl, Photoshop Disasters, dyma oedd rhai o fy ffefrynau i:Mawredd mawr eisteddwch i lawr mae rhywun wedi dwyn fy nhrwyn llaw:Gyrru ar hyd y gwair i'r garêj?:Defnydd o'r teclyn clonio yn logo eiconig...

Dy chi'n gwybod fod e wedi dod i rhywbeth pan fo'ch teulu yn dibynnu ar eich blog i wybod eich bod chi'n iawn. Fe ges i neges destun gan Mam wythnos diwethaf yn dweud rhywbeth fel hyn: "Rhys, wyt ti'n iawn? Mae'r blog wedi bod yn daweld ers sbel." Wel, gan mod i yn trio troi papur yn cymharu safbwyntiau JE Daniel a Miall Edwards rownd mewn wythnos fydd yna ddim trafod unrhywbeth dwys nac o werth ar y blog wythnos yma chwaith ond fe dria i sôn am rywbeth o werth wythnos nesa - crynhoad o'r papur o bosib i rheini ohonoch chi (y rhai prin) fydd a diddordeb.Yn y cyfamser dau ddarn arall o fy mhortffolio dylunio dwi wedi gweithio arnyn nhw dros yr wythnos...

Wedi neud jobyn bach dylunio i Fenter Iaith Sir Fflint wythnos yma. Mae'r gwaith i'w weld isod. Os ydych chi'n hoff o'r dylunio yna cofiwch amdana i pan fo angen dylunydd arnoch - mae fy nghyfraddau tua hanner pris y 'going rate'. A gallwch fod yn saff o wybod fod y pres yn mynd tuag at gynnal myfyriwr ymchwil tlawd ac nid i boced cwmni cyfalafol!Poster:Dwy-ochr flyer/cerdyn...